Poblogaethau amgen
Lleoliadau daearyddol gwahanol yw seiliau poblogaeth amgen lle gallai unigolion fod wedi cael eu cyfrif ar gyfer Cyfrifiad 2021, ar wahân i'w man preswylio arferol. Rydym yn bwriadu rhyddhau data ar bum math o boblogaethau amgen.
Byrdymor
Y boblogaeth preswylwyr byrdymor yw'r rhai na chawsant eu geni yn y DU ac sy'n bwriadu aros yn y DU am lai na 12 mis.
Gweithleoedd
Mae'r boblogaeth gweithleoedd yn amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd sy'n gweithio mewn ardal. Mae'n cynnwys pobl sy'n gweithio’n bennaf gartref neu o’r cartref neu nad oes ganddynt weithle penodol yn ardal eu man preswylio arferol.
Diwrnod gwaith
Mae'r boblogaeth diwrnod gwaith yn amcangyfrif y boblogaeth yn ystod y diwrnod gwaith. Mae'n cynnwys pawb sy'n gweithio mewn ardal, lle bynnag y maent yn byw fel arfer, a'r holl ymatebwyr sy'n byw yn yr ardal ond nad ydynt yn gweithio.
Y tu allan i'r tymor
Y boblogaeth y tu allan i'r tymor yw'r boblogaeth breswyl arferol, lle mae'r aelodau wedi'u hailddosbarthu i'w cyfeiriad y tu allan i'r tymor os oes ganddynt un. O ganlyniad, mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â lleoliad rhai myfyrwyr a phlant ysgol.
Ail gyfeiriad
Mae'r boblogaeth ail gyfeiriad yn edrych ar nodweddion y boblogaeth ag ail gyfeiriad, gan gynnwys nodweddion yr ail gyfeiriad ei hun. Wrth gynhyrchu setiau data ar nodweddion y boblogaeth ag ail gyfeiriad, byddwn yn eu cyfrif yn lleoliad eu hail gyfeiriad yn hytrach nag yn y cyfeiriad lle maent yn preswylio fel arfer.
Poblogaethau bach
Grwpiau a ddiffinnir gan eu cefndir diwylliannol, gan gynnwys nodweddion fel
grŵp ethnig
gwlad enedigol
crefydd a hunaniaeth genedlaethol
yw poblogaethau bach
Er mwyn diogelu manylion unigolion yn y poblogaethau cymharol fach hyn, nid ydym yn rhyddhau gwybodaeth fanwl am y grwpiau hyn yn yr allbynnau safonol.
Yn hytrach, byddwn yn creu setiau data pwrpasol ar gyfer poblogaethau bach penodol, ar bob lefel ddaearyddol lle mae nifer y boblogaeth honno yn rhagori ar drothwy penodol.
Setiau data y byddwn yn eu cynhyrchu
Rydym yn ymrwymedig i gynhyrchu setiau data ar y grwpiau poblogaeth hyn:
Cernywaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio hunaniaeth genedlaethol
Jain, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig neu grefydd
Kashmiri, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig
Nepali a Nepalaidd (gan gynnwys Gyrca), a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig
Ravidassia, a ddiffinnir gan ddefnyddio crefydd
Sicaidd, a ddiffinnir gan ddefnyddio grŵp ethnig neu grefydd
Rydym yn anelu at gynhyrchu setiau data ar y grwpiau hyn hyd at lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i gynhyrchu setiau data poblogaethau bach ar lefel awdurdod lleol yn ôl bandiau pum mlynedd ac yn ôl rhyw, ar gyfer yr un 30 o grwpiau poblogaeth ag a gynhyrchwyd ar gyfer Cyfrifiad 2011. Rhestrir 17 o grwpiau yn ôl gwlad enedigol a 13 o grwpiau yn ôl ethnigrwydd o dan Setiau data poblogaethau bach – adran rhan 1 ar wefan NOMIS.
Ble a phryd i ddod o hyd i'r data
Bydd defnyddwyr yn gallu dod o hyd i ddata ar seiliau poblogaethau amgen a phoblogaethau bach a'u lawrlwytho o wefan SYG.
Rydym yn bwriadu rhyddhau'r rhan fwyaf o'r data o seiliau poblogaethau amgen a phoblogaethau bach yn ystod cam tri o amserlen datganiadau allbynnau Cyfrifiad 2021. Bydd hyn yn digwydd ar ôl i ni ryddhau'r data amlamryweb ar y boblogaeth preswylwyr arferol.
Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym yn bwriadu rhyddhau data ar y boblogaeth fyrdymor yn gynharach, yn ystod cam dau yn lle cam tri.
Rhagor o wybodaeth
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am y cynhyrchion hyn yn ddiweddarach yn 2022.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein cynlluniau ar gyfer seiliau poblogaethau amgen neu boblogaethau bach Cyfrifiad 2021, cysylltwch â ni yn census.outputs@ons.gov.uk.