Ar 28 Mehefin 2022, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau cyntaf am y boblogaeth a thai yng Nghymru a Lloegr o Gyfrifiad 2021 a gafodd ei gynnal ar 21 Mawrth 2021. Byddwn yn cyhoeddi'r rhain am 11am er mwyn sicrhau y gellir gosod canlyniadau Cyfrifiad 2021 gerbron Senedd y Deyrnas Unedig tua'r un pryd.
Bydd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn cynnwys pum set ddata gydag amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru a Lloegr, wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf, ar lefel awdurdod lleol, sef:
- y boblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw
- y boblogaeth breswyl arferol yn ôl grŵp oedran 5 mlynedd
- y boblogaeth breswyl arferol yn ôl rhyw a grŵp oedran 5 mlynedd
- dwysedd y boblogaeth breswyl arferol
- nifer y cartrefi
I esbonio'r data, byddwn yn cyhoeddi dau fwletin ystadegol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd un yn canolbwyntio ar yr amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer Cymru a Lloegr. Bydd yr ail yn canolbwyntio ar yr amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer Cymru. Bydd y bwletinau hyn yn darparu gwybodaeth am y canlynol:
- maint y boblogaeth a newidiadau
- oedran a rhyw y boblogaeth
- beth oedd dwysedd y boblogaeth mewn ardaloedd
- faint o gartrefi oedd yno yn 2021
I ategu'r data, byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad am ansawdd a dulliau, gan gynnwys y prosesau rydym wedi'u defnyddio i sicrhau ansawdd y data. Bydd y deunydd ategol hefyd yn cynnwys sylwebaeth am gynnal Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod o newid a gwybodaeth am effaith newid y canllaw y gwnaethom ei ddarparu ynghylch sut i ateb y cwestiwn am ryw.
Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi erthygl ryngweithiol i archwilio newidiadau yn y boblogaeth yn ôl awdurdod lleol, a gêm ryngweithiol i brofi gwybodaeth am y boblogaeth ledled Cymru a Lloegr.