Trosolwg

Dosbarthiad economaidd-gymdeithasol yw Gradd Gymdeithasol. Ffordd o grwpio pobl yn ôl math yw hyn, sy'n seiliedig yn bennaf ar eu sefyllfa gymdeithasol ac ariannol. Mae sefydliadau ymchwil i'r farchnad a marchnata yn defnyddio gradd gymdeithasol i gefnogi dadansoddiadau o arferion gwario ac agweddau defnyddwyr.

Ni chafodd Cyfrifiad 2021 ei gynllunio i fesur gradd gymdeithasol yn uniongyrchol, gan fod angen cwestiynau arolwg mwy cynhwysfawr i wneud hyn, a gaiff eu holi fel arfer gan gyfwelydd ymchwil i'r farchnad. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad (MRS) fodelu gradd gymdeithasol yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg Darllenyddiaeth Cenedlaethol (NRS). Yn yr Arolwg hwn, dim ond y person â'r incwm mwyaf sy'n cael ei radd gymdeithasol ei hun, a chaiff y radd hon ei neilltuo i bob aelod o'r cartref. Yn seiliedig ar y dull hwn, mae gennym amcangyfrif da o Radd Gymdeithasol cartrefi gan ddefnyddio nodweddion Personau Cyswllt y Cartref ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Mae chwe dosbarthiad posibl ar gyfer Gradd Gymdeithasol (A, B, C1, C2, D ac E). Mae data'r cyfrifiad yn defnyddio dosbarthiad cyfunol pedair ffordd:

  • AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd

  • C1: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol ar lefel goruchwylio, clercol ac iau

  • C2: Galwedigaethau llaw medrus

  • DE: Galwedigaethau llaw rhannol fedrus a heb sgiliau di-waith a galwedigaethau ar y radd isaf

Mae amcangyfrifon Gradd Gymdeithasol o ddata'r cyfrifiad yn fwy cywir ar gyfer Personau Cyswllt y Cartref o oedran gweithio nag ar gyfer grwpiau oedran eraill. Byddwn yn darparu Gradd Gymdeithasol Fras ar gyfer pob preswylydd arferol mewn cartrefi gan ddefnyddio gradd Person Cyswllt y Cartref, os yw rhwng 16 a 64 oed.

Caiff allbynnau gradd gymdeithasol 2021 eu modelu gan ddefnyddio algorithmau a newidynnau gwahanol. O ganlyniad, mae modd cymharu proffiliau Gradd Gymdeithasol Fras ar gyfer 2011 a 2021 yn fras.

I gael rhagor o fanylion am wybodaeth y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad am radd gymdeithasol a datblygiad y model ar gyfer Cyfrifiad 2021, pan fydd y wybodaeth hon ar gael, gweler tudalen y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad am Radd Gymdeithasol.

Newidynnau a dosbarthiadau sydd wedi'u cynnwys

Rydym wedi nodi'r newidynnau, y dosbarthiadau a'r ardaloedd daearyddol sydd wedi'u cynnwys yn y setiau data mewn perthynas â Gradd Gymdeithasol Fras yn nhabiau cyfatebol y Daenlen manylebau ar gyfer Gradd Gymdeithasol Fras.

Ble i ddod o hyd i'r data

Rydym wedi cyhoeddi'r setiau data ar gyfer Gradd Gymdeithasol Fras ar wefan Nomis. Rydym wedi cyhoeddi bwletin ystadegol i ddarparu sylwebaeth ar y data ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am radd gymdeithasol fras yng Nghyfrifiad 2021, e-bostiwch census.customer.services@ons.gov.uk.

Related downloads