Anelwn at gyhoeddi holl brif ddata Cyfrifiad 2021 ar boblogaeth Cymru a Lloegr o fewn dwy flynedd i'r cyfrifiad.
Gallwch weld beth rydym wedi'i gyhoeddi ar y calendr datganiadau.
Cynnwys rhyngweithiol
Rydym wedi creu sawl adnodd rhyngweithiol gan ddefnyddio data o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021. Gallwch ddefnyddio'r cynhyrchion hyn i ddod o hyd i ffeithiau a ffigurau am ardaloedd yng Nghymru a Lloegr.
Adnodd rhyngweithiol yw mapiau'r cyfrifiad i archwilio data o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 ledled Cymru a Lloegr ar gyfer pynciau gwahanol hyd at lefel cymdogaeth. Archwiliwch eich ardal ar dudalen mapiau'r cyfrifiad.
Gallwch hefyd ddod o hyd i broffiliau ardal sy'n galluogi defnyddwyr i weld ystadegau o bynciau gwahanol ar gyfer ardal benodol. Fel arall, gallwch ddarlunio eich ardal eich hun a chreu proffil ardal arbennig.
Er mwyn adrodd y straeon lleol o grynodebau pwnc Cyfrifiad 2021, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau rhyngweithiol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r erthyglau a'r siartiau hyn yn tynnu sylw at y newidiadau mwyaf diddorol yn yr ardal honno. Edrychwch ar sut mae eich ardal wedi newid mewn 10 mlynedd.
Cam 1
Canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021: wedi'u cyhoeddi
Ar 28 Mehefin 2022, gwnaethom gyhoeddi'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Setiau data, cyhoeddiadau a methodoleg
Roedd y canlyniadau yn cynnwys amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer Cymru a Lloegr, ar gyfer awdurdodau lleol. Edrychwch ar y rhestr o setiau data, cyhoeddiadau a methodoleg o ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 ar y calendr datganiadau.
Crynodebau pwnc (data unamryweb)
Gwnaethom ryddhau'r cam hwn o ystadegau'r cyfrifiad yn ystod hydref 2022.
Rydym wedi cyhoeddi cyfresi o ddata a gwybodaeth ategol wedi'u grwpio yn ôl thema debyg, a chaiff y rhain eu galw'n grynodebau pwnc.
Cyfeiriwch at y calendr datganiadau i ddysgu mwy am ddyddiadau cyhoeddi.
Y crynodebau pwnc o ran trefn cyhoeddi yw:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am grynodebau pwnc drwy wylio ein rhestr chwarae Crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 ar ein sianel YouTube.
Rhaglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021
Bydd sylwebaeth ystadegol yn cael ei chyhoeddi gyda'r holl ddata a gaiff eu rhyddhau o Gyfrifiad 2021. Bydd rhaglen ddadansoddi fanwl tair blynedd o hyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn dechrau ar ôl i ddata crynodeb pwnc gael eu rhyddhau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen ddadansoddi.
Cam 2: Yn dechrau o fis Mawrth/Ebrill 2023
Data amlamryweb ar gyfer y sail poblogaeth breswyl arferol
Bydd data amlamryweb yn eich galluogi i gyfuno newidynnau ac archwilio cydberthnasau rhwng y data a gasglwyd am boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr o Gyfrifiad 2021. Rydym yn cyflwyno cyfleuster newydd ar gyfer data Cyfrifiad 2021 a fydd yn eich galluogi i lunio eich setiau data eich hun, yn ogystal â gweld a lawrlwytho setiau data parod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfleuster newydd a'n cynlluniau i ryddhau data amlamryweb.
Data ar y boblogaeth breswyl fyrdymor
Mae'r boblogaeth breswyl fyrdymor yn cynnwys y rhai na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig ac a oedd yn bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am lai na 12 mis, ym mis Mawrth 2021. Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, gwnaethom symud dyddiad rhyddhau'r boblogaeth amgen hon i gam dau.
Cam 3: o haf 2023
Parciau cenedlaethol
Mae tri pharc cenedlaethol yng Nghymru a 10 yn Lloegr. Caiff pob parc cenedlaethol ei reoli gan ei awdurdod parc cenedlaethol ei hun, sef awdurdod lleol â diben arbennig. Ceir rhagor o wybodaeth yn Preswylwyr parciau cenedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Data gradd gymdeithasol fras
Dosbarthiad economaidd-gymdeithasol yw gradd gymdeithasol. Mae hyn yn golygu ffordd o grwpio pobl yn ôl math, yn seiliedig yn bennaf ar eu sefyllfa gymdeithasol ac ariannol. Mae diwydiannau marchnata yn ei ddefnyddio i helpu i ddadansoddi marchnadoedd defnyddwyr.
Rhagor o wybodaeth am y data rydym wedi'u cynhyrchu ar gyfer gradd gymdeithasol fras.
Seiliau poblogaeth amgen
Lleoliadau daearyddol gwahanol yw'r seiliau poblogaeth amgen lle gallai unigolion fod wedi cael eu cyfrif ar gyfer Cyfrifiad 2021. Ymhlith yr enghreifftiau mae poblogaethau gweithleoedd, poblogaethau diwrnod gwaith a phoblogaethau y tu allan i'r tymor.
Poblogaethau bach
Grwpiau a ddiffinnir gan eu cefndir diwylliannol, gan gynnwys nodweddion fel grŵp ethnig, gwlad enedigol, crefydd, hunaniaeth genedlaethol a phrif iaith yw poblogaethau bach. Mae enghreifftiau o boblogaethau bach rydym wedi cynhyrchu setiau data amdanynt yn cynnwys:
Iaith Arwyddion Prydain
Caribïaidd
Cernywaidd
Jainaidd
Kashmiraidd
Nepalaidd
Ravidassia
Siciaidd
Rhagor o wybodaeth am y setiau data rydym wedi'u cynhyrchu ar gyfer poblogaethau amgen a bach.
Data mudo manwl
Mae ystadegau mudo manwl yn darparu nodweddion pobl neu gartrefi sydd wedi symud o fewn y Deyrnas Unedig neu o wlad arall i'r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Rhagor o wybodaeth am y setiau data rydym wedi'u cynhyrchu ar fudo manwl.
Data tarddiad-cyrchfan neu ddata 'llif'
Mae data tarddiad-cyrchfan yn disgrifio symudiad pobl o un lleoliad i'r llall. Ymhlith y mathau o ddata tarddiad-cyrchfan y bwriedir eu cynhyrchu o Gyfrifiad 2021 mae:
data llif mudo
data llif gweithleoedd
data llif ail gyfeiriad
data llif myfyrwyr
Caiff y setiau data hyn eu dosbarthu naill ai fel data cyhoeddus, wedi'u diogelu neu ddiogel. Gallwch gael rhagor o fanylion am ein cynlluniau, gan gynnwys sut y gallwch gael gafael ar ddata tarddiad-cyrchfan.
Samplau microdata
Samplau o gofnodion dienw ar gyfer unigolion a chartrefi yw microdata, sy'n cynnwys detholiad o nodweddion cysylltiedig y cyfrifiad. Caiff samplau microdata eu dosbarthu mewn tair ffordd: cyhoeddus, wedi'u diogelu, neu ddiogel.
Ardaloedd daearyddol ychwanegol
Mae data plwyfi yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer preswylwyr arferol a chartrefi mewn plwyfi.
Gwybodaeth am y setiau data rydym wedi'u cynhyrchu ar gyfer plwyfi.
Gwybodaeth am fanylebau'r setiau data rydym wedi'u cynhyrchu ar gyfer plwyfi.
Mae data codau post yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o breswylwyr arferol mewn codau post, sectorau cod post ac ardaloedd cod post, ac amcangyfrifon o gartrefi mewn codau post yng Nghymru a Lloegr.
Gwybodaeth am ddata codau post, ac amcangyfrifon preswylwyr a chartrefi ar gyfer Cymru a Lloegr.
Data cyfrifiad y DU
Cynhaliwyd cyfrifiadau yng Nghymru a Lloegr, a Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfrifiad yr Alban ym mis Mawrth 2022. Rydym yn gweithio'n agos gyda swyddfeydd cyfrifiad y Deyrnas Unedig i gyhoeddi data cymaradwy o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Rhagor o wybodaeth
Gwnaethom ofyn am adborth ar ein cynlluniau datganiadau rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2021.
Gallwch hefyd gysylltu â ni am gynlluniau datganiadau allbynnau Cyfrifiad 2021 drwy anfon e-bost i census.outputs@ons.gov.uk.
Related downloads
- Census 2021 Parish datasets (55.0 kB xlsx)