1. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Yn dilyn canllawiau gan y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), ni allwn ddefnyddio cyfeiriadau i ddewis pobl ar hap i gymryd rhan yn yr arolwg mwyach. O ganlyniad, rydym yn gofyn i bobl a gymerodd ran yn yr arolwg yn flaenorol a fyddent yn fodlon ein helpu unwaith eto. Rydych chi wedi cael eich dewis gan eich bod wedi cymryd rhan yn yr Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a gwnaethoch nodi yn eich cyfweliad blaenorol y byddech yn fodlon ein helpu ni eto. Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Ystyrir yn gyffredin mai'r Arolwg Troseddu yw'r ffynhonnell bwysicaf o wybodaeth am dueddiadau ym maes troseddu. Rydym yn dibynnu ar help pobl sy'n cymryd rhan er mwyn gallu cynhyrchu gwybodaeth am raddau a natur troseddu yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd.

Er mwyn creu darlun o'n cymdeithas gyfan, mae angen i ni siarad â phob math o bobl. Mae gennym ddiddordeb yn eich agweddau a'ch pryderon ynghylch trosedd, p'un a ydych wedi dioddef trosedd ai peidio. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydym yn awyddus i glywed gennych.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Dyma'ch cyfle unigryw i rannu eich barn a'ch profiadau. Drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, byddwch yn helpu i greu darlun mwy cyflawn o drosedd nag ystadegau troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu yn unig. Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn cynnwys troseddau na chaiff yr heddlu wybod amdanynt, neu na chânt eu cofnodi ganddo.

Mae'r Swyddfa Gartref, adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio canfyddiadau'r Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr i wneud cynlluniau a diwallu anghenion newidiol y wlad. Mae'r rhain yn amrywio o bolisïau cenedlaethol, fel y rhai sy'n anelu at ostwng troseddu, i gyfleusterau a gwasanaethau sy'n lleol i chi.

Gall y wybodaeth a roddir gennych hefyd gael ei defnyddio i nodi'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o drosedd, sy'n ddefnyddiol wrth gynllunio rhaglenni atal troseddu.

Er mwyn helpu i lywio penderfyniadau, rhaid i ni greu darlun cywir o'n poblogaeth amrywiol a newidiol. Drwy ofyn cwestiynau i chi, gallwn gasglu amrywiaeth o wybodaeth er mwyn cynhyrchu'r ystadegau sydd eu hangen i helpu i lywio yfory. Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Beth sy'n digwydd nesaf?

Dylech fod wedi derbyn llythyr yn gwahodd eich cartref i gymryd rhan. Mae'r llythyr hwn yn cyflwyno'r astudiaeth ac yn egluro y bydd yn cael ei chynnal dros y ffôn gyda chyfwelydd o Kantar Public. Am ragor o wybodaeth am Kantar Public, sy'n cynnal yr arolwg hwn ar ein rhan, gweler Adran 6.

Ar ôl i chi dderbyn eich llythyr, gallwch drefnu cyfweliad ar adeg sy'n gyfleus i chi. Os na fyddwch yn cysylltu, bydd cyfwelydd, sydd wedi bod yn destun gwiriadau diogelwch, yn eich ffonio er mwyn trefnu apwyntiad i chi gymryd rhan. Mae cyfwelwyr ar gael yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar y penwythnos.

Rydym yn cynllunio ein hastudiaethau gyda chi mewn golwg ac yn eu cadw mor fyr â phosibl. Rydym ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn deall ein cymdeithas yn well. Mae eich ymateb yn bwysig iawn i ni. Rydym yn gwybod bod pawb yn brysur, felly os bydd eich cynlluniau'n newid ac nad yw'n amser da i chi mwyach, mae'n iawn i chi aildrefnu.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r astudiaeth, byddwn yn cyfuno eich atebion ag atebion pawb arall. Yna, byddwn yn defnyddio'r data hyn i gynhyrchu ystadegau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pa gwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i mi?

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cwestiynau am eich profiadau o drosedd yn y 12 mis cyn eich cyfweliad. Mae gennym ddiddordeb yn eich profiadau, p'un a ydych wedi dioddef trosedd ai peidio. Gofynnir i chi hefyd am eich agweddau tuag at faterion sy'n ymwneud â throsedd fel:

  • yr heddlu
  • eich canfyddiadau o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ni fydd y rhan fwyaf o'r cwestiynau mwy sensitif a ofynnwyd i chi'n flaenorol yn cael eu gofyn y tro hwn. Nid oes unrhyw gwestiynau cymhleth ac rydym wedi gwneud yn siŵr nad oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan.

Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir – mae eich atebion gonest yn hanfodol er mwyn i ni gynhyrchu ystadegau dibynadwy ar ein cymdeithas gyfan.

Parchwn eich hawl i fywyd preifat – ni chaiff y wybodaeth a rowch yn yr astudiaeth hon ei defnyddio i'ch adnabod na'ch cysylltu â throsedd mewn unrhyw ffordd. Os na fyddwch chi'n gyfforddus ag unrhyw gwestiwn a ofynnwn, gallwch ei adael allan.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Beth y byddwch yn ei wneud gyda'm hatebion?

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol.

Bydd y manylion a rowch yn eich cyfweliad yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn byth yn datgelu pwy ydych chi na'ch cartref.

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan mewn un o'n hastudiaethau.

Os hoffech wybod mwy, gweler Adran 7 am ein hymrwymiad i ddiogelu eich data.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Caiff yr astudiaeth hon ei chynnal gan Kantar Public, ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

SYG yw cynhyrchydd ystadegau mwyaf y wlad.

Mae SYG:

  • yn annibynnol ac yn ddiduedd. Rydym ar wahân i sefydliadau eraill ac nid ydym yn gadael i unrhyw beth ddylanwadu ar yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi.
  • yn cynhyrchu ystadegau swyddogol fel prif rôl, yr unig sefydliad sy'n gwneud hynny. Nid oes gennym unrhyw fuddiant ychwanegol yn y wybodaeth a gasglwn.
  • ond yn ymddiddori mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac nid ynoch chi fel unigolyn. Mae ystadegau yn cynrychioli grwpiau o bobl. Rydym yn dileu eich manylion personol oherwydd nid oes gennym ddiddordeb mewn tynnu sylw at bwy ydych.

Nid yw SYG:

  • yn sefydliad masnachol neu ymchwil i'r farchnad. Nid ydym yn gweithio er elw ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi.
  • yn gysylltiedig ag unrhyw bleidiau gwleidyddol. Rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, ni waeth pwy yw'r prif weinidog neu'r blaid wleidyddol sydd mewn grym.
  • yn gwerthu eich data byth. Rydym yn ddiolchgar eich bod yn cymryd rhan yn ein hastudiaethau ac nid ydym yn elwa ar eich data. Ni chewch unrhyw “bost sothach” o ganlyniad i gymryd rhan.
  • yn eich monitro; dim ond at ddibenion cynhyrchu ystadegau y defnyddir eich data. Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am faterion eraill fel eich treth, incwm neu fudd-daliadau, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall wneud hynny ychwaith.

Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn SYG.

Gweithio gyda Kantar Public

Er mai SYG sy'n gyfrifol am yr astudiaeth, cynhelir y cyfweliadau ar ein rhan gan gwmni ymchwil annibynnol, sef Kantar Public. Unwaith y bydd wedi casglu'r data, bydd yn eu rhoi i ni er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Rydym bob amser yn sicrhau bod y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn trin eich data mewn ffordd gyfrifol.

I ddysgu mwy am ymrwymiad Kantar Public wrth drin eich gwybodaeth, ewch i wefan Kantar Public.

Os hoffech gadarnhau pwy yw cyfwelydd neu a yw'r alwad yn ddilys, ffoniwch linell wybodaeth Arolwg Troseddu Kantar Public ar +44 (0)800 051 0882.

Mae'r holl weithredwyr ffôn sy'n gweithio ar Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn cael hyfforddiant.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Ein hymrwymiad i chi a'r ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau rydym yn eu gwneud i bobl sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau ar y dudalen Cymryd rhan? Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.

Sut rydym yn trin eich gwybodaeth – cyfrinachedd a diogelu data

Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy.

Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi ar ôl iddi gael ei throsglwyddo i ni, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data am ragor o wybodaeth a'r manylion cyswllt y bydd eu hangen arnoch.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Am gysylltu â ni?

Cysylltwch â llinell wybodaeth yr Arolwg Troseddu yn Kantar Public ar radffôn +44 (0)800 051 0882 er mwyn siarad â chynghorydd am help gyda'r canlynol:

  • gwneud apwyntiad i'r cyfwelydd ffonio ar adeg sy'n gyfleus i chi
  • anfon neges at gyfwelydd sydd eisoes wedi cysylltu â chi
  • unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych am yr astudiaeth neu am gymryd rhan

Mae'r llinellau ffôn ar agor:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener – 9am i 9pm
  • Dydd Sadwrn – 9am i 12pm

Gallwch hefyd anfon e-bost i crimesurvey@kantarpublic.com.

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella'r astudiaeth hon neu unrhyw un o'n hastudiaethau eraill. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch. Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Gobeithio ein bod wedi egluro pa mor bwysig yw'ch ymateb i ni, a pha mor werthfawr yw'ch gwybodaeth wrth gynhyrchu ystadegau dibynadwy er mwyn gwneud penderfyniadau. Os na wnaethoch weld hyn, neu os oes angen eich atgoffa, gweler Adran 2 – Pam y dylwn i gymryd rhan?.

Dyma eich cyfle i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Os nad ydym wedi llwyddo i'ch darbwyllo, nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Er mwyn i ni greu darlun cywir o'n cymdeithas, rhaid i ni glywed gan gynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Mewn llawer o wledydd eraill, mae'n orfodol i unigolion a gaiff eu dethol gymryd rhan. Rydym yn rhoi'r dewis i chi wneud gwahaniaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys