1. Cyflwyniad

Mae Arolwg Iechyd yr Alban yn creu darlun manwl o iechyd poblogaeth yr Alban mewn cartrefi preifat, a bwriedir iddo wneud cyfraniad mawr at y gwaith o fonitro iechyd yn yr Alban.

Caiff y wybodaeth ei defnyddio i lywio penderfyniadau polisi mewn perthynas â gwasanaethau iechyd ac er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau yn yr Alban. Ariennir yr arolwg gan Lywodraeth yr Alban.

Mae'r astudiaeth hon wedi'i gohirio dros dro oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Dysgwch am y ffordd mae ein hastudiaethau a'n harolygon yn diwallu anghenion y cyhoedd yn ein datganiad.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?

Mae'n hanfodol ar gyfer gwaith blaengynllunio Llywodraeth yr Alban, er mwyn nodi bylchau o ran darpariaeth gwasanaethau iechyd a nodi pa grwpiau sy'n wynebu risg arbennig o salwch yn y dyfodol.

Cyn i Arolwg Iechyd yr Alban gael ei gyflwyno yn 1995, nid oedd darlun cynhwysfawr ar gael ar lefel genedlaethol o iechyd y boblogaeth, ei nodweddion biolegol na'i hymddygiad mewn perthynas ag iechyd, na'r ffordd y gall y nodweddion hyn fod yn newid dros amser. Felly, dyluniwyd Arolwg Iechyd yr Alban er mwyn goresgyn y diffyg gwybodaeth hwn drwy gyflawni nifer o nodau penodol.

Cynhaliwyd fersiynau blaenorol o Arolwg Iechyd yr Alban yn 1995, 1998 a 2003. Ers 2008, mae'r Arolwg wedi cael ei gynnal bob blwyddyn a bydd hyn yn parhau yn y dyfodol. Caiff adroddiad blynyddol ei gyhoeddi ar yr arolwg (mae'r adroddiad diweddaraf yn seiliedig ar ddata 2016). I gael rhagor o wybodaeth am y data diweddaraf, gwyliwch Fideo Llywodraeth yr Alban.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu'r GIG, llunwyr polisïau ac elusennau i wneud y penderfyniadau cywir am faterion pwysig sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl yn yr Alban.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Os ydych wedi cael llythyr yn gofyn i chi gymryd rhan, bydd cyfwelydd yn galw yn eich cartref i esbonio mwy am yr astudiaeth, a bydd yn fwy na pharod i drefnu amser sy'n gyfleus i chi ar gyfer cynnal y cyfweliad. Mae'r cyfwelwyr ar gael yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar y penwythnos ac yn cario cerdyn adnabod er mwyn rhoi tawelwch meddwl i chi. Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn yr Alban heddiw a byddwch yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Caiff eich data eu trin yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac ni fydd modd adnabod neb o'r canlyniadau a gaiff eu cyhoeddi.

Bydd eich atebion yn cael eu cyfuno â'r atebion a gesglir gan filoedd o bobl eraill ledled yr Alban. Caiff y wybodaeth ei dadansoddi'n ddienw ac ni fydd yr ystadegau a gynhyrchir yn datgelu pwy ydych chi na neb arall yn eich cartref nac yn cynnwys gwybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion. Cyhoeddir yr ystadegau mewn adroddiadau a thablau, a fydd ar gael am ddim ar wefan Llywodraeth yr Alban.

I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff y wybodaeth a roddir gennych ei defnyddio, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae Llywodraeth yr Alban wedi gofyn i ScotCen Social Research, mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Uned Gwyddorau Iechyd Cymdeithasol a Chyhoeddus y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC SPHSU) ym Mhrifysgol Glasgow, ac academyddion o Brifysgolion Aberdeen a Chaeredin, gynnal yr arolwg. Mae ScotCen, MRC SPHSU a Phrifysgolion Aberdeen a Chaeredin yn annibynnol ar holl adrannau'r llywodraeth a phob plaid wleidyddol. SYG yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol y Deyrnas Unedig. Mae cyfwelwyr SYG yn hwyluso gwaith casglu data ar ran ScotCen, sy'n cynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth yr Alban. Mae rhagor o wybodaeth am sefydliad ScotCen Social Research ar gael ar ei wefan.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir cartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol, sydd ar gael i'r cyhoedd. Ar ôl i chi gael eich dewis, ni allwn ddewis neb arall yn eich lle. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth swyddogol hon wrth sicrhau y caiff poblogaeth yr Alban ei chynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr arolwg, cysylltwch â ni ar +44 (0)800 298 5313.

Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:

Ddydd Llun i ddydd Gwener 8yb i 7yp
Dydd Sadwrn 8yb i 1yp

Nôl i'r tabl cynnwys