1. Sut i gymryd rhan

I ddechrau'r astudiaeth, dewiswch “Start now” ac yna rhowch eich cod mynediad personol.

Start now

Diolch am eich cefnogaeth. Bydd yr astudiaeth hon yn cau am hanner nos ddydd Gwener 20 Hydref 2023.

Caiff y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Gallwch gwblhau'r astudiaeth hon ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar. Os bydd angen, gallwch roi stop arni a gorffen yr astudiaeth ar adeg arall.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ynglŷn â'r astudiaeth

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal yr astudiaeth ar-lein bwysig hon ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r astudiaeth yn ymwneud ag ymddiriedaeth yn y llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus, a bydd yn gofyn am eich barn am y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus. Gofynnir i chi hefyd am eich cyfranogiad mewn gwleidyddiaeth ac eich barn am gweithredoedd y llywodraeth ar heriau hirdymor.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylech chi gymryd rhan

Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn helpu i lywio penderfyniadau'r llywodraeth. Mae hyn yn dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol, yn ogystal â chyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i chi. Mae'r astudiaeth hon wedi cael ei chynnal mewn 30 o wledydd eraill sy'n rhan o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Bydd y canlyniadau yn llywio gwaith OECD ar y modd y gall llywodraethau ennyn ymddiriedaeth, sicrhau bod pobl yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a chynnal cymunedau cryf.

Dyma'ch cyfle unigryw i rannu eich profiadau chi. Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pa gwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i chi

Bydd yr astudiaeth yn trafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • lefelau o ymddiriedaeth yn y llywodraeth ac mewn gwasanaethau cyhoeddus

  • eich boddhad â gwasanaethau cyhoeddus

  • eich agweddau gwleidyddol a’ch cyfranogiad

  • eich gwerthusiad o gweithredoedd y llywodraeth ar heriau hirdymor

Gall y cwestiynau a ofynnwn fod yn seiliedig ar ffaith a barn.

Nid oes unrhyw gwestiynau anodd ac rydym wedi gwneud yn siŵr nad oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir -- mae eich atebion gonest yn hanfodol er mwyn i ni gynhyrchu ystadegau dibynadwy ar ein cymdeithas gyfan.

Parchwn eich hawl i fywyd preifat -- ni chaiff y wybodaeth a rowch yn yr astudiaeth hon ei defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw ffordd. Os na fyddwch yn gyfforddus ag unrhyw gwestiwn a ofynnwn, gallwch ei adael allan.

Oes angen i mi ateb yr holl gwestiynau?

Mae'r cwestiynau'n wirfoddol. Os nad ydych chi am ateb rhai o'r cwestiynau, neu ddim un ohonynt, nid oes rhaid i chi eu hateb. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch er mwyn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau'n cael eu cyfrif.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Beth y byddwn yn ei wneud gyda'ch atebion

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol.

Bydd y manylion a rowch yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn byth yn datgelu pwy ydych chi nac aelodau'ch cartref.

Mae Swyddfa’r Cabinet wedi comisiynu SYG i gynnal yr astudiaeth hon. Bydd Swyddfa’s Cabinet a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn cael y data a gaiff eu casglu yn yr astudiaeth hon ond ni fydd yn cael eich gwybodaeth bersonol.

Data dienw are gael i ymchwilwyr cymeradwy ar gais, i’w defnyddio at ddibenion ymchwil ac ystadegol yn unig.

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan mewn un o'n hastudiaethau.

Os hoffech wybod mwy, gweler yr adran ar ein hymrwymiad i ddiogelu eich data.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Beth fydd yn digwydd nesaf

Dylech fod wedi cael llythyr neu e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan ac yn cyflwyno'r astudiaeth.

Bydd eich llythyr neu e-bost yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau a manylion mewngofnodi sydd eu hangen arnoch. Bydd modd i chi gwblhau'r astudiaeth hon ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr ac e-bost.

Rydym yn cynllunio ein hastudiaethau gyda chi mewn golwg ac yn eu cadw mor fyr â phosibl. Rydym ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn deall ein cymdeithas yn well. Mae eich ymateb yn bwysig iawn i ni.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r astudiaeth, byddwn yn cyfuno eich atebion ag atebion pawb arall. Yna, byddwn yn defnyddio'r data hyn i gynhyrchu ystadegau.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y wlad, sy'n cynnal yr astudiaeth hon. Mae SYG hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

Rydym:

  • yn annibynnol ac yn ddiduedd: rydym ar wahân i sefydliadau eraill ac nid ydym yn gadael i unrhyw beth ddylanwadu ar yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi

  • yn cynhyrchu ystadegau swyddogol fel prif rôl, yr unig sefydliad sy'n gwneud hynny: nid oes gennym unrhyw fuddiant ychwanegol yn y wybodaeth a gasglwn

  • ond yn ymddiddori mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac nid ynoch chi fel unigolyn: mae ystadegau yn cynrychioli grwpiau o bobl; rydym yn dileu eich manylion personol oherwydd nid oes gennym ddiddordeb mewn tynnu sylw at bwy ydych

Nid ydym:

  • yn sefydliad masnachol nac ymchwil i'r farchnad: yn gweithio er elw ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi

  • yn gysylltiedig ag unrhyw bleidiau gwleidyddol: rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, ni waeth pwy yw'r Prif Weinidog neu'r blaid wleidyddol sydd mewn grym

  • yn gwerthu eich data byth: rydym yn ddiolchgar eich bod yn cymryd rhan yn ein hastudiaethau ac nid ydym yn elwa ar eich data; ni chewch unrhyw "bost sothach" o ganlyniad i gymryd rhan

  • yn eich monitro gan mai dim ond at ddibenion cynhyrchu ystadegau y defnyddir eich data: ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am faterion eraill fel eich treth, incwm neu fudd-daliadau, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall wneud hynny ychwaith

Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn SYG.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Pam y gofynnwyd i chi gymryd rhan

Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan gan eich bod naill ai wedi cwblhau un o'n hastudiaethau blaenorol, neu fod eich cyfeiriad wedi’i ddewis as hap. Nid yw'n bosibl gofyn i bawb gymryd rhan yn ein hastudiaethau parhaus; yn hytrach, rydym yn gwahodd sampl o unigolion neu gartrefi, sy'n gwneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli pawb.

Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag rydych yn ei wneud, rydym yn awyddus i glywed gennych.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pwy sy'n rheoli'r astudiaeth?

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n rheoli'r astudiaeth hon a bydd yn cael yr holl ddata a gaiff eu casglu ac yn parhau i reoli'r holl ymatebion a roddir gan bawb sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Pwy gynlluniodd yr astudiaeth?

Cafodd yr holiadur ei gynllunio gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) mewn cydweithrediad â'r SYG a swyddfeydd ystadegol mewn gwledydd cyfranogol eraill.

Pwy yw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)?

Sefydliad rhyngwladol yw'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae 38 o wledydd yn aelodau o'r sefydliad, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Mae OECD yn cynnal yr Arolwg o Ymddiriedaeth er mwyn monitro ymddiriedaeth pobl mewn gwahanol sefydliadau a lefelau o'r llywodraeth ledled gwledydd OECD.

Ceir rhagor o wybodaeth am OECD ar wefan OECD.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cymryd rhan yn yr astudiaeth

Os ydych wedi cael llythyr neu e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ewch i'r botwm “Start now” ar frig y dudalen hon. Pan ofynnir i chi, rhowch y cod mynediad personol sy'n ymddangos yn eich llythyr neu e-bost.

Erbyn pryd y mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?

Dylech geisio cwblhau'r astudiaeth erbyn dydd Gwener 20 Hydref.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cwestiynau am gymryd rhan

Ble gallaf ddod o hyd i fy nghod ar gyfer cwblhau'r astudiaeth ar-lein?

Mae'r cod mynediad personol ar gyfer cwblhau'r astudiaeth ar lein wedi'i argraffu ar y llythyr neu'r e-bost y dylech fod wedi'i gael yn eich gwahodd i gymryd rhan. Pan fyddwch yn dilyn y ddolen yn eich llythyr neu e-bost, gofynnir i chi roi'r cod 8 digid sydd wedi'i nodi ar y llythyr neu'r e-bost.

A allaf gymryd egwyl yn ystod yr astudiaeth?

Gallwch, os hoffech gymryd egwyl, dewiswch "Cadw a pharhau yn nes ymlaen" ar waelod tudalen yr arolwg. Yna gofynnir i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Yna byddwch yn cael e-bost gan SmartSurvey â dolen unigryw a fydd yn mynd â chi'n ôl i'r man lle gwnaethoch orffen y tro diwethaf. I ailddechrau'r arolwg, dilynwch y ddolen unigryw a gaiff ei darparu yn yr e-bost gan SmartSurvey.

Nid oes gennyf fynediad at y rhyngrwyd ond rwyf am gymryd rhan

Os oes gennych fynediad at y rhyngrwyd ar ffôn clyfar neu drwy ddull arall (er enghraifft mewn llyfrgell leol neu gaffi rhyngrwyd), byddwch yn gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd a bod angen i chi gwblhau'r astudiaeth dros y ffôn, ffoniwch +44 800 085 7376 i wneud apwyntiad i gymryd rhan. Yna, bydd cyfwelydd yn eich ffonio a fydd yn eich helpu i gwblhau'r astudiaeth dros y ffôn.

Pam nad wyf wedi cael gwahoddiad a sut mae cael un?

Er mwyn sicrhau bod yr astudiaeth yn ddilys, dim ond y rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn yr astudiaeth fydd wedi cael llythyr neu e-bost yn eu gwahodd â dolen i'r astudiaeth a chod mynediad personol ag 8 digid.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Mae cymryd rhan yn bwysig

Dyma eich cyfle i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Os nad ydym wedi llwyddo i'ch darbwyllo, nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Er mwyn i ni greu darlun cywir o'n cymdeithas, rhaid i ni glywed gan gynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

A allaf gymryd rhan yn yr astudiaeth mewn ffordd arall heblaw ar lein?

Os ydych am gwblhau'r astudiaeth dros y ffôn, ffoniwch +44 800 085 7376 i wneud apwyntiad i gymryd rhan. Yna, bydd cyfwelydd yn eich ffonio a fydd yn eich helpu i gwblhau'r astudiaeth dros y ffôn.

A allaf gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg?

Os ydych am gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg, ffoniwch +44 800 085 7376 i wneud apwyntiad i gymryd rhan. Yna, bydd cyfwelydd yn eich ffonio a fydd yn eich helpu i gymryd rhan yn Gymraeg.

Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes fersiwn ar-lein o'r astudiaeth yn Gymraeg.

A allaf gwblhau'r astudiaeth mewn iaith arall?

Ar hyn o bryd, dim ond yn Gymraeg a Saesneg y mae'r astudiaeth ar gael. Os ydych am gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg, ffoniwch ein Llinell Ymholiadau Arolwg ar +44 800 085 7376.

Rwyf wedi cwblhau'r astudiaeth ar-lein ond rwyf am newid fy atebion; beth ydw i'n ei wneud?

Os ydych wedi cyflwyno eich ymatebion ond hoffech newid eich atebion, ffoniwch ni am ddim ar +44 800 085 7376 neu e-bostiwch govtrustsurvey@ons.gov.uk i roi gwybod i ni.

Rwyf wedi colli fy manylion mewngofnodi sydd eu hangen i gwblhau'r astudiaeth ar lein. A allaf gael y rhain eto?

Oherwydd cyfyngiadau o ran cyfrinachedd data, ni allwn ddarparu codau mynediad personol dros y ffôn. Mewn rhai achosion, gallwn anfon eich cod mynediad personol drwy e-bost. E-bostiwch govtrustsurvey@ons.gov.uk i ofyn am hyn.

Sut gallaf gadarnhau bod fy atebion wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus?

Ar ôl i chi glicio "Gorffen yr arolwg" ar dudalen olaf yr arolwg, cewch eich cyfeirio i dudalen sy'n dweud, "Rydych wedi cwblhau'r arolwg hwn". Mae hyn yn golygu bod eich atebion wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Cyfrinachedd a diogelu data

Sut rydym wedi eich dewis chi

Cawsoch naill ai eich dewis ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, neu mewn astudiaeth flaenorol gan SYG. Os gwnaethoch chi gymryd rhan mewn astudiaeth flaenorol, yna ar ôl cwblhau'r astudiaeth hon, gwnaethoch ddarparu eich manylion cyswllt er mwyn cymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol o bosibl. Gallwch gael y manylion llawn am ffynhonnell eich manylion cyswllt drwy ffonio +44 800 085 7376 am ddim neu drwy e-bostio govtrustsurvey@ons.gov.uk.

Ni allwn ofyn i unigolyn arall gymryd eich lle yn yr astudiaeth hon oherwydd byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw ein hastudiaeth.

A fydd hi'n bosibl fy adnabod yn y canlyniadau?

Na fydd, caiff y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ni fydd unrhyw ystadegau na chanlyniadau a gaiff eu llunio yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

A fydd unrhyw un arall yn gweld fy atebion?

Mae'r cod mynediad personol yn unigryw i chi yn unig. Cadwch eich cod yn ddiogel. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno astudiaeth wedi'i chwblhau, ni ellir gweld yr atebion wedyn gan ddefnyddio eich cod mynediad personol.

Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei darparu?

Ni fydd y wybodaeth a roddwch yn eich adnabod chi na’ch cartref a byddwn ond yn cadw’ch gwybodaeth cyhyd ag y caiff ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau, yn unol â deddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR).

Bydd y manylion a rowch yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau.

Bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn cael y data a gaiff eu casglu yn yr astudiaeth hon ond ni fydd yn cael eich gwybodaeth bersonol. Ni fydd unrhyw ddata a gaiff eu cyhoeddi gan SYG nac OECD byth yn datgelu pwy ydych chi nac aelodau'ch cartref.  

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan mewn un o'n hastudiaethau. 

Gall gwybodaeth o'r astudiaeth gael ei rhoi i sefydliadau neu ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig.

Am faint o amser y byddwch yn cadw'r wybodaeth rwy'n ei darparu?

Ni fydd y wybodaeth rydych yn ei darparu yn datgelu pwy ydych chi na neb arall yn eich cartref a dim ond cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y byddwn yn cadw eich gwybodaeth.

Pa ragofalon ar gyfer diogelu data a chyfrinachedd sydd wedi cael eu cymryd?

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU a Deddf Diogelu Data 2018, ac mae'n prosesu'r holl wybodaeth bersonol â pharch, gan ei chadw'n ddiogel a chyfrinachol.  Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Sut rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel?

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Yn hyn o beth, rydym yn cymryd pob rhagofal posibl i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel rhag cael ei cholli, ei dwyn neu ei chamddefnyddio Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, mynediad a reolir at ein systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau wedi'u hamgryptio â'r rhyngrwyd wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Cwcis

Mae rhai astudiaethau ar-lein yn casglu gwybodaeth drwy ddefnyddio cwcis. Ffeiliau bach a gaiff eu storio ar eich cyfrifiadur yw'r rhain. Caiff y ffeiliau hyn eu defnyddio'n gynnil a dim ond at ddibenion rheoli ansawdd a dilysu ac, yn fwy pwysig, i'n hatal rhag anfon nodiadau atgoffa atoch ar gyfer astudiaeth ar-lein rydych chi eisoes wedi'i chwblhau. Mae'n bosibl i chi ddileu cwcis neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy addasu'r gosodiadau porwr ar eich cyfrifiadur.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich system weithredu, eich gosodiadau arddangos a'r math o borwr rydych chi'n ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chyflwyno ar ffurf sy'n addas ar gyfer y feddalwedd y mae eich cyfrifiadur yn ei defnyddio. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth arall o'ch cyfrifiadur.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Weithiau byddwn yn casglu gwybodaeth ar ran sefydliad arall. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff eich data eu trin dan yr amgylchiadau hyn, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg rydych wedi cael eich dewis ar ei gyfer.

Yn SYG, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i'r cyhoedd o ddifrif. Ein polisi yw y byddwn yn dweud wrth yr awdurdod priodol os byddwn o'r farn bod risg ddifrifol i ddiogelwch unigolyn.

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella unrhyw rai o'n hastudiaethau. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch. Gallwch anfon e-bost atom yn govtrustsurvey@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Rhagor o help

Os oes gennych ymholiadau, ffoniwch ein Llinell Ymholiadau Arolwg ar +44 800 085 7376.

Dylai defnyddwyr minicom ddeialu 18001 cyn y rhif hwn.   Yr amseroedd agor yw:

O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 7.00pm
a dydd Sadwrn rhwng 7.00am ac 1.00pm

Dolenni defnyddiol

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan.

Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • anfon anrheg diolch: ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Sodexo

  • ein helpu ni i gysylltu â chi: ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw GovNotify.

Nôl i'r tabl cynnwys