Preswylwyr parciau cenedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Ystadegau am bobl a oedd yn byw mewn parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

21 June 2023

Rydym wedi diweddaru’r bwletin i ychwanegu canllawiau i helpu defnyddwyr i ddehongli’r data teithio i’r gwaith, oherwydd ystyriaethau ansawdd ar gyfer y newidyn hwn.

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
9 June 2023

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

  • Yn gyffredinol, roedd 399,400 o bobl yn byw mewn parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr yn 2021 (0.67% o'r boblogaeth breswyl arferol).

  • Roedd yr oedran canolrifol yn uwch ym mhob parc cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr, a gwelwyd yr oedran canolrifol uchaf yn y Broads (57 oed).

  • Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn fwy tebygol o ddewis y grŵp ethnig "Gwyn: Prydeinig" a "Cristnogaeth" fel crefydd, ac roeddent yn fwy tebygol o siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith, na phreswylwyr mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr.

  • Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i feddu ar lefel uwch o addysg na phreswylwyr mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr, ac roeddent yn fwy tebygol o fod wedi ymddeol hefyd.

  • Ar ôl safoni yn ôl oedran, roedd iechyd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn well ac roeddent yn llai tebygol o fod yn anabl na phreswylwyr mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr.

  • Roedd cartrefi mewn parciau cenedlaethol yn fwy tebygol o fod mewn eiddo ar wahân ac o fod yn berchen ar eu heiddo yn gyfan gwbl o gymharu â chartrefi eraill yng Nghymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Ardaloedd o dir yw parciau cenedlaethol sydd, am resymau amgylcheddol ac arwyddocâd diwylliannol, wedi'u diogelu gan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig yn 1949. Mae 10 parc cenedlaethol yn Lloegr a thri yng Nghymru sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu 16,000 cilometr sgwâr, neu 10.97% o'r tir yng Nghymru a Lloegr.

Y parciau yn Lloegr yw:

  • Y Broads

  • Dartmoor

  • Exmoor

  • Ardal y Llynnoedd

  • New Forest

  • Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog

  • Northumberland

  • Peak District

  • South Downs

  • Dyffrynnoedd Swydd Efrog

Y parciau yng Nghymru yw:

  • Bannau Brycheiniog

  • Eryri

  • Arfordir Penfro

Mae dau barc cenedlaethol arall yn yr Alban (Cairngorms, a Loch Lomond a'r Trossachs). Caiff data o Gyfrifiad 2022 am barciau cenedlaethol yr Alban eu cyhoeddi gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Y boblogaeth a chartrefi

Er bod parciau cenedlaethol yn cwmpasu 10.97% o'r ardal yng Nghymru a Lloegr, dim ond 0.67% o'r boblogaeth breswyl arferol (399,400 o bobl) oedd yn byw o fewn ffiniau parc cenedlaethol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.

Yn Lloegr, y South Downs oedd y parc cenedlaethol â'r nifer mwyaf o breswylwyr arferol (113,300) a chartrefi (48,600). Ardal y Llynnoedd oedd yn ail (39,000 o breswylwyr, 17,800 o gartrefi) ac yna'r Peak District (35,900 o breswylwyr, 16,200 o gartrefi). Northumberland (1,800 o breswylwyr, 800 o gartrefi) a'r Broads (6,300 o breswylwyr, 3,100 o gartrefi) oedd y parciau cenedlaethol lleiaf poblog.

Yng Nghymru, Bannau Brycheiniog oedd y parc cenedlaethol mwyaf poblog (33,500 o breswylwyr, 15,000 o gartrefi) ac Arfordir Penfro oedd yr un lleiaf poblog (20,900 o breswylwyr, 9,800 o gartrefi).

Ym mharc cenedlaethol Arfordir Penfro y gwelwyd y dirywiad mwyaf yn y boblogaeth ers 2011 o blith yr holl barciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr hefyd, sef 7.6% (o 22,600 o breswylwyr arferol 2011). Yn Northumberland y gwelwyd yr ail ddirywiad mwyaf, sef 7.3% (o 2,000 yn 2011). Yn Dartmoor y gwelwyd y cynnydd mwyaf, sef 1.6% (o 33,600 yn 2011 i 34,100 yn 2021).

Ffigur 1: Dirywiodd y boblogaeth mewn sawl parc cenedlaethol rhwng 2011 a 2021

Poblogaeth breswyl arferol, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, 2011 a 2021

Embed code

Notes:
  1. Cafodd ffiniau dau barc cenedlaethol eu newid ar 1 Awst 2016, felly cynyddodd maint Ardal y Llynnoedd 73 cilometr sgwâr a chynyddodd Dyffrynnoedd Swydd Efrog 417 cilometr sgwâr. Nid ydym wedi darparu cymariaethau rhwng 2011 a 2021 ar gyfer y parciau cenedlaethol hyn felly.
Download the data

.xlsx

Roedd dwysedd y boblogaeth yn sylweddol is ym mhob parc cenedlaethol o gymharu â Chymru a Lloegr gyfan (395 o bobl fesul cilometr sgwâr). Y South Downs oedd y parc cenedlaethol mwyaf trwchus ei boblogaeth (68.7 o bobl fesul cilometr sgwâr), a Northumberland (1.8 person fesul cilometr sgwâr), Dyffrynnoedd Swydd Efrog (10.4 o bobl fesul cilometr sgwâr), ac Eryri (11.6 o bobl fesul cilometr sgwâr) oedd y parciau cenedlaethol mwyaf tenau eu poblogaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Oedran

Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn hŷn na'r boblogaeth mewn mannau eraill ar gyfartaledd. Roedd yr oedran canolrifol yn uwch ym mhob parc cenedlaethol (gan amrywio o 49 oed yn y South Downs i 57 oed yn y Broads) nag mewn rhannau eraill o Gymru (41 oed) a Lloegr (39 oed).

O blith yr holl barciau cenedlaethol, y Broads oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd (36.7%) ac yn 90 oed a throsodd (2.4%). Exmoor oedd â'r ail ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd (35.1%), a'r New Forest oedd â'r ail ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 90 oed a throsodd (2.1%).

O blith yr holl barciau cenedlaethol yng Nghymru, Arfordir Penfro oedd â'r oedran canolrifol uchaf (54 oed), y ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd (33.1%), a'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn 90 oed a throsodd (1.4%).

Ffigur 2: Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn hŷn na rhai mewn mannau eraill

Strwythur oedran y boblogaeth, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Download the data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Ethnigrwydd, iaith a chrefydd

O gymharu â'r boblogaeth yng ngweddill Cymru a Lloegr, roedd y boblogaeth a oedd yn byw mewn parciau cenedlaethol yn tueddu i fod:

  • yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd

  • yn fwy tebygol o siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith

  • yn fwy tebygol o ddewis Cristnogaeth fel crefydd

Ethnigrwydd

O ran grŵp ethnig, roedd canran y preswylwyr mewn parciau cenedlaethol a nododd "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" yn amrywio o 90.7% yn y South Downs i 96.7% yn Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog, sy'n uwch na rhannau eraill o Gymru (90.5%) a Lloegr (73.4%). Yn yr un modd, roedd y ganran a nododd unrhyw grŵp ethnig "Gwyn" yn uwch ym mhob parc cenedlaethol (gan amrywio o 95.8% yn y South Downs i 98.6% yn Northumberland ac yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog) na rhannau eraill o Gymru (93.7%) a Lloegr (81.0%).

Yn gyfatebol, roedd llai o bobl mewn grwpiau ethnig lleiafrifol mewn parciau cenedlaethol na mannau eraill. Er enghraifft, roedd y ganran a nododd grŵp ethnig "Asiaidd" mewn parciau cenedlaethol yn amrywio o 0.4% (yn Exmoor, Northumberland, Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog, a Dyffrynnoedd Swydd Efrog) i 1.9% (ym Mannau Brycheiniog), sydd yn sylweddol is na rhannau eraill o Gymru (2.9%) a Lloegr (9.7%). Yn yr un modd, roedd y ganran a nododd grŵp ethnig "Du" yn is ym mhob parc cenedlaethol (gan amrywio o 0.1% yn y Broads, Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog, Arfordir Penfro ac Exmoor, i 0.5% yn y South Downs) na rhannau eraill o Gymru (0.9%) a Lloegr (4.2%).

Ffigur 3: Roedd parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd nag ardaloedd eraill

Grŵp ethnig, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Download the data

.xlsx

Iaith

O ran iaith, roedd canran y preswylwyr mewn parciau cenedlaethol a nododd Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith yn amrywio o 94.5% (yn Ardal y Llynnoedd) i 97.9% (yn Northumberland), a oedd yn uwch na rhannau eraill o Gymru (93.8%) a Lloegr (87.8%).

Yng Nghymru, gofynnwyd yn benodol i bobl am eu sgiliau Cymraeg hefyd. Mae'r data ar gyfer parciau cenedlaethol yn dangos bod canran y preswylwyr arferol 3 oed a throsodd a allai siarad Cymraeg yn sylweddol uwch yn Eryri (56.0%) nag ardaloedd o Gymru nad ydynt mewn parciau cenedlaethol (17.0%). Roedd y ganran yn uwch yn Arfordir Penfro hefyd (19.0%), ond roedd llai o bobl yn siarad Cymraeg ym Mannau Brycheiniog (12.7%).

Crefydd

Yn olaf, o ran crefydd, roedd tuedd i fwy o bobl ddewis "Cristnogaeth" mewn parciau cenedlaethol na mannau eraill. Roedd canran y preswylwyr mewn parciau cenedlaethol a nododd "Cristnogaeth" yn amrywio o 47.7% (yn Dartmoor) i 60.3% (yn Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog), sy'n uwch na rhannau eraill o Gymru (43.4%) a Lloegr (46.3%).

Yn gyfatebol, roedd tuedd i weld llai o grwpiau crefyddol heb fod yn Gristnogol mewn parciau cenedlaethol. Er enghraifft, ni chafwyd canran uwch na 0.4% a nododd "Islam" mewn unrhyw barc cenedlaethol (nododd 0.4% "Islam" yn y South Downs), sy'n sylweddol is na rhannau eraill o Gymru (2.2%) a Lloegr (6.8%).

Fodd bynnag, ni welwyd yr un patrwm ar gyfer pobl a nododd "Bwdhaeth". Roedd gan sawl parc cenedlaethol, yn enwedig Northumberland (0.9%), Bannau Brycheiniog (0.7%), a Dartmoor (0.7%), gyfrannau uwch o breswylwyr a nododd "Bwdhaeth" na rhannau eraill o Gymru (0.3%) a Lloegr (0.5%).

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Addysg

Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i feddu ar lefel uwch o addysg na'r rhai a oedd yn byw mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr.

Bannau Brycheiniog (33.2%) yng Nghymru a'r Peak District a'r South Downs (y ddau yn 36.6%) yn Lloegr oedd y parciau cenedlaethol â'r ganran uchaf o breswylwyr â chymhwyster Lefel 4 (gradd Baglor, Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch neu gymwysterau ôl-raddedig). Roedd y ganran yn uwch ym mhob parc cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Gymru (25.8%) a Lloegr (27.6%).

Yn yr un modd, roedd canran y preswylwyr parciau cenedlaethol heb unrhyw gymwysterau yn tueddu i fod yn is na mannau eraill. Yng Nghymru, roedd gan y tri pharc cenedlaethol ganrannau is o bobl heb unrhyw gymwysterau na gweddill y wlad (16.5%), ac Eryri oedd â'r ganran isaf (13.9%). Yn Lloegr, dim ond y Broads (16.3%) ac Exmoor (14.8%) oedd â chanran uwch o bobl heb unrhyw gymwysterau o gymharu â rhannau eraill o Loegr (14.7%).

Ffigur 4: Roedd y ganran â chymhwyster Lefel 4 yn uwch ym mhob parc cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr

Canran y preswylwyr arferol â chymhwyster Lefel 4, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Download the data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith

Roedd cyfran uwch o breswylwyr parciau cenedlaethol 16 oed a throsodd wedi ymddeol (gan amrywio o 28.4% yn y South Downs i 37.3% yn y Broads) nag mewn rhannau eraill o Gymru (24.5%) a Lloegr (21.4%).

Yn gyfatebol, roedd canran y boblogaeth o oedran gweithio mewn parciau cenedlaethol a oedd yn weithwyr cyflogedig llawn amser yn is (gan amrywio o 20.0% yn Exmoor i 27.8% ym Mannau Brycheiniog) na rhannau eraill o Gymru (32.3%) a Lloegr (34.6%). Roedd y ganran a oedd yn ddi-waith hefyd yn is mewn parciau cenedlaethol (gan amrywio o 1.2% yn Northumberland i 2.4% yn Eryri) na rhannau eraill o Gymru (3.1%) a Lloegr (3.5%).

Ffigur 5: Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol 16 oed a throsodd yn fwy tebygol o fod wedi ymddeol na rhai mewn mannau eraill

Statws gweithgarwch economaidd, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Notes:
  1. Heblaw am fod wedi ymddeol, mae rhesymau gwahanol dros fod yn anweithgar yn economaidd yn cynnwys bod yn fyfyriwr, bod yn anabl neu'n sâl am gyfnod hir neu ofalu am y cartref neu am y teulu.
Download the data

.xlsx

Roedd preswylwyr parciau cenedlaethol yn fwy tebygol o weithio gartref neu o’r cartref yn bennaf na phobl mewn mannau eraill. Yn Lloegr, roedd cyfran y preswylwyr parciau cenedlaethol mewn cyflogaeth a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn amrywio o 34.7% (yn Rhostiroedd Gogledd Swydd Efrog) i 48.5% (yn Northumberland), sy'n uwch na'r gyfran mewn rhannau eraill o'r wlad (31.5%). Yn yr un modd, yng Nghymru, roedd y gyfran a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn uwch ym Mannau Brycheiniog (34.2%), Arfordir Penfro (33.8%), ac Eryri (31.2%) nag mewn rhannau eraill o'r wlad (25.4%).

!

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data hyn at ddibenion cynllunio. Darllenwch fwy am yr hysbysiad ansawdd hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Iechyd ac anabledd

Mae data Cyfrifiad 2021 ar iechyd ac anabledd yn defnyddio cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran. Mae'r rhain yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a'r strwythur oedran. I gael rhagor o wybodaeth am safoni yn ôl oedran, gweler Mesur y data.

Iechyd

Roedd iechyd preswylwyr parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn well nag iechyd pobl mewn mannau eraill. Roedd cyfran wedi'i safoni yn ôl oedran y bobl a ddewisodd yr opsiwn "da iawn" wrth ddisgrifio eu hiechyd yn uwch ym mhob parc cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Gymru (46.5%) a Lloegr (47.5%). Yn Eryri (53.3%) y gwelwyd y cyfrannau uchaf yng Nghymru, ac yn y New Forest (56.5%) a Dyffrynnoedd Swydd Efrog (55.2%) yn Lloegr.

Yn gyfatebol, roedd cyfran wedi'i safoni yn ôl oedran y bobl a ddewisodd yr opsiynau "gwael iawn" neu "gwael" wrth ddisgrifio eu hiechyd yn is ym mhob parc cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Gymru (1.6% ag iechyd "gwael iawn", 5.2% ag "iechyd gwael") a Lloegr (1.2% ag iechyd "gwael iawn", 4.1% ag iechyd "gwael"). Yn Eryri y gwelwyd y cyfrannau isaf yng Nghymru (0.8% ag iechyd "gwael iawn", 3.2% ag iechyd "gwael") ac yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog yn Lloegr (0.5% ag iechyd "gwael iawn", 2.2% ag iechyd "gwael").

Ffigur 6: Fel rheol, roedd iechyd preswylwyr parciau cenedlaethol yn well nag iechyd pobl mewn mannau eraill

Iechyd cyffredinol wedi'i safoni yn ôl oedran, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Download the data

.xlsx

Anabledd

Casglodd Cyfrifiad 2021 ddata am anabledd hefyd. Yn unol â Deddf Cydraddoldeb (2010), ystyriwyd bod pobl a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd yn anabl.

Yng Nghymru, roedd cyfran wedi'i safoni yn ôl oedran y boblogaeth a oedd yn anabl yn is yn Eryri (16.1%), Bannau Brycheiniog (17.4%), ac Arfordir Penfro (17.5%) nag mewn rhannau eraill o'r wlad (21.3%).

Yn Lloegr, roedd y canlyniadau'n fwy cymysg. Roedd cyfran wedi'i safoni yn ôl oedran y boblogaeth a oedd yn anabl yn is yn y rhan fwyaf o barciau cenedlaethol nag mewn rhannau eraill o Loegr (sef 17.7%), ond gwelwyd canrannau uwch yn y Broads (17.9%) a Dartmoor (18.6%).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Tai

Roedd canran y cartrefi a oedd mewn eiddo ar wahân yn llawer uwch mewn parciau cenedlaethol (gan amrywio o 39.3% yn Ardal y Llynnoedd i 67.7% yn y New Forest) na rhannau eraill o Gymru (28.0%) a Lloegr (22.8%). Roedd llawer llai o gartrefi mewn parciau cenedlaethol yn byw mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol (gan amrywio o 0.1% yn Northumberland i 9.2% yn y South Downs) nag mewn rhannau eraill o Gymru (9.5%) a Lloegr (17.1%).

Roedd cartrefi mewn parciau cenedlaethol hefyd yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu heiddo yn gyfan gwbl (gan amrywio o 41.9% yn Northumberland i 54.3% yn y New Forest) na'r rhai mewn rhannau eraill o Gymru (37.7%) a Lloegr (32.4%).

Roedd eiddo mewn parciau cenedlaethol yn tueddu i fod yn fwy na rhai mewn mannau eraill. Yng Nghymru a Lloegr, roedd gan bob parc cenedlaethol gyfran uwch o gartrefi â thair ystafell wely neu fwy na rhannau eraill o Gymru (68.5%) a Lloegr (61.0%). Ym Mannau Brycheiniog y gwelwyd y gyfran uchaf yng Nghymru (73.1%) ac yn y New Forest y gwelwyd y gyfran uchaf yn Lloegr (75.7%).

Fodd bynnag, roedd cartrefi mewn parciau cenedlaethol yn tueddu i gynnwys llai o bobl na rhai mewn mannau eraill. Mewn ardaloedd nad ydynt mewn parciau cenedlaethol, roedd canran y cartrefi â thri phreswylydd neu fwy yn 33.2% yng Nghymru ac yn 35.9% yn Lloegr. Roedd gan bob parc cenedlaethol gyfran is na hyn, ac yn Arfordir Penfro y gwelwyd y cyfrannau isaf yng Nghymru (25.2%), ac yn y Broads (21.1%) ac Exmoor (22.2%) yn Lloegr.

Fel y cyfryw, roedd cartrefi mewn parciau cenedlaethol yn llai tebygol o fod yn orlawn na rhai mewn mannau eraill. Roedd gan bob parc cenedlaethol gyfran is o gartrefi oedd â llai o ystafelloedd gwely na'r hyn roedd ei angen (Dyffrynnoedd Swydd Efrog oedd â'r gyfran isaf, sef 0.6%), a chyfran uwch o gartrefi oedd â mwy o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd ei angen (Northumberland oedd â'r gyfran uchaf, sef 89.1%), na rhannau eraill o Gymru a Lloegr.

Ffigur 7: Nodweddion tai, 2021, parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Notes:
  1. Mae cyfradd defnydd yn rhoi mesur o b'un a yw llety mewn cartref yn orlawn neu heb fod yn llawn. Mae cyfradd defnydd o negatif 1 neu lai yn nodi bod gan gartref lai o ystafelloedd gwely na'r gofyniad safonol, mae negatif 1 yn nodi bod ganddo fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen, ac mae 0 yn nodi ei fod yn bodloni'r safon ofynnol.
Download the data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Preswylwyr parciau cenedlaethol, Cymru a Lloegr: data

Crynodebau pwnc
Setiau data | Diweddarwyd ar 9 Mehefin 2023
Tudalen we ar Nomis yn rhestru setiau data crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021. Mae'r data ar gael ar gyfer amrywiaeth o ardaloedd daearyddol, gan gynnwys parciau cenedlaethol. Set o ddata a gwybodaeth ategol, a drefnir yn ôl thema debyg, yw crynodeb pwnc. Mae'r rhan fwyaf o'r setiau data yn cynnwys data am un newidyn yn unig.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Geirfa

Oedran

Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.

Anabledd

Caiff pobl a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd eu hystyried yn anabl. Mae'r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi'i chysoni ar gyfer mesur anabledd ac mae'n unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Grŵp ethnig

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.

Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.

Iechyd cyffredinol

Asesiad person o gyflwr ei iechyd yn gyffredinol, o "da iawn" i "gwael iawn". Nid yw'r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd person dros unrhyw gyfnod o amser penodedig.

Cymhwyster uchaf

Daw'r lefel uchaf o gymhwyster o'r cwestiwn sy'n gofyn i bobl nodi pob cymhwyster sydd ganddynt, neu eu cymwysterau mwyaf cyfatebol.

Gall hyn gynnwys cymwysterau tramor lle cawsant eu paru â'r cymwysterau cyfatebol agosaf yn y Deyrnas Unedig.

Cartref

Diffinnir cartref fel:

  • un person sy'n byw ar ei ben ei hun, neu

  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),

  • pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig

  • rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw; ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig

Prif iaith

Iaith gyntaf neu ddewis iaith person.

Parc cenedlaethol

Ardal yng nghefn gwlad a gaiff ei diogelu oherwydd ei thirwedd. Caiff pob parc cenedlaethol ei reoli gan ei awdurdod parc cenedlaethol ei hun.

Crefydd

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn, gan gynnwys "Dim crefydd", ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Mae'r newidyn hwn yn dosbarthu pobl i'r 8 opsiwn ymateb â blwch ticio. Caiff ymatebion ysgrifenedig eu dosbarthu yn ôl eu hymlyniad crefyddol "gwreiddiol", gan gynnwys "Dim crefydd", pan fo'n gymwys.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021.

Cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran

Mae data ar iechyd cyffredinol ac anabledd wedi cael eu safoni yn ôl oedran. Mae cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol yn decach, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a'r strwythur oedran. Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewrop 2013 i safoni cyfrannau.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Cryfderau a chyfyngiadau

Gwybodaeth am ansawdd data am y farchnad lafur a theithio i'r gwaith

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg. Mae'n bosibl bod hyn wedi effeithio ar y ffordd yr ymatebodd rhai pobl i gwestiynau am y farchnad lafur yn y cyfrifiad. Bydd amcangyfrifon o'r cyfrifiad hefyd yn wahanol i'r rhai a gasglwyd yn yr Arolwg o'r Llafurlu, oherwydd amrywiaeth o wahaniaethau cysyniadol rhwng y ddwy ffynhonnell.

Darllenwch ein herthygl am gymharu amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu mewn perthynas â'r farchnad lafur, Cymru a Lloegr: 13 Mawrth 2023 i gael rhagor o wybodaeth am ddehongli data'r cyfrifiad am y farchnad lafur a’n herthygl am ansawdd data teithio i’r gwaith Cyfrifiad 2021 i gael rhagor o wybodaeth am ddehongli data’r cyfrifiad am deithio i’r gwaith.

Cyffredinol

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am ein hystyriaethau ansawdd penodol yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein hadroddiad am Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Dolenni cysylltiedig

Mapiau’r cyfrifiad
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 7 Mawrth 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl ardaloedd cynnyrch, ardaloedd etholiadol, ardaloedd iechyd ac ardaloedd daearyddol eraill, Cymru a Lloegr: canol 2020
Bwletin | 16 Medi 2021
Amcangyfrifon o'r boblogaeth genedlaethol wedi'u rhannu yn ardaloedd daearyddol bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach, ardaloedd daearyddol iechyd, wardiau etholiadol, etholaethau Seneddol a pharciau cenedlaethol).

Cyfrifiad 2011: Nodweddion Parciau Cenedlaethol
Bwletin | 19 Chwefror 2013
Data o Gyfrifiad 2011 ar nodweddion parciau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau o'r cyfrifiad.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 9 Mehefin 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Preswylwyr parciau cenedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972