Trosolwg
Mae data tarddiad-cyrchfan yn dangos symudiad pobl o un lleoliad i'r llall. Weithiau gelwir y rhain yn ddata llif.
Gall y wybodaeth hon helpu llywodraeth leol a chanolog i gynllunio ac ariannu seilwaith ar gyfer:
addysg
gofal iechyd
tai
trafnidiaeth
Caiff data tarddiad-cyrchfan eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau symud y boblogaeth ar gyfer patrymau mudo a chymudo hefyd.
Lefelau mynediad a daearyddiaeth
Byddwn ni'n darparu data tarddiad-cyrchfan fel:
llifau unigol, heb unrhyw nodweddion
setiau data unamryweb, tua un nodwedd
setiau data amlamryweb, tua dwy nodwedd neu fwy
Byddwn ni'n dosbarthu'r data hyn mewn tair ffordd.
Cyhoeddus
Llifau unigol a setiau data unamryweb fydd y data cyhoeddus yn bennaf. Ein nod yw rhyddhau'r rhain ar lefel awdurdod lleol. Rydym ni'n asesu a allwn gynhyrchu rhai o'r rhain ar lefelau daearyddol llai, fel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol neu barth gweithle. Rydym ni hefyd yn ystyried a allwn ryddhau rhai o'r setiau data amlamryweb yn gyhoeddus.
Wedi'u diogelu
Bydd data wedi'u diogelu yn cynnwys mwy o fanylion na'r setiau data cyhoeddus. Byddant yn cael eu rhyddhau fel setiau data unamryweb ac amlamryweb. Ein nod yw rhyddhau'r mwyafrif o'r rhain hyd at lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol. Mae'n bosibl mai dim ond ar lefel awdurdod lleol y byddwn ni'n gallu darparu data os bydd y data wedi'u diogelu yn cynnwys nodweddion manylach. Byddwn ond yn darparu data wedi'u diogelu i ddadansoddwyr data, o dan delerau ac amodau penodol. Mae'n debygol y bydd Gwasanaeth Data'r DU (Saesneg yn unig) yn cadw data wedi'u diogelu yn unol â chyfrifiadau blaenorol.
Diogel
Mae data diogel yn cynnwys y data tarddiad-cyrchfan mwyaf manwl. Byddant yn cael eu rhyddhau mewn setiau data unamryweb ac amlamryweb. Ein nod yw rhyddhau'r rhain hyd at lefel Ardal Gynnyrch a pharthau gweithle. Caiff y data hyn eu storio yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a dim ond ymchwilwyr cymeradwy neu achrededig fydd yn gallu cael gafael arnynt. Dysgwch fwy am gael gafael ar ddata diogel (Saesneg yn unig).
Mae'n bosibl y byddwn ni'n newid ein cynlluniau ar gyfer y data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus, wedi'u diogelu a diogel er mwyn sicrhau cyfrinachedd. Er enghraifft, efallai y byddwn ni'n:
lleihau lefel y manylder a ddarperir gennym ar gyfer rhai nodweddion
lleihau'r manylder daearyddol a ddarperir gennym
symud setiau data i leoliad mwy diogel
Mathau o ddata tarddiad-cyrchfan
Rydym yn bwriadu rhyddhau pedwar math o ddata tarddiad-cyrchfan.
Data llif mudo
Mae data llif mudo yn dangos patrymau mudo cenedlaethol a rhyngwladol preswylwyr â chyfeiriad gwahanol yn ystod y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Ein nod yw darparu setiau data llif mudo cyhoeddus yn ôl:
oedran
gweithgarwch economaidd
grŵp ethnig
iechyd cyffredinol
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NSSEC)
pasbort
deiliadaeth
Mae'n debygol y byddwn ond yn darparu data llif mudo yn ôl diwydiant yn ein hamgylchedd wedi'i ddiogelu ac yn ôl galwedigaeth yn ein hamgylchedd diogel.
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), lle roedd cyfyngiadau teithio amrywiol, gan gynnwys cyfnodau clo, ar waith o fis Mawrth 2020. O ganlyniad, roedd llai o fudo rhyngwladol i mewn i'r DU. Er mwyn sicrhau cyfrinachedd, bydd ein setiau data llif mudo cyhoeddus ac wedi'u diogelu yn cynnwys llai o fanylion am wlad wreiddiol mudwyr rhyngwladol, na'r hyn a ddarparwyd ar gyfer 2011.
Data llif gweithleoedd
Mae data llif gweithleoedd yn cynrychioli preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn gweithio yn ystod yr wythnos cyn y cyfrifiad. Maent yn dangos lleoliad gweithleoedd mewn perthynas â man preswylio arferol unigolyn. Mae rhai o'r setiau data hefyd yn ystyried ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Rydym ni'n bwriadu cyhoeddi setiau data llif gweithleoedd yn ôl:
oedran
gradd gymdeithasol fras
argaeledd car neu fan
grŵp ethnig
oriau gwaith
dull teithio
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NSSEC)
pasbort
rhyw
Yn ein hamgylcheddau wedi'u diogelu, rydym ni'n bwriadu darparu setiau data ar y canlynol:
oedran, rhyw a dull teithio
grŵp ethnig
statws teuluol
diwydiant
galwedigaeth
Yn ein hamgylchedd diogel, byddwn ni'n darparu setiau data amlamryweb ar gyfer ardaloedd cynnyrch. Byddwn ni'n defnyddio statws cyflogaeth myfyrwyr a nodweddion yn y data cyhoeddus a'r data wedi'u diogelu. Mae statws cyflogaeth myfyrwyr yn galluogi myfyrwyr amser llawn i gael eu nodi ar wahân a chaiff y bobl sy'n weddill eu dosbarthu fel naill ai cyflogaeth llawn amser neu ran-amser.
Data llif ail gyfeiriad
Mae data llif ail gyfeiriad yn dangos lleoliad ail gyfeiriadau pobl a pha mor bell yw'r rhain o'u preswylfa arferol neu eu gweithle. Bydd data llif ail gyfeiriad ond ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr, am na wnaeth yr Alban na Gogledd Iwerddon gasglu'r wybodaeth hon.
Rydym ni'n bwriadu cyhoeddi'r llifau unigol hyn yn gyhoeddus:
preswylfa arferol i'r gweithle, ar gyfer pobl ag ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith
ail gyfeiriad i'r gweithle, ar gyfer pobl ag ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith
preswylfa arferol i'r ail gyfeiriad
preswylfa arferol i'r ail gyfeiriad, ar gyfer plant dibynnol sydd â rhiant mewn ail gyfeiriad
Byddwn ni'n ystyried a allwn rannu llifau preswylfa arferol i'r ail gyfeiriad yn gyhoeddus, yn ôl oedran.
Yn ein hamgylcheddau wedi'u diogelu, rydym ni'n debygol o ddarparu setiau data unamryweb ar y canlynol:
gweithgarwch economaidd
grŵp ethnig
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NSSEC)
pasbort
math o ail gyfeiriad
Yn ein hamgylchedd diogel, byddwn ni'n darparu setiau data amlamryweb manylach gan ddefnyddio cyfuniadau o'r nodweddion yn y setiau data cyhoeddus ac wedi'u diogelu, ynghyd â deiliadaeth a statws teuluol.
Data llif myfyrwyr
Mae data llif myfyrwyr yn dangos patrymau mudo unigolion sy'n byw mewn cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y DU flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Nid oedd y bobl hyn o reidrwydd yn fyfyrwyr ar adeg Cyfrifiad 2021. Felly:
mae data llif myfyrwyr yn cynnwys graddedigion a fudodd o gyfeiriad yn ystod y tymor yn y DU yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad
mae data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr cartref, Undeb Ewropeaidd a rhyngwladol gyda'i gilydd a fudodd o gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor yn y DU yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad
nid yw data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr prifysgol blwyddyn gyntaf a oedd yn byw yng nghyfeiriad rhiant flwyddyn cyn y cyfrifiad
nid yw data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol a oedd yn byw y tu allan i'r DU yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad
Ein nod yw cyhoeddi setiau data cyhoeddus ar ddata llif myfyrwyr yn ôl:
oedran
grŵp ethnig
pasbort
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NSSEC)
Yn ein hamgylcheddau wedi'u diogelu, rydym ni'n debygol o ddarparu setiau data ar y canlynol:
Oedran, rhyw a statws myfyriwr
gweithgarwch economaidd
Yn ein hamgylchedd diogel, byddwn ni'n darparu setiau data amlamryweb manylach yn ôl statws myfyriwr a chyfuniadau o'r nodweddion yn y data cyhoeddus, ynghyd â deiliadaeth. Mae statws myfyriwr yn ein galluogi i nodi myfyrwyr amser llawn a myfyrwyr rhan-amser.
Cynlluniau datganiadau
Byddwn ni'n dechrau rhyddhau data tarddiad-cyrchfan yn ystod cam tri amserlen datganiadau allbynnau Cyfrifiad 2021. Rydym ni'n bwriadu rhyddhau setiau data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus yn gyntaf, ac yna'n dilyn y rhain â'r setiau data wedi'u diogelu a diogel mwy cymhleth.
Newidiadau i ddata tarddiad-cyrchfan y DU
Cafodd cyfrifiadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cynnal ym mis Mawrth 2021 a chynhaliwyd cyfrifiad yr Alban ym mis Mawrth 2022. Mae'r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau hyn yn golygu na allwn gyfuno'r data hyn i gynhyrchu un set ddibynadwy o setiau data tarddiad-cyrchfan y DU.
Yn hytrach, rydym ni'n gobeithio cyfuno data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Lle nad oes modd gwneud hyn, byddwn ni'n cynhyrchu setiau data ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig.
Bydd y setiau data rydym ni'n bwriadu eu cynhyrchu yn cynnwys y llifau canlynol ar gyfer yr Alban:
i'r Alban, lle roedd preswylydd arferol Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn gweithio yn yr Alban
o'r Alban, lle roedd gan breswylydd arferol Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon gyfeiriad yn yr Alban flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad
i'r Alban, lle roedd gan breswylydd arferol Cymru neu Loegr ail gyfeiriad yn yr Alban
Nid yw'n debygol y bydd lefelau daearyddol yr Alban, yn seiliedig ar gyfrifiad yr Alban yn 2022, ar gael ar yr adeg y byddwn ni'n cynhyrchu setiau data tarddiad-cyrchfan. Felly, rydym ni'n bwriadu darparu ein setiau data tarddiad-cyrchfan cychwynnol ar lefelau daearyddol uwch yn yr Alban, na ddisgwylir iddynt newid. Unwaith y bydd lefelau daearyddol manylach yr Alban ar gael, byddwn ni'n ymchwilio i ba mor ymarferol yw ymgorffori'r rhain yn ein setiau data tarddiad-cyrchfan.
Lle y bo'n bosibl, ac er mwyn gallu cymharu, ein nod yw cysoni setiau data a dosbarthiadau allbwn ledled y DU ac â 2011.
Ystyriaethau newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021
Rydym mewn cyfnod o newid economaidd a chymdeithasol mawr. Nid dim ond pandemig y coronafeirws (COVID-19) sy'n gyfrifol am y newid hwn.
Mae'r effaith y gall y ffactorau hyn fod wedi'i chael ar allbynnau tarddiad-cyrchfan yn cynnwys y canlynol:
llai o bobl yn dod i mewn i'r wlad yn ystod y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, o ganlyniad i gyfyngiadau teithio rhyngwladol a niferoedd llai o bobl yn mudo'n fewnol
llai o bobl yn cymudo i'r gwaith, ac effeithiwyd ar y dull teithio hefyd oherwydd cyngor i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus a gweithio gartref lle bo'n bosibl
mwy o bobl yn gweithio gartref
myfyrwyr o bosibl yn gadael eu cyfeiriad yn ystod y tymor er mwyn byw gartref wrth astudio o bell
cyfyngiadau teithio ar fyfyrwyr rhyngwladol, ond gallai myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd fod wedi mudo i'r DU pan fo'n bosibl, er mwyn cael statws preswylio'n sefydlog yr UE
unigolion ag ail gyfeiriad o bosibl yn penderfynu gwneud eu hail gyfeiriad yn gyfeiriad arferol
Gweithio gydag eraill
Rydym ni'n gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid drwy ein gweithgor tarddiad-cyrchfan i gynllunio, creu, storio a lledaenu cynhyrchion tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021. Ein nod yw cynhyrchu cynhyrchion tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 mewn modd amserol sy'n diwallu anghenion ein defnyddwyr cyn belled ag y bo modd.
Mae aelodau mewnol yn cynnwys arbenigwyr pwnc ar y canlynol:
mudo
teithio i'r gwaith
demograffeg a thrawsnewid y cyfrifiad
amcangyfrifon o'r boblogaeth
rheolaeth datgelu ystadegol
Mae aelodau allanol yn cynnwys y canlynol:
Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS)
Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA)
Llywodraeth Cymru
Yr Adran Drafnidiaeth
Gwasanaeth Data'r DU
awdurdodau lleol
sefydliadau addysgol a sefydliadau ymchwil fasnachol, gan gynnwys cynllunio trafnidiaeth
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych gwestiynau am ddata tarddiad-cyrchfan neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n gweithgor, e-bostiwch census.outputs@ons.gov.uk.