1. Sut i gymryd rhan

I ddechrau'r astudiaeth, cliciwch ar y botwm "Dechrau nawr" ac yna rhowch eich cod mynediad personol.

Dechrau nawr

Diolch am eich cefnogaeth; bydd yr astudiaeth hon yn cau am hanner nos ddydd Sul 1 Rhagfyr 2024.

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr astudiaeth yn Gymraeg, ffoniwch 0800 496 2119 i wneud apwyntiad i gymryd rhan.

Caiff y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Gallwch gwblhau'r astudiaeth hon ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar. Os bydd angen, gallwch roi stop arni a gorffen yr astudiaeth ar adeg arall.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ynglŷn â'r astudiaeth

Natur yr astudiaeth hon

Astudiaeth genedlaethol yw hon ynglŷn â barn a bywydau pobl ym Mhrydain Fawr. Bydd yn gofyn cwestiynau am eich cartref a sut mae pynciau diweddar o bwys cenedlaethol, fel iechyd a chostau byw, wedi effeithio arnoch chi.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Mae beth rydych chi’n dweud wrthym ni yn cael ei ddefnyddio i adeiladu darlun o Brydain Fawr. Mae hyn yn golygu eich bod yn helpu adrannau llywodraeth, elusennau a chyrff cyhoeddus i ateb anghenion newidiol y wlad.

Dyma'ch cyfle unigryw i rannu eich profiadau chi. Bydd eich ymatebion yn darparu gwybodaeth nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall. Peidiwch â cholli'r cyfle i ddweud eich dweud.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pa gwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i mi?

Bydd yr astudiaeth yn trafod amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • gwybodaeth amdanoch chi a'ch cartref
  • eich iechyd
  • cyflogaeth
  • Costau byw

Gall y cwestiynau a ofynnwn fod yn seiliedig ar ffaith a barn.

Nid oes unrhyw gwestiynau anodd ac rydym wedi gwneud yn siŵr nad oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gymryd rhan. Nid oes unrhyw atebion cywir nac anghywir -- mae eich atebion gonest yn hanfodol er mwyn i ni gynhyrchu ystadegau dibynadwy am ein cymdeithas gyfan.

Parchwn eich hawl i fywyd preifat -- ni chaiff y wybodaeth a rowch yn yr astudiaeth hon ei defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw ffordd. Os na fyddwch yn gyfforddus ag unrhyw gwestiwn a ofynnwn, gallwch ei adael allan.

Oes angen i mi ateb yr holl gwestiynau?

Mae'r cwestiynau'n wirfoddol. Os nad ydych chi am ateb rhai o'r cwestiynau, neu ddim un ohonynt, nid oes rhaid i chi eu hateb. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y gallwch er mwyn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau'n cael eu cyfrif.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Beth y byddwch yn ei wneud gyda'm hatebion?

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol.

Bydd y manylion a rowch yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn byth yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan yn un o'n hastudiaethau.

Os hoffech wybod mwy, gweler yr adran ar ein hymrwymiad i ddiogelu eich data.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Beth nesaf?

Dylech fod wedi derbyn llythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan ac yn cyflwyno'r astudiaeth.

Bydd eich llythyr yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau a manylion mewngofnodi sydd eu hangen arnoch - bydd modd i chi gwblhau'r astudiaeth hon ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Rydym yn cynllunio ein hastudiaethau gyda chi mewn golwg ac yn eu cadw mor fyr â phosibl. Rydym ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn deall ein cymdeithas yn well. Mae eich ymateb yn bwysig iawn i ni.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r astudiaeth, byddwn yn cyfuno eich atebion ag atebion pawb arall. Yna, byddwn yn defnyddio'r data hyn i gynhyrchu ystadegau.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sef cynhyrchydd ystadegau mwyaf y wlad, sy'n cynnal yr astudiaeth hon. Mae SYG hefyd yn cynllunio ac yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

Rydym:

  • yn annibynnol ac yn ddiduedd: rydym ar wahân i sefydliadau eraill ac nid ydym yn gadael i unrhyw beth ddylanwadu ar yr ystadegau rydym yn eu cyhoeddi
  • yn cynhyrchu ystadegau swyddogol fel prif rôl, yr unig sefydliad sy'n gwneud hynny: nid oes gennym unrhyw fuddiant ychwanegol yn y wybodaeth a gasglwn
  • dim ond yn ymddiddori mewn cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac nid ynoch chi fel unigolyn: mae ystadegau yn cynrychioli grwpiau o bobl; rydym yn dileu eich manylion personol oherwydd nid oes gennym ddiddordeb mewn tynnu sylw at bwy ydych

Nid ydym:

  • yn sefydliad masnachol nac ymchwil i'r farchnad: yn gweithio er elw ac ni fyddwn yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi
  • yn gysylltiedig ag unrhyw bleidiau gwleidyddol: rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol, ni waeth pwy yw'r Prif Weinidog neu'r blaid wleidyddol sydd mewn grym
  • yn gwerthu eich data byth: rydym yn ddiolchgar eich bod yn cymryd rhan yn ein hastudiaethau ac nid ydym yn elwa ar eich data; ni chewch unrhyw "bost sothach" o ganlyniad i gymryd rhan
  • yn eich monitro gan mai dim ond at ddibenion cynhyrchu ystadegau y defnyddir eich data: ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am faterion eraill fel eich treth, incwm neu fudd-daliadau, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i unrhyw un arall wneud hynny ychwaith

Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud yn SYG.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Pam y gofynnwyd i mi gymryd rhan?

Er mwyn creu darlun o'n cymdeithas gyfan, mae angen i ni siarad â phob math o bobl.

Rydym yn cynnal y cyfrifiad bob 10 mlynedd er mwyn casglu gwybodaeth am boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr. Rhwng pob cyfrifiad, rydym yn dibynnu ar astudiaethau parhaus, fel yr un hon, i ddarparu gwybodaeth gyfredol am newidiadau mewn cymdeithas.

Nid yw'n bosibl gofyn i bawb gymryd rhan yn ein hastudiaethau parhaus; yn hytrach, rydym yn gwahodd sampl o unigolion neu gartrefi, sy'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynrychioli pawb.

Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydym yn awyddus i glywed gennych.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi comisiynu trydydd parti, sef Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), i gynnal yr agweddau casglu data ar yr astudiaeth ar-lein hon a gynhelir ledled Prydain Fawr. Fodd bynnag, bydd SYG yn cael yr holl ddata a gaiff eu casglu ac yn parhau i reoli'r holl ymatebion a roddir gan bawb sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Pwy gynlluniodd yr astudiaeth?

Cafodd yr holiadur ei gynllunio gan SYG.

Pwy yw NISRA?

Un o asiantaethau'r Adran Gyllid yng Ngogledd Iwerddon yw NISRA. NISRA yw'r brif ffynhonnell ystadegau swyddogol ac ymchwil gymdeithasol ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r ymchwil a'r ystadegau hyn yn llywio polisïau a dadleuon cysylltiedig yn y gymdeithas ehangach.

Ceir rhagor o wybodaeth am NISRA ar wefan NISRA.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Sut i gymryd rhan yn yr astudiaeth

Sut gallaf gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Os ydych chi wedi cael llythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ewch i https://cy.ons.gov.uk/aboutus/whatwedo/programmesandprojects/playmypart. Pan ofynnir i chi, rhowch y cod mynediad personol sy'n ymddangos ar eich llythyr.

Noder: os nad yw eich llythyr yn cynnwys cyfeiriad gwefan neu god mynediad personol, byddwch yn cael y rhain drwy'r post yn fuan.

Erbyn pryd y mae angen i mi gwblhau'r astudiaeth?

Dylech geisio cwblhau'r astudiaeth erbyn y dyddiad a nodir yn eich llythyr gwahoddiad.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cwestiynau am gymryd rhan

Ble gallaf ddod o hyd i fy nghod ar gyfer cwblhau'r astudiaeth ar-lein?

Mae'r cod mynediad personol ar gyfer cwblhau'r astudiaeth ar lein wedi'i argraffu ar y llythyr gwahoddiad y dylech fod wedi'i gael. Os nad ydych chi wedi cael hwn eto, byddwch yn ei gael drwy'r post yn fuan. Cod 12 digid yw hwn a dylech ei ddefnyddio ar https://cy.ons.gov.uk/aboutus/whatwedo/programmesandprojects/playmypart pan ofynnir i chi.

A allaf gymryd egwyl yn ystod yr astudiaeth?

Gallwch, bydd eich atebion yn cael eu cadw'n awtomatig wrth i chi gwblhau'r astudiaeth. Gallwch gau ffenestr y porwr sy'n cynnwys yr astudiaeth unrhyw bryd -- bydd eich atebion yn cael eu cadw.

Pan fyddwch yn barod i ddychwelyd at yr astudiaeth, ewch i'r dudalen fewngofnodi ar https://cy.ons.gov.uk/aboutus/whatwedo/programmesandprojects/playmypart. Mewngofnodwch gan ddefnyddio'r un cod mynediad personol ac fe ewch i'r man lle gwnaethoch orffen y tro diwethaf.

Nid oes gennyf fynediad at y rhyngrwyd ond rwyf am gymryd rhan

Os oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd ar ffôn clyfar neu drwy ddull arall (er enghraifft mewn llyfrgell leol neu gaffi rhyngrwyd), byddwch yn gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth. Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, ffoniwch 0800 085 7376 am ddim i roi gwybod i ni.

Pam nad wyf wedi cael gwahoddiad a sut mae cael un?

Caiff unigolion eu dewis ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac ni all pobl eraill gymryd eu lle. Er mwyn sicrhau bod yr astudiaeth yn ddilys, dim ond y rhai sydd wedi cael eu dewis ar hap all gymryd rhan.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Gobeithio ein bod wedi egluro pa mor bwysig yw'ch ymateb i ni, a pha mor werthfawr yw'ch gwybodaeth wrth gynhyrchu ystadegau dibynadwy er mwyn gwneud penderfyniadau. Os na wnaethoch weld hyn, neu os oes angen eich atgoffa, gweler ein hadran Pam y dylwn i gymryd rhan?

Dyma eich cyfle i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Os nad ydym wedi llwyddo i'ch darbwyllo, nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Er mwyn i ni greu darlun cywir o'n cymdeithas, rhaid i ni glywed gan gynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

A allaf gymryd rhan yn yr astudiaeth mewn ffordd arall heblaw ar lein?

Mae'r astudiaeth ar lein yn bennaf Fodd bynnag, os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch drefnu apwyntiad i gael cyfweliad dros y ffôn drwy ffonio Llinell Ymholiadau'r Arolwg ar 0800 085 7376.

A allaf gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg?

Os ydych chi am gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg, ffoniwch 0800 496 2119 i wneud apwyntiad i gymryd rhan. Yna, bydd cyfwelydd yn eich ffonio a fydd yn eich helpu i gymryd rhan yn Gymraeg.

Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes fersiwn ar-lein o'r astudiaeth yn Gymraeg.

A allaf gwblhau'r astudiaeth mewn iaith arall?

Ar hyn o bryd, dim ond yn Gymraeg a Saesneg y mae'r astudiaeth ar gael. Os ydych chi am gwblhau'r astudiaeth yn Gymraeg, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg ar 0800 496 2119.

Rwyf wedi cwblhau'r astudiaeth ar-lein ond rwyf am newid fy atebion; beth ydw i'n ei wneud?

Os ydych chi wedi cyflwyno eich ymateb ond hoffech newid eich atebion, ffoniwch ni am ddim ar 0800 085 7376 neu e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk i roi gwybod i ni.

Rwyf wedi colli fy manylion mewngofnodi sydd eu hangen i gwblhau'r astudiaeth ar lein. A allaf gael y rhain eto?

Os ydych chi wedi colli eich llythyr â'ch cod mynediad personol er mwyn cwblhau'r astudiaeth, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg ar 0800 085 7376 neu e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk.

Sut gallaf gadarnhau bod fy atebion wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus?

Gallwch agor yr astudiaeth eto gan ddefnyddio'r cod mynediad personol y gwnaethoch ei ddefnyddio i gyflwyno eich atebion. Os ydych chi wedi cyflwyno eich atebion yn llwyddiannus, byddwch yn gweld tudalen yn dweud bod yr astudiaeth wedi'i chwblhau.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Cyfrinachedd a diogelu data

Sut rydym wedi eich dewis chi

Cafodd eich cyfeiriad ei ddewis o ffynhonnell sydd ar gael yn fasnachol o'r enw AddressBase a gaiff ei chynnal gan yr Arolwg Ordnans. Mae'n cynnwys manylion 40 miliwn o gyfeiriadau preswyl a busnes yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd eich cyfeiriad ei ddewis ar hap i gymryd rhan mewn astudiaeth flaenorol. Ar ôl cwblhau'r astudiaeth hon, gwnaethoch ddarparu eich manylion cyswllt er mwyn cymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol o bosibl. Gallwch gael y manylion llawn am ffynhonnell eich manylion cyswllt drwy ffonio 0800 085 7376 am ddim neu drwy e-bostio surveyfeedback@ons.gov.uk.

Rydych chi wedi cael eich dewis i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon; ni allwn ofyn i unigolyn arall gymryd eich lle gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw ein hastudiaeth.

A fydd hi'n bosibl fy adnabod yn y canlyniadau?

Na fydd, caiff y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ni fydd unrhyw ystadegau na chanlyniadau a gaiff eu llunio yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

A fydd unrhyw un arall yn gweld fy atebion?

Mae'r cod mynediad personol yn unigryw i chi yn unig. Cadwch eich cod yn ddiogel. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno astudiaeth wedi'i chwblhau, ni ellir gweld yr atebion wedyn gan ddefnyddio eich cod mynediad personol.

Sut y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu?

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn aros yn gyfrinachol.

Bydd y manylion a rowch yn cael eu cyfuno â rhai pawb arall sy'n cymryd rhan er mwyn i ni allu cynhyrchu ystadegau. Ni fydd unrhyw ddata a gyhoeddwn byth yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Nid ydym yn gwerthu eich data ac ni chewch unrhyw bost sothach na galwadau marchnata o ganlyniad i gymryd rhan yn un o'n hastudiaethau.

Am faint o amser fyddwch chi'n cadw'r wybodaeth rwy'n ei darparu?

Ni fydd y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn datgelu pwy ydych chi na neb arall yn eich cartref a bydd yn cael ei dileu ar ôl cwblhau'r prosiect yn 2025.

Pa ragofalon ar gyfer diogelu data a chyfrinachedd sydd wedi cael eu cymryd?

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Deddf Diogelu Data 2018 ac mae'n prosesu'r holl wybodaeth bersonol â pharch gan ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Caiff unrhyw ddata personol a gesglir eu prosesu mewn systemau sydd wedi'u hachredu gan Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, a gynlluniwyd i ddiogelu'r data ac a asesir yn rheolaidd. Unwaith y bydd yr astudiaeth wedi'i chwblhau, bydd NISRA yn dinistrio'r holl ddata personol yn ddiogel.

Sut rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel?

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Yn hyn o beth, rydym yn cymryd pob rhagofal posibl i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel rhag cael ei cholli, ei dwyn neu ei chamddefnyddio Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, mynediad a reolir at ein systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau wedi'u hamgryptio â'r rhyngrwyd wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Cwcis

Mae rhai astudiaethau ar-lein yn casglu gwybodaeth drwy ddefnyddio cwcis. Ffeiliau bach a gaiff eu storio ar eich cyfrifiadur yw'r rhain. Caiff y ffeiliau hyn eu defnyddio'n gynnil a dim ond at ddibenion rheoli ansawdd a dilysu ac, yn fwy pwysig, i'n hatal rhag anfon nodiadau atgoffa atoch ar gyfer astudiaeth ar-lein rydych chi eisoes wedi'i chwblhau. Mae'n bosibl i chi ddileu cwcis neu eu hatal rhag cael eu defnyddio drwy addasu gosodiadau'r porwr ar eich cyfrifiadur.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich system weithredu, eich gosodiadau arddangos a'r math o borwr rydych chi'n ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod yr astudiaeth yn cael ei chyflwyno ar ffurf sy'n addas ar gyfer y feddalwedd y mae eich cyfrifiadur yn ei defnyddio. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth arall o'ch cyfrifiadur.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Beth yw cyfrifoldeb SYG i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei hastudiaethau yn siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych chi gwestiwn am y ffordd rydym ni'n prosesu eich data personol, neu os byddwch chi am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Weithiau byddwn yn casglu gwybodaeth ar ran sefydliad arall. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff eich data eu trin dan yr amgylchiadau hyn, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg rydych chi wedi cael eich dewis ar ei gyfer.

Yn SYG, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i'r cyhoedd o ddifrif. Ein polisi yw y byddwn yn dweud wrth yr awdurdod priodol os byddwn o'r farn bod risg ddifrifol i ddiogelwch unigolyn.

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella unrhyw rai o'n hastudiaethau. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch. Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Cymorth pellach

Os oes gennych ymholiadau, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg ar +44 800 085 7376.

Dylai defnyddwyr minicom ddeialu 18001 cyn y rhif hwn. Yr oriau agor yw:

O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00am a 7.00pm
Dydd Sadwrn, rhwng 8.00am ac 1.00pm

Dolenni defnyddiol

NISRA
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ddethol â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Dim ond y manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod y byddwn yn eu rhannu. I ddysgu mwy am ymrwymiad yr holl ddarparwyr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w gwefannau.

Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

  • anfon anrheg diolch: ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn yw Sodexo
  • Ø Ein helpu ni i gysylltu. Ein darparwyr gwasanaethau ar gyfer hyn yw: NISRA, APS, GovDelivery a GovNotify
Nôl i'r tabl cynnwys

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: