Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?
- Pam y dylwn i gymryd rhan?
- Sut mae cymryd rhan?
- Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?
- Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?
- Oes rhaid i mi gymryd rhan?
- A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?
- Pam ydw i wedi cael fy newis?
- Beth yw cyfrifoldeb y SYG i'r cyhoedd?
- Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?
- Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau
1. Cyflwyniad
Astudiaeth o amgylchiadau cyflogaeth poblogaeth y DU yw'r Arolwg o'r Llafurlu. Hon yw'r astudiaeth cartref fwyaf yn y DU ac mae'n rhoi'r mesurau swyddogol o gyflogaeth a diweithdra.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Pam mae'r astudiaeth hon yn bwysig?
Drwy gymryd rhan yn ein hastudiaeth, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau am faterion sy'n effeithio ar y gymuned gyfan, gan gynnwys gwaith, diweithdra, hyfforddiant, ymddeol a gofalu am y teulu a'r cartref.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Pam y dylwn i gymryd rhan?
Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'r astudiaeth hon. Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi dethol â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o statws cyflogaeth ac amgylchiadau eraill y genedl. Drwy gymryd rhan, byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o'r darlun ehangach o fywyd yn y DU heddiw ac yn helpu i lywio polisïau sy'n effeithio ar bawb yn y DU.
Nôl i'r tabl cynnwys4. Sut mae cymryd rhan?
Bydd cyfwelydd yn cysylltu â chi i drefnu amser addas i gynnal y cyfweliad.
Caiff data'r holiadur eu casglu wyneb yn wyneb a thros y ffôn gan ddefnyddio holiaduron â chymorth cyfrifiadur.
Yn ystod y cyfweliad byddwn yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau'r cartref cyfan ac yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau, er enghraifft, iechyd, gofalu am y teulu a'r cartref, statws cyflogaeth, addysg, a chyfleoedd hyfforddiant. Weithiau bydd hyn yn cynnwys un aelod o'r cartref yn cymryd rhan ar ran pobl eraill sy'n byw yno.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?
Mae adrannau'r llywodraeth yn defnyddio canlyniadau'r astudiaeth i nodi sut a ble y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus. Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.
Mae ysgolion a phrifysgolion yn defnyddio ein hystadegau wrth astudio llawer o wahanol bynciau.
Mae enghreifftiau o'r ystadegau a gynhyrchir gan un o'n hastudiaethau i'w gweld ar dudalennau thema'r Farchnad Lafur.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y Llywodraeth, sy'n cynnal yr astudiaeth. Rydym yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r DU, sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf. Y SYG hefyd sy'n cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad sy'n cael ei gynnal bob 10 mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth a mudo ymhlith ein hallbynnau proffil uchaf.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Oes rhaid i mi gymryd rhan?
Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.
Nôl i'r tabl cynnwys8. A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?
Ydy, mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.
Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.
Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.
Nôl i'r tabl cynnwys9. Pam ydw i wedi cael fy newis?
Caiff sampl o gartrefi eu dewis ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol. Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni ellir dewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r arolwg. Mae hyn yn golygu bod eich cyfranogiad yn bwysig iawn i lwyddiant yr astudiaeth swyddogol hon wrth sicrhau y caiff pob grŵp yn y gymuned ei gynrychioli'n briodol.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Beth yw cyfrifoldeb y SYG i'r cyhoedd?
Gallwch ddarllen am ymrwymiadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion y SYG.
Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, ewch i'n tudalen ar ddiogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.
Nôl i'r tabl cynnwys11. Â phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar ôl cymryd rhan yn yr astudiaeth, cysylltwch â ni ar 0800 298 5313. Gweler isod amseroedd agor y llinell ffôn:
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm
Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.
Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.
Nôl i'r tabl cynnwys12. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau
Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ddethol â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Dim ond y manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod y byddwn yn eu rhannu. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan. Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:
Anfon eich anrheg diolch. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Pluxee, sef is-gwmni i Sodexo.
Ein helpu ni i gysylltu â chi. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw Totalmobile, GovNotify a NISRA.