Gallwch weld beth rydym yn bwriadu ei gyhoeddi ar y calendr datganiadau (yn Saesneg).
Crynodebau pwnc
Set o ddata a gwybodaeth ategol, a drefnir yn ôl thema debyg, yw crynodeb pwnc. Bydd y mwyafrif o'r setiau data a gaiff eu rhyddhau gennym fel rhan o bob crynodeb pwnc yn cynnwys data am un newidyn yn unig.
Caiff y tudalennau canlynol eu diweddaru â'r data a'r wybodaeth ategol berthnasol pan gaiff y crynodeb pwnc hwnnw ei gyhoeddi. Cyfeiriwch at y calendr datganiadau i ddysgu mwy am ddyddiadau cyhoeddi.
Y crynodebau pwnc arfaethedig o ran trefn cyhoeddi yw:
Mae'r drefn wedi newid ychydig o'n hymateb cychwynnol i'r ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021. Gan fod ein hamserlen yn cael ei chynllunio yn unol ag anghenion defnyddwyr, mae'n bosibl y caiff ei newid yn barhaus. Yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau (Saesneg yn unig), byddwn yn cadarnhau'r dyddiadau cyhoeddi terfynol ar y calendr datganiadau bedair wythnos ymlaen llaw, lle y bo'n bosibl.
Bydd pob un o'r setiau data hyn yn cynnwys gwybodaeth am boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr. Ni fydd y setiau data hyn yn cynnwys cyfansymiau nac is-gyfansymiau.
Yn y lle cyntaf, ein nod yw darparu'r setiau data crynodeb pwnc hyd at lefel Ardal Gynnyrch lle bo mesurau rheoli datgelu ystadegol yn caniatáu hynny. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol, rydym yn bwriadu darparu'r setiau data hyn ar gyfer ardaloedd daearyddol eraill, gan ddefnyddio dull ffit orau Ardal Gynnyrch. Ardaloedd Cynnyrch yw'r ardaloedd daearyddol lleiaf y bydd allbynnau safonol ar gael ar eu cyfer. Fel rheol mae'r rhain yn cynnwys tua 100 o gartrefi.
Proffiliau ardal
Mae proffiliau ardal yn galluogi defnyddwyr i weld ystadegau o bynciau gwahanol ar gyfer ardal benodol. Mae'r rhain hefyd yn galluogi defnyddwyr i gymharu ystadegau lleol ar gyfer ardal ag ystadegau cenedlaethol.
Rydym wedi creu'r proffiliau ardal dynamig hyn gan ddefnyddio data o'r crynodebau pwnc. Wrth i ni ryddhau mwy o ddata o'r crynodebau pwnc dros amser, bydd y proffiliau ardal yn datblygu er mwyn galluogi defnyddwyr i weld mwy o ystadegau ar gyfer ardal benodol.
Byddwn yn darparu proffiliau ardal ar gyfer amrywiaeth o fathau o ardaloedd dros amser. Gallwch chiweld proffiliau ardal ar wefan Nomis.
Y newidynnau a'r dosbarthiadau sydd i'w cynnwys
Rydym wedi nodi'r newidynnau a'r dosbarthiadau rydym yn bwriadu eu cynnwys yn y crynodebau pwnc yn nhabiau cyfatebol y Daenlen manylebau ar gyfer crynodebau pwnc
Rydym wrthi'n cwblhau'r manylebau hyn. Mae'r daenlen hon yn cynrychioli ein cynlluniau ym mis Gorffennaf 2022 a byddwn yn ei diweddaru yn ystod haf 2022 wrth i ragor o wybodaeth gael ei chadarnhau.
Ble i ddod o hyd i'r data
Byddwn yn cyhoeddi setiau data crynodebau pwnc a phroffiliau ardal ar wefan SYG. Bydd setiau data crynodebau pwnc ar gael ar wefan Nomis hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein cynlluniau ar gyfer crynodebau pwnc a phroffiliau ardal Cyfrifiad 2021, cysylltwch â ni yn census.outputs@ons.gov.uk.
Related downloads
- Topic summaries specifications spreadsheet (181.1 kB xlsx)