Trosolwg
Caiff y cyfrifoldeb am gynnal cyfrifiadau yn y DU ei rannu rhwng tair asiantaeth:
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr
- Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (Saesneg yn unig)
- Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ar gyfer Cyfrifiad 2022 yn yr Alban (Saesneg yn unig)
SYG sy'n gyfrifol am ledaenu ystadegau'r cyfrifiad ar gyfer y DU.
Cael gafael ar ddata cyfrifiad y DU o 2011
Cafodd cyfrifiad diwethaf y DU ei gynnal ym mis Mawrth 2011. Gallwch chi wneud y canlynol:
darllen yr holl sylwadau am bynciau gwahanol (Saesneg yn unig)
gweld a lawrlwytho'r ystadegau o Gyfrifiad 2011 ar gyfer y DU ar wefan Nomis (Saesneg yn unig)
Data Cyfrifiad 2021 a 2022 y DU
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym mis Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfrifiad yr Alban ym mis Mawrth 2022. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda NISRA ac NRS i gyhoeddi data cymaradwy o bob rhan o'r DU.
Cysoni data'r DU
Mae cysoni yn un o ofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig). Mae hyn yn golygu y dylai ystadegau, data a metadata fod:
yn gyson, er enghraifft defnyddio'r un diffiniadau a thermau mewn ffynonellau data ac ystadegau gwahanol
yn gymaradwy, er enghraifft bod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau mewn data neu ystadegau
yn gydlynol, er enghraifft pa mor dda y gellir cyfuno data ac ystadegau mewn ffyrdd gwahanol ac at ddibenion gwahanol
Cydweithio ag asiantaethau eraill
Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, NISRA ac NRS i sicrhau bod y cyfrifiadau a gynhelir ledled y DU yn 2021 a 2022 mor gyson â phosibl. Darllenwch fwy am y ffordd rydym ni'n cydweithio yn y canlynol:
- y datganiad o gytundeb gwreiddiol ar gyfer cynnal Cyfrifiadau 2021 yn y DU (PDF, 225KB) (Saesneg yn unig)
- Cynnal Cyfrifiadau 2021 a 2022 yn y DU (Saesneg yn unig)
- Cynnal y cyfrifiadau ledled y DU: y diweddaraf am gynnydd, Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig)
- Cynnal Cyfrifiadau 2021 ledled y DU: y diweddaraf am gynnydd, Tachwedd 2019 (Saesneg yn unig)
- Cynnal Cyfrifiadau 2021 ledled y DU: y diweddaraf am gynnydd, Tachwedd 2016 (PDF, 321 KB) (Saesneg yn unig)
Mae gennym weithgorau cysoni yn seiliedig ar bynciau (Saesneg yn unig) hefyd. Nod y cyfarfodydd hyn yw cysoni fel y gallwn gyhoeddi cymaint o ddata cyfrifiad ar gyfer y DU gyfan â phosibl.
Bydd rhai gwahaniaethau rhwng cyfrifiadau ledled y DU, fel:
pa gwestiynau gafodd eu gofyn
sut y caiff y data eu prosesu
rhai o'r methodolegau a ddefnyddiwyd
Caiff manylion am beth yw'r gwahaniaethau a'r effeithiau y maent yn eu cael ar allu i gymharu data, eu cyhoeddi ar wefan swyddfeydd cyfrifiad y DU.
Cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 a 2022 y DU
Mae cyhoeddi allbynnau'r DU o Gyfrifiadau 2021 a 2022 yn dibynnu ar ba bryd y bydd y data o gyfrifiad yr Alban yn 2022 ar gael. Yn ystod haf 2022, bydd NRS yn gofyn am adborth ar eu cynlluniau. Bydd hyn yn cynnwys y cynllun datganiadau arfaethedig ar gyfer data'r Alban o Gyfrifiad 2022. Yna byddwn ni'n rhannu ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer allbynnau cyfrifiad y DU.
Newidiadau i allbynnau'r DU
Rydym ni'n gweithio gyda swyddfeydd y cyfrifiad yn y DU i lunio canllawiau ar y gallu i gymharu allbynnau ar lefelau amrywiol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
lefel y cysoni sy'n bosibl, gan gynnwys y gwahaniaeth amser
cymharu ardaloedd bach ledled y DU yn uniongyrchol
cyfuno data er mwyn cael cyfansymiau ar gyfer y DU
Byddwn ni'n seilio amcangyfrifon canol 2021 o boblogaeth y DU ar amcangyfrifon a drosglwyddwyd o Gyfrifiadau 2021 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Chyfrifiad 2011 yn yr Alban.
Byddwn ni'n parhau i ddarparu data cyfrifiad y DU i brosiect y Cenhedloedd Unedig ar y Cyfrifiad Poblogaeth a Thai (Saesneg yn unig). Nid yw'n ofynnol mwyach i gyflwyno data cyfrifiad y DU i Eurostat.
Adborth gan ddefnyddwyr data yn y DU
Mae gweithgor defnyddwyr data wedi cael ei sefydlu ar gyfer data cyfrifiad y DU yn 2021 a 2022. Mae'r gweithgor hwn yn gyfle i swyddfeydd y cyfrifiad a defnyddwyr data gydweithio a rhoi adborth.
Mae'r aelodau yn cynnwys:
swyddfeydd y cyfrifiad yn y DU
sefydliadau academaidd
sefydliadau ymchwil
awdurdodau lleol a chynghorau sir
llywodraeth ganolog
elusennau
sefydliadau masnachol
Os oes diddordeb gennych chi mewn ymuno â'r grŵp hwn neu rannu adborth am yr hyn sydd ei angen arnoch o ddata'r DU, e-bostiwch census.outputs@ons.gov.uk.
Yn ystod haf 2021, gwnaethom ofyn i ddefnyddwyr data ac aelodau'r gweithgor a oedd angen allbynnau cyfunol arnynt ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon cyn i ganlyniadau cyfrifiad yr Alban gael eu cyhoeddi. Yn seiliedig ar yr adborth, caiff data cymaradwy eu darparu unwaith y bydd data ar gael ar gyfer y DU gyfan. Gallwch ddarllen mwy am ein hymgynghoriad ar gynllun cynnwys a rhyddhau allbynnau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar ein gwefan ymgyngoriadau.
Sut y caiff data cyfrifiad y DU eu defnyddio
Mae'r wybodaeth rydym ni'n ei chasglu o'r cyfrifiad ledled Cymru a Lloegr yn helpu amrywiaeth o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae llywodraeth leol yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau, fel ysgolion, ysbytai a chasglu sbwriel, yn eich ardal. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, sy'n creu cyfleoedd gwaith. Mae elusennau hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad er mwyn helpu i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
Pan gaiff y wybodaeth hon ei chyfuno â data o gyfrifiadau tebyg a gynhelir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n golygu y gellir cymharu ardaloedd bach ledled gwledydd y DU.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch fwy am gyfrifiadau'r DU yn 2011 (Saesneg yn unig) ac am ddata'r DU o gymorth cyfrifiad Gwasanaeth Data'r DU (Saesneg yn unig).
Ewch i dudalen yr Alban am ddata'r DU (Saesneg yn unig) a thudalen Gogledd Iwerddon am ddata'r DU (Saesneg yn unig).