1. Dechrau'r astudiaeth

Diolch am gymryd rhan. Caiff y wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ei diogelu dan y gyfraith a chaiff ei thrin yn gyfrinachol. Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu eich data.

Cyn dechrau, gwiriwch fod y llythyr wedi'i gyfeirio at eich cartref. Os nad ydych yn byw yn y cyfeiriad ar y llythyr, peidiwch â dechrau'r arolwg. Bydd angen i chi roi cod mynediad y cartref o'ch llythyr er mwyn dechrau.

Dechrau nawr

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Canllawiau ar gwblhau'r astudiaeth

Mae’r astudiaeth Llywio Yfory yn trafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • gwaith, ymddeoliad a diweithdra

  • hyfforddiant ac addysg

  • iechyd a llesiant

  • teithio i'r gwaith

  • nodweddion a chefndir

Dylech gwblhau'r astudiaeth erbyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Gall y cwestiynau fod yn seiliedig ar ffeithiau neu farn. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i gymryd rhan. Mae eich atebion gonest yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau dibynadwy am y gymdeithas.

Caiff eich atebion eu cadw bob tro y byddwch chi'n symud i'r dudalen nesaf. Gallwch ddychwelyd i orffen yr astudiaeth unrhyw bryd hyd at y dyddiad cau gan ddefnyddio'r un cod mynediad. Mae faint o amser y bydd yr astudiaeth yn ei gymryd i'w chwblhau yn dibynnu ar nifer y bobl yn y cartref a'u nodweddion.

Er mwyn cadw eich data yn ddiogel, bydd adrannau'r arolwg yn cael eu cloi yn awtomatig wrth i chi fynd drwyddyn nhw. Mae hyn yn golygu na allwch chi nac unrhyw aelod arall o'r cartref eu gweld mwyach. Ar ôl i'r adrannau gael eu cloi, ni allwch newid atebion.

Os na allwch ddychwelyd i gwblhau'r astudiaeth, bydd y wybodaeth rydych wedi'i rhannu â ni yn ddefnyddiol o hyd. Caiff data sydd wedi'u cadw eu cyflwyno a, lle y bo'n bosibl, byddan nhw'n cael eu defnyddio er mwyn dadansoddi.

Mae'r astudiaeth ar gael ar lein yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gallwch newid yr iaith ar unrhyw adeg.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni os hoffech chi:

  • drefnu cyfweliad dros y ffôn

  • cael gwybodaeth am ein gwasanaeth cyfieithu

  • gofyn am lythyrau print mawr neu Braille

  • gofyn cwestiynau pellach

Dylai pawb sy'n byw yn eich cyfeiriad gymryd rhan gan ddefnyddio'r un cod mynediad ar gyfer y cartref o'r llythyr a gawsoch. Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu drosodd ateb drosto'i hun neu ar ran aelodau eraill o'r cartref os byddan nhw'n rhoi caniatâd.

Mae'r astudiaeth yn gofyn cwestiynau manwl, felly byddai'n well pe bai pob person yn ateb ei adran ei hun. Gallech chi ofyn am help gan unrhyw oedolyn arall i gwblhau'r astudiaeth os bydd angen.

Mae nifer bach o gwestiynau am aelodau o'r cartref sy'n 15 oed neu'n iau, a dylai oedolyn ateb y rhain ar eu rhan.

Mae'n bwysig bod pawb sy'n 16 oed neu drosodd yn eich cartref yn gweld y llythyrau a'r taflenni rydym ni'n eu hanfon ac yn cytuno i gymryd rhan.

I gael rhagor o wybodaeth am ein hastudiaethau, gweler ein hastudiaethau.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylech chi gymryd rhan

Caiff yr astudiaeth hon ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), sef cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwyaf y DU. Nid yw'r SYG yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud.

Mae cymryd rhan yn yr astudiaeth hon yn gyfle i chi helpu ni i ddeall anghenion newidiol y gymuned gyfan.

Caiff y wybodaeth rydych chi'n ei rhoi ei defnyddio i greu ystadegau, fel cyfraddau cyflogaeth a diweithdra swyddogol. Gallwch ddarllen am y rhain yn ein bwletinau ystadegol (Saesneg yn unig).

Mae adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio ein hystadegau ar gyfer llawer o brosiectau, gan gynnwys:

  • gwella gwasanaethau gofal iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol

  • dileu rhwystrau i waith a chefnogi pobl nad ydyn nhw'n gallu gweithio

  • diwallu'r angen am dai, lleoedd mewn ysgolion a gwasanaethau ailgylchu

Mae gan gartrefi siawns deg a chyfartal o gael eu dewis i gymryd rhan a ni ellir dewis cartref arall yn eu lle. Mae'n bwysig cynrychioli eich ardal leol, er nad oes rhaid i chi gymryd rhan.

Ni ellir dod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn unrhyw le arall. Cewch gynnig taleb rhodd gwerth £10 i ddiolch o fewn 30 diwrnod i'ch cartref cyfan gwblhau'r astudiaeth. Dysgwch fwy am daleb rhodd Llywio Yfory.

O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn cynnal ymchwil arbrofol sy'n golygu nad yw eich data yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol ar gyfer allbynnau ond yn cael ei ddefnyddio i lywio newidiadau i'r offeryn casglu data. Mae'r ymchwil hwn yn bwysig i'n helpu i wella ansawdd data a sicrhau bod unigolion ar draws y DU yn cael eu cynrychioli'n briodol yn ein hystadegau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut rydym yn diogelu eich data

Caiff y wybodaeth rydych chi'n ei rhoi ei chyfuno â data o bob rhan o'r wlad ac ni chaiff ei defnyddio i'ch adnabod chi na'ch cartref mewn unrhyw ffordd. 

Caiff yr holl wybodaeth rydych chi'n ei rhoi ei diogelu gan y gyfraith a'i thrin yn gyfrinachol o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (yn Saesneg).

Caiff y wybodaeth a gaiff ei chasglu ei chadw yn ddiogel am bum mlynedd neu hyd nes na chaiff ei defnyddio mwyach i gynhyrchu ystadegau. Caiff ei dileu wedyn. Caiff yr holl fanylion y gellid eu defnyddio i adnabod person eu dileu ar y cam cynharaf posibl.

Gall y wybodaeth ddad-adnabyddedig hon gael ei rhannu ag ymchwilwyr achrededig cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Caiff gwybodaeth ei rhannu drwy ein Gwasanaeth Ymchwil Diogel. Dysgwch fwy am ein cynllun ymchwilwyr cymeradwy (Saesneg yn unig).

Mae'r SYG wedi comisiynu trydydd parti, sef Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), i gynnal rhywfaint o'r broses casglu data ar gyfer yr astudiaeth Llywio Yfory. 

Bydd y SYG yn cael yr holl ddata a gaiff eu casglu ac yn parhau i reoli'r holl wybodaeth a roddir gan bawb sy'n cymryd rhan.

Mae'r SYG yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â darparwyr gwasanaethau er mwyn cynnal ein hastudiaethau. Dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyflawni eu rôl y byddan nhw'n ei chael.

Mae'r sefydliadau hyn yn helpu'r SYG i:  

  • anfon eich taleb rhodd gwerth £10 -- y darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Pluxee is-gwmni i Sodexo (Saesneg yn unig).

  • cysylltu â chi gyda'ch caniatâd -- y darparwyr gwasanaethau hyn yw GovDelivery (Saesneg yn unig) a GovNotify (Saesneg yn unig).  

  • casglu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn ddiogel -- y darparwyr gwasanaethau hyn yw NISRA (Saesneg yn unig) a TotalMobile (Saesneg yn unig).  

Caiff eich enw a'ch cyfeiriad e-bost eu rhannu â Pluxee er mwyn anfon eich e-daleb. Ni fydd Pluxee yn defnyddio'r wybodaeth hon at unrhyw ddibenion eraill. Gall manwerthwyr cymwys newid yn unol â thelerau ac amodau Pluxee. Mae cerdyn rhodd plastig ar gael ar gais, ond gall y manwerthwyr amrywio. Dysgwch fwy am daleb rhodd Llywio Yfory.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein gwybodaeth am ddiogelu data (Saesneg yn unig) a Diogelu data ac astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cysylltu â ni

I gael cymorth hygyrchedd, e-bostiwch accessibility@ons.gov.uk.

I gymryd rhan dros y ffôn, ffoniwch ni am ddim ar 0800 085 7376.

Yr amseroedd agor yw:

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 6pm
Dydd Sadwrn 9am i 1pm

I gael rhagor o wybodaeth am ein hastudiaethau cymdeithasol, gweler ein hastudiaethau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, gweler ein tudalen we cysylltu â ni.

Pan fyddwch yn barod i gymryd rhan, ewch nôl i dechrau'r astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys