-
lwg hwn yn ein helpu i ddeall ansawdd Cyfrifiad 2021.
-
Mae'r astudiaeth hon yn darparu gwybodaeth hanfodol am effeithiau'r coronafeirws (COVID-19) ar fywydau unigolion, y gymuned a gwasanaethau iechyd. Bydd Arolwg Heintiadau'r Coronafeirws (COVID-19) dros y Gaeaf yn ein helpu i ddeall pwysau posibl yn ystod y gaeaf, gan weithredu fel system rybuddio gynnar i gefnogi'r GIG a gwasanaethau eraill. Caiff ei gynnal gan y SYG a'i gomisiynu a'i ariannu gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Dysgwch fwy am yr astudiaeth a beth i'w ddisgwyl os gofynnir i chi gymryd rhan.
-
Astudiaeth am brofiadau o drosedd dros y 12 mis diwethaf. Caiff hon ei chynnal gan Kantar Public ar ein rhan.
-
Astudiaeth am yr economi a safonau byw pobl ym Mhrydain Fawr.
-
Astudiaeth am gymhellion, profiadau a bwriadau noddwyr y cynllun Cartrefi i Wcráin.
-
Astudiaeth am y ffordd y mae cartrefi ym Mhrydain Fawr yn ymdopi, gan ganolbwyntio ar asedau a dyledion, benthyciadau a chynilo, a chynllunio ar gyfer ymddeoliad.
-
Astudiaeth ddilynol o wladolion Wcreinaidd sydd wedi dod i'r DU o dan Gynlluniau Dyngarol Wcráin er mwyn deall eu profiadau o fyw yn y DU.
-
Astudiaeth ar farn, profiad a bwriadau gwladolion Wcreinaidd sydd wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar fel rhan o gynllun adsefydlu.
-
Astudiaeth ddilynol ar brofiadau gwladolion Wcreinaidd sydd wedi cyrraedd y DU fel rhan o gynllun adsefydlu.
-
Astudiaeth am bobl sy'n dod i mewn ac allan o Brydain Fawr o feysydd awyr a phorthladdoedd.
-
Astudiaeth am gyflogaeth, diweithdra, hunangyflogaeth, addysg a hyfforddiant, ymddeoliad ac iechyd a llesiant.
-
Astudiaeth am batrymau gwario, incwm a maeth ym Mhrydain Fawr.
-
Astudiaeth sy'n ystyried iechyd a llesiant plant a phobl ifanc yn Lloegr yn 2023.
-
Astudiaeth am agweddau'r cyhoedd ar bynciau amrywiol sydd o ddiddordeb uniongyrchol.
-
Astudiaeth ar-lein bwysig o amgylchiadau, profiadau o waith a ffyrdd o fyw presennol pobl rhwng 50 a 65 oed.
-
Astudiaeth am iechyd pobl yn yr Alban.
-
Astudiaeth ar farn a phrofiadau myfyrwyr Addysg Uwch mewn perthynas â chostau byw cynyddol, yn enwedig effaith hyn ar eu hastudiaethau a'u hiechyd meddwl.
-
Astudiaeth am amodau byw ym Mhrydain Fawr sy'n cwmpasu cyflogaeth, tai, iechyd a llesiant.
-
Astudiaeth am ymddiriedaeth yn y llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus.
-
Arolwg i ddysgu am fywydau aelodau o gymuned Lluoedd Arfog y DU, cyn-filwyr a'u teuluoedd.
-
Astudiaeth yn ystyried profiadau pobl o ofal diwedd oes, gan ganolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yn Swydd Durham.
-
Bydd yr astudiaeth yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd a chostau byw.
-
Astudiaeth am brofiadau pobl ifanc a'u hagweddau at ddiogelwch ar lein ac yn eu bywydau pob dydd.
-
Astudiaeth am deithiau rhyngwladol cartrefi ym Mhrydain Fawr.
-
Astudiaeth ar-lein i ddeall sut mae pobl yn treulio eu hamser.
-
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r cyfeiriad gwe ar eich llythyr yn dweud ‘Ffordd o Fyw/Lifestyle’.
-
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r cyfeiriad gwe ar eich llythyr yn dweud ‘Chwarae fy rhan/Play my part’.
-
Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r cyfeiriad gwe ar eich llythyr yn dweud ‘astudiaeth Llywio Yfory’.
Canfod astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi
P'un a ydych chi wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan, neu ond yn chwilfrydig, gallwch gael gwybod mwy am ein hastudiaethau o gartrefi a sut mae cymryd rhan.