Datganiad hygyrchedd ar gyfer ons.gov.uk
Pa mor hygyrch yw gwefan y SYG a’r hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd.
- Diweddarwyd Diwethaf:
- 26 Tachwedd 2026
Trosolwg
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (yn Saesneg).
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan www.ons.gov.uk, sy’n cael ei rhedeg gan y SYG. Cafodd ei adolygu diwethaf ym mis Hydref 2026. Caiff yr adolygiad nesaf ei gynnal ym mis Hydref 2027.
Rydym wrthi’n gwella gwefan y SYG drwy ddatblygu platfform gwefan a system rheoli cynnwys newydd. Cafodd y rhain eu lansio yn gychwynnol yn 2026, cyn eu cyflwyno’n ehangach yn 2027.
Rydym am i bawb sy’n ymweld â’n gwefan gael profiad cadarnhaol, a gallu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a’i defnyddio’n hawdd. I’ch helpu, rydym wedi gwneud ein gwefan yn hawdd i’w deall ac yn haws ei ddefnyddio, fel y gallwch:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet (yn Saesneg) ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Os ydych yn profi unrhyw anhawster wrth gael mynediad at ein gwefan, neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, ewch i'n tudalen cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu.
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o wefan y SYG yn gwbl hygyrch:
- nid oes gan rai tablau benawdau rhes ac maent yn defnyddio celloedd wedi'u huno
- nid yw enwau rhai ffeiliau y gellir eu lawrlwytho yn hawdd i’w darllen na’u deall
- efallai na fydd rhywfaint o gynnwys sydd wedi’i fewnosod mewn tudalennau gwe, megis delweddiadau data, yn hygyrch
- nid yw’r arolygon naidlen ryngweithiol rydym yn eu defnyddio i gasglu adborth ar rai tudalennau yn gwbl hygyrch
- mae cynnwys ein tudalennau gwe yn hygyrch, ond ar rai o’n tudalennau gwe gallwch lawrlwytho copi PDF o gynnwys y dudalen we a gynhyrchir yn awtomatig, nad yw’n gwbl hygyrch
- mae rhai o’r ffeiliau PDF hyn a gynhyrchir yn awtomatig hefyd yn cynnwys ffeiliau PDF o dablau data sydd wedi’u atodi â llaw, nad ydynt yn gwbl hygyrch
- mae rhywfaint o gynnwys ar y wefan ar gael mewn ffeiliau PDF yn unig, ac nid yw’r rhain yn gwbl hygyrch
- efallai na fydd rhai dogfennau Excel yn hygyrch, a gallant fod yn anodd eu defnyddio gyda darllenwyr sgrin ac wrth lywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio â’r eithriadau a restrir yn y datganiad hwn.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir yn yr adran hon yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Tablau
Nid oes gan rai tablau ar y wefan bennawdau rhes pan fo angen, felly ni ellir llywio gan ddefnyddio’r pennawdau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 lefel AA: gwybodaeth a pherthnasoedd.
Ym mis Medi 2020, diweddarwyd yr offeryn adeiladu tablau i orfodi pennawd rhes neu golofn er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn. Ni fydd unrhyw dablau a gyhoeddir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu heffeithio gan y mater hwn. Gall cynnwys a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2020 gael ei effeithio os nad yw pennawd rhes tabl wedi’i osod.
Yn ystod y gwaith o ymchwilio i’r offeryn adeiladu tablau newydd ar gyfer ein platfform gwefan newydd a’i ddatblygu, nodwyd bod rhai tablau presennol ar y wefan yn defnyddio celloedd wedi’u huno. Gall hyn wneud y perthnasoedd rhwng penawdau a data yn aneglur i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 lefel AA 1.3.1: gwybodaeth a pherthnasoedd.
Rydym yn datblygu offeryn adeiladu tablau mwy hygyrch yn ein system rheoli cynnwys newydd ynghyd â chanllawiau manylach i’n timau wrth greu tablau. Bydd unrhyw dablau a gaiff eu mudo i’r platfform newydd yn cael eu hadolygu fel rhan o’r broses fudo.
Enwau ffeiliau
Mae enwau rhai ffeiliau y gellir eu lawrlwytho yn cael eu cynhyrchu gan gyfrifiadur ac efallai na fyddant yn hawdd i’w darllen na’u deall. Mae hyn yn methu canllawiau WCAG 2.2 lefel AA 3.1: darllenadwy a WCAG 3.2: rhagweladwy. Datryswyd y mater gwreiddiol a nodwyd ar gyfer lawrlwythiadau hidlydd setiau data wedi’u teilwra ym mis Medi 2020. Bydd dolenni sydd wedi’u cadw ar gyfer lawrlwythiadau hidlydd a grëwyd cyn mis Medi 2020 yn aros yr un fath nes caiff y ffeiliau hynny eu dileu.
Nodwyd problem hefyd gydag enwau ffeiliau lawrlwytho ar gyfer data tablau a chyfresi amser a gynhyrchir. Datryswyd y broblem hon ym mis Awst 2026 ac erbyn hyn mae gan bob ffeil enw sy’n hawdd i bobl ei ddarllen.
Cynnwys wedi’i fewnblannu
Mae llawer o dudalennau ar y wefan yn cynnwys delweddiadau data wedi’u fewnblannu. Mae cynnwys wedi’i fewnblannu yn ffenestr ar dudalen sy’n dangos cynnwys [MW1] [BD2] a gyhoeddwyd ar dudalen we wahanol. Efallai na fydd y cynnwys hwn yn llwytho’n gywir i rai defnyddwyr sy’n defnyddio meddalwedd heb gefnogaeth JavaScript.
Er nad yw hyn yn fethiant o dan ganllawiau WCAG 2.2 lefel AA, gall hyn ei gwneud yn anodd i rai defnyddwyr ryngweithio â’r cynnwys hwn
Ym mis Awst 2026, gwnaethom rai gwelliannau i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae ein cynnwys wedi’i fewnblannu bellach yn cynnwys neges rybuddio i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd JavaScript. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i bobl sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol nodi pa gynnwys sydd ar goll o’r dudalen. O fewn y system rheoli cynnwys newydd, byddwn yn ychwanegu disgrifiadau o’r hyn sydd yn y cynnwys wedi’i fewnblannu ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin. Rydym hefyd yn ystyried datrysiadau amgen i fewnblannu cynnwys ar gyfer y dyfodol.
Delweddau data
Rydym yn cynhyrchu cannoedd o ddelweddau data bob blwyddyn i helpu defnyddwyr i ddeall ein data a’n dadansoddiadau. Gyda’r cyflwyniad o ganllawiau WCAG 2.2 a newidiadau i faen prawf llwyddiant 2.5.8 maint targed (lleiafswm) o fewn safon lefel AA, efallai na fydd rhai o’n delweddau data a oedd yn hygyrch yn flaenorol, a gyhoeddwyd ers 23 Medi 2020 yn gwbl hygyrch.
Ym mis Rhagfyr 2025, gwnaethom gwblhau archwiliad o’r templedi safonol y gellir eu hailddefnyddio a ddefnyddiwn i greu ein delweddiadau data. Gwnaethom sicrhau bod pob templed yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd WCAG 2.2 a sefydlu profion awtomataidd ar gyfer diweddariadau i’r templedi yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhai delweddiadau data a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwn yn gwbl hygyrch os ydynt yn defnyddio fersiynau o’r templedi sydd wedi dyddio. Bydd unrhyw ddelweddiadau data a gaiff eu mudo i’r platfform newydd eu hadolygu fel rhan o’r broses fudo.
Efallai na fydd rhai o’n delweddau data yn llwytho nac yn gweithredu’n gywir i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd JavaScript.
Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer ein hoffer rhyngweithiol mwy datblygedig, sy’n defnyddio rhyngweithiadau defnyddwyr deinamig fel swyddogaeth graidd y cynnyrch. Er enghraifft:
- Archwilio ystadegau lleol (yn Saesneg)
- Adeiladu proffil ardal benodol (yn Saesneg)
- Mapiau'r Cyfrifiad (yn Saesneg)
Ym mhob achos, mae’r data sylfaenol ar gael mewn fformatau eraill, megis y ffeiliau setiau data cysylltiedig â’r sylwebaeth o amgylch y dudalen we HTML.
Rydym hefyd wedi cyflwyno gwiriadau hygyrchedd awtomataidd ychwanegol ar gyfer ein templedi fel rhan o'r broses gyhoeddi. Rydym yn sicrhau bod pob aelod o’r tîm Delweddu Data yn derbyn hyfforddiant hygyrchedd er mwyn sicrhau bod hygyrchedd wedi’i wreiddio yn ein harferion dylunio.
Byddwn yn archwilio opsiynau eraill ar gyfer cyhoeddi delweddiadau data mewn ffordd hygyrch fel rhan o’r gwaith parhaus i drawsnewid y wefan, wrth i ni ddatblygu a chyflwyno ein systemau newydd.
Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i unrhyw ddata ar y wefan, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ein tudalen ymholiadau cyffredinol ac ystadegol.
Arolygon naidlen ryngweithiol
Nid yw’r arolygon naidlen ryngweithiol a ddefnyddiwn i gasglu adborth ar rai tudalennau gwefan y SYG yn gwbl hygyrch. Darperir y rhain gan drydydd parti. Defnyddiwn yr arolygon er mwyn casglu adborth defnyddwyr gwerthfawr sy’n ein helpu i wella’r gwefan a’i chynnwys.
- Rydym wedi nodi’r problemau hygyrchedd canlynol yn unol â chanllawiau a meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 lefel AA:
- nid oes gan y botwm i ehangu a chrebachu’r pôl enw hygyrch cyfatebol; mae hyn yn methu 1.3.1: gwybodaeth a pherthnasoedd, a 4.1.2: enw, rôl, gwerth
- nid yw swyddogaeth ehangu’r arolwg naidlen na’i elfennau wedi’i nodi; mae hyn yn methu 1.3.1: gwybodaeth a pherthnasoedd, a 4.1.2: enw, rôl, gwerth
- cymhwysir y rôl anghywir i elfen y pôl; mae hyn yn methu 4.1.2: enw, rôl, gwerth
- nid yw’r ffordd y caiff gwallau eu trin yn y naidlen ryngweithiol yn nodi’r gwall i’r defnyddiwr nac yn darparu cyfarwyddiadau nac awgrymiadau ar sut i’w gywiro; mae hyn yn methu 3.3.1: adnabod gwallau a 3.3.2: labeli neu gyfarwyddiadau
- er y gall defnyddwyr gyrchu pob elfen wrth ryngweithio â’r pôl gan ddefnyddio gorchmynion bysellfwrdd yn unig, caiff ffocws y defnyddiwr ei symud i frig y dudalen unwaith y bydd cwestiwn yn y pôl wedi’i ateb; mae hyn yn methu 2.4.3: trefn ffocws
- nid yw gwybodaeth y raddfa sgorio yn y cwestiynau yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin; mae hyn yn methu 1.3.1: gwybodaeth a pherthnasoedd, 1.3.2: dilyniant ystyrlon a 3.3.2: labeli neu gyfarwyddiadau
- nid yw’r botwm hepgor o fewn y pôl naidlen yn disgrifio ei ddiben yn glir; mae hyn yn methu 2.4.6: penawdau a labeli
- ni all defnyddwyr newid bylchau testun i wella eu profiad darllen; mae hyn yn methu 1.4.12: bylchau testun
Os hoffech roi adborth am y wefan heb ddefnyddio poliau naidlen, anfonwch e-bost atom yn sharedcustomercontactcentre@ons.gov.uk.
Dolenni data ar Dudalen Crynodeb Data Cenedlaethol y DU
Mae ein Tudalen Crynodeb Data Cenedlaethol y DU (NSDP) (yn Saesneg) yn cynnwys data a gyhoeddwyd yn fformat Data Ystadegol a Metadata eXchange (SDMX), a ddiffinnir gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), er mwyn cydymffurfio â’r Safon Lledaenu Data Arbennig (SDDS) Plus.
Ar hyn o bryd, mae’r nifer fawr o ddolenni ar ein (NSDP) yn defnyddio’r un testun ar gyfer pob cofnod ac yn cael eu cyflwyno mewn fformat tabl. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol, megis darllenwyr sgrin, i nodi pwrpas pob dolen a’r set ddata cyfatebol. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.2:
- 1.3.1: gwybodaeth a pherthnasoedd
- 2.4.4: pwrpas y ddolen (yn ei chyd-destun)
- 2.4.9: pwrpas y ddolen (y ddolen yn unig)
Rydym ar hyn o bryd yn datblygu ffordd newydd o gyflwyno setiau data SDMX sy’n diwallu gofynion hygyrchedd yn ogystal â’n rhwymedigaethau i’r IMF.
Baich anghymesur
Delweddau data hanesyddol
Mae ein gwefan yn cynnwys miloedd o ddelweddau data er mwyn helpu deall ein data a’n sylwebaeth. Mae llawer o ddelweddau data hanesyddol ar ein gwefan a gyhoeddwyd rhwng y 23 o Fedi 2018 a’r 23 o Fedi 2020 na fyddant efallai yn cydymffurfio â safonau WCAG 2.2 lefel AA.
Mae rhan fwyaf o’r delweddau data hyn mewn fersiynau blaenorol a fersiynau wedi’u disodli o gyhoeddiadau ar y wefan, ac mae ganddynt lefelau isel iawn o ddefnydd ac ymgysylltiad. Bydd llawer ohonynt yn cael eu dileu o’r wefan yn fuan fel rhan o’n prosiect trawsnewid gwe a chynnwys parhaus.
Rydym wedi edrych ar yr adnoddau angenrheidiol er mwyn gwneud yr holl ddelweddau data hanesyddol ar y wefan yn hygyrch o’u gymharu â’u defnydd, a chredwn y byddai hyn yn faich anghymesur (yn Saesneg).
Rydym eisoes wedi sicrhau bod unrhyw ddelweddau data a oedd yn cyfrif am 95% o’r ymweliadau â’r tudalennau yn ystod y 12 mis cyn 23 Medi 2020 wedi’u gwneud yn hygyrch. Ym mhob achos lle rydym yn cynnwys delwedd data, gellir cael mynediad at y wybodaeth drwy’r sylwebaeth o’i amgylch neu’r setiau data cysylltiedig ochr yn ochr â’r cyhoeddiad.
Byddwn yn archwilio opsiynau eraill ar gyfer cyhoeddi delweddiadau data mewn ffordd hygyrch fel rhan o’r gwaith parhaus i drawsnewid y wefan, wrth i ni ddatblygu a chyflwyno ein systemau newydd.
Cynnwys a gyhoeddwyd mewn PDF yn unig
Mae ein gwefan yn cynnwys rhywfaint o gynnwys hanesyddol sydd ar gael ar ffurf PDF yn unig. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni sicrhau bod PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 yn hygyrch os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau.
Rydym yn anelu at sicrhau bod unrhyw ffeiliau PDF a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2020 sy’n hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau yn cydymffurfio â chanllawiau WCAG 2.2 lefel AA. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhywfaint o gynnwys sydd ar gael ar ffurf ffeil PDF yn unig ac a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwn yn gwbl hygyrch.
Rydym wedi edrych ar yr adnoddau sydd eu hangen i wneud yr holl gynnwys hanesyddol ar y wefan sydd ar gael ar ffurf PDF yn unig yn hygyrch o’u cymharu â’i ddefnydd a’u perthnasedd. Credwn y byddai hyn yn faich anghymesur.
Ffeiliau PDF a gynhyrchir yn awtomatig
Mae llawer o dudalennau ar wefan y SYG yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho fersiwn PDF a gynhyrchir yn awtomatig o dudalen we HTML, gan ddefnyddio’r ddolen “Lawrlwytho fel PDF”. Nid yw’r system sy’n cynhyrchu’r ffeiliau PDF hyn yn gallu cynhyrchu ffeiliau PDF sydd yn hygyrch, sy’n golygu nad oes yr un ohonynt yn hygyrch.
Rydym wedi edrych ar yr adnoddau sydd eu hangen i ddisodli’r gweithrediad cynhyrchu ffeiliau PDF gyda system sy’n gallu cynhyrchu ffeiliau PDF hygyrch ac ailgynhyrchu’r ffeiliau PDF presennol. O’i gymharu â’r defnydd isel o’r ffeiliau PDF hyn a’r ffaith bod yr un cynnwys ar gael mewn ffordd hygyrch drwy’r dudalen we HTML, credwn y byddai eu gwneud yn hygyrch yn faich anghymesur (yn Saesneg).
Tabl data PDF a ychwanegir at PDF a gynhyrchir yn awtomatig
Mae llawer o’n tudalennau gwe yn rhoi’r opsiwn i chi lawrlwytho copi PDF atodol o gynnwys y dudalen we HTML. Mae’r ffeiliau PDF hyn wedi’u cynllunio ar gyfer argraffu ac maent yn atodol i’r dudalen HTML sydd yn gwbl hygyrch.
Mae rhai o’r ffeiliau PDF hyn yn cynnwys tablau data ychwanegol ar ddiwedd y PDF sydd ddim yn cael eu cyflwyno ar y dudalen we. Nid yw’r tablau data hyn yn gwbl hygyrch; fodd bynnag, nid ydynt wedi’u bwriadu [MW1] fod y prif ddull o gael mynediad at y wybodaeth hon. Ym mhob achos, gellir cael mynediad at y data cysylltiedig mewn fformat hygyrch drwy’r ddolen “Gweld yr holl ddata a ddefnyddiwyd yn y bwletin neu’r erthygl hon” ar y dudalen we a thrwy gael mynediad at y setiau data cysylltiedig perthnasol.
Rydym wedi edrych ar yr adnoddau sydd eu hangen i wneud y tablau data presennol o fewn y ffeiliau PDF hyn a gynhyrchir yn awtomatig yn hygyrch. Credwn y byddai eu gwneud yn hygyrch yn faich anghymesur (yn Saesneg).
Ni fyddwn bellach yn cynhyrchu ffeiliau PDF o’n cynnwys gwe HTML nac yn cyhoeddi ffeiliau PDF tabl data wedi’u hatodi yn y system newydd hon, felly caiff y mater hwn ei ddatrys ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol unwaith y bydd y cynnwys wedi'i fudo. Ni chaiff y ffeiliau PDF presennol eu mudo i’r platfform newydd a byddant yn cael eu dileu oddi ar y wefan pan fyddwn yn cau ein system etifeddol.
Dogfennau Excel
Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o ddogfennau Excel, gan gynnwys fersiynau blaenorol a hanesyddol o setiau data. Efallai y bydd y rhain yn cynnwys tablau data sy’n anodd eu defnyddio gyda darllenwyr sgrin ac ar gyfer llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i hygyrchedd ein ffeiliau Excel ers mis Medi 2020 er mwyn eu cysoni â chanllawiau hygyrchedd Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth ar gyfer cyhoeddi ystadegau mewn taenlenni (yn Saesneg), gan ganolbwyntio ar ein cyhoeddiadau rheolaidd a’r rhai proffil uchel, yn ogystal â’r fersiynau diweddaraf o ddata. Rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a’n prif grwpiau defnyddwyr, lle bo angen, i ddeall sut y byddai unrhyw newidiadau i’n ffeiliau setiau data a’u strwythurau yn effeithio ar eu prosesau.
Rydym wedi edrych ar yr adnoddau sydd eu hangen i wneud y fersiynau blaenorol a hanesyddol o ddogfennau Excel ar y wefan yn hygyrch. Credwn y byddai eu gwneud yn hygyrch yn faich anghymesur (yn Saesneg).
Byddwn yn edrych ar welliannau pellach i hygyrchedd ein ffeiliau Excel yn y dyfodol yn unol â chanllawiau hygyrchedd Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth, fel rhan o’n rhaglen drawsnewid barhaus ar gyfer y we a’i chynnwys.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ffeiliau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn y 23ain o Fedi 2018
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni sicrhau bod ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn y 23ain o Fedi 2018 yn hygyrch os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu gwneud y ffeiliau PDF ar dudalen we adroddiadau a chyhoeddiadau Beyond Census 2011 (yn Saesneg) yn hygyrch gan fod y ddogfen fwyaf diweddar wedi’i chyhoeddi ym mis Ionawr 2015 pan ddaeth prosiect Beyond 2011 i ben.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio i ddatrys y materion a nodwyd yn y datganiad hygyrchedd hwn.
Rydym wrthi’n datblygu platfform gwefan a system rheoli cynnwys newydd ar hyn o bryd. Cafodd y rhain eu lansio’n gychwynnol yn 2026, cyn eu cyflwyno’n ehangach yn 2027. Rydym yn cydweithio’n agos a’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol (yn Saesneg) i sicrhau eu bod yn hygyrch.
Rydym hefyd yn gweithio ag eraill ar draws y SYG er mwyn sicrhau bod hygyrchedd wrth wraidd y ffordd rydym yn creu cynnwys a dogfennau, fel y gall pawb eu defnyddio.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar y 19 o Fedi 2020. Fe’i hadolygwyd a diweddarwyd diwethaf ym mis Hydref 2026.
Profwyd cydymffurfiaeth hygyrchedd y wefan yn llawn ddiwethaf ym mis Mawrth 2024 yn dilyn prawf a gwblhawyd gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC). Cynhaliodd y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) brofion â llaw gyda phobl ag amrywiaeth o anableddau ar ddyfeisiau bwrdd gwaith, symudol a thabled. Roedd y broses brofi yn cynnwys cyfres o dasgau lle'r oedd modd iddynt ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r mathau o dudalennau a chynnwys ar wefan y SYG.
Fe wnaethom gwblhau adolygiad mewnol o’n cydymffurfiaeth hygyrchedd ym mis Hydref 2026, gan arwain at rai diweddariadau bach i’r datganiad hwn er mwyn adlewyrchu ein cydymffurfiaeth â chanllawiau WCAG 2.2 lefel AA.
Ers gwanwyn 2024, rydym wedi bod yn datblygu platfform gwefan newydd a system rheoli cynnwys. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau WCAG diweddaraf cyn lansiad cychwynnol y systemau yn 2026 a’u cyflwyniad ehangach.
Adborth a manylion cyswllt
Rydym yn gweithio i fodloni safonau hygyrchedd ar draws ein gwefan. Os ydych yn profi unrhyw anhawster wrth ddefnyddio ein gwefan, ewch i'n tudalen cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu.
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os oes angen gwybodaeth arnoch o wefan y SYG mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
- y fformat yr hoffech i’r wybodaeth gael ei darparu ynddo
Byddwn yn ymateb o fewn pum diwrnod gwaith i roi gwybod i chi pryd y byddwn yn gallu darparu’r wybodaeth. Byddwn yn ystyried pob cais ond efallai na fyddwn yn gallu darparu fformat hygyrch amgen ar bob achlysur.
Bydd unrhyw ddata personol a ddarparwyd fel rhan o’r cais yn cael ei storio yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd.
Os na allwch weld y mapiau ar dudalen lleoliadau ein swyddfeydd (yn Saesneg), ffoniwch neu anfonwch e-bost am gyfarwyddiadau.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) (yn Saesneg) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y “rheoliadau hygyrchedd”).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (yn Saesneg).