1. Ynglŷn â'r arolwg

Mae'r astudiaeth hon bellach ar gau.

Gwybodaeth am beth yw'r Arolwg Cyn-filwyr, i bwy mae'r arolwg hwn a phwy sy'n ei drefnu.

Mae'r dudalen wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Yn yr adran hon

  1. Ynglŷn â'r arolwg

  2. Sefydliadau sy'n cynnal yr arolwg

  3. Diffiniad o gyn-filwr

1. Ynglŷn â'r arolwg

Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal yr arolwg pwysig hwn. Mae'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud ag amgylchiadau a ffyrdd o fyw pobl sydd wedi gadael Lluoedd Arfog y DU. Yr enw cyffredin ar y bobl hyn yw cyn-filwyr.

Mae Llywodraeth y DU am wneud yn siŵr mai'r DU yw'r lle gorau i gyn-filwyr fyw erbyn 2028. Mae newid eisoes wedi dechrau. Am y tro cyntaf, gwnaeth y cyfrifiad gyfrif cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU. Mae angen i ni i gael rhagor o wybodaeth.

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau am fywydau'r gymuned Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a'u teuluoedd. Bydd adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio canfyddiadau dienw'r arolwg hwn i wneud cynlluniau.

Dyma'ch cyfle unigryw i rannu eich profiadau chi. Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud.

Bydd Arolwg Cyn-filwyr y Deyrnas Unedig ar-lein yn cau am hanner nos ddydd Iau, 2 Chwefror 2023. Bydd angen dychwelyd copïau papur o Arolwg Cyn-filwyr y Deyrnas Unedig i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol erbyn hanner nos ddydd Gwener, 17 Chwefror 2023.

2. Sefydliadau sy'n cynnal yr arolwg

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mae SYG:

  • yn annibynnol ac yn ddiduedd; rydym ar wahân i sefydliadau eraill ac nid ydym yn gadael i unrhyw beth ddylanwadu ar yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi

  • yn cynhyrchu ystadegau swyddogol fel prif rôl, yr unig sefydliad sy'n gwneud hynny; nid oes gennym unrhyw fuddiant ychwanegol yn y wybodaeth a gasglwn

  • dim ond yn ymddiddori mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac nid ynoch chi fel unigolyn; mae ystadegau yn cynrychioli grwpiau o bobl, felly rydym yn dileu eich manylion personol gan nad oes gennym ddiddordeb mewn tynnu sylw at bwy ydych

Nid ydym:

  • yn sefydliad masnachol nac ymchwil i'r farchnad; yn gweithio er elw ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi

  • yn gysylltiedig ag unrhyw bleidiau gwleidyddol; rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, ni waeth pwy yw'r Prif Weinidog neu'r blaid wleidyddol sydd mewn grym

  • yn gwerthu eich data byth; rydym yn ddiolchgar eich bod yn cymryd rhan yn ein hastudiaethau ac nid ydym yn elwa ar eich data, felly ni chewch unrhyw “bost sothach” o ganlyniad i gymryd rhan

  • yn eich monitro gan mai dim ond at ddibenion cynhyrchu ystadegau y defnyddir eich data; ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am faterion eraill fel eich treth, incwm neu fudd-daliadau, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall wneud hynny ychwaith

Os hoffech ddarllen mwy am yr hyn y mae SYG yn ei wneud, gallwch ddilyn y ddolen, fydd yn agor mewn ffenestr newydd, i'r dudalen sy'n disgrifio yr hyn rydym yn ei wneud yn SYG.

Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr

Y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) sy'n arwain ymdrechion Llywodraeth y DU i wneud yn siŵr mai'r Deyrnas Unedig yw'r lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr, gan helpu'r genedl i gyflawni ei dyletswydd gydol oes i'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Cafodd y SMC ei lansio yn 2019 fel rhan o Swyddfa'r Cabinet. Mae'r SMC yn gweithio gyda holl adrannau Llywodraeth y DU ac amrywiaeth fawr o sefydliadau eraill yn y sector preifat, y sector elusennol a'r sector cyhoeddus sy'n gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau a chymorth i gyn-filwyr.

3. Diffiniad o gyn-filwr

Pan fyddwn yn crybwyll cyn-filwyr yn ystod yr arolwg, rydym yn golygu pobl sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU ac sydd bellach wedi gadael gwasanaeth.

Nid oes angen i chi fod wedi ymgymryd â gwasanaeth gweithredol na bod wedi bod yn aelod o'r Lluoedd Arfog mewn rôl neu reng benodol. Os ydych wedi gwasanaethu am ddiwrnod, cewch eich ystyried yn gyn-filwr a gallwch gymryd rhan.

Bydd y cwestiynau yn yr arolwg yn gofyn am fynediad at wasanaethau a'ch amgylchiadau ers gadael y Lluoedd Arfog. Bydd yr arolwg hefyd yn gofyn am eich ffordd o fyw, eich iechyd a'ch llesiant.

Efallai fod hefyd gennych ddiddordeb yn y canlynol:

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Sut i gymryd rhan

Sut i gymryd rhan yn yr Arolwg Cyn-filwyr

Yn yr adran hon

  1. Sut i gymryd rhan yn yr arolwg
  2. Pwy all gymryd rhan yn yr arolwg
  3. Cadw neu newid eich ymatebion
  4. Cwblhau'r arolwg mewn iaith arall
  5. Cwblhau'r arolwg os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd
  6. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion

1. Sut i gymryd rhan yn yr arolwg

Dechrau Nawr

Diolch am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Agorodd yr arolwg hwn ddydd Iau 10 Tachwedd 2022.

I ddechrau'r arolwg, cliciwch ar "Dechrau nawr".

!

Bydd yr arolwg yn agor yn Saesneg. I gwblhau'r arolwg yn Gymraeg, defnyddiwch y cyfleuster dewis iaith ar frig y dudalen.

2. Pwy all gymryd rhan yn yr arolwg

Mae'r Arolwg Cyn-filwyr ar agor i holl gyn-filwyr y DU sy'n byw yn y DU ac sy'n 18 oed neu drosodd. Ni fyddwch yn cael llythyr gwahoddiad, ond gallwch gymryd rhan ar lein.

Mae croeso i aelodau o deuluoedd cyn-filwyr gymryd rhan yn yr arolwg os ydynt yn 18 oed neu drosodd.

Os bydd angen help ar rywun i gwblhau'r arolwg, gall ffrindiau a theulu helpu i lenwi'r ffurflen ar ei ran. Mae rhai cwestiynau o natur sensitif. Pan fydd y cwestiynau hyn yn codi yn yr arolwg, byddwn yn gofyn pwy sy'n llenwi'r arolwg. Os bydd rhywun yn cael help, ni chaiff y cwestiynau hyn eu gofyn.

3. Cadw neu newid eich ymatebion

Os byddwch am gymryd saib wrth gwblhau'r arolwg, cliciwch ar y botwm “Cadw a Pharhau yn Ddiweddarach” sydd ar bob tudalen. Byddwn yn gofyn i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Caiff dolen ei anfon i'r cyfeiriad e-bost fel y gallwch barhau â'r arolwg yn nes ymlaen. Gallwch gau'r arolwg. Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i ailafael yn yr arolwg o'r man roeddech wedi'i gyrraedd.

Os byddwch yn gadael yr arolwg heb glicio ar y botwm “Cadw a Pharhau yn Ddiweddarach”, byddwch yn gadael yr arolwg. Os byddwch am orffen yr arolwg, bydd angen i chi ddechrau o'r dechrau.

Os ydych wedi cyflwyno eich ymateb ond hoffech newid eich atebion, ffoniwch ni am ddim ar 0800 085 7376 neu e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk i roi gwybod i ni. Ar ôl i'r arolwg gau, caiff y wybodaeth ddienw ei grwpio gyda'i gilydd ac ni fydd modd newid ymatebion unigol.

4. Cwblhau'r arolwg mewn iaith arall

Ar hyn o bryd, dim ond yn Gymraeg ac yn Saesneg y mae'r arolwg ar gael ar lein.

!

Bydd yr arolwg yn agor yn Saesneg. I gwblhau'r arolwg yn Gymraeg, defnyddiwch y cyfleuster dewis iaith ar frig y dudalen.

Mae'r dudalen wybodaeth hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

5. Cwblhau'r arolwg os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd

Os oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd ar ffôn clyfar neu drwy ddull arall (er enghraifft mewn llyfrgell leol neu gaffi rhyngrwyd), byddwch yn gallu cymryd rhan yn yr arolwg.

Mae gennym rai copïau papur o'r holiadur. Os na allwch gwblhau'r arolwg ar lein neu os bydd angen help arnoch, gallwch ffonio Llinell Ymholiadau'r Arolwg ar 0800 085 7376. Ewch i'n hadran Cymorth pellach i weld yr oriau agor.

Yn anffodus, nid oes holiaduron papur ar gyfer teuluoedd cyn-filwyr ar gyfer yr arolwg hwn oherwydd cyfyngiadau ariannol.

6. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion

Bydd yn ein helpu os byddwch yn cwblhau'r arolwg cyn gynted â phosibl ar 10 Tachwedd 2022 neu ar ôl hynny, ond bydd yr arolwg ar agor am 12 wythnos.

Bydd Arolwg Cyn-filwyr y Deyrnas Unedig ar-lein yn cau am hanner nos ddydd Iau, 2 Chwefror 2023. Bydd angen dychwelyd copïau papur o Arolwg Cyn-filwyr y Deyrnas Unedig i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol erbyn hanner nos ddydd Gwener, 17 Chwefror 2023.

Efallai fod gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd:

Dechrau Nawr

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Eich ymatebion a sut y cânt eu defnyddio

Pynciau y bydd yr arolwg yn holi amdanynt a sut y byddwn yn defnyddio eich atebion.

Yn yr adran hon

  1. Yr hyn y byddwn yn holi amdano

  2. Sut y byddwn yn defnyddio eich ymatebion

1. Yr hyn y byddwn yn holi amdano

Bydd fersiwn cyn-filwyr yr arolwg yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o gymorth i gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog
  • Mynediad at wasanaethau
  • Ydych chi wedi ymgymryd â gwasanaeth gweithredol?
  • Ydych chi wedi cael eich bwlio neu oes rhywun wedi aflonyddu arnoch?
  • Ydych chi wedi dioddef achos o wahaniaethu?
  • Mynediad at gyflogaeth
  • Mynediad at dai
  • Gwaith
  • Iechyd a llesiant
  • Cysylltiadau â'r system cyfiawnder troseddol
  • Arian
  • Ffordd o fyw

Ni fyddwn yn gofyn yr holl gwestiynau hyn i bawb. Os ydych yn aelod o deulu cyn-filwr, byddwn yn gofyn am eich profiadau yn hyn o beth.

Bydd rhai cwestiynau gwirfoddol i gyn-filwyr a fydd yn trafod materion sensitif fel bwlio yn y gweithle. Os na fyddwch yn gyfforddus yn ateb unrhyw gwestiwn, gallwch ei adael yn wag. Rydym wedi gwneud yn siŵr nad oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan.

Dylech ond ateb y cwestiynau rydych eisiau eu hateb. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir – mae eich atebion gonest yn hanfodol er mwyn i ni gynhyrchu ystadegau dibynadwy am gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Ni fyddwn byth yn gofyn am fanylion banc na gwybodaeth cerdyn credyd. Ni fyddwn byth yn gofyn am eich pasbort na dogfennau eraill.

Pam rydym yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad

Mae'r arolwg yn gofyn am enw a chyfeiriad er mwyn paru data â'r cyfrifiad. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ni pa rannau o'r DU sydd â phoblogaethau gwahanol o gyn-filwyr. Bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i ddarparu gwasanaethau gwell ledled y DU.

Ni fydd unrhyw ystadegau na chanlyniadau a gaiff eu llunio yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref. Rydym yn parchu eich hawl i fywyd preifat – bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn yr arolwg hwn yn ddienw ac yn gyfrinachol.

Eto, mae ateb y cwestiynau yn wirfoddol. Os nad ydych am ateb rhai o'r cwestiynau, neu ddim un ohonynt, nid oes rhaid i chi wneud hynny. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch er mwyn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau'n cael eu cyfrif.

2. Sut y byddwn yn defnyddio eich ymatebion

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol.

Bydd y manylion a rowch yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Byddwn yn defnyddio'r data y byddwch yn eu rhoi i gysylltu â'r cyfrifiad. Byddwn yn gwneud hyn oherwydd ein bod am greu darlun mwy o gyn-filwyr y DU.

Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn ddienw ac yn gyfrinachol. Dim ond er mwyn i ni ddysgu mwy am y boblogaeth cyn-filwyr y caiff ei defnyddio. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn byth yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn rhannu canfyddiadau a set ddata heb wybodaeth adnabyddadwy â'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) yn Swyddfa'r Cabinet.

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan mewn un o'n hastudiaethau.

Os hoffech wybod mwy, gweler ein tudalen we am ein hymrwymiad i ddiogelu eich data.

Efallai fod hefyd gennych ddiddordeb yn y canlynol:

Dechrau Nawr

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cymorth pellach

Gwybodaeth am gyfrinachedd a diogelu data, dolenni defnyddiol a sut i gysylltu â ni.

Yn yr adran hon

  1. Datganiad Cyfrinachedd a Diogelu Data

  2. Cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r cyhoedd

  3. Rhannu data ag eraill

  4. Dolenni defnyddiol am gymorth pellach

  5. Cysylltu â ni

1. Datganiad Cyfrinachedd a Diogelu Data

Mae'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi wrth gymryd rhan yn yr ymchwil hon wedi'i diogelu gan y gyfraith. Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd. Caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd yn ddienw a dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen i gynhyrchu ystadegau defnyddiol y caiff ei chadw. Ni chaiff eich data personol eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.

Caiff eich atebion eu storio'n ddiogel tra byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg. Caiff yr holl ymatebion eu cadw'n ddiogel gan brotocolau cyfrinachedd a storio llym.

Fel testun data (rhywun rydym yn cadw data personol amdano), mae gennych hawliau statudol mewn perthynas â'ch data personol. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawliau i gael mynediad, gwrthwynebu, dileu a chywiro, ond ni fydd yr holl hawliau yn berthnasol i wybodaeth a gedwir at ddibenion ystadegol. Os byddwch am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â'n swyddog diogelu data.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol ac ni allwch ddod o hyd i'r ateb ar ein tudalennau diogelu data, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data:

drwy e-bostio DPO@statistics.gov.uk neu drwy ffonio: 0845 601 3034

Sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi

Caiff y manylion y byddwch yn eu rhoi eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Caiff canfyddiadau'r arolwg eu cyhoeddi unwaith y bydd yr arolwg wedi cau a'r gwaith dadansoddi data wedi'i gwblhau.

Bydd SYG yn rhannu'r canfyddiadau â'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC). Ni chaiff eich data personol eu rhannu ag unrhyw gorff, grŵp na sefydliad arall.

Caiff y wybodaeth ei chadw tra bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Caiff y data eu dileu pan na fyddant yn cael eu defnyddio mwyach.

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Deddf Diogelu Data 2018 ac yn prosesu'r holl wybodaeth bersonol â pharch, gan ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Caiff unrhyw ddata personol a gesglir eu prosesu mewn systemau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu'r data ac a asesir yn rheolaidd.

Cwcis

Mae rhai astudiaethau ar-lein yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddio cwcis. Ffeiliau bach a gaiff eu storio ar eich cyfrifiadur yw'r rhain. Caiff y ffeiliau hyn eu defnyddio'n gynnil a dim ond at ddibenion rheoli ansawdd a dilysu ac, yn fwy pwysig, i'n hatal rhag anfon negeseuon atgoffa atoch ar gyfer arolwg ar-lein rydych eisoes wedi'i gwblhau. Gallwch ddileu cwcis neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy addasu'r gosodiadau porwr ar eich cyfrifiadur.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich system weithredu, eich gosodiadau arddangos a'r math o borwr rydych yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn cael ei gyflwyno ar ffurf sy'n addas ar gyfer y feddalwedd y mae eich cyfrifiadur yn ei defnyddio. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth arall o'ch cyfrifiadur.

2. Cyfrifoldeb SYG i'r cyhoedd

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn eu gwneud i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei harolygon ar ein tudalen we, sydd ar gael yn siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Mae SYG yn cydymffurfio â chanllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen mwy ar y dudalen we, a fydd yn agor mewn ffenestr newydd, ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Yn yr arolwg hwn, rydym yn casglu gwybodaeth ar ran sefydliad arall, sef y SMC. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff eich data eu trin, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion.

3. Rhannu data ag eraill

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ddethol â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Dim ond y manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod y byddwn yn eu rhannu. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan.

Yn yr arolwg hwn, rydym yn gweithio gyda'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr. Os hoffech ddysgu mwy, ewch i wefan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC).

SmartSurvey yw'r llwyfan a ddefnyddir ar gyfer yr arolwg ar-lein. Os hoffech ddysgu mwy, ewch i wefan SmartSurvey.

Dechrau Nawr

4. Dolenni defnyddiol am gymorth pellach

Mae gwasanaeth Veterans’ Gateway ar gyfer unrhyw gyn-bersonél a'u teuluoedd sy'n chwilio am gyngor neu gymorth, ni waeth pa fater sy'n eu hwynebu. Mae'r gwasanaeth yn darparu'r pwynt cyswllt cyntaf i rwydwaith o sefydliadau partner milwrol, a rhai nad ydynt yn filwrol, i'ch helpu i ddod o hyd i'r union gymorth sydd ei angen arnoch pan fydd ei angen arnoch – p'un a ydych yn y DU neu dramor. I gael cymorth 24 awr, ewch i wefan Veterans’ Gateway neu ffoniwch: 0808 802 1212.

5. Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg ar 0800 085 7376.

Dylai defnyddwyr minicom ddeialu 18001 cyn y rhif hwn. Yr oriau agor yw:

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm

Efallai fod hefyd gennych ddiddordeb yn y canlynol:

Dechrau Nawr

Nôl i'r tabl cynnwys