1. Cyflwyniad
Mae'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol yn casglu gwybodaeth am y teithwyr sy'n dod i mewn ac allan o'r Deyrnas Unedig, ac mae wedi bod yn cael ei gynnal yn barhaus ers 1961. Mae'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol yn cynnal rhwng 700,000 ac 800,000 o gyfweliadau y flwyddyn, a chaiff dros 250,000 eu defnyddio i lunio amcangyfrifon o lefelau teithio dramor a thwristiaeth. Caiff canlyniadau'r astudiaeth eu defnyddio gan amrywiaeth o adrannau'r llywodraeth, gan gynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), yr Adran Drafnidiaeth, y Swyddfa Gartref, Cyllid a Thollau EM, VisitBritain a'r Byrddau Croeso cenedlaethol a rhanbarthol.
Gwnaethom ailddechrau'r astudiaeth hon ym mis Ionawr 2021 ar ôl iddi gael ei gohirio ers mis Mawrth oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Dysgwch am y ffordd mae ein hastudiaethau a'n harolygon yn diwallu anghenion y cyhoedd yn ein datganiad.
2. Sut y bydd y wybodaeth rwyf wedi'i darparu'n cael ei defnyddio?
Yn bennaf, caiff y canlyniadau eu defnyddio i fesur effaith gwariant teithio ar economi'r Deyrnas Unedig a darparu gwybodaeth am dwristiaeth ryngwladol a'r ffordd y mae wedi newid dros amser.
Ers i'r astudiaeth hon ailddechrau ym mis Ionawr 2021, mae bellach yn ymchwilio i brofiadau ac agweddau teithwyr mewn perthynas â COVID-19 hefyd.
Mae enghreifftiau o'r ystadegau sy'n deillio o'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol i'w gweld ar y dudalen Hamdden a thwristiaeth.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?
Caiff yr astudiaeth ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y llywodraeth. Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig, sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr a gynhelir bob 10 mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth a mudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.
Nôl i'r tabl cynnwys4. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?
Ydy, mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.
Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.
Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Pam y cefais i fy newis?
Rydym yn dewis teithwyr o'r prif feysydd awyr a llwybrau môr, mewn terfynfeydd Eurostar ac ar drenau gwennol Eurotunnel.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?
Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar ôl cymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar 0800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm
Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.
Gallwch anfon neges e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.
Nôl i'r tabl cynnwys