1. Cyflwyniad

Mae'r Arolwg Costau Byw a Bwyd yn casglu gwybodaeth am batrymau gwario a chostau byw sy'n adlewyrchu cyllidebau cartrefi ledled y wlad.

Mae'r astudiaeth yn darparu gwybodaeth am batrymau gwario cartrefi, a gaiff ei defnyddio i ddiweddaru cynnwys basged nwyddau a gwasanaethau chwyddiant defnyddwyr. Caiff ei defnyddio hefyd i ddarparu gwybodaeth am fwyta bwyd a maethiad. Mae'n ffynhonnell bwysig o ddata economaidd a chymdeithasol i'r llywodraeth ac asiantaethau ymchwil eraill.

Caiff yr astudiaeth ei chynnal drwy gydol y flwyddyn ledled y DU a hon yw'r astudiaeth fwyaf arwyddocaol o ddefnyddwyr a gynhelir yn y DU. Mae'r canlyniadau yn hanfodol er mwyn deall cymdeithas a chynllunio i ddiwallu ei hanghenion.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam bod yr astudiaeth hon yn bwysig?

Mae angen gwybodaeth o ansawdd uchel arnom am batrymau gwario unigolion a chartrefi a'r gydberthynas rhwng deiet, maethiad ac iechyd.

Mae'r astudiaeth yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth am newidiadau mewn patrymau gwario a chostau byw sy'n adlewyrchu cyllidebau cartrefi ledled y wlad.

Mae'r astudiaeth hefyd yn llywio polisïau'r llywodraeth am newidiadau mewn deiet.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon.

Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o batrymau gwario'r genedl a'i newidiadau o ran deiet.

Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y DU heddiw a bydd yn helpu i ddylanwadu ar faterion sy'n effeithio ar bob un ohonom.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut mae cymryd rhan?

Bydd cyfwelydd yn trefnu amser addas i ymweld â chi er mwyn cynnal y cyfweliad.

Caiff holl ddata'r holiadur eu casglu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio holiaduron â chymorth cyfrifiadur.

Bydd y cyfwelydd yn casglu gwybodaeth am y ffordd rydych yn rheoli arian eich cartref.

Bydd y cyfwelydd hefyd yn gofyn i bob person gadw derbynebau a chofnodi manylion ei wariant.

Os bydd plant yn y cartref, cânt eu hannog i gofnodi eu gwariant.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a ble y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus.

Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y Llywodraeth, sy'n cynnal yr Arolwg Costau Byw a Bwyd.

Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r DU sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r mannau lle mae eu hangen fwyaf.

Y SYG hefyd sy'n cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad sy'n cael ei gynnal bob 10 mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth a mudo ymhlith ein hallbynnau proffil uchaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. A fyddaf yn cael fy nhalu am gymryd rhan?

Er mwyn adlewyrchu pa mor bwysig yw eich cymorth chi i ni, caiff taleb rhodd ei hanfon at bob oedolyn sy'n cael ei gyfweld ac sydd hefyd yn cofnodi ei wariant.

Bydd plant rhwng 7 a 15 oed sy'n cofnodi eu gwariant yn cael taleb rhodd fach hefyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Caiff cartrefi eu dewis ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Caiff tua 20,000 o gyfeiriadau eu dewis. Ar ôl i chi gael eich dewis, ni allwn ddewis cartref arall yn eich lle. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth swyddogol hon wrth sicrhau y caiff pob grŵp mewn cymdeithas ei gynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am ymrwymiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion y SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, ewch i'n tudalen ar ddiogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar 0800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor y llinell ffôn:

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ddethol â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Dim ond y manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod y byddwn yn eu rhannu. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • Anfon eich anrheg diolch. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Pluxee, sef is-gwmni i Sodexo.
  • Ein helpu ni i gysylltu â chi. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw Totalmobile aNISRA.
Nôl i'r tabl cynnwys