Telerau ac amodau
Drwy ddefnyddio gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol y (SYG), rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau a amlinellir.
- Diweddarwyd Diwethaf:
- 26 Tachwedd 2026
Defnyddio gwefan y SYG
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig. Rhaid i chi hefyd ei ddefnyddio mewn ffordd nad yw’n torri hawliau unrhyw un arall nac yn cyfyngu neu’n rhwystro defnydd a mwynhad unrhyw un arall o’r safle hwn.
Rydym yn diweddaru ein cynnwys yn barhaus. Gallwn newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.
Darllenwch fwy am sut rydym yn sicrhau mynediad teg a chyfartal i’n gwefan a’i chynnwys yn ein Polisi Defnydd Teg.
Cysylltu â gwefan y SYG ac ohoni
Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â’r wefan hon.
Rhaid i chi gysylltu â ni (yn Saesneg) i gael caniatâd os ydych am wneud un o’r canlynol:
- codi tâl ar ddefnyddwyr eich gwefan am glicio ar ddolen i unrhyw dudalen ar y wefan hon
- datgan bod eich gwefan yn gysylltiedig â’r SYG neu wedi’i chymeradwyo ganddo
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau a reolir gan sefydliadau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau hyn, ac nid ydym yn ei gymeradwyo.
Nid ydym yn gyfrifol am:
- ddiogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i’r gwefannau hyn
- unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o’ch defnydd o’r gwefannau hyn neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw
Rydych yn cytuno i’n rhyddhau rhag unrhyw hawliadau neu anghydfodau a all ddeillio o ddefnyddio’r gwefannau hyn. Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd, a thrwyddedau defnyddiwr terfynol sy’n ymwneud â’r gwefannau hyn cyn eu defnyddio.
Defnyddio cynnwys y SYG
Mae’r rhan fwyaf o gynnwys y wefan hon o dan warchodaeth hawlfraint y Goron (yn Saesneg) ac ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) (yn Saesneg). Mae rhywfaint o gynnwys wedi’i eithrio o’r OGL – gwiriwch y rhestr o eithriadau.
Mae atgynhyrchu gwybodaeth yn amodol ar delerau’r OGL a Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y Deyrnas Unedig (yn Saesneg).
Rydym yn sicrhau bod y rhan fwyaf o’r cynnwys ar y wefan hon ar gael drwy ffrydiau i wefannau a chymwysiadau eraill ei ddefnyddio. Nid ein cynhyrchion ni yw’r gwefannau a’r cymwysiadau sy’n defnyddio ein ffrydiau, ac efallai y byddant yn defnyddio fersiynau o’n cynnwys sydd wedi’u golygu a’u storio i’w defnyddio’n ddiweddarach (“cached”).
Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd, amodau na warantau ynghylch cywirdeb na chyflawnrwydd unrhyw gynnwys a ddefnyddir gan y cynhyrchion hyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o’ch defnydd o’r cynhyrchion hyn.
Bydd y fersiwn fwyaf diweddar o’n cynnwys bob amser ar wefan y SYG.
Eithriadau hawlfraint
Mae'r rhan fwyaf o’r cynnwys ar y wefan hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Fodd bynnag, mae rhai ffotograffau, darluniau a fideos a ddefnyddir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i gytundebau trwydded hawlfraint trydydd parti. Mae hyn yn cynnwys deunydd a drwyddedwyd o safleoedd stoc heb freindal neu lyfrgelloedd delweddau eraill. Nid yw’r eitemau hyn yn dod o dan yr OGL ac ni ellir eu defnyddio heb ganiatâd deiliad yr hawliau.
Cyn defnyddio’r cynnwys hwn, e-bostiwch ons.design@ons.gov.uk i gadarnhau’r amodau defnyddio.
Disgrifir eithriadau pellach yn llawn ar dudalen wybodaeth y Drwydded Llywodraeth Agored (yn Saesneg) © Hawlfraint y Goron 2026.
Ymwrthodiad
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw ein cynnwys yn gyfredol, nid yw’r SYG yn gyfrifol am sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio, ei dehongli na pha ddibyniaeth a roddir arni. Nid ydym yn darparu unrhyw sicrwydd, amodau na warantau y bydd y wybodaeth:
- yn gyfredol
- yn ddiogel
- yn gywir
- yn gyflawn
- yn rhydd rhag bygiau a firysau
Nid ydym yn cyhoeddi cyngor. Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth ar sail ein cynnwys.
Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o ddefnyddio’r cynnwys a gyhoeddir ar wefan y SYG. Mae hyn yn cynnwys:
- unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
- unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil (“tort”, gan gynnwys esgeulustod), tor contract neu fel arall
- defnyddio gwefan y SYG ac unrhyw wefannau sydd â dolenni iddi neu ohoni
- yr anallu i ddefnyddio gwefan y SYG ac unrhyw wefannau sydd â dolenni iddi neu ohoni
Mae hyn yn berthnasol os oedd y golled neu’r difrod yn rhagweladwy, wedi codi yng nghwrs arferol pethau neu os gwnaethoch ein hysbysu y gallai ddigwydd.
Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) colli eich:
- incwm neu refeniw
- cyflog, buddion neu daliadau eraill
- busnes
- elw neu gontractau
- cyfleoedd
- arbedion disgwyliedig
- data
- ewyllys da neu enw da
- eiddo diriaethol
- eiddo anniriaethol, gan gynnwys colli data, llygru data neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
- amser rheoli neu amser swyddfa a wastraffwyd
Gallwn barhau i fod yn atebol am:
- farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod
- gamliwiad twyllodrus
- unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol
Cwcis a phreifatrwydd
Rydym yn casglu data am sut rydych yn defnyddio ein gwefan er mwyn ein helpu i’w gwella a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein defnyddwyr. Darperir gwybodaeth fanwl am sut rydym yn gwneud hyn, beth sy’n cael ei gasglu a sut rydym yn ei ddiogelu yn ein canllawiau Preifatrwydd a Chwcis. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i ni gasglu’r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata rydych yn eu darparu yn gywir.
Diogelwch, firysau a hacio
Mae’r wefan hon yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu’r deunydd rydym yn ei reoli rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio neu ei addasu. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw addasu neu ymyrryd â'n data ar ôl iddynt gael eu rhyddhau ar y wefan.
Rhaid i chi sicrhau nad yw’r ffordd rydych yn defnyddio’r wefan hon yn eich gwneud yn agored i'r risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a all niweidio eich system gyfrifiadurol. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, tarfu neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio’r wefan hon.
Wrth ddefnyddio’r wefan hon, rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymegol nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’r wefan hon, y gweinydd y caiff ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â hi.
Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y wefan hon mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau gwrthod gwasanaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad heb awdurdod i’r wefan hon ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch â nhw.
Y gyfraith lywodraethol
Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â hwy. Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy’n ymwneud â’r telerau ac amodau hyn, neu’ch defnydd o’r wefan hon (boed yn gontractiol neu’n anghontractiol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Cyffredinol
Nid ydym yn atebol os byddwn yn methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Gallwn benderfynu peidio ag arfer neu orfodi unrhyw hawl sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn. Gallwn benderfynu arfer neu orfodi’r hawl honno yn nes ymlaen. Ni fydd gwneud hyn unwaith yn golygu ein bod yn ildio’r hawl yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Os canfyddir bod unrhyw rai o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill y telerau ac amodau yn parhau i fod yn gymwys.
Newidiadau i’r telerau ac amodau
Gwiriwch y telerau ac amodau hyn yn rheolaidd gan y gallant newid ar unrhyw adeg heb rybudd. Bydd y dyddiad “diweddarwyd diwethaf” ar ddechrau’r dudalen hon yn newid os bydd hyn yn digwydd.
Dolenni cysylltiedig
-
Gwybodaeth gyfreithiol am sut, pryd a pham y gall unrhyw sefydliad brosesu data personol.
-
Pa mor hygyrch yw gwefan y SYG a’r hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd.
-
Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd diweddaraf ar gyfer ons.gov.uk, sy’n egluro sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu eich data personol.