Trosolwg
Samplau bach o gofnodion unigolion o un cyfrifiad yw microdata lle rydym wedi dileu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod pobl. Maent yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion unigolion a chartrefi sy'n golygu y gallwch eu defnyddio i wneud gwaith dadansoddi nad oes modd ei wneud gan ddefnyddio cynhyrchion safonol y cyfrifiad. Mae samplau microdata yn amrywio mewn maint o 10% i 1% o gartrefi neu unigolion.
Diogelu cyfrinachedd
Rydym yn diogelu cyfrinachedd unigolion a chartrefi yn ein samplau microdata drwy wneud y canlynol:
cyfyngu ar fynediad atynt
dileu gwybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod unigolyn, fel enwau, cyfeiriadau a dyddiad geni
cymhwyso dulliau rheoli datgelu ystadegol at samplau microdata, neu newid data er mwyn diogelu hunaniaeth, er enghraifft, cyfnewid cofnodion, cyfuno newidynnau a chyfyngu ar fanylion
Darllenwch fwy am reoli datgelu ystadegol yn y fethodoleg Protecting personal data in Census 2021.
Samplau microdata Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr
Mae pedwar math o samplau microdata Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Y rhain yw:
sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu
samplau microdata wedi'u diogelu
Sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig (IPUMS)
samplau microdata diogel
Sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu
Mynediad
Mae ein sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan gydag ychydig o amodau defnydd wedi'u gosod fel y nodir yn y Drwydded Llywodraeth Agored.
Gwybodaeth
Mae ein sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu yn cynnwys hapsampl o 1% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 604,351 o bobl. Mae'r sampl yn ddefnyddiol i bobl sy'n addysgu neu'n dysgu am ystadegau a gwyddorau cymdeithasol.
Y lefel ddaearyddol isaf yw Cymru a rhanbarthau o fewn Lloegr. Mae'n cynnwys 19 o newidynnau a lefel isel o fanylder.
Dyddiad y datganiad
Rhyddhawyd ein sampl microdata gyhoeddus ar 7 Medi 2023.
Samplau microdata wedi'u diogelu
Mynediad
Dim ond i ddadansoddwyr data drwy Wasanaeth Data'r DU y mae ein samplau microdata wedi'u diogelu ar gael, yn unol â chyfrifiadau blaenorol. Mae'n rhaid i ddadansoddwyr data gofrestru â Gwasanaeth Data'r DU a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU.
Gwybodaeth
Sampl microdata unigolion wedi'i diogelu ar lefel rhanbarth
Mae'r sampl hon yn cynnwys hapsampl o 5% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021; mae'n cynnwys cofnodion 3,021,455 o bobl. Y lefel ddaearyddol isaf yw Cymru a rhanbarthau o fewn Lloegr. Mae'n cynnwys 89 o newidynnau a lefel ganolig o fanylder.
Sampl microdata unigolion wedi’i diogelu ar lefel awdurdodau lleol wedi’u grwpio
Mae'r sampl hon yn cynnwys hapsampl o 5% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021; mae'n cynnwys cofnodion 3,021,611 o bobl. Y lefel ddaearyddol isaf yw awdurdodau lleol wedi'u grwpio. Mae hyn yn golygu grwpiau o awdurdodau lleol, neu awdurdodau lleol unigol lle mae'r boblogaeth yn cynnwys o leiaf 120,000 o bobl. Mae'n cynnwys 87 o newidynnau a lefel isel o fanylder.
Sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu
Mae'n cynnwys hapsampl o 1% o gartrefi o Gyfrifiad 2021 ac mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi hyn a samplwyd; mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 263,729 o gartrefi a 606,210 o bobl. Mae'r sampl hon yn caniatáu i gysylltiadau gael eu gwneud rhwng unigolion yn yr un cartref. Y lefel ddaearyddol isaf yw Cymru a rhanbarthau o fewn Lloegr. Mae'n cynnwys 56 o newidynnau a lefel isel o fanylder. Mae hwn yn gynnyrch newydd yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ar Gyfrifiad 2011.
Dyddiad y datganiad
Rhyddhawyd ein samplau microdata wedi'u diogelu ar 18 Hydref 2023.
Sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig
Mynediad
Mae ein sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig (IPUMS) ar gael i ddadansoddwyr ar wefan IPUMS International. Mae angen i ddadansoddwyr gofrestru, darparu gwybodaeth am eu prosiect a chytuno i'r telerau ac amodau mynediad.
Mae sampl wreiddiol IPUMS heb ei chysoni ar gael ar wefan Gwasanaeth Data'r DU i ddadansoddwyr sydd wedi cofrestru a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU. Mae defnydd masnachol o'r data yn amodol ar ofynion trwyddedu a chodir ffioedd gweinyddol ar bob prosiect.
Gwybodaeth
Mae sampl microdata cartrefi IPUMS Cyfrifiad 2021 yn cynnwys hapsampl o 1% o gartrefi ac yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi hyn a samplwyd. Mae maint y sampl IPUMS yr un peth â'n sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu ac mae'r ddwy sampl hyn yn eithrio cartrefi sy'n cynnwys mwy nag wyth person.
Mae ein sampl microdata IPUMS yn cynnwys cofnodion ar gyfer 263,730 o gartrefi a 605,103 o bobl; ar gyfer cartrefi lle na chafodd unrhyw bobl eu cyfrif, dim ond data ar lefel cartref a gaiff eu cynnwys yng nghofnodion y sampl. Y lefel ddaearyddol isaf yw Cymru a rhanbarthau o fewn Lloegr. Mae'n cynnwys 33 o newidynnau a lefel isel o fanylder.
Mae prosiect IPUMS International yn cysoni data a gaiff eu darparu gan wledydd er mwyn gallu eu cymharu'n rhyngwladol. Mae'r data a ddarperir i IPUMS ar gael mewn fformatau wedi'u cysoni a heb eu cysoni.
Dyddiad y Datganiad
Bydd modd cael gafael ar sampl microdata IPUMS heb ei chysoni ar ddechrau 2024.
Samplau microdata diogel
Mynediad
Dim ond i ymchwilwyr achrededig drwy'r Gwasanaeth Data Integredig y mae ein samplau microdata diogel ar gael. Darllenwch sut i fod yn ymchwilydd achrededig.
Gwybodaeth
Sampl microdata unigolion ddiogel
Mae'r sampl hon yn cynnwys hapsampl o 10% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021; mae'n cynnwys cofnodion 6,204,787 o bobl a lleoedd gwag yn y cartref. Y lefel ddaearyddol isaf yw awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys 189 o newidynnau a lefel uchel o fanylder.
Sampl microdata cartrefi ddiogel
Mae'r sampl hon yn cynnwys hapsampl o 10% o gartrefi o Gyfrifiad 2021 ac mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi hyn a samplwyd; mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 2,641,775 o gartrefi a 6,097,307 o bobl a lleoedd gwag yn y cartref. Mae'r sampl hon yn caniatáu i gysylltiadau gael eu gwneud rhwng unigolion yn yr un teulu neu yn yr un cartref. Y lefel ddaearyddol isaf yw awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys 194 o newidynnau a lefel uchel o fanylder.
Dyddiad y datganiad
Bydd modd cael gafael ar y samplau microdata diogel ar ddechrau 2024.
Defnyddio'r samplau microdata
I'ch helpu i ddefnyddio, dadansoddi a dehongli samplau microdata Cyfrifiad 2021, darllenwch ein canllaw i ddefnyddwyr ar samplau microdata Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr. Mae'r canllaw hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng cael mynediad at samplau microdata diogel, wedi'u diogelu a chyhoeddus, a'u defnyddio.
Mae cymharedd ein samplau microdata â Chyfrifiad 2021 ar gael yn ein taenlen Comparing microdata samples with Census 2021 set ddata. Mae'r daenlen hon yn rhoi cymariaethau unamryweb ac amlamryweb er mwyn dangos pa mor gynrychioliadol yw'r samplau o gymharu â Chyfrifiad 2021 yn ei gyfanrwydd.
Gallwch ddod o hyd i'r holl newidynnau sydd yn ein samplau microdata a'r categorïau allbwn ar gyfer y newidynnau hyn yn ein taenlen Microdata sample codes: Census 2021 set ddata. Gallwch ddefnyddio hidlyddion ar y ffeil i ddangos y wybodaeth ar gyfer pob sampl ar wahân.
Microdata'r cyfrifiad ar gyfer prosiectau cysylltu data mawr
Gan nad yw samplau microdata'r cyfrifiad yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion, ni fydd ymchwilwyr yn gallu eu defnyddio i gysylltu data.
Os gall ymchwilwyr achrededig brofi nad yw'r samplau yn ddigon defnyddiol ar gyfer prosiectau cysylltu data mawr neu brosiectau sy'n dangos effaith fawr ar bolisi cyhoeddus, mae microdata Cyfrifiad 2021 100% yn bodoli o fewn y Gwasanaeth Data Integredig. Mae'r set ddata hon yn cynnwys dynodwyr personol ac mae ar gael at ddibenion cysylltu data ar draws data gweinyddol a data eraill o arolygon. Caiff mynediad at y data hyn a'r defnydd ohonynt eu rheoli'n llym am eu bod yn cynnwys gwybodaeth adnabyddadwy.
Gall ymchwilwyr ofyn am i setiau data gael eu cysylltu gan y SYG os gallant ddangos bod budd ymchwil ehangach y tu hwnt i'w prosiect unigol. Os cytunir ar gais, caiff y set ddata ei chysylltu'n fewnol ac yna byddai'r fersiwn ddad-adnabyddedig yn cael ei throsglwyddo i'r Gwasanaeth Data Integredig fel y gall pob ymchwilydd achrededig wneud cais prosiect i'w defnyddio. Dylai ymchwilwyr a hoffai wneud cais am set ddata wedi'i chysylltu e-bostio adrcuration@ons.gov.uk.
Microdata cyfrifiad y Deyrnas Unedig
Mae samplau microdata Cyfrifiad 2021 yn cwmpasu Cymru a Lloegr. I ddarllen am gynhyrchion tebyg ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban, ewch i wefannau Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd y cyfrifiad ei gynnal ym mis Mawrth 2021. Yn yr Alban, penderfynwyd symud y cyfrifiad i fis Mawrth 2022 oherwydd effaith pandemig y coronafeirws. Dylech ystyried y gwahaniaeth hwn wrth wneud unrhyw waith dadansoddi mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig gyfan gan ddefnyddio microdata'r cyfrifiad.
Gweithio gydag eraill
Gwnaeth amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol ein helpu i ddylunio, creu a dosbarthu samplau microdata Cyfrifiad 2021 fel y gallem ddiwallu anghenion ein defnyddwyr yn y ffordd orau.
Roedd aelodau mewnol o'n gweithgor yn cynnwys arbenigwyr pwnc ar y canlynol:
mudo
teithio i'r gwaith
demograffeg a thrawsnewid y cyfrifiad
amcangyfrifon o'r boblogaeth
rheoli datgelu ystadegol
Roedd aelodau allanol o'n gweithgor yn cynnwys:
Cofnodion Cenedlaethol yr Alban
Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon
Llywodraeth Cymru
Gwasanaeth Data'r DU
awdurdodau lleol
sefydliadau academaidd
ymchwilwyr i'r farchnad
ymchwilwyr masnachol
grŵp cymunedol
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am samplau microdata Cyfrifiad 2021, e-bostiwch census.customerservices@ons.gov.uk.