Yn yr adran hon

  • Information about the armed forces community, including those who have previously served in the armed forces (veterans) and their families, to help support the Armed Forces Covenant.

  • Mae ystadegau am ddigwyddiadau bywyd yn dweud wrthym am faint a chyflwr y boblogaeth. Rydym yn cyhoeddi data awdurdodol am nifer y genedigaethau a marwolaethau fesul blwyddyn galendr. Ar gyfer diweddaru amcangyfrifon o'r boblogaeth, rydym yn defnyddio data o ganol y flwyddyn hyd ganol y flwyddyn (1 Gorffennaf hyd 30 Mehefin), gyda rhai gwahaniaethau bach.

  • Rydym yn edrych ar droseddau a gyflawnwyd, a nodweddion dioddefwyr. Rydym yn casglu'r ffigurau hyn o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, ac o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn cyhoeddi data ar ganlyniadau troseddau, o ran yr hyn a ddigwyddodd i'r troseddwr.

  • Rydym yn edrych ar sut mae pobl yn y DU yn gweld eu hunain heddiw, yn nhermau ethnigrwydd, rhywioldeb, crefydd ac iaith, a sut mae hyn wedi newid dros amser. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau ar gyfer y data hwn.

  • Dadansoddiad o nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio, gan gynnwys cymariaethau dros amser a rhwng gwledydd cyfansoddol y DU.

  • Data am ddisgwyliad oes a'r effaith y mae ffactorau megis galwedigaeth, salwch a chamddefnyddio cyffuriau yn ei chael. Rydym yn casglu'r ystadegau hyn o gofrestriadau ac arolygon.

  • Data am brisiau eiddo. Mae'r rhain yn ddangosydd anffurfiol o'r hyder sydd gan bobl yn economi'r DU. Rydym yn casglu data o sampl o forgeisi sydd wedi eu cwblhau, felly nid ydym yn cynnwys eiddo a werthwyd i bobl a ddefnyddiodd arian parod.

  • Data am nifer yr ymweliadau a nifer yr ymwelwyr i'r DU, y rhesymau dros ymweld, a faint o arian a wariwyd ganddynt yma. Rydym yn edrych ar nifer y bobl o'r DU sy'n teithio dramor, eu rhesymau dros deithio, a faint o arian a wariwyd ganddynt. Mae'r ystadegau ynglŷn â phobl o'r DU yn teithio dramor yn ddangosydd anffurfiol o safonau byw.

  • Rydym yn edrych ar faint rydym yn ei ennill a'r hyn rydym yn ei wario arno. Mae'r ystadegau hyn yn ein helpu i roi darlun o'n penderfyniadau gwario a chynilo. Mae'r data hyn yn dangos dyledion aelwydydd a dyledion personol, gwariant, incwm a chyfoeth.

  • Ystadegau am faint, oedran, rhyw a dosbarthiad daearyddol poblogaeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio newidiadau ym mhoblogaeth y DU, a'r ffactorau sy'n ysgogi'r newidiadau hyn. Mae amrywiaeth eang o ffyrdd y gellir defnyddio'r ystadegau hyn. Mae'r llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r sector iechyd yn eu defnyddio ar gyfer cynllunio, dyrannu adnoddau a rheoli'r economi. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gan bobl megis ymchwilwyr i'r farchnad ac academyddion.

  • Mae mesur lles cenedlaethol yn ymwneud ag edrych y tu hwnt i'r hyn a gynhyrchir gennym, i feysydd megis iechyd, perthnasau, addysg a sgiliau, yr hyn rydym yn ei wneud, lle'r ydym yn byw, ein sefyllfa ariannol a'r amgylchedd. Mae hefyd yn mesur ein lles personol, asesiad unigolyn o'i les ei hun. Daw'r data hyn o amrywiaeth o ffynonellau, ac mae llawer o'r gwaith dadansoddi yn newydd.