1. Cyflwyniad

Astudiaeth o safonau ac amgylchiadau byw pobl sy'n byw yn Deyrnas Unedig heddiw yw'r Arolwg Adnoddau Teuluol. Mae'r astudiaeth yn darparu gwybodaeth hollbwysig sy'n helpu'r Llywodraeth i ddatblygu a monitro polisïau sy'n helpu pawb, o bobl sengl a theuluoedd â phlant, i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu a phobl hŷn.

Mae'r Arolwg yn astudiaeth a gynhelir gan gonsortiwm, gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Mae'r canlyniadau o'r astudiaeth hon yn galluogi'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddeall sut mae rhannau gwahanol o gymdeithas yn ymdopi heddiw a'u helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, monitro effaith newidiadau polisi yn y Deyrnas Unedig, a mesur cyflwr yr economi dros amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon. Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir. Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw a bydd yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Mae'r adran hon yn disgrifio'r broses y byddai ein hastudiaeth yn ei dilyn fel arfer. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn eich cadw chi a'n cydweithwyr yn ddiogel.

Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn ein datganiad.

Bydd cyfwelydd yn trefnu amser addas i ymweld â chi er mwyn cynnal y cyfweliad. Caiff yr holl ddata holiadur eu casglu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio holiaduron gyda chymorth cyfrifiaduron. Bydd y cyfwelydd yn casglu gwybodaeth lawn am amgylchiadau'r cartref cyfan. Bydd yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau megis sut mae eich cartref yn ymdopi yn ariannol, pa gynilion a buddsoddiadau sydd gennych a pha ddarpariaethau rydych wedi'u gwneud ar gyfer ymddeol – ond dim ond os ydynt yn gymwys i chi.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r Llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a lle y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus. Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut y mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae'r Arolwg Adnoddau Teuluol yn cael ei gynnal gan gonsortiwm gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), cynhyrchydd ystadegau mwyaf y Llywodraeth, a'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol. Mae SYG yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad a gynhelir bob deng mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Caiff y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref. Gall eich ymatebion gael eu cyfuno, at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig, a chedwir gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rhoddir gwybodaeth ddienw o'r arolwg i sefydliadau cymeradwy eraill at ddibenion ystadegol yn unig. Mae'n rhaid i'r holl ystadegau gydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch gwybodaeth bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir cartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Ar ôl i chi gael eich dewis, ni allwn ddewis cartref arall yn eich lle. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr arolwg swyddogol hwn wrth sicrhau y caiff pob cymdeithas yng Nghymru ei chynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Fel y soniwyd uchod, mae'r Arolwg yn astudiaeth a gynhelir gan gonsortiwm, gan gynnwys SYG a'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Os bydd gennych gwestiwn am sut mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn prosesu eich gwybodaeth ar ôl ei throsglwyddo, gweler y wybodaeth am breifatrwydd ar ei gwefan.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar +44 (0)800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Ein helpu ni i gysylltu.
    Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Total Mobile.
Nôl i'r tabl cynnwys