-
Gallwch weld yr astudiaethau yr ydym yn eu cynnal a darganfod beth mae’n ei olygu.
-
Ein hymrwymiad i chi pan fyddwch yn cymryd rhan yn un o’n hastudiaethau.
-
Os ydych chi wedi derbyn galwad ffôn o 02392 958174, rydych chi wedi cael eich dewis gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gymryd rhan mewn astudiaeth bwysig. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn anfon llythyr allan cyn i ni eich ffonio.
-
Dyma’r manylion cysylltu ynghylch astudiaethau am bobl, teuluoedd ac aelwydydd.
-
Gwybodaeth am sicrhau bod unrhyw gais rydych chi wedi'i gael i gymryd rhan mewn arolwg SYG yn ddilys.
-
Manylion pwysig os oes angen help arnoch gyda'ch tocyn anrheg.
Sut mae'r coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar ein hastudiaethau
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cynnal ein hastudiaethau fel arfer er mwyn eich cadw chi a'n holl gydweithwyr yn ddiogel. Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch y coronafeirws (COVID-19), byddwn yn cynnal llawer o'n hastudiaethau dros y ffôn, yn hytrach nag wyneb yn wyneb.
Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn ein datganiad.
Mae eich cyfraniad yn hanfodol er mwyn llunio ystadegau sy'n cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n cael effaith arnoch chi, eich teulu a'ch cymuned.
Mae casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom ar gyfer ein hastudiaethau yn bwysicach nag erioed, felly rydym yn gwerthfawrogi eich help yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar +44 (0)800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor ar gyfer y llinell ffôn:
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm