Hysbysiad preifatrwydd
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd diweddaraf ar gyfer ons.gov.uk, sy’n egluro sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu eich data personol.
- Diweddarwyd Diwethaf:
- 26 Tachwedd 2026
Trosolwg
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer ymwelwyr â gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG).
Os ydych yn ymatebydd i arolwg ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol, ewch i’n tudalen diogelu data Hysbysiad preifatrwydd (yn Saesneg).
Pa ddata rydym yn eu casglu
Rydym yn casglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio gwefan y SYG (ons.gov.uk) i'n helpu i wella’r wefan a sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr.
Google Analytics 4
Rydym yn defnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau i alluogi Google Analytics 4 i gasglu gwybodaeth megis:
- y tudalennau rydych yn ymweld â nhw
- pa mor hir rydych yn ymgysylltu â’r tudalennau
- sut y daethoch i'r wefan
- sut rydych yn rhyngweithio â’r cynnwys
- y ffeiliau rydych yn eu lawrlwytho
- yr hyn rydych yn chwilio amdano ar y wefan
Nid ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol drwy Google Analytics 4, er enghraifft eich enw, eich cyfeiriad na’ch cyfeiriad IP. Nid ydym yn caniatáu i Google Analytics 4 ddefnyddio na rhannu data am sut rydych yn defnyddio’r wefan. Ni fyddwn yn eich adnabod drwy wybodaeth ddadansoddol, ac ni fyddwn yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n eich adnabod.
Disodlodd Google Analytics 4 Universal Analytics ym mis Gorffennaf 2023. Roedd Universal Analytics yn cael ei ddefnyddio ar y wefan rhwng mis Chwefror 2016 a mis Gorffennaf 2023. Casglodd y fersiwn hon gyfeiriadau IP wedi’u talfyrru er mwyn sicrhau nad oedd modd adnabod unigolion o’r data. Cafodd y data hwn eu dileu ym mis Gorffennaf 2024.
Hotjar
Mae Hotjar yn offeryn trydydd parti a ddefnyddiwn i gasglu dadansoddiadau ymddygiad ac adborth defnyddwyr.
Rydym yn defnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau i alluogi Hotjar i gasglu gwybodaeth megis:
- eich ymatebion a’ch adborth i arolygon naidlen
- sut rydych wedi rhyngweithio â’n tudalennau ar ffurf mapiau gwres a recordiadau
Nid ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol drwy Hotjar, er enghraifft, eich enw, eich cyfeiriad na’ch cyfeiriad IP. Nid ydym yn caniatáu i Hotjar ddefnyddio na rhannu data am sut rydych yn defnyddio’r wefan. Ni fyddwn yn eich adnabod drwy wybodaeth ddadansoddol, ac ni fyddwn yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddol â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n eich adnabod.
Ffurflenni adborth ar y wefan
Rydym yn defnyddio ffurflenni adborth ar y wefan i’ch galluogi i anfon adborth neu ymholiadau yn uniongyrchol at ein canolfan gyswllt cwsmeriaid, er enghraifft ar ein tudalen adborth (yn Saesneg). Fel rhan o’r gwasanaethau hyn, rydym yn casglu gwybodaeth megis:
- cwestiynau, ymholiadau neu adborth rydych yn ei adael
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost os byddwch yn dewis eu darparu
Dim ond i ymateb i'ch ymholiad y byddwn yn defnyddio’r data personol rydych yn eu darparu . Gweler ein polisi preifatrwydd ar gyfer rhanddeiliaid (yn Saesneg) am ragor o fanylion.
Data logiau mynediad Cloudflare
Caiff data logiau mynediad eu casglu gan Cloudflare. Defnyddir y data i ddarparu adroddiadau dadansoddol sy’n ymwneud â pherfformiad technegol y wefan. Mae’r data crai mewn logiau mynediad yn cynnwys:
- Data ar lefel “hit” megis URL y dudalen
- codau statws HTTP
- y cyfeiriad IP a ddefnyddiwyd i gael mynediad at y wefan
Defnyddir cyfeiriadau IP o fewn Cloudflare i adnabod traffig bot a bygythiadau diogelwch posibl. Caiff data logiau mynediad eu hanfon o Cloudflare i Splunk er mwyn i ni eu monitro. Os byddwn yn canfod gweithgaredd sy’n torri ein telerau ac amodau , efallai y byddwn yn rhannu data logiau gyda’n darparwyr gwasanaeth i helpu i adnabod bygythiadau diogelwch. Ni fyddwn yn cyfuno gwybodaeth Cloudflare â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n eich adnabod yn uniongyrchol.
Pam mae angen eich data arnom
Rydym yn casglu gwybodaeth drwy’r offer hyn i helpu i:
- sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr
- wneud gwelliannau i’r wefan
- gasglu adborth i wella ein gwasanaethau
- ymateb i unrhyw adborth rydych yn ei anfon atom, os ydych wedi gofyn inni wneud hynny
- fonitro defnydd o’r wefan i adnabod bygythiadau diogelwch
Mae rhagor o fanylion am y wybodaeth rydym yn ei chasglu ar gael yn ein polisi Cwcis. Gallwch hefyd newid pa gwcis rydych yn fodlon inni eu defnyddio.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data dienw ar gyfer Google Analytics 4 a Hotjar yw eich caniatâd.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu pob data personol arall yw bod hynny’n angenrheidiol:
- i gyflawni tasg er budd y cyhoedd
- wrth arfer ein swyddogaethau fel adran lywodraethol
Beth rydym yn ei wneud â’ch data
Mae’n bosibl y caiff y data rydym yn eu casglu eu rhannu â'n cyflenwyr technoleg, er enghraifft, ein darparwr lletya.
Ni fyddwn yn:
- gwerthu na rhentu eich data i drydydd partïon
- rhannu data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
Ble mae eich data’n cael eu prosesu a’u storio
Rydym yn dylunio, adeiladu a rhedeg ein systemau i sicrhau bod eich data mor ddiogel â phosibl ar bob cam, wrth eu prosesu ac wrth eu storio.
Caiff yr holl ddata personol eu storio o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (yn Saesneg) (AEE). Gall data a gesglir gan Google Analytics 4 neu Hotjar gael eu trosglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r AEE i'w prosesu.
Pan fydd prosesu data yn digwydd yn yr Unol Daleithiau (UDA), rhaid i gyflenwyr fodloni’r safonau ardystio a nodir yng nghytundeb pont ddata’r DU –UDA. Mae hyn yn hwyluso llif data personol i gwmnïau ardystiedig yn yr UDA sydd wedi optio i mewn i Fframwaith Preifatrwydd Data’r UE–UDA (yn Saesneg).
Am ba mor hir rydym yn cadw eich data
Google Analytics 4
Cedwir data a gasglwyd gan Google Analytics 4 gan Google am 14 mis. Ar ôl hynny, caiff y data eu dileu o weinydd Google Analytics 4.
Caiff data eu tynnu o Google Analytics 4 a’u storio mewn cronfeydd data diogel y SYG, lle mae’r cyfnod cadw yn amhenodol.
Hotjar
Cedwir data mapiau gwres a recordiadau a gesglir gan Hotjar yn yr offeryn Hotjar am 365 diwrnod. Cedwir data arolygon a pholau a gesglir gan Hotjar am gyfnod amhenodol o fewn yr offeryn. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir mewn ymatebion i arolygon ei dileu.
Ffurflenni adborth
Dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i gyflawni ein rôl fel awdurdod ystadegol y caiff eich data personol eu cadw. Am ragor o fanylion, darllenwch ein polisi preifatrwydd ar gyfer rhanddeiliaid (yn Saesneg).
Data logiau mynediad
Dim ond am 12 mis y byddwn yn cadw eich data logiau mynediad, ac ar ôl hynny cânt eu dileu.
Sut rydym yn diogelu eich data a’u cadw’n ddiogel
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data’n ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad heb awdurdod at eich data neu eu datgelu heb awdurdod– er enghraifft, drwy ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio.
Rydym hefyd yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon rydym yn gweithio â nhw yn cadw’r holl ddata personol y maent yn eu prosesu ar ein rhan yn ddiogel.
Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn am:
- wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael eu prosesu
- copi o’r data personol hynny
- bod unrhyw anghywirdebau yn eich data personol yn cael eu cywiro
Gallwch hefyd:
- wrthwynebu’r ffordd y caiff eich data personol eu prosesu
- gofyn i’ch data gael eu dileu os nad oes cyfiawnhad dros eu cadw
- gofyn am gyfyngiad ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau
- codi cwyn ynghylch y ffordd y caiff eich data personol eu trin
I wneud unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â DPO@Statistics.gov.uk.
Pobl sy’n cysylltu â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Hootsuite (yn Saesneg), i reoli ein rhyngweithiadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Os byddwch yn anfon neges breifat neu uniongyrchol atom drwy’r cyfryngau cymdeithasol, caiff y neges ei storio gan Hootsuite am dri mis. Ni chaiff ei rhannu ag unrhyw sefydliadau eraill.
Dolenni i wefannau eraill
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid yw’r SYG yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys y gwefannau hynny.
Dilyn dolen i wefan arall
Os ewch i wefan arall o’r un hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno i weld beth mae’n ei wneud â’ch gwybodaeth.
Dilyn dolen i ons.gov.uk o wefan arall
Os dewch i ons.gov.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol o’r wefan honno. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i gael rhagor o wybodaeth am hyn.