Yn yr adran hon
-
Gellir talu enillion yn rheolaidd neu fel tâl bonws. Rydym yn adrodd ar lefel a chyfradd twf cyfanswm tâl, tâl rheolaidd, a thâl bonws cyfartalog. Rhoddir oriau gwaith fel yr oriau cyfartalog a weithir bob wythnos gan weithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser.
-
Pobl mewn cyflogaeth yw pobl yr ystyrir eu bod yn gweithio am dâl, neu'r rhai sy'n gweithio heb dâl mewn busnes teuluol. Rydym yn cyfrifo cyfraddau cyflogaeth o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS), wedi'i ddadansoddi yn ôl oedran. Mae'r ffigurau eraill yn cynnwys dynion a menywod mewn cyflogaeth (o'r LFS hefyd) a swyddi gwag (o'r Arolwg o Swyddi Gwag).
-
Mae cynhyrchiant llafur yn mesur effeithlonrwydd y gweithlu, wedi'i gyfrifo yn ôl allgynnyrch fesul gweithiwr, allgynnyrch fesul swydd, ac allgynnyrch fesul awr. Mae hwn yn ffactor pwysig ar gyfer pennu cynhyrchiant posibl yr economi. Mae gwledydd â thwf cryf o ran cynhyrchiant llafur yn dueddol o elwa ar gyfraddau uchel o dwf a chwyddiant isel.
-
Rydym yn edrych ar nifer y bobl a gyflogir fel rhan o'r llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a chorfforaethau cyhoeddus. Gall y cyflogeion hyn fod yn barhaol, ar gontract tymor penodol, wedi eu cyflogi'n achlysurol, neu'n gweithio mewn ail swydd yn y sector cyhoeddus. Nid yw'r ystadegau hyn yn cynnwys pobl hunangyflogedig, gweithwyr contract neu weithwyr asiantaeth.
-
Mae anghydfodau yn y gweithle yn golygu achosion o atal gwaith o ganlyniad i anghydfod rhwng cyflogwr a chyflogeion. Mae hyn yn cynnwys streiciau (cyfreithlon ac anghyfreithlon) ac achosion o gloi drysau (lle mae cyflogwr yn rhwystro cyflogeion rhag mynd i mewn i'r gweithle). Mae ein ffigurau'n cynnwys nifer y diwrnodau a gollwyd o ganlyniad i anghydfodau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a nifer y gweithwyr a oedd ynghlwm â'r achosion hyn.
-
-
Darganfyddwch, cymharwch, a dewch yn fyw ystadegau am leoedd yn y Deyrnas Unedig.