1. Cefndir a chyflwyniad

Y cyfrifiad yng Nghymru a'r cyfrifiad yn Gymraeg 

Mae'r cyfrifiad o'r boblogaeth a thai wedi bod wrth wraidd ystadegau am y boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr ers dros ddwy ganrif, gan ddarparu ciplun manwl bob deng mlynedd. Mae'r ystadegau o bob cyfrifiad wedi bod y rhai mwyaf manwl sydd ar gael am y boblogaeth, ei nodweddion a ble a sut mae pob un ohonom yn byw. Caiff yr ystadegau hyn eu defnyddio'n helaeth gan y llywodraeth, awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau preifat a'r cyhoedd.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a oedd hefyd yn bartner pwysig drwy gydol o broses gynllunio a chyflawni. Roedd hyn yn cynnwys deddfwriaeth (a ddisgrifir yn yr adran hon), cyfathrebu ac ymgysylltu, sicrhau ansawdd a chyhoeddi allbynnau ar gyfer Cymru ac yn ymwneud â'r Gymraeg. 

Ym mhapur gwyn Cyfrifiad 2021 (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 yn Gymraeg ac yn Saesneg), gwnaethom nodi ein hymrwymiad i gynnal y cyfrifiad yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys darparu fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r holiadur ar-lein a'r holiadur papur a'r holl ddeunydd cyfathrebu pwysig arall ar gyfer y cyhoedd a sicrhau y gellid cwblhau'r holiaduron yn Gymraeg yr un mor hawdd ag yn Saesneg. 

Gwnaethom hefyd addo y byddai llinell ffôn benodol ar gael i gael cymorth yn Gymraeg a chyfleusterau cymorth ar-lein Cymraeg, y byddai siaradwyr Cymraeg yn cael eu recriwtio fel rhan o'r gweithlu maes, a threfniadau priodol ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru (gweler paragraffau 4.55 i 4.57 o bapur gwyn Cyfrifiad 2021). Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r ffordd y cynhaliwyd y cyfrifiad dwyieithog hwnnw.

Yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae'r SYG wedi bod yn gwella ei darpariaeth Gymraeg yn fwy cyffredinol, gan gynnwys diweddaru Cynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae gwersi ac enghreifftiau o Gyfrifiad 2021 wedi cyfrannu at y gwelliant hwn. Bydd gwella ein darpariaeth Gymraeg ehangach yn mynd yn fwyfwy pwysig wrth i ni symud tuag at system ystadegau am y boblogaeth a mudo sy'n defnyddio ystod ehangach o ffynonellau data. 

Fel y disgrifir yn yr adrannau perthnasol o'r erthygl hon, rhagorodd Cyfrifiad 2021 ar ei dargedau o ran cyfradd ymateb a'r rhan fwyaf o'i dargedau ansawdd a darparwyd allbynnau mwy amserol nag erioed o'r blaen. Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf flwyddyn ar ôl y gweithrediad casglu data, a chyhoeddwyd pob prif ddatganiad ar gyfer Cymru a Lloegr erbyn diwedd 2023.

Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r ffordd y cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru. Mae'n cyd-fynd â'r adroddiad cyffredinol ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, sy'n rhoi rhagor o fanylion am gynllunio a chynnal y cyfrifiad.

Ar ôl i raglen Y Tu Hwnt i 2011 ddod i ben, gwnaethom gynnal Cyfrifiad 2021 fel rhan o raglen ehangach a fu hefyd yn gwneud gwaith ar ddiwallu anghenion defnyddwyr drwy ddata gweinyddol a ffynonellau eraill. Yn dilyn y gwaith hwn ochr yn ochr â Chyfrifiad 2021 ac ar ei ôl, mae Awdurdod Ystadegau'r DU wedi cyhoeddi argymhelliad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr

Cefndir cyfreithiol a deddfwriaeth Cyfrifiad 2021

Yr awdurdod statudol ar gyfer cynnal cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yw Deddf y Cyfrifiad 1920. Mae'r Ddeddf yn grymuso Awdurdod Ystadegau'r DU i gynnal cyfrifiad mewn unrhyw flwyddyn sydd o leiaf bum mlynedd ers blwyddyn y cyfrifiad blaenorol. Y SYG yw cangen weithredol yr Awdurdod a chynhaliodd Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. 

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, cyflwynwyd cwestiynau gwirfoddol newydd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd drwy ddiwygio Deddf 1920 drwy Fil yn Senedd y DU. Cafodd cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil diwygio ei basio gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2019, a chafodd Deddf y Cyfrifiad (Manylion y Ffurflen a Dileu Cosbau) 2019 Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2019. 

Mae is-ddeddfwriaeth yn ofynnol ar gyfer pob cyfrifiad ar ffurf Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a rheoliadau. Cyflwynwyd Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2020 gerbron Senedd y DU gan weinidogion Llywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Daeth yn gyfraith ar 20 Mai 2020, a daeth i rym y diwrnod canlynol. Yna gwnaed rheoliadau'r cyfrifiad ar yr un pryd ar gyfer Lloegr gan weinidogion Llywodraeth y DU ac ar gyfer Cymru gan weinidogion Llywodraeth Cymru. 

Bu'r SYG yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a chyfreithwyr i sicrhau bod y rheoliadau ar gyfer Cymru yn cyflawni'r un effaith â'r rhai ar gyfer Lloegr. Gwnaed Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2020 gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar 28 Mai 2020, cawsant eu cyflwyno gerbron y Senedd ar 1 Mehefin 2020, a daethant i rym ar 26 Mehefin 2020.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Paratoi ar gyfer Cyfrifiad 2021

Dechreuodd y gwaith cynllunio, ymgynghori ac ymgysylltu ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fuan ar ôl i'r argymhelliad i gynnal cyfrifiad digidol yn gyntaf gael ei wneud yn 2014. Dros gyfnod o dair blynedd yn datblygu cwestiynau, o'n hymgynghoriad ar bynciau yn 2015 i bapur gwyn Cyfrifiad 2021 ym mis Rhagfyr 2018, cadarnhawyd pa ddata oedd eu hangen ar ddefnyddwyr o'r cyfrifiad a sut y byddem yn eu casglu. 

Yn dilyn hyn, gwnaethom gadw'r seiliau poblogaeth a'r diffiniadau a ddefnyddiwyd yn 2011 i raddau helaeth, a gwnaethom ofyn y rhan fwyaf o'r un cwestiynau, gyda rhai mân ddiwygiadau a thri chwestiwn newydd (gweler "Datblygu cwestiynau a'r holiadur" yn yr adran hon). Gwnaethom hefyd ymgynghori ar allbynnau Cyfrifiad 2021 yn 2018 a 2021. Ynghyd â'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, helpodd hyn i lywio'r gyfres o allbynnau a ddisgrifir yn yr adran Allbynnau.

Ymhlith ein grwpiau cynghori rhanddeiliaid roedd Grŵp Cynghori ar y Cyfrifiad: Cymru, a gadeiriwyd gan Brif Ystadegydd Cymru. Fel ein Grwpiau Cynghori ar y Cyfrifiad eraill, cynhaliwyd y grŵp hwn drwy gydol cyfnod y cyfrifiad, o'r cam cynllunio hyd at yr allbynnau. Roedd ei gylch gorchwyl yn cynnwys gofynion o ran gwybodaeth o Gyfrifiad 2021 ac agweddau ar weithrediad y cyfrifiad, gan gynnwys casglu data, cynllunio cwestiynau, sicrhau ansawdd a'r ffordd o gynnal gweithrediad cyfrifiad dwyieithog yng Nghymru.

Roedd y grŵp yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Yn ogystal â chymryd rhan yn ein grwpiau rhanddeiliaid, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o'r strwythur cynllunio mewnol ar gyfer Cyfrifiad 2021. Roedd eu cyfranogiad yn amrywio o fod yn rhan o Fwrdd Rhaglen Trawsnewid y Cyfrifiad a Chasglu Data i gyfarfodydd dwyochrog a chydweithio rheolaidd rhwng y SYG a swyddogion Llywodraeth Cymru drwy gydol y gwaith o baratoi a chynnal y cyfrifiad.

Cydweithio ledled y DU 

Daeth swyddfeydd y cyfrifiad o bob rhan o'r DU (y SYG, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA)) ynghyd mewn amrywiaeth o fforymau a oedd yn cwmpasu'r gwaith o baratoi a chynnal cyfrifiadau 2021 a 2022, yr oedd llawer ohonynt yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru.

Roedd y fforymau hyn yn cynnwys Pwyllgor Cyfrifiad y DU (UKCC) ar lefel uwch, a gadeiriwyd gan yr Ystadegydd Gwladol, ac a oedd yn cynnwys y Cofrestryddion Cyffredinol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon, y Prif Ystadegwyr ar gyfer yr Alban a Chymru ac uwch-swyddogion y cyfrifiad o'r SYG, NISRA ac NRS.

Gan adrodd i'r UKCC, cyfarfu Gweithgor Cysoni ar gyfer y DU yn fisol gan gynrychioli'r tair swyddfa cyfrifiad a Llywodraeth Cymru. Rôl y gweithgor hwn oedd rheoli cydberthnasau rhwng rhaglenni gwaith y cyfrifiad ledled y DU, nodi meysydd posibl i gydweithio a rheoli risgiau i brosesau cysoni allbynnau'r DU.

Roedd grwpiau cysoni eraill ar lefel gweithio yn cynnwys:

  • Gweithgor Cysoni ar Allbynnau a Lledaenu

  • Gweithgor Ansawdd Ystadegol y DU 

  • Grŵp Sicrwydd Ymchwil y Cyfrifiad 

  • Gweithgor Cysoni ar Brosesu Data*

  • Gweithgor Golygu a Phriodoli* 

  • Gweithgor Cynhyrchion y DU 

  • Gweithgor Microdata* 

  • Gweithgor Tarddiad-Cyrchfan*

  • Gweithgor y DU ar gyfer Cyfeiriadau* 

  • Gweithgor Cysoni Daearyddiaeth y DU ac Iwerddon*

  • Grŵp Strategol Cyfrifiad ac Ystadegau Poblogaeth y DU* 

Roedd grwpiau sydd wedi'u marcio â seren (*) yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru, fel yr oedd ystod o weithgorau gweithredol ar gyfer y DU gyfan a fu'n cyfarfod i greu a rhannu cynlluniau a gwersi mewn perthynas â rheoli gweithrediad casglu data'r cyfrifiad.

Ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19) 

Mae heriau gwahanol ynghlwm wrth bob cyfrifiad. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, un her sylweddol oedd pandemig y coronafeirws a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol yn ystod 2020 a 2021. Dechreuodd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ar 23 Mawrth 2020, flwyddyn cyn gweithrediad casglu data'r cyfrifiad. 

Yn seiliedig ar y meddylfryd academaidd diweddaraf a oedd ar gael ar y pryd, gwnaethom ystyried sut y gallai swyddogaethau hanfodol ar gyfer cyfrifiad llwyddiannus gael eu cyflawni mewn cyfres o senarios. Trefnwyd cyfres o "bwyntiau asesu parodrwydd" ar gyfer mis Ebrill, mis Mehefin, mis Medi a mis Rhagfyr 2020, a helpodd i bennu'r ffocws ar gyfer gwaith cynllunio a blaenoriaethu manwl parhaus. Ym mis Hydref 2020, gwnaethom gyhoeddi gwybodaeth am effaith weithredol y pandemig ar y cyfrifiad a'r ffordd roeddem wedi addasu ein cynlluniau. 

Yn dilyn ein "hasesiad parodrwydd" olaf ym mis Rhagfyr 2020, gallem gyhoeddi ym mis Ionawr 2021 y byddai'r cyfrifiad yn cael ei gynnal. Roedd hyn yn seiliedig ar ein hasesiad parhaus o'n gallu i gynnal cyfrifiad a fyddai'n darparu data o ansawdd uchel wrth sicrhau diogelwch y cyhoedd a'n staff ar yr un pryd. Cynhaliwyd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon yn 2021 fel y cynlluniwyd hefyd. Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban, yn unol ag argymhelliad Cofnodion Cenedlaethol yr Alban, y byddai'r cyfrifiad yno yn cael ei symud i fis Mawrth 2022. 

Mae Pennod 1 o'r adroddiad cyffredinol ar Gyfrifiad 2021 yn amlinellu effaith y pandemig ar y cyfrifiad. Roedd cynllunio i gynnal cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn ddigon hyblyg i addasu ein dull gweithredu pan oedd gwahaniaethau rhwng ymatebion pob llywodraeth i'r pandemig. Er enghraifft, roedd rheolau, canllawiau ac amserlen y cyfyngiadau symud a oedd ar waith ar ddechrau 2021 yn amrywio rhwng Cymru a Lloegr.

Datblygu cwestiynau a'r holiadur 

Dros gyfnod o dair blynedd yn datblygu cwestiynau, cadarnhawyd pa ddata oedd eu hangen ar ddefnyddwyr o'r cyfrifiad a sut y byddem yn eu casglu. Ychwanegwyd cwestiynau gwirfoddol newydd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, ynghyd â chwestiwn newydd ar wasanaeth blaenorol yn lluoedd arfog y DU, ac roedd y defnydd o ddata gweinyddol yn golygu y gallem hepgor y cwestiwn am "nifer yr ystafelloedd".

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein hadroddiadau ar ddatblygu cwestiynau. Cadarnhaodd is-ddeddfwriaeth y cyfrifiad yn 2020 (gweler Cefndir a chyflwyniad) gwestiynau'r cyfrifiad a manylion eraill.

Datblygu cwestiynau'r cyfrifiad yn Gymraeg 

Fel gyda Chyfrifiad 2011, datblygwyd cwestiynau Cymraeg a Saesneg y cyfrifiad ar yr un pryd. Rhwng 2017 a 2018, comisiynwyd asiantaeth allanol ag ymchwilwyr a oedd yn siarad Cymraeg i gynnal grwpiau ffocws a chyfres o gyfweliadau gwybyddol. Profodd yr ymchwil ansoddol dderbynioldeb a dealltwriaeth y cyhoedd o gwestiynau'r cyfrifiad a ddiwygiwyd ac a gynlluniwyd o'r newydd yn Gymraeg. Profwyd y cwestiynau gyda phobl o bob rhan o Gymru â thafodieithoedd amrywiol a hyfedredd amrywiol yn y Gymraeg.

Er mwyn sicrhau bod cwestiynau yn glynu wrth ganllawiau Cymraeg Clir, cafodd rhai newidiadau i'r testun neu'r cwestiynau drwy holiaduron y cyfrifiad eu cyfieithu gan ein darparwr gwasanaeth cyfieithu Cymraeg arbenigol a gontractiwyd. Sicrhawyd ansawdd y newidiadau hyn gan Grŵp Sicrhau Ansawdd Cwestiynau Cymraeg y Cyfrifiad, a oedd yn cynnwys arbenigwyr ar y Gymraeg a pholisi o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru. Ceir gwybodaeth am ddatblygiad y Gymraeg mewn perthynas â chwestiynau penodol yn ein hadroddiadau ar ddatblygu cwestiynau.

Y cwestiwn am sgiliau Cymraeg 

Mae cwestiwn am sgiliau Cymraeg wedi cael ei gynnwys ym mhob cyfrifiad yng Nghymru ers 1891. Mae gwybodaeth am iaith a sgiliau yn yr iaith honno yn cwmpasu p'un a all person ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu iaith, heb gyfeirio at i ba raddau y mae'n gallu gwneud hynny.

Cryfhawyd yr angen am ddata i fonitro'r defnydd o'r Gymraeg o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru, drwy safonau'r Gymraeg, i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae rheoliadau safonau'r Gymraeg hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ystyried y Gymraeg ac anghenion ei siaradwyr wrth gynllunio eu gweithlu, datblygu polisïau a darparu gwasanaethau.

Gwnaethom brofi cwestiwn â phedwar cam yn lle'r un cwestiwn â sawl blwch ticio a ddefnyddiwyd yn 2011, a oedd yn gofyn a allai ymatebwyr "ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg". Ni welwyd bod y cwestiwn â phedwar cam yn cael unrhyw effaith ar faich ymatebwyr. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion yn anghyson â dyluniad cwestiwn Cyfrifiad 2011, a oedd yn awgrymu y byddai'n effeithio ar y gallu i gymharu data â chyfrifiadau blaenorol. Felly, gwnaethom argymell cadw dyluniad cwestiwn Cyfrifiad 2011 sef un cwestiwn â sawl blwch ticio.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cyhoeddiad National identity, ethnic group, language and religion question development. Mae adran Allbynnau yr erthygl hon yn disgrifio ein gwaith ar ôl y cyfrifiad gyda Llywodraeth Cymru ar bwnc gallu yn y Gymraeg. 

Gwahaniaethau rhwng holiaduron Cymru a Lloegr

Y prif wahaniaeth rhwng holiaduron Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr oedd y ffaith bod cwestiwn am sgiliau Cymraeg yn holiadur Cymru. Roedd y gwahaniaethau eraill fel a ganlyn:

  • trefn yr opsiynau ymateb fel bod Cymru, Cymro/Cymraes neu Gymreig yn ymddangos gyntaf yn y cwestiynau am wlad enedigol, hunaniaeth genedlaethol a grŵp ethnig yng Nghymru

  • y blwch ticio cyntaf ar gyfer y cwestiwn am brif iaith oedd "Cymraeg neu Saesneg" yng Nghymru (yn hytrach nag "English" fel yr holiadur yn Lloegr)

  • cynnwys "Du Cymreig" ac "Asiaidd Cymreig" yn y disgrifiadau o gategorïau grŵp ethnig lefel uchel yng Nghymru (a ddisgrifir yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adran hon)

  • roedd yr opsiwn "Cristnogaeth" yn y cwestiwn am grefydd yng Nghymru yn dweud "Cristnogaeth (pob enwad)", ond yn Lloegr roedd enghreifftiau o enwadau Cristnogol

  • gwahaniaethau yn yr opsiynau ymateb ar gyfer y cwestiwn am gymwysterau a phrentisiaeth (gan gynnwys cyfeiriadau at Fagloriaeth Cymru)

  • enghreifftiau gwahanol yn yr adran ar sut i gwblhau'r holiadur ac yn y matrics perthnasoedd 

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i adolygu geiriad y cwestiwn am grŵp ethnig fel ei fod mor gynhwysol â phosibl i'r boblogaeth Gymreig nad yw'n Wyn, gwnaethom brofi pedair fersiwn o ddau ddisgrifiad o gategorïau lefel uchel ar gam cyntaf y cwestiwn.

Y fersiynau a brofwyd oedd:

  • cwestiwn 2011 ("Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig" a "Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd") 

  • dwy fersiwn yn cynnwys "Asiaidd Cymreig" a "Du Cymreig" 

  • fersiwn a oedd yn cynnwys Seisnig, Albanaidd a Gwyddelig Gogledd Iwerddon yn ogystal â Chymreig

Yn dilyn y gwaith profi hwn, gwnaethom argymell defnyddio "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" a "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" yn y disgrifiadau lefel uchel yn y cyfrifiad yng Nghymru. Adlewyrchwyd y newid hwn yn yr holiaduron ac yn ein hallbynnau.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein cyhoeddiad National identity, ethnic group, language and religion question development.

Mae cymhariaeth lefel uchel o gwestiynau'r cyfrifiad a ddefnyddiwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael ei chyhoeddi ar y cyd â'r adroddiad cyffredinol ar Gyfrifiad 2021.

Profion ar raddfa fawr: 2017 a 2019

Dyluniwyd Prawf Cyfrifiad 2017 i roi tystiolaeth i ddangos pa ddulliau gweithredu mewn cyfrifiad digidol yn gyntaf oedd yn gweithio orau ar gyfer grwpiau gwahanol o'r boblogaeth ac i wneud yn siŵr bod ein systemau a'n gwasanaethau yn gweithio'n gywir. Gwnaethom hefyd brofi effaith cwestiynau newydd ar gyfraddau ymateb. 

Gwnaethom wahodd 100,000 o gartrefi o saith awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr i lenwi holiadur prawf ar lein. Powys oedd un o'r saith awdurdod lleol. Fel y rhai yn Lloegr, cafodd ei ddewis am nodweddion penodol, a oedd yn cynnwys ei leoliad gwledig a chyfran y siaradwyr Cymraeg.

Gwnaethom hefyd samplu 100,000 o gartrefi a ddewiswyd ar hap ledled Cymru a Lloegr, ynghyd ag 8,000 o gartrefi ar Ynys Wyth. Diben hyn oedd profi dulliau gweithredu gwahanol, gan gynnwys papur yn gyntaf neu ar lein yn gyntaf gyda llythyrau cyswllt cychwynnol a mentrau gwahanol i gynyddu nifer yr ymatebion gymaint â phosibl (gan gynnwys dyluniad llythyrau cyswllt cychwynnol a llythyrau atgoffa). Yng Nghymru, profwyd y dulliau gweithredu hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn ystod Hydref 2019, gwnaethom gynnal ymarfer casglu data. Dangosodd yr ymarfer hwn fod y systemau a brofwyd yn gweithio ac wedi'u hintegreiddio o'r dechrau i'r diwedd yn y ffordd roeddem yn ei disgwyl. Cwmpaswyd 331,359 o gartrefi mewn pedair ardal awdurdod lleol yn ystod yr ymarfer. Cafodd Ceredigion ei gynnwys am fod ganddo gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg a phoblogaeth wledig fawr. Roedd hefyd yn cynnwys poblogaeth o fyfyrwyr, ystod o ail gartrefi a rhai ardaloedd â phoblogaethau oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol. 

Gwnaeth yr ymarfer ein galluogi i brofi ein systemau a'n prosesau ar gyfer Cyfrifiad 2021, gan gynnwys:

  • ansawdd ein gwaith paratoi

  • y prif brosesau a systemau ar gyfer y gweithrediadau i gynnal y cyfrifiad gyda chartrefi a rhai sefydliadau cymunedol

  • ein strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu â'r gymuned

  • Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad (ACC) 

Yn yr un modd â Phrawf 2017, cynhaliwyd yr ymarfer casglu data gan ddefnyddio deunyddiau Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Gan fyfyrio ar y strategaeth ar lein yn gyntaf a phapur yn gyntaf a ddefnyddiwyd yn 2021, roedd gan Geredigion gyfran sylweddol uwch o gysylltiadau papur yn gyntaf yn yr ymarfer ac, yn gyfatebol, gyfradd cwblhau ar-lein is o gymharu â'r ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Gweithrediadau casglu data

Wave of contact 

Ton gysylltu

Fel rhan o'n "ton gysylltu" cafodd cyfres o lythyrau a holiaduron papur eu dosbarthu gan ddilyn amserlen benodol cyn ac ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021). Roedd hyn yn cynnwys ein cysylltiadau cychwynnol cyn Diwrnod y Cyfrifiad, a'r broses atgoffa a chamau dilynol, gyda staff maes yn ymweld â chartrefi nad oeddent wedi ymateb. Roedd gan y gweithrediad ar gyfer Sefydliadau Cymunedol a Grwpiau Arbennig o'r Boblogaeth ddull gweithredu gwahanol, fesul cam a gynhaliwyd ar yr un pryd â'r gweithrediad ar gyfer cartrefi.

Amserlen cysylltu â chartrefi ar gyfer Cyfrifiad 2021

  • 22 Chwefror 2021: Cardiau post i 25.6 miliwn o gartrefi, gan gynnwys 591,000 yng Nghymru.

  • O 3 Mawrth: Llythyrau cyswllt cychwynnol neu holiaduron papur yn cael eu hanfon i bob cartref.

  • 8 Mawrth: Casgliad 1 o'r gweithlu maes ar gyfer cartrefi yn cael ei ddosbarthu.

  • 21 Mawrth: Diwrnod y Cyfrifiad.

  • O 22 Mawrth: Cyfres gyntaf o lythyrau atgoffa yn cael ei dosbarthu (cartrefi digidol yn gyntaf yn unig).

  • 23 Mawrth: Casgliad 2 o'r gweithlu maes ar gyfer cartrefi yn cael ei ddosbarthu.

  • O 29 Mawrth: Ail gyfres o lythyrau atgoffa yn cael ei dosbarthu (gan gynnwys y llythyrau cyntaf i gartrefi papur yn gyntaf, ac o 31 Mawrth pan oedd unigolion wedi dechrau ymatebion ar-lein ond heb eu cwblhau).

  • 30 Mawrth: Casgliad 3 o'r gweithlu maes ar gyfer cartrefi yn cael ei ddosbarthu (y gweithlu maes cyfan bellach wedi'i ddosbarthu).

  • O 12 Ebrill: Llythyrau atgoffa pellach.

  • O 19 Ebrill: Llythyrau atgoffa wedi'u hysgogi gan ymateb.

Roedd ein dull gweithredu hyblyg yn golygu bod penderfyniadau ynghylch sut y defnyddiwyd staff maes a llythyrau atgoffa ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad yn seiliedig ar y wybodaeth reoli ddiweddaraf a gwybodaeth a gasglwyd gan y gweithlu maes a rhannau eraill o'r gweithrediad.

Dosbarthu deunyddiau i gartrefi

Rhwng 3 a 12 Mawrth 2021, cafodd pob cartref yng Nghymru a Lloegr naill ai Lythyr Cyswllt Cychwynnol â chod unigryw i gwblhau'r cyfrifiad ar lein neu holiadur papur. Roedd yr holiaduron papur hefyd yn cynnwys cod mynediad, felly gallai unrhyw gartref gwblhau'r cyfrifiad ar lein ni waeth pa fath o gyswllt cychwynnol a gafwyd gennym ni. Roedd llythyrau cyswllt cychwynnol a anfonwyd i gyfeiriadau yng Nghymru yn ddwyieithog hefyd, a chafodd cyfeiriadau papur yn gyntaf holiadur papur yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Er bod holiadur papur â chod mynediad ar-lein wedi cael ei anfon i bob cartref yn 2011, roedd y cyfrifiad digidol yn gyntaf yn 2021 yn golygu bod 89% o gartrefi yng Nghymru a Lloegr (24 miliwn) wedi cael y llythyr cyswllt cychwynnol yn unig a chafodd 11% (3 miliwn) yr holiadur papur. Roedd cyfran yr ardaloedd papur yn gyntaf yn uwch yng Nghymru, gydag ychydig dros 50% o gartrefi yn cael yr holiadur papur (748,600 o gymharu â 746,400 digidol yn gyntaf) o gymharu ag ychydig llai na 9% yn Lloegr.

Yr ardaloedd yr anfonwyd holiaduron papur iddynt fel y cyswllt cychwynnol oedd y rheini lle gwnaethom asesu bod cartrefi yn debygol o ymateb i'r cyfrifiad heb fod angen cymryd camau dilynol ond y gallent fod wedi'i chael hi'n anodd gwneud hynny ar lein. Roedd y rhain yn ardaloedd lle ymatebodd cartrefi cyn ein cyfnod dilynol yng Nghyfrifiad 2011 ond na fyddent o bosibl wedi gwneud hynny heb holiaduron papur yn 2021. Nid oedd y penderfyniad ynghylch pa ardaloedd fyddai'n cael holiaduron papur yn seiliedig ar lefelau amcangyfrifedig o allgáu digidol mewn ardal yn unig felly ond, yn bwysig, ystyriwyd pa mor debygol roedd cartrefi mewn ardal o ymateb cyn i gamau dilynol gael eu cymryd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cyhoeddiad Designing a digital-first census

Roedd creu ffrâm cyfeiriadau effeithiol yn hanfodol ar gyfer gweithrediad casglu Cyfrifiad 2021 ac i gynhyrchu ystadegau o ansawdd uchel. Defnyddiwyd y ffrâm cyfeiriadau i anfon llythyrau cyswllt cychwynnol neu holiaduron papur i bob cyfeiriad preswyl. Er bod y ffrâm cyfeiriadau cartrefi o ansawdd da, roedd cyfeiriadau yn un rhan o broses gyflawni ddwyieithog Cyfrifiad 2021 yng Nghymru lle nad oeddem yn gallu cyflawni i'r safon y byddem yn ei dymuno.

Er bod y deunyddiau a anfonwyd i breswylwyr cartrefi a sefydliadau cymunedol yn ddwyieithog (llythyr cyswllt cychwynnol dwyieithog neu holiaduron papur Cymraeg a Saesneg), nid oeddem yn gallu defnyddio cyfeiriadau Cymraeg. Er i ofyniad am gyfeiriadau Cymraeg gael ei nodi yn ystod y broses gynllunio, ni chafodd ei ymgorffori yn ein cynlluniau'n ddigon cynnar i roi newid ar waith ar gyfer deunyddiau argraffedig neu'r holiadur electronig. Mae hyn yn ein hatgoffa bod angen nodi ac ymgorffori gofynion o'r fath o'r cam dylunio cychwynnol er mwyn eu harchwilio, eu profi a'u rhoi ar waith mewn da bryd

Y wefan a'r holiadur electronig

Yn ystod cyfnod casglu data'r cyfrifiad, defnyddiwyd gwefan Cyfrifiad 2021 i letya'r holiadur electronig diogel. Roedd y wefan hefyd yn:

  • cynnwys ystod eang o wybodaeth i gefnogi dinasyddion oedd â chwestiynau am sut i gwblhau'r cyfrifiad

  • galluogi pobl i ofyn am holiadur papur neu godau mynediad ar-lein

  • helpu pobl i ddod o hyd i'w canolfan cymorth y cyfrifiad agosaf (gweler "Cymorth gydag anghenion digidol" yn nes ymlaen yn yr adran hon) 

  • lletya cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau ar gyfer awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac eraill i'w defnyddio i esbonio a hyrwyddo Cyfrifiad 2021

Roedd y wefan yn ddwyieithog, ac roedd cyfeiriad Cymraeg (cyfrifiad.gov.uk) yn mynd â phobl i'r fersiwn Gymraeg. Roedd togl ar y dudalen hefyd fel y gallai defnyddwyr symud rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg. Roedd y cod mynediad a anfonwyd i gyfeiriadau yng Nghymru yn lansio'r fersiwn o'r holiadur electronig ar gyfer Cymru yn awtomatig, a oedd hefyd yn ddwyieithog gyda'r opsiwn i doglo rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd tudalennau cymorth yn cael eu lletya ar y wefan hefyd, gan gynnwys help ar-lein (gweler "Help ar-lein" yn nes ymlaen yn yr adran hon).

Ceisiadau am holiaduron a chodau mynediad newydd

Gallai pobl gael codau mynediad ar-lein neu holiaduron papur newydd drwy wefan Cyfrifiad 2021 neu ganolfan gyswllt gyhoeddus gan ddefnyddio rhif rhadffôn, a gallent eu cael gan y staff maes hefyd. Gallai pobl hefyd ofyn am god neu holiadur papur unigol i'w gwblhau ar wahân i weddill eu cartref. Yn ystod y cyfnod prysuraf i'r ganolfan gyswllt, gwnaethom sefydlu rhif ffôn ychwanegol ar gyfer ceisiadau am holiaduron papur, a leihaodd y pwysau ar y prif linellau. 

Yng Nghymru, gallai pobl a oedd yn gofyn am god mynediad drwy neges destun (SMS) neu holiadur papur newydd nodi a ddylai fod yn Gymraeg neu'n Saesneg. Fel y llythyrau cyswllt cychwynnol, roedd llythyrau â chod mynediad yn ddwyieithog. Mae Tabl 1 yn dangos bod y rhan fwyaf o'r ceisiadau lle nodwyd yr iaith ar gyfer deunyddiau Saesneg.

Y gweithrediad maes yng Nghymru

Trefnwyd gweithlu maes Cyfrifiad 2021 i 15 rhanbarth gweithredol, a Chymru oedd un o'r rhain. Yng Nghymru, roedd naw ardal weithredol ar gyfer yr ymgyrch cartrefi, ac roedd gan bob un o'r rhain Reolwr Ardal y Cyfrifiad a Swyddogion Cymorth Ardal y Cyfrifiad. Cynlluniwyd recriwtio 116 o dimau i weithio yng Nghymru, a byddai gan bob un ohonynt hyd at 12 o swyddogion y cyfrifiad a arweiniwyd gan arweinydd tîm. Recriwtiwyd timau symudol hefyd, i'w dosbarthu i wahanol rannau o Gymru a Lloegr lle roedd eu hangen fwyaf; rhywbeth a bennwyd bob wythnos. 

Roedd gweithrediad maes ar wahân yn gyfrifol am gyfrif sefydliadau cymunedol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth. Lleoedd sy'n darparu llety preswyl a reolir yw sefydliadau cymunedol, fel neuaddau preswyl myfyrwyr, carchardai a hosteli. Yn wahanol i gartrefi, roedd preswylwyr sefydliadau cymunedol yn cael holiaduron papur neu lythyrau cyswllt cychwynnol i unigolion. 

Pobl mewn llety cartref preswyl yr oedd angen ymyriad neu hyfforddiant ychwanegol neu arbenigol i ymdrin â nhw oedd grwpiau arbennig o'r boblogaeth, fel llysgenadaethau, meysydd carafannau a'r rhai heb gyfeiriad sefydlog (er enghraifft, pobl sy'n byw ar gwch, criwserau parhaus, ffeiriau a syrcasau a'r rhai sy'n cysgu allan).

Mae'n aml yn anoddach cael gafael ar breswylwyr y mathau hyn o lety a'u cyfrif. Roedd gan y gweithlu maes hwn strwythur i weithlu'r gweithrediad cartrefi.

Recriwtio a'r cnewyllyn a oedd yn siarad Cymraeg

Roedd dros 25,500 o aelodau o'r gweithlu maes ledled Cymru a Lloegr ar gyfer Cyfrifiad 2021, a'r gweithlu maes ar gyfer cartrefi oedd y garfan fwyaf ag 19,800 o aelodau. Roedd recriwtio'r gweithlu maes yn heriol ac, o ganlyniad, roedd y gweithlu maes yn llai na'r hyn roeddem wedi cynllunio ar ei gyfer, sef tua 70% o'r cyfanswm a 67% o'r rolau cartrefi a fwriadwyd.

Roedd yr anawsterau recriwtio yn arbennig o amlwg yng Nghymru ac o ran penodi siaradwyr Cymraeg. Penodwyd cyfanswm o 1,083, sef 58% o'r targed, ac roedd y 149 a benodwyd i rolau lle roedd angen siarad Cymraeg yn gyfystyr â 41% o'n targed. Roedd y lefelau ymateb cynnar uchel a gafwyd a natur hyblyg y gweithlu maes yn golygu y gwnaethom lwyddo i gyflawni'r hyn yr oedd ei angen gyda'r gweithlu maes a oedd gennym. Fodd bynnag, roedd y diffyg (gan gynnwys ymhlith rolau lle roedd angen siarad Cymraeg) yn golygu bod y gwaith hwn yn anoddach, ac roedd y risg yn fwy o gymharu â phe bai'r gweithlu maes llawn y cynlluniwyd ar ei gyfer wedi bod ar waith.

Mae'n bosibl bod amrywiaeth o ffactorau wedi gwneud yr anawsterau recriwtio yng Nghymru yn waeth; er enghraifft, gallai'r lefel uwch o gyfyngiadau a oedd ar waith yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig fod wedi lleihau parodrwydd darpar ymgeiswyr i wneud cais am y rolau hyn a oedd yn ymdrin â'r cyhoedd.

Ar gyfer y rolau lle roedd angen siarad Cymraeg, awgrymodd adborth gan ymgeiswyr fod lefel y sgiliau Cymraeg yr oedd ei hangen, a oedd yn uwch na'r hyn yr oedd ei angen i gyflawni'r rôl, wedi atal ymgeiswyr rhag gwneud cais. Mae hyn yn golygu bod pobl oedd â gallu digonol yn y Gymraeg wedi gwneud cais am rolau lle nad oedd gofynion o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, llwyddodd ein cyflenwr recriwtio i ailgyfeirio rhai o'r ymgeiswyr hyn i'r rolau lle roedd angen siarad Cymraeg. Mewn rhai ardaloedd, arweiniodd gofynion uchel am y Gymraeg yn gyntaf at broblemau tan-recriwtio sylweddol, a gwnaeth ymgeiswyr gais am rolau heb ofynion iaith y tu allan i'w lleoliad agosaf.

O ganlyniad i natur hyblyg gweithlu maes Cyfrifiad 2021, roedd modd dosbarthu timau symudol y gweithlu maes (a benodwyd i gwmpasu Cymru a Lloegr) i gynorthwyo lle roedd y cyfraddau ymateb yn is na'r disgwyl, gan gynnwys rhannau o Gymru. Gwnaethom hefyd drawsnewid staff maes y cyfrifiad mewn ardaloedd â chyfraddau ymateb uchel yn dimau symudol i'w dosbarthu i ardaloedd eraill.

Cymryd camau dilynol mewn perthynas â chartrefi nad oeddent wedi ymateb

Anfonwyd llythyrau atgoffa i gartrefi nad oeddent wedi ymateb i'r cyfrifiad ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad ac ymwelodd staff maes â nhw. O blith yr 11.3 miliwn o lythyrau atgoffa a anfonwyd yn ystod gweithrediad Cymru a Lloegr, anfonwyd 591,000 i gyfeiriadau yng Nghymru. O'u plith: 

  • anfonwyd 202,000 yn y swp cyntaf (o 23 Mawrth)

  • anfonwyd 301,000 yn yr ail swp (o 29 Mawrth)

  • anfonwyd 42,000 ganol mis Ebrill

  • anfonwyd 47,000 ddiwedd mis Ebrill ac yn ystod mis Mai

Fel gyda'r llythyrau cyswllt cychwynnol, roedd y llythyrau atgoffa yn ddwyieithog.

Dechreuodd ymweliadau â chartrefi nad oeddent wedi ymateb ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad. Gan fod 76% o gartrefi yng Nghymru a Lloegr wedi ymateb erbyn 23 Mawrth, a oedd ymhell uwchlaw'r targed o 70% o gartrefi'n ymateb heb unrhyw weithgarwch dilynol, gallai'r gweithlu maes dargedu ei adnoddau a chanolbwyntio ar nifer llai o eiddo. 

Roedd y gyfradd ddychwelyd ar gyfer Cymru ychydig yn is nag yn Lloegr yn ystod y gweithrediad maes, sef 70.7% ar 23 Mawrth (y dyddiad brig ar gyfer ymatebion papur) ac 84.5% ar 1 Ebrill, o gymharu â 76.3% ac 87.8% yn y drefn honno yn Lloegr. Yn rhannol, gall hyn adlewyrchu'r gyfran uwch o ymatebion papur yng Nghymru, gydag ychydig o oedi wrth eu cofrestru o gymharu ag ymatebion ar-lein, gan fod holiaduron papur yn cael eu postio'n ôl a'u cofnodi.

Mae adran 7 yn ein cyhoeddiad Designing a digital-first census yn dangos bod y dyddiad brig ar gyfer ffurflenni papur (sef 23 Mawrth) ddeuddydd ar ôl y dyddiad brig ar gyfer ymatebion ar-lein, sef Diwrnod y Cyfrifiad. Lleihaodd y bwlch rhwng cyfraddau dychwelyd Cymru a Lloegr yn ystod yr ymgyrch, gan gyrraedd y cyfraddau dychwelyd terfynol o 96% a 97%, yn y drefn honno.

Diweddarwyd amserlenni ymweliadau swyddogion y cyfrifiad mewn amser real a chawsant eu dyrannu drwy eu Hadnodd Rheoli Gwaith Maes, yn seiliedig ar wybodaeth o'n system Rheoli Ymateb (gweler pennod 4 o'r adroddiad cyffredinol ar Gyfrifiad 2021) gan gynnwys canlyniadau ymweliadau blaenorol a gwybodaeth reoli am gyfrifiadau a gwblhawyd. 

Gallai swyddogion gynnig cyngor ar garreg y drws a chyfeirio deiliaid cartrefi at sianeli cymorth, fel y gallent gwblhau eu cyfrifiad. Cafodd ardaloedd â chyfraddau ymateb isel eu targedu ymhellach gan ein gweithlu maes symudol, a ddosbarthwyd yn seiliedig ar ddata amser real am ymatebion. Yng Nghymru, gallai swyddogion nodi y dylai unrhyw ymweliadau pellach ag eiddo gael eu cynnal gan staff maes a oedd yn siarad Cymraeg, gan ein galluogi i ddosbarthu'r aelodau hynny o staff yn fwy effeithiol.

Ledled Cymru a Lloegr, cynhaliodd swyddogion y cyfrifiad dros 16,685,000 o ymweliadau â mwy na 5 miliwn o gartrefi, sef chwarter yr eiddo ar y ffrâm cyfeiriadau. Yn ystod yr ymweliadau hyn, yr arweiniodd 4.5 miliwn ohonynt at gysylltu â'r cartref, gallai swyddogion y cyfrifiad gynnig cyngor ar garreg y drws a chyfeirio deiliaid cartrefi at sianeli cymorth, fel y gallent gwblhau eu cyfrifiad. Yng Nghymru, roedd cyfran y cartrefi yr ymwelwyd â nhw yn llai, sef 296,500 o eiddo, neu 21.2% o gartrefi, y cafodd ychydig llai na hanner ohonynt (10.2%) un ymweliad yn unig.

Er bod yr ymgyrch yng Nghymru yn llwyddiannus a'r cyfraddau dychwelyd ymhell uwchlaw ein targedau, roedd gwersi i'w dysgu. Roedd llawer o'r ffactorau a effeithiodd ar yr ymgyrch yng Nghymru a Lloegr yn nodedig yng Nghymru, fel y diffyg wrth recriwtio staff maes ac effaith y pandemig. Roedd ffactorau eraill yn benodol i Gymru neu cawsant effaith benodol ar yr ymgyrch yng Nghymru.

Mae'n bosibl fod cyfran uchel yr ardaloedd papur yn gyntaf yng Nghymru wedi cael effaith ar gyfraddau dychwelyd yn ystod yr ymgyrch. Fel y nodwyd yn yr adroddiad cyffredinol, er bod y cydbwysedd cyffredinol o gysylltiadau ar-lein ac ar bapur wedi gweithio i Gymru a Lloegr, ar gyfer unrhyw weithrediad cyfrifiad dull cymysg yn y dyfodol, mae'n bosibl y byddai dull gwahanol o bennu'r gyfran ar gyfer cysylltiadau papur yn gyntaf a'i thargedu fod yn briodol. Mae hyn yn ymwneud â Chymru'n benodol gan fod ganddi gyfran uwch o ardaloedd papur yn gyntaf. 

Gall hefyd fod yn werth ystyried mwy o annibyniaeth weithredol wrth gynllunio a chynnal y gweithrediad maes yng Nghymru ac ymgorffori gwybodaeth leol gan dimau a staff sydd eisoes yn bodoli ym mhob rhan o'r SYG ar gam cynharach. Gall hyn helpu i deilwra'r gweithrediad yn well ar gyfer gofynion penodol casglu data yng Nghymru. Gallai hyn ystyried ffactorau daearyddol, cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys gofynion iaith ar gyfer staff a deunyddiau'r cyfrifiad, maint a natur wledig rhai ardaloedd yng Nghymru, ac adlewyrchu amrywiadau ledled Cymru.

Gallai mwy o annibyniaeth weithredol ar draws gweithrediadau'r cyfrifiad hefyd leihau materion a nodwyd pan oedd y gweithrediadau diffyg cydymffurfio mewn rhannau o Gymru hefyd yn cwmpasu rhanbarth o Loegr. Arweiniodd y gorgyffwrdd hwn at fân broblemau o ran darparu cynhyrchion y cyfrifiad, a dosbarthwyd pecynnau i dimau yn yr ardal hon a oedd yn cynnwys deunydd dwyieithog nad oedd yn berthnasol i swyddogion a oedd yn gweithio mewn ardaloedd Saesneg yn benodol. Mae angen ystyried cynnal gweithrediadau maes cwbl annibynnol yng Nghymru er mwyn sicrhau y defnyddir dull gweithredu cyson a lleihau unrhyw broblemau posibl o ran gofynion logistaidd a gweinyddol.

Cyfrif sefydliadau cymunedol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth yng Nghymru

Yn wahanol i gartrefi, dechreuwyd ymgysylltu'n weithredol â sefydliadau cymunedol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Gwnaed gwaith ymgysylltu cychwynnol drwy gysylltu â grwpiau rhanddeiliaid perthnasol er mwyn cadarnhau cysylltu, a thrwy gamau tîm ymgysylltu'r SYG i gysylltu ag awdurdodau lleol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth i drafod y strategaeth er mwyn eu cyfrif.

Pedwar cam y gweithrediad ei hun oedd: 

  • ymgysylltu – cyswllt cychwynnol er mwyn meithrin cydberthnasau a chasglu gwybodaeth

  • dosbarthu – dosbarthu llythyrau cyswllt cychwynnol a holiaduron papur i sefydliadau cymunedol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth (o 23 Chwefror tan Ddiwrnod y Cyfrifiad) drwy'r post neu â llaw

  • Penwythnos y Cyfrifiad – gweithrediad arbennig dros Benwythnos y Cyfrifiad (20 i 22 Mawrth) yn canolbwyntio ar grwpiau o'r boblogaeth heb gyfeiriad sefydlog, fel criwserau parhaus a oedd yn byw ar gychod, y rhai a oedd yn byw ar y ffordd mewn preswylfa symudol, a'r rhai a oedd yn cysgu allan, er mwyn sicrhau bod y grwpiau hyn o'r boblogaeth yn cael y cyfle i gwblhau'r cyfrifiad a ffordd o wneud hynny

  • camau dilynol – cysylltu â chyfeiriadau nad oeddent wedi ymateb i'w hannog a'u cefnogi gyda'r ffurflen

Effeithiodd yr un ffactorau ar y gweithrediad gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau arbennig o'r boblogaeth yng Nghymru â'r hyn a welwyd yn Lloegr, sef y diffyg wrth recriwtio ac effaith pandemig y coronafeirws. Er i swyddi'r rheolwyr ardal a'r swyddogion cymorth gael eu llenwi, roedd gennym 10 arweinydd tîm a 66 o swyddogion sefydliadau cymunedol, o gymharu â'r 14 o arweinwyr tîm a 113 o swyddogion a gynlluniwyd. 

Llwyddwyd i oresgyn y problemau logistaidd canlyniadol o ran dosbarthu cyfarpar i'r staff o ganlyniad i ymdrech ychwanegol sylweddol gan y ddau reolwr ardal. Helpodd ymdrechion ac arweinyddiaeth y rhain i ysgogi timau a staff sefydliadau cymunedol i gyflawni'r hyn yr oedd ei angen, er gwaethaf y problemau a achoswyd gan y diffyg recriwtio.

Gwnaeth arweinwyr tîm mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gyfrannu'n sylweddol at y llwyddiant hefyd oherwydd eu parodrwydd i ymgymryd â gweithgareddau staff maes lle roedd y cyfraddau recriwtio yn isel. Roedd y pandemig a'r cyfyngiadau symud yn golygu nad oedd modd ymgymryd â llawer o'r gweithgarwch a gynlluniwyd ar gyfer y cam ymgysylltu.

Roedd beichiau ychwanegol ar ein partneriaid a achoswyd gan y pandemig yn golygu ei bod yn anoddach ymgysylltu â rhai grwpiau o'r boblogaeth nag y byddai wedi bod fel arall, gan gynnwys y rhai a oedd yn cysgu allan (is-grŵp arbennig o agored i niwed ac anodd i'w gyfrif o fewn y boblogaeth ddigartref).

Cymorth i ymatebwyr

Canolfan gyswllt y cyhoedd

Darparodd ein canolfan gyswllt y cyhoedd help a chymorth i gwblhau Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad, drwy gynghorwyr ffôn a thrwy gyfleusterau gwe-sgwrs, SMS a gwebost. Roedd hyn yn cynnwys cymorth iaith a gwasanaeth cofnodi dros y ffôn a oedd yn galluogi ymatebwyr y nodwyd bod angen cymorth arnynt i gwblhau'r cyfrifiad dros y ffôn gyda chynghorydd.

Cynigiwyd tri opsiwn gan yr Ymateb Llais Rhyngweithiol i bobl a oedd yn ffonio'r llinellau rhadffôn 0800: gofyn am holiadur papur, clywed cwestiynau cyffredin neu siarad â chynghorydd.

Yng Nghymru, roedd negeseuon yr Ymateb Llais Rhyngweithiol yn ddwyieithog a chlywyd y neges Gymraeg yn gyntaf. O blith y 4.5 miliwn o alwadau a gyrhaeddodd yr Ymateb Llais Rhyngweithiol, gwnaed 238,000 i rif 0800 Cymru. Bydd rhai galwyr yng Nghymru wedi defnyddio'r rhif aml-iaith ar wahân hefyd a'r rhif i wneud cais awtomatig am holiaduron papur newydd a ychwanegwyd yn ystod yr ymgyrch, oedd ar gyfer Cymru a Lloegr.

Gofynnwyd i'r rhai a ffoniodd llinell Cymru ym mha iaith yr oeddent am barhau: dewisodd 189,000 Saesneg a dewisodd 26,000 Cymraeg. Ni wnaeth y gweddill ddewis a gwnaethant roi'r ffôn i lawr.

O blith y galwyr a ddewisodd iaith, cyrhaeddodd 84,000 un o gynghorwyr y ganolfan gyswllt, gofynnodd 44,000 am holiadur papur (yn ogystal â'r rhai a ddefnyddiodd y llinell i wneud cais am un yn awtomatig) a defnyddiodd 14,000 y cwestiynau cyffredin. O blith y gweddill, defnyddiodd y mwyafrif y negeseuon wedi'u recordio ymlaen llaw a oedd yn rhan o'r Ymateb Llais Rhyngweithiol, a daeth lleiafrif â'u galwadau i ben yn gynnar, er enghraifft, pan oeddent mewn ciw yn aros i siarad â chynghorydd.

Roedd y cyfleusterau gwe-sgwrs, SMS a gwebost ar gael yn Gymraeg hefyd. Yn ogystal â'r ffaith bod holiaduron Cymraeg ar gael, darparwyd cynhyrchion hygyrch yn Gymraeg hefyd, gan gynnwys deunyddiau braille a phrint mawr. 

Help ar-lein

Nod adran help ar-lein gwefan Cyfrifiad 2021 oedd ateb unrhyw gwestiwn a allai fod gan ymatebydd a allai fod wedi effeithio ar ei allu neu ei barodrwydd i gwblhau holiadur y cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys canllawiau ar sut i gael holiadur papur neu god mynediad ar-lein newydd, a chanllawiau ar sut i ateb cwestiynau'r cyfrifiad. 

Datblygodd y tudalennau i gefnogi Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad a'r camau Diffyg Cydymffurfio ar ôl y prif gyfnod casglu data. Fel gyda'r holiadur electronig a gweddill y wefan, roedd yr help ar-lein yn ddwyieithog ac roedd togl i newid rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg o bob tudalen.

Cofnodwyd 2.1 miliwn o achosion o edrych ar y tudalennau help ar-lein Saesneg, a oedd yn cefnogi ymatebwyr yng Nghymru ac yn Lloegr, a hynny dros 1.1 miliwn o ymweliadau. Cofnodwyd oddeutu 2,700 o achosion o edrych ar y tudalennau Cymraeg, a hynny dros 2,500 o ymweliadau.

Roedd y tudalennau Cymraeg yr edrychwyd arnynt fwyaf yn debyg i'r tudalennau Saesneg mwyaf poblogaidd (gweler Adran 4.4.4: Help ar-lein yn adroddiad cyffredinol Cyfrifiad 2021).

Y tudalennau Cymraeg yr ymwelwyd â nhw fwyaf oedd:

  • Help gyda'r cyfrifiad, yr edrychwyd arni 450 o weithiau

  • Cael cod mynediad neu holiadur papur, yr edrychwyd arni 250 o weithiau

  • Ieithoedd, yr edrychwyd arni 200 o weithiau

  • Dechrau arno, yr edrychwyd arni 150 o weithiau

  • Dechrau eich cyfrifiad ar-lein, yr edrychwyd arni 150 o weithiau

Cymorth gydag anghenion digidol drwy ganolfannau cymorth y cyfrifiad

Nod y gwasanaeth cymorth gydag anghenion digidol oedd darparu help a chymorth wyneb yn wyneb i bobl nad oedd ganddynt y sgiliau digidol, y cyfarpar na'r cysylltedd i gwblhau'r cyfrifiad ar lein, neu nad oeddent yn teimlo'n hyderus yn gwneud hynny. Darparwyd y gwasanaeth hwn yng nghanolfannau cymorth y cyfrifiad, a sefydlwyd yn bennaf mewn lleoliadau cyfarwydd neu y gallai pobl ymddiried ynddynt, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. Yn ystod y gweithrediad casglu data, agorodd 744 o ganolfannau mewn 266 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.

Cafodd y pandemig a'r cyfyngiadau symud effaith sylweddol ar weithrediad canolfannau cymorth y cyfrifiad. Roedd y penderfyniadau a wnaed ynglŷn ag agor canolfannau yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau a oedd ar waith ar y pryd, gan gynnwys canllawiau Llywodraeth Cymru.

Yng Nghymru, cynlluniwyd 66 o ganolfannau, gan gynnwys o leiaf ddwy ganolfan ym mhob ardal awdurdod lleol, ond dim ond ychydig allai agor oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau symud. Cynigiwyd cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob safle a oedd ar waith yng Nghymru, a thrwy apwyntiad yn unig mewn rhai achosion.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyfathrebu ac ymgysylltu

Ymgysylltu

Prif nod ein gweithgarwch ymgysylltu mewn perthynas â'r cyfrifiad oedd canolbwyntio ar y grwpiau hynny a oedd yn llai tebygol o gymryd rhan yn y cyfrifiad heb ryngweithiadau ychwanegol. Roedd ymgysylltu yn un o sawl rhyngweithiad pwysig a ddefnyddiwyd i annog a chefnogi pobl i gymryd rhan, ochr yn ochr â'r ymgyrch cyfathrebu a gwaith y gweithlu maes a'r gwasanaethau cymorth cyhoeddus.

Gan adeiladu ar ein dull gweithredu llwyddiannus yn 2011, canolbwyntiodd gweithgarwch ymgysylltu Cyfrifiad 2021 ar ymgysylltu ag awdurdodau lleol a chymunedau. Roedd gweithgarwch ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar rannu ein dulliau ac ennyn hyder ynddynt ac ysgogi cymorth ymarferol i wella effeithiolrwydd gweithrediad casglu data'r cyfrifiad.

Gwnaethom weithio gydag awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru a Lloegr drwy gylch cyfan y cyfrifiad, o 2017 i 2023. Roedd hyn yn cynnwys gwaith ymgysylltu strategol â phob awdurdod lleol a gwaith lleol rhwng ein rheolwyr ymgysylltu ar gyfer y cyfrifiad ac awdurdodau lleol. Cyn y gweithrediad casglu data, datblygwyd Cynllun Partneriaeth Awdurdod Lleol rhwng pob awdurdod lleol a Rheolwr Ymgysylltu'r Cyfrifiad o'r SYG, gan nodi blaenoriaethau ymgysylltu lleol a chamau a gymerwyd i gefnogi'r cyfrifiad. Defnyddiwyd hyn i gefnogi'r bartneriaeth ac i gynnig ffocws clir ar y gweithgareddau a'r meysydd hynny lle gallai awdurdodau lleol ddarparu gwerth ychwanegol sylweddol.

Gofynnodd y SYG i bob awdurdod lleol ledled Cymru a Lloegr enwebu cyswllt ar gyfer y cyfrifiad, ac roedd y Rheolwyr Cyswllt y Cyfrifiad hyn, neu Reolwyr Cynorthwyol, a'r cyfoeth o wybodaeth leol a'r rhwydweithiau helaeth o gysylltiadau a oedd ganddynt yn arwyddocaol wrth helpu i gyflawni cyfrifiad llwyddiannus.

Roedd enghreifftiau o'u cymorth yn cynnwys trefnu cyfleoedd i gyflwyno i aelodau etholedig yr awdurdod lleol ac i erthyglau am y cyfrifiad ymddangos yng nghylchlythyrau'r awdurdod lleol neu ar ei lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Gwnaethant hefyd ein helpu i ddefnyddio systemau clicio a chasglu llyfrgelloedd i gyrraedd aelodau o gymunedau dall neu rannol ddall, ymweld â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gyda thimau'r cyfrifiad, a chefnogi'r ymgyrch "goleuo" (y sonnir amdani yn yr adran "Ymgyrch gyfathrebu, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus").

Canolbwyntiodd gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned ar feithrin ymwybyddiaeth, ymddiriedaeth ac eiriolaeth gan elusennau, arweinwyr a chynrychiolwyr cymunedau y gallem gael cyfraddau ymateb is ganddynt fel arall. Yna aeth yr arweinwyr a'r cynrychiolwyr cymunedol hyn ymlaen i feithrin ymwybyddiaeth, ymddiriedaeth a pharodrwydd i gwblhau'r cyfrifiad ymhlith eu cymunedau.

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, roedd gan y gweithgarwch ddwy brif elfen: ymgysylltu cenedlaethol ac ymgysylltu lleol.

Ymgysylltu cenedlaethol

Dechreuodd gweithgarwch ymgysylltu cenedlaethol flynyddoedd cyn proses gasglu'r cyfrifiad a pharhaodd drwy'r camau allbynnau a lledaenu. Ein dull gweithredu oedd mynd ati cyn y cyfrifiad i feithrin cydberthnasau ag arweinwyr a chynrychiolwyr uchel eu parch o gymunedau a grwpiau o'r boblogaeth a oedd yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan.

O ganlyniad i'r dull gweithredu hwn, datblygodd Tîm Ymgysylltu'r SYG ddealltwriaeth o bryderon y grwpiau hyn, darparodd y wybodaeth ddiweddaraf a chododd ymwybyddiaeth o'r cyfrifiad. Llwyddodd y gweithgarwch hwn i ennill cefnogaeth yr arweinwyr a'r cynrychiolwyr a welodd pwysigrwydd y cyfrifiad a chyfranogiad eu cymunedau.

Ymgysylltu lleol

Er i'r gweithgarwch ymgysylltu cenedlaethol ddechrau ymhell cyn y gweithrediad casglu data, dechreuodd gweithgarwch ymgysylltu lleol ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y gweithgarwch ymgysylltu hwn gan 200 o Reolwyr Ymgysylltu'r Cyfrifiad a 115 o Gynghorwyr Cymunedol ledled Cymru a Lloegr. Gwelwyd cynnydd yn nifer y staff ymgysylltu a'r nifer a allai siarad Cymraeg o gymharu â Chyfrifiad 2011.

Gweithiodd pob Rheolwr Ymgysylltu ag awdurdodau lleol a chymunedau yn ei ardal, a bu'r Cynghorwyr Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau penodol o'r boblogaeth, a hynny mewn ardaloedd trefol yn bennaf. Roedd 12 Rheolwr Ymgysylltu'r Cyfrifiad yng Nghymru, gyda phob un yn cwmpasu un ardal awdurdod lleol yn bennaf, ond roedd rhai yn cwmpasu sawl ardal awdurdod lleol ac roedd dau yn gweithio yng Nghaerdydd. Penodwyd pedwar Cynghorydd Cymunedol, tri yng Nghaerdydd yn gweithio gyda chymunedau Arabaidd, Tsieineaidd ac Indiaidd ac un ar gyfer Caerdydd a Chasnewydd yn gweithio gyda'r gymuned Somalïaidd. 

Llwyddodd Rheolwyr Ymgysylltu'r Cyfrifiad a'r Cynghorwyr Cymunedol i ddefnyddio ystod eang o adnoddau i ymgysylltu â'u cymunedau, er enghraifft:

  • llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

  • cylchlythyrau a phapurau newydd lleol

  • gorsafoedd radio

  • fideogynadledda

  • dosbarthu taflenni a phosteri 

Roedd gallu yn y Gymraeg yn sgìl dymunol yn nisgrifiadau swydd pob rôl gymunedol leol, ac roedd yn sgìl hanfodol ar gyfer pum Rheolwr Ymgysylltu'r Cyfrifiad.

Roedd gweithgarwch Rheolwyr Ymgysylltu'r Cyfrifiad a'r Cynghorwyr Cymunedol yng Nghymru yn cynnwys cyfweliadau ar y rhaglenni teledu cylchgrawn Cymraeg "Heno" a "Prynhawn Da", a chyfweliadau radio ar orsafoedd fel BGfm a Bro Radio. Roedd hefyd yn cynnwys sesiynau cwblhau'r cyfrifiad a sesiynau holi ac ateb ar Zoom, gan gynnwys digwyddiad dawnsio "Bollywoodzoom" yr oedd ffigyrau blaenllaw o gymunedau Sicaidd a Hindŵaidd yng Nghymru yn bresennol ynddo. 

Rhoddodd y SYG ddiweddariadau rheolaidd i Bwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru a Phanel Defnyddwyr Ystadegau'r Trydydd Sector Llywodraeth Cymru ar gynllunio a gweithredu'r cyfrifiad. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. 

Ymgyrch gyfathrebu, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus

Cafodd ein hymgyrch gyfathrebu ei hintegreiddio â'r camau cysylltu â chartrefi. Gan ddechrau gyda pharatoi cynulleidfaoedd ar gyfer y cyswllt a oedd ar ddod, symudodd ymlaen i annog pobl i gwblhau'r holiadur cyn ac ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys hysbysebion wedi'u targedu ar gyfer ardaloedd a phoblogaethau â chyfraddau ymateb is.

Defnyddiodd yr ymgyrch ystod o sianeli cyfathrebu er mwyn cyrraedd cyfran fawr o'r boblogaeth. Amrywiodd hyn o'r teledu a'r radio i'r cyfryngau cymdeithasol a digidol, gan gynnwys dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a phartneriaethau â'r cyfryngau y talwyd amdanynt. Canolbwyntiodd yr ymgyrch gyfathrebu ar negeseuon ar gyfer grwpiau a oedd yn wynebu rhwystrau i gymryd rhan hefyd. Gan ddefnyddio arddull cyffredin ar gyfer yr ymgyrch gyfan, a'n neges "ni sy'n cyfrif", gwnaethom ddefnyddio ieithoedd gwahanol a ffotograffiaeth bwrpasol ar gyfer y deunyddiau cyfathrebu wedi'u targedu hyn, er mwyn cynrychioli grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. 

Yn gyson â'r cyfrifiad dwyieithog, cafodd holl ddeunyddiau a chynnwys yr ymgyrch a ddefnyddiwyd yng Nghymru eu cynhyrchu yn ddwyieithog, gan amrywio o hysbysebion a fideos i bosteri a thaflenni.

Gwnaethom ymgymryd â gwaith ymchwil meintiol ac ansoddol gyda chynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith i sicrhau bod cynnig a negeseuon yr ymgyrch yn cael effaith ar gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Yn ogystal â gwefan Gymraeg y cyfrifiad, roedd gennym sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yn hyrwyddo Cyfrifiad 2021 hefyd. Gwnaethom weithio'n agos gyda Facebook a Twitter i ddatblygu promptiau chwilio, a greodd swm enfawr o weithgarwch hyrwyddo am ddim. Roedd y rhain yn ddwyieithog, y tro cyntaf i Twitter gynhyrchu prompt yn Gymraeg. 

Defnyddiodd yr ymgyrch sianeli cyfryngau Cymreig, rhai cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, gan optimeiddio cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith drwy ddefnyddio gyda hysbysebion wedi'u targedu. Cafodd ein datganiadau i'r wasg, a oedd yn cynnwys 53 yn Gymraeg, eu lledaenu drwy ystod o ffynonellau cyn ac yn ystod yr ymgyrch casglu data, gan gynnwys Wales Online, BBC Wales, West Wales Chronicle a South Wales Argus, a chyfweliadau Cymraeg ar S4C a BBC Radio Cymru.

Gwnaethom weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar lawer o agweddau ar yr ymgyrch, gan rannu cynnig a negeseuon yr ymgyrch er mwyn cael adborth. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda swyddog y Gymraeg ar ddatblygu'r hysbyseb teledu Cymraeg a fideos ac animeiddiadau Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwnaethom hefyd gydweithio ar y cynllun cyfryngau y talwyd amdano ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Roedd yr ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn cynnwys ymgyrch i chwilio am 22 o "arwyr cymunedol". Dan arweiniad seren "Gavin and Stacey", Joanna Page, aeth yr ymgyrch hon ati i chwilio am bobl gyffredin yn gwneud pethau eithriadol i helpu eu cymunedau, y gwnaethom eu cydnabod â "phlac porffor" yn lliwiau brand Cyfrifiad 2021. Cyhoeddwyd yr arwyr ar 11 Mawrth 2021 ac roeddent yn cynnwys tri pherson o Gymru.

Ar y cyd â hyn, goleuwyd dros 200 o adeiladau ledled Cymru a Lloegr â goleuadau porffor dros Benwythnos y Cyfrifiad er mwyn creu ymdeimlad o achlysur. Roedd y rhain yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth

Rhaglenni ysgolion

Datblygwyd Rhaglenni Addysg Cynradd ac Uwchradd i godi ymwybyddiaeth o'r cyfrifiad a datblygu llythrennedd ystadegol. Y rhain oedd Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad a rhaglen addysg greadigol i ysgolion cynradd o'r enw "Gadewch i ni Gyfrif!".

Dyluniwyd y rhaglenni hyn i gyrraedd rhieni hefyd, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd lle roedd cyfrannau uchel yn wynebu rhwystrau eraill a oedd yn eu hatal rhag cwblhau'r cyfrifiad. Ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif! a Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad, datblygwyd cyfres o adnoddau addysg am ddim yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol. Cafodd yr adnoddau hyn eu teilwra i ganolbwyntio ar addysgu disgyblion am y cyfrifiad, defnyddio data'r cyfrifiad i lywio gwasanaethau yn lleol ac yn genedlaethol, a phwysigrwydd sicrhau bod pawb yn cymryd rhan.

Roedd y gwefannau a'r deunyddiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cofrestrodd dros hanner yr ysgolion cynradd yng Nghymru ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif!, sy'n golygu y cyrhaeddodd y rhaglen dros 122,000 o blant. Cofrestrodd 38.7% o'r ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad, gan gynnwys 81 o ysgolion yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cwblhau'r cyfrifiad yng Nghymru

Cyfraddau ymateb a dull cwblhau

Y gyfradd ymateb gyffredinol ar gyfer cartrefi yng Nghymru oedd 96%, o gymharu â 97% yng Nghymru a Lloegr gyda'i gilydd. Y cyfrannau ar gyfer Cyfrifiad 2011 oedd 93% ac 94%, yn y drefn honno. 

Mae Tabl 2 yn dangos ffigurau cyfraddau ymateb ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, Cymru yn ei chyfanrwydd, a Chymru a Lloegr. Er bod y gyfradd ymateb gyffredinol ychydig yn is yng Nghymru, roedd y cyfraddau yn uchel a'r amrywioldeb yn fach, a gwelwyd cyfraddau ymateb rhwng 94% a 98% ym mhob ardal.

Ceir rhagor o wybodaeth ar gyfer Cymru a Lloegr yn yr adnodd cymharu awdurdodau lleol, sydd ar gael drwy ein tudalen we Measures showing the quality of Census 2021 estimates.

Y gyfran ar-lein o ffurflenni holiadur y cartref yng Nghymru oedd 67.6%. Er bod hyn yn is na'r 90.1% yn Lloegr, mae hyn yn adlewyrchu cyfran y cartrefi mewn ardaloedd "papur yn gyntaf" yng Nghymru i raddau helaeth (gweler "Dosbarthu deunyddiau" yn yr adran Gweithrediadau casglu data).

Mae Tabl 2 yn dangos cyfrannau'r cartrefi ym mhob ardal awdurdod lleol a oedd yn rhai "papur yn gyntaf" (a gafodd holiadur papur), ynghyd â'r cyfraddau cwblhau ar lein ar gyfer y cartrefi hynny ac ar gyfer cartrefi "digidol yn gyntaf" (a gafodd lythyr cyswllt cychwynnol). Roedd y ffigurau ar gyfer Cymru yn ôl y dull cysylltu cychwynnol yn debyg i'r rhai ar gyfer Cymru a Lloegr gyda'i gilydd.

Ar lefel awdurdod lleol, roedd y canrannau cwblhau ar lein rhwng 35.9% a 49.6% ar gyfer cartrefi papur yn gyntaf a rhwng 90.8% a 95.2% ar gyfer rhai digidol yn gyntaf. Roedd mwy o amrywioldeb rhwng ardaloedd llai, lle roedd yr ymatebion ar-lein rhwng 28.6% a 64.4% ar gyfer ardaloedd papur yn gyntaf, a rhwng 85.9% a 99.3% ar gyfer ardaloedd digidol yn gyntaf.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gyfran ar-lein o ffurflenni yn ein cyhoeddiad Designing a digital-first census.

Iaith gwblha

Gallai ymatebwyr yng Nghymru gwblhau'r cyfrifiad yn Gymraeg neu yn Saesneg. Er bod mesur y gyfradd ymateb yn Gymraeg ar gyfer yr holiadur papur yn syml gan fod pobl naill ai wedi cwblhau fersiwn Gymraeg neu fersiwn Saesneg o'r holiadur, mae'r ymateb ar-lein yn fwy cymhleth.

Roedd y gallu i doglo rhwng y Gymraeg a'r Saesneg drwy gydol yr holiadur electronig yn golygu y gallai pobl weld ac ateb cwestiynau mewn ieithoedd gwahanol o fewn un ymateb, a gallai aelodau o gartref gwblhau'r cyfrifiad mewn ieithoedd gwahanol. Er mwyn darparu ffigur y gellir ei gymharu â'r ffigur ar gyfer holiaduron papur, mae Tabl 2 yn cynnwys fel "holiadur Cymraeg" ymatebion ar gyfer y cartrefi hynny a ddefnyddiodd y tudalennau Cymraeg i lansio neu i gyflwyno eu hymateb i'r cyfrifiad, neu'r ddau.

Gwnaeth cyfanswm o 23,500 o gartrefi gwblhau'r cyfrifiad gan ddefnyddio holiadur Cymraeg, sy'n cyfateb i 1.7% o'r ymatebion gan gartrefi yng Nghymru. Roedd rhaniad cyfartal yn fras rhwng y dulliau cwblhau, gyda 12,350 yn gwneud hynny ar lein ac 11,150 yn defnyddio'r holiadur papur. Fodd bynnag, gan mai dim ond un rhan o dair o'r ymatebion i'r cyfrifiad yng Nghymru oedd ar bapur, mae hyn yn golygu bod cyfran yr ymatebion Cymraeg yn uwch ar bapur, gyda 2.6% o holiaduron papur cartrefi yn cael eu cwblhau'n Gymraeg o gymharu ag 1.4% o ymatebion ar-lein. 

Roedd cyfran yr ymatebion Cymraeg yn is nag ar gyfer Cyfrifiad 2011. Yn ein hadroddiad Cynnal y cyfrifiad yng Nghymru (PDF, 365KKB), gwnaethom amcangyfrif bod 3.4% o ffurflenni cartref o Gymru wedi cael eu cwblhau yn Gymraeg erbyn mis Mehefin 2011. Yn 2011, roedd cyfran yr ymatebion Cymraeg yn uwch ar gyfer ymatebion ar-lein nag ar gyfer ymatebion ar bapur: 5% o gymharu â 3%. 

Mae Tabl 2 yn dangos bod cyfran yr ymatebion Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021 wedi amrywio'n sylweddol rhwng ardaloedd awdurdod lleol. Yr awdurdodau lleol â'r gyfran fwyaf o ymatebion Cymraeg oedd y rheini â'r cyfrannau uchaf o breswylwyr arferol 3 oed a throsodd a allai ysgrifennu yn Gymraeg. Y rhain oedd Gwynedd (13.6% o ymatebion Cymraeg); Ynys Môn (6.1%) a Cheredigion (7.1%). Yn y cyfamser, mewn 14 o ardaloedd awdurdod lleol, ymatebodd llai nag 1% o gartrefi gan ddefnyddio'r holiadur Cymraeg.

Mae'n werth nodi bod y ffigurau a nodir yma yn cofnodi ieithoedd ymateb cartref, nid yr ymatebwyr unigol.

Dangosir gallu amrywiol o ran y Gymraeg o fewn cartrefi yn amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y Gymraeg: er bod 23.7% o gartrefi yn cynnwys o leiaf un person a allai siarad Cymraeg, roedd llai na hanner y nifer hwnnw yn cynnwys pobl yr oedd pob un ohonynt yn gallu siarad Cymraeg (9.0%). Ni fyddai ymatebion Cymraeg i'r cyfrifiad a gofnodir yma yn cynnwys cartref lle, er enghraifft, y lansiodd deiliad y cartref yr ymateb yn Saesneg, gwnaeth aelodau eraill o'r cartref ei gwblhau yn Gymraeg, a gwnaeth deiliad y cartref neu'r ymatebydd olaf gyflwyno'r ymateb yn Saesneg.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Sicrhau ansawdd

Aeth Cyfrifiad 2021 drwy broses sicrhau ansawdd drwyadl er mwyn sicrhau:

  • bod y data yn cael eu prosesu'n gywir

  • yr ymdriniwyd â nodweddion annisgwyl y data yn briodol

  • bod yr amcangyfrifon terfynol yn gredadwy yng nghyd-destun y wybodaeth arall sydd ar gael i ni

Roedd y broses sicrhau ansawdd yn cwmpasu'r amcangyfrifon o'r boblogaeth a chanlyniadau'r cyfrifiad ar gyfer pob pwnc a oedd ar holiadur y cyfrifiad.

Am y tro cyntaf, gwnaethom wahodd awdurdodau lleol i gyfrannu at ein prosesau i sicrhau ansawdd yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer eu hardal, gan roi'r cyfle i bob awdurdod lleol a chyrff perthnasol eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weld amcangyfrifon dangosol y cyfrifiad cyn i'r gwaith prosesu data gael ei gwblhau. Roedd hyn yn golygu y gallent ddweud wrthym am unrhyw agwedd ar yr amcangyfrifon hynny lle roedd tystiolaeth arall yn awgrymu bod angen i ni ei hailystyried o fewn ein proses sicrhau ansawdd.

Yn ogystal â chymryd rhan yn y Fenter Gwybodaeth Awdurdodau Lleol, roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhan o sicrhau ansawdd amcangyfrifon Cymru, gan gynnwys gallu yn y Gymraeg. Cafodd canlyniadau'r cyfrifiad eu cymeradwyo i'w cyhoeddi gan banel gweithredol a oedd yn cynnwys yr Ystadegydd Gwladol, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol a oedd yn gyfrifol am y cyfrifiad a Phrif Ystadegydd Cymru, fel rhan o'r broses sicrhau ansawdd.

Ceir rhagor o wybodaeth am brosesu a sicrhau ansawdd ym [mhennod 6 o adroddiad cyffredinol Cyfrifiad 2021]**(ADD LINK WHEN KONWN)**.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Allbynnau

Prif ddatganiadau ystadegol

Nodau strategol allbynnau Cyfrifiad 2021 oedd hyblygrwydd, amseroldeb, hygyrchedd a pherthnasedd. Darparodd y datganiad cyntaf ar 28 Mehefin 2022 amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi'u talgrynnu ar gyfer preswylwyr arferol, ynghyd ag amcangyfrifon yn ôl rhyw a bandiau oedran pum mlynedd, hyd at lefel ardal awdurdod lleol. Cyhoeddwyd yr amcangyfrif o'r boblogaeth wedi'i dalgrynnu ar gyfer Cymru yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf, a ddaeth yn ail yn ymgyrch Gadewch i ni Gyfrif! Cyfrifiad 2021 ar gyfer ysgolion cynradd. Cawsant eu cyflwyno gerbron y Senedd ar yr un diwrnod hefyd.

Cafodd yr amcangyfrifon cyntaf o'r boblogaeth heb eu talgrynnu a data ar nodweddion o Gyfrifiad 2021 eu cyhoeddi mewn crynodebau pwnc. Set o ddata a gefnogir gan fwletinau ystadegol, cynhyrchion rhyngweithiol a gwybodaeth am ansawdd, a drefnir yn ôl thema debyg, yw crynodeb pwnc. Ochr yn ochr â rhyddhau'r crynodeb pwnc cyntaf, gwnaethom hefyd gyhoeddi mesurau ac adnoddau rhyngweithiol yn dangos ansawdd a phroses sicrhau ansawdd data'r cyfrifiad.

Roedd y crynodeb pwnc cyntaf, a gyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2022, yn cynnwys yr amcangyfrifon o'r boblogaeth heb eu talgrynnu. Amcangyfrifodd y rhain mai maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,494. Dyma ffigur mwyaf y boblogaeth a gofnodwyd erioed ar gyfer Cymru ac roedd yn cynrychioli cynnydd o oddeutu 44,000 (1.4%) ers 2011.

Cyhoeddwyd crynodebau pwnc pellach yn cwmpasu'r rhan fwyaf o bynciau a chwestiynau'r cyfrifiad rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ionawr 2023. Cafodd y bwletinau ar gyfer y rhain eu cyhoeddi ar ffurf html (neu ar y we) yn Saesneg ac fel PDF y gellid ei lawrlwytho yn Gymraeg yn y lle cyntaf, ac ychwanegwyd tudalennau html Cymraeg yn ddiweddarach. Roedd y rhan fwyaf o'r bwletinau crynodeb pwnc yn cynnwys crynodeb o'r data fel yr oeddent yn berthnasol i Gymru. Roeddent hefyd yn cysylltu â thudalennau'r set ddata ar wefan y SYG, a oedd yn caniatáu i'r data gael eu lawrlwytho ar gyfer Cymru neu ar gyfer ardaloedd daearyddol llai yng Nghymru (fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol).

Ar gyfer y datganiad pwnc am y Gymraeg ar 2 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y SYG ddatganiad byr (yn Gymraeg ac yn Saesneg), a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru y prif fwletin am y Gymraeg yng Nghymru ar yr un diwrnod. Ar gyfer pynciau eraill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fwletinau ystadegol ar ei thudalen we Y cyfrifiad o'r boblogaeth, gan grynhoi'r prif bwyntiau ar gyfer Cymru ochr yn ochr â'n datganiadau. Ar ôl rhyddhau'r data am y Gymraeg, cyhoeddodd y SYG a Llywodraeth Cymru gynllun gwaith ar y cyd ar gydlyniad ystadegau ar y Gymraeg (gweler yr adran Ansawdd).

Un datblygiad arloesol pwysig ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd yr adnodd Creu set ddata arbennig, a wnaeth y cyfrifiad yn fwy agored i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r data sydd eu hangen arnynt a'u harchwilio. Roedd hyn yn rhan o gynnig cyfunol a oedd hefyd yn cynnwys tablau amlamryweb parod. Roedd y cynhyrchion hyn, ynghyd â'r adnoddau rhyngweithiol a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd ar y cyd â nhw, yn galluogi defnyddwyr i gael gafael ar ystod eang o ddata'r cyfrifiad. O ganlyniad i gymhlethdod creu cynhyrchion dwyieithog, cynhyrchwyd yr adnodd creu set ddata arbennig yn Saesneg yn unig.

Ochr yn ochr â'r cynhyrchion hyn, gwnaethom gyhoeddi amrywiaeth ehangach o wybodaeth am ansawdd a gwybodaeth ategol arall na chyfrifiadau blaenorol. Cafodd dau o'r cyhoeddiadau pwysicaf ymhlith y cyhoeddiadau hyn eu cyhoeddi'n ddwyieithog, sef: Geiriadur Cyfrifiad 2021 a Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Delweddu data

Gwnaed llawer mwy o ddefnydd o ddelweddu data ym mwletinau ystadegol ac erthyglau dadansoddi'r crynodebau pwnc nag yn 2011, gan gynnwys mapiau rhyngweithiol, siartiau, pyramidiau poblogaeth a mapiau gwres.

Gwnaethom hefyd gyhoeddi ystod o gynhyrchion rhyngweithiol annibynnol, gan amrywio o gemau a datganiadau rhannol awtomataidd, fel y gallai defnyddwyr ddod o hyd i ddata'r cyfrifiad ar gyfer ardaloedd penodol. O ganlyniad i gymhlethdod creu cynhyrchion dwyieithog, cynhyrchwyd y rhain yn Saesneg yn unig.

Roedd cynhyrchion rhyngweithiol Cyfrifiad 2021 yn cynnwys:

Gwaith dadansoddi

Cynhyrchodd rhaglen ddadansoddi'r cyfrifiad set gynhwysfawr o ymchwil a daflodd oleuni ar bynciau polisi cyhoeddus. Erbyn diwedd 2023, roeddem wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau dadansoddi. 

Roedd y cyhoeddiadau hyn yn seiliedig ar ddata amlamryweb, gan amrywio o ddadansoddiadau o boblogaethau a gwmpaswyd gan y crynodebau pwnc yn ôl oedran a rhyw i broffil o bobl canmlwydd oed yng Nghymru a Lloegr, a newidynnau a gyfrifwyd o ddata'r cyfrifiad, fel gorlenwi a thanfeddiannu. Roedd yr ystod ehangach hon o ddadansoddiadau yn cynnwys erthyglau ar grwpiau gwahanol o'r boblogaeth, fel gofalwyr di-dâl, cyn-filwyr lluoedd arfog y DU neu grwpiau wedi'u diffinio yn ôl grŵp ethnig, crefydd neu'r ddau (fel y rhai a nododd eu bod yn Sicaidd, yn Iddewig neu'n Somalïaidd)

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, gwnaethom flaenoriaethu i'w cyhoeddi yn Gymraeg yr erthyglau hynny a oedd yn ymwneud â'r Gymraeg, ail gartrefi, hunaniaeth genedlaethol a phynciau penodol eraill.

Roedd y cyhoeddiadau a oedd ar gael yn ddwyieithog y cynnwys:

Yn ogystal â'r bwletinau a gyhoeddwyd gan y SYG ar Gymru ochr yn ochr â'n crynodebau pwnc, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiadau dadansoddi hefyd, gan weithio'n agos gyda'r SYG.

Cyhoeddwyd y rhain ar dudalen we Y cyfrifiad o'r boblogaeth Llywodraeth Cymru ac roeddent yn cynnwys: 

  • y Gymraeg yn ôl nodweddion y boblogaeth (gan gynnwys grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd y farchnad lafur ac iechyd)

  • cyfansoddiad cartrefi yng Nghymru o ran y Gymraeg

  • dadansoddiad o ganlyniadau pobl anabl mewn iechyd, tai, addysg a statws economaidd ar draws grwpiau ethnig, ar gyfer pobl anabl, ac yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd

  • dadansoddiad o ail gartrefi a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau a nodweddion y boblogaeth yn ôl amddifadedd ardal

Microdata ar gyfer addysg ac ymchwil

Yn ogystal â chyhoeddi amcangyfrifon o Gyfrifiad 2021, mae'r SYG yn darparu samplau o ddata'r cyfrifiad at ddibenion ymchwil ac addysgol, wrth sicrhau bod data personol yn cael eu cadw'n ddiogel, gan gynnwys drwy samplau microdata a'r Astudiaeth Hydredol hirsefydlog. Rydym hefyd yn darparu data dad-adnabyddedig o'r cyfrifiad ar lefel cofnodion i ymchwilwyr achrededig neu gymeradwy drwy'r cyfleusterau cysylltu data diogel a ffefrir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r ddau wedi'u hachredu o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 a dim ond ymchwilwyr achrededig all eu defnyddio. 

Y cyfleuster a ffefrir gan Lywodraeth y DU yw'r Gwasanaeth Data Integredig, sef menter drawslywodraethol newydd lle mae'r SYG yn gweithredu fel y prif gyflenwr, a ddisgrifir yn Adran 8.6 o adroddiad cyffredinol Cyfrifiad 2021. Adnodd ymchwil yw Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) sy'n canolbwyntio ar wella iechyd, llesiant a gwasanaethau a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Llywodraeth Cymru. 

Roedd data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru ar gael ym Manc Data SAIL ym mis Chwefror 2024 i ymchwilwyr, gan olygu y gellid cysylltu data Cyfrifiad 2021 â data dad-adnabyddedig eraill yn yr amgylchedd ymchwil dibynadwy. 

Mae Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel y SYG yn gweithredu ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Data Integredig ar hyn o bryd. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil Ddiogel yn rhoi mynediad diogel i ymchwilwyr achrededig neu gymeradwy at ddata dad-adnabyddedig nad ydynt wedi'u cyhoeddi er mwyn gweithio ar brosiectau ymchwil er budd y cyhoedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Ansawdd

Mae Pennod 7 o adroddiad cyffredinol Cyfrifiad 2021 yn disgrifio'r mesurau ansawdd ar gyfer data Cyfrifiad 2021, gan gynnwys cyfraddau ymateb a chyfyngau hyder. Fel y dangosir yn Nhabl 2, y gyfradd ymateb ar gyfer Cymru oedd 96%, a oedd yn uwch na'r targed sef 94%, ac roedd cyfradd ymateb pob awdurdod lleol yng Nghymru dros 94%, gan ragori ar y targed unwaith eto, sef 80% ar gyfer pob awdurdod lleol.

Mesur ystadegol o ansicrwydd yw cyfyngau hyder. Roedd gan ein cyfwng hyder 95% derfyn isaf o 0.16% islaw'r amcangyfrif o boblogaeth Cymru a Lloegr a therfyn uchaf o 0.07% uwchlaw'r amcangyfrif. Roedd hyn yn bendant o fewn ein targed o blws neu finws 0.2% ac roedd lled cyffredinol y cyfwng yn gulach nag yn 2011. 

Ar gyfer Cymru, lled y cyfwng hyder oedd 0.82%, a oedd ychydig yn lletach nag ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau yn Lloegr. Roedd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru gyfyngau hyder a oedd yn gulach na'r lled targed, sef 6%. Ar gyfer 15 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd y lled yn llai na 3%. Ceir cyfyngau hyder ar gyfer awdurdodau lleol unigol yn Measures showing the quality of Census 2021 estimates.

Cynllun gwaith ar y cyd ar gyfer gallu yn y Gymraeg

Roedd amcangyfrif Cyfrifiad 2021 bod 17.8% o bobl tair oed neu'n hŷn a oedd yn byw yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg yn ostyngiad o 1.2 pwynt canran ers Cyfrifiad 2011.

I'r gwrthwyneb, roedd amcangyfrifon ar siaradwyr Cymraeg tair oed a throsodd yng Nghymru a gynhyrchwyd o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, 3.4 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2011. Amcangyfrifodd yr Arolwg hefyd fod cyfran lawer fwy o'r boblogaeth tair oed a throsodd yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg (29.2% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021).

Mae gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o ran gallu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon o gartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn fater hirsefydlog, ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) a Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i resymau posibl dros rai o'r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er bod arolygon o gartrefi yn darparu amcangyfrifon uwch o ran gallu yn y Gymraeg fel rheol, dyma'r tro cyntaf i'r cyfrifiad amcangyfrif niferoedd gostyngol o siaradwyr Cymraeg ac i'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth amcangyfrif niferoedd cynyddol o siaradwyr Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am allu'r boblogaeth yng Nghymru yn y Gymraeg. Mae'n defnyddio data'r cyfrifiad i fonitro cynnydd yn erbyn ei nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ac roedd am ddeall mwy am y gwahaniaethau hirsefydlog hyn rhwng y cyfrifiad a ffynonellau data eraill. 

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a'r SYG gynllun gwaith ar y cyd ar gydlyniad ystadegau ar y Gymraeg, gan amlinellu rhaglen ymchwil i ddadansoddi'r gwahaniaethau hyn ac o bosibl wneud argymhellion ar y broses o gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg yn y dyfodol. Mae'r rhaglen waith hon yn cynnwys sawl prosiect gwaith, gan gynnwys ymchwil feintiol ac ansoddol.

Cyhoeddwyd canfyddiadau cyntaf y cynllun gwaith ym mis Hydref 2023, a ystyriodd ymatebion cysylltiol a dad-adnabyddedig unigolion a oedd wedi cwblhau'r Arolwg o'r Llafurlu o gwmpas yr adeg y cynhaliwyd Cyfrifiad 2021. Mae gwaith ar brosiectau ymchwil y cynllun gwaith ar y cyd nas cwblhawyd eto wedi parhau yn 2024 a 2025, ynghyd ag ymchwil ar y cyd i ddarparu ystadegau Cymraeg fel rhan o'n gwaith ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo (gweler pennod 11 yn yr adroddiad cyffredinol ar Gyfrifiad 2021).

Nôl i'r tabl cynnwys