Setiau data amlamryweb
Byddwn yn rhyddhau data amlamryweb o Gyfrifiad 2021, yn seiliedig ar y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y data hyn yn eich galluogi i gyfuno newidynnau gwahanol ac ystyried y cydberthnasau rhwng y data, gan roi dealltwriaeth graff i chi o nodweddion poblogaeth Cymru a Lloegr.
Amserlen datganiadau
Byddwn yn rhyddhau data amlamryweb o Gyfrifiad 2021 yn ystod cam dau o amserlen datganiadau allbynnau Cyfrifiad 2021. Caiff y data eu rhyddhau mewn pedwar cam:
28 Mawrth 2023: Data yn cyfuno sawl newidyn, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Cyfleuster newydd a fydd yn eich galluogi i greu eich setiau data eich hun drwy ddewis newidynnau penodol, dosbarthiadau, a lefelau o ardaloedd daearyddol.
4 Ebrill 2023: Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfuno sawl newidyn, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Setiau data amlamryweb wedi'u creu yn barod yn cyfuno data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd â newidynnau eraill o Gyfrifiad 2021.
Dyddiad rhyddhau dros dro: 18 Ebrill 2023: Data ar lefel person yn cyfuno sawl newidyn, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Setiau data amlamryweb wedi'u creu yn barod ar gyfer data ar lefel person nad ydynt eisoes wedi'u rhyddhau drwy'r adnodd Creu set ddata arbennig.
O fis Mai i fis Mehefin 2023: Data ar gartrefi a theuluoedd yn cyfuno sawl newidyn, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Setiau data amlamryweb wedi'u creu yn barod am gartrefi a theuluoedd nad ydynt eisoes wedi'u rhyddhau drwy'r adnodd Creu set ddata arbennig.
Offeryn Creu set ddata wedi'i deilwra
Rydym yn cyflwyno cyfleuster newydd ar gyfer data Cyfrifiad 2021 a fydd yn eich galluogi i lunio eich setiau data eich hun drwy ddewis cyfuniadau gwahanol o newidynnau'r cyfrifiad.
Bydd miliynau o gyfuniadau posibl o newidynnau a dosbarthiadau o fewn y datganiad hwn y gall pobl eu defnyddio i greu set ddata arbennig.
Sut i ddefnyddio'r adnodd Creu set ddata arbennig
Rydym wedi creu fideo byr y gallwch ei weld ar sut i greu set ddata wedi'i deilwra (yn Saesneg).
Gallwch ddechrau drwy ddewis sail boblogaeth ac yna, cyn lawrlwytho'r setiau data hyn, byddwch yn gallu:
dewis lefel ddaearyddol, er enghraifft, awdurdodau lleol haen is
dewis a ydych eisiau data ar gyfer pob ardal neu a ydych eisiau hidlo'r data ar gyfer mathau penodol o ardaloedd, er enghraifft, Southampton a/neu Gaerdydd
dewis a newid y newidynnau ar gyfer data Cyfrifiad 2021
ar ôl i chi lawrlwytho eich data, gallwch hidlo'r data ar gyfer categori penodol o'r newidynnau sydd wedi'u cynnwys yn y set ddata honno, er enghraifft, y boblogaeth 16 i 24 oed o'r newidyn oedran
Bydd y rhan fwyaf o'r setiau data yn cynnwys nodweddion ychwanegol a fydd yn eich galluogi i wneud y canlynol:
dewis dosbarthiad (lefel o fanylder ar gyfer newidyn) os bydd sawl opsiwn
ychwanegu neu ddileu newidynnau
Nodweddion
Data blwyddyn oedran unigol
Yn holl allbynnau'r cyfrifiad, mae'n rhaid i ni gydbwyso'r posibilrwydd o ddatgelu pwy yw pobl â defnyddioldeb y data. Rydym wedi gwrando ar adborth ac rydym yn deall bod angen rhyddhau data blwyddyn oedran unigol ar gyfer ardaloedd daearyddol bach. Fel y cyfryw, byddwn nawr yn rhyddhau data blwyddyn oedran unigol ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen ganol fel rhan o'r adnodd Creu set ddata arbennig.
Dosbarthiadau grwpiau ethnig
Bydd y newidyn grŵp ethnig yn dangos tri dosbarthiad sy'n cynnwys 19, 7 a 5 categori yn ôl eu trefn.
Er mwyn darparu gwybodaeth am y rheini a ddefnyddiodd yr opsiwn i ysgrifennu ymateb, gwnaethom gynhyrchu setiau data manwl ar gyfer 287 o grwpiau ethnig, 57 o grwpiau crefyddol a 93 o brif ieithoedd. Cyhoeddwyd y rhain fel rhan o'n crynodebau pwnc: Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr - y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk). Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl blog: How am I represented in Census 2021 data? | National Statistical (ons.gov.uk). Ni chaiff y setiau data manwl hyn eu cynnwys yn yr adnodd creu tablau hyblyg ond, yn hytrach, byddant yn rhan o'n cynnig cyfunol.
Rheoli datgelu ystadegol
Caiff y cyfleuster hyblyg newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ei alluogi drwy fethodoleg rheoli datgelu ystadegol dynamig sy'n diogelu cyfrinachedd data.
Unwaith y byddwch yn gwneud cais am set ddata, bydd y system yn cynnal gwiriadau datgelu awtomataidd mewn amser real i benderfynu a yw'n ddiogel rhannu'r data y gofynnwyd amdanynt. Os bydd y set ddata yn pasio ein gwiriadau datgelu ystadegol, gallwch lawrlwytho'r data. Bydd yr adnodd Creu set ddata arbennig yn cynnig awgrymiadau dynamig ar sut i addasu eich cais am ddata fel eich bod yn gallu cael gafael ar gymaint o ddata â phosibl.
Mae yna gydbwysedd yn hyn o beth, hynny yw, os byddwch yn gwneud cais am ddata am ddosbarthiadau manylach o newidynnau, rydych yn fwy tebygol o gael y data hyn ar gyfer ardaloedd daearyddol mwy o faint yn hytrach nag ardaloedd daearyddol llai o faint. Yn yr un modd, os byddwch yn gwneud cais am ddata am ardaloedd daearyddol bach iawn, rydych yn fwy tebygol o gael y data hyn os byddwch wedi gwneud cais am lai o fanylion am y newidynnau.
Dull aflonyddu allweddi celloedd
Mae defnyddio dull aflonyddu yn arwain at newidiadau bach i gelloedd ond, yn y bôn, nid yw'n effeithio ar y ffordd y caiff y data eu dehongli.
Pan gaiff tablau eu ffurfio mewn ffyrdd gwahanol, bydd y dull aflonyddu a ddefnyddir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn ‘ffurfio’ eu cyfansymiau. Er mwyn lleihau effaith dull aflonyddu, lle y bo modd, rydym yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol lefel uwch.
Defnyddir dull aflonyddu ar gyfer holl allbynnau Cyfrifiad 2021, felly mae gwahaniaethau bach rhwng cyfansymiau i'w disgwyl ym mhob allbwn. Mae'r mesur diogelwch ychwanegol yn erbyn gwahaniaethu yn ein galluogi i ryddhau amrywiaeth ehangach o allbynnau a defnyddio system ledaenu hyblyg ac awtomataidd, a'r gobaith yw y bydd hyn yn fuddiol iawn i ddefnyddwyr.
Setiau data wedi'u creu yn barod
Lle bydd rheolau datgelu ystadegol yn debygol o atal data, ni chaiff y seiliau poblogaeth hyn eu cynnwys yn yr adnodd creu set ddata arbennig.
Yn hytrach, rydym yn rhyddhau setiau data amlamryweb wedi'u creu yn barod. Mae'r setiau data hyn eisoes wedi pasio gwiriadau datgelu ac maent yn cynnwys data ar gyfer y lefel isaf bosibl o ardaloedd daearyddol heb ddatgelu pwy yw pobl. Yn fras, mae'r setiau data amlamryweb hyn sydd wedi'u creu yn barod yn cynnwys data yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, preswylwyr byrdymor, myfyrwyr, teuluoedd, plant dibynnol a thai amlfeddiannaeth.
Ble i ddod o hyd i'r data
Byddwn yn cyhoeddi setiau data amlamryweb Cyfrifiad 2021 ar ein gwefan, lle byddwch yn gallu defnyddio'r hyblygrwydd llawn a gynigir. Edrychwch ar ein Calendr Datganiadau i weld y manylion. Gallwch gael canllawiau ar ddiffiniadau, newidynnau a dosbarthiadau yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021. Byddwn hefyd yn darparu'r set safonol o setiau data amlamryweb wedi'u creu yn barod ar Nomis, sef un o wasanaethau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Os hoffech awtomeiddio data amlamryweb, gallwch ddefnyddio ein Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau. Mae canllawiau ar ddefnyddio ein Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau ar gael drwy Hwb Datblygu SYG.
Rhagor o wybodaeth
Rydym wedi nodi'r newidynnau a'r dosbarthiadau sy'n cael eu defnyddio yn yr offeryn Creu set ddata wedi'i deilwra a'r setiau data a gafodd eu hadeiladu ymlaen llaw yn y tabiau cyfatebol yn taenlen manylebau amlamryweb (yn Saesneg).
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein cynlluniau ar gyfer darparu data o Gyfrifiad 2021, cysylltwch â ni yn census.customer.services@ons.gov.uk.
Related downloads
- Census 2021 Phase 2 multivariates (490.4 kB xlsx)