1. Prif bwyntiau
Ardaloedd adeiledig sylweddol oedd â'r poblogaethau ieuengaf, gydag oedran canolrifol o 34 oed yng Nghymru ac yn Lloegr (heb gynnwys Llundain).
Roedd cyfran y preswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig yn cynyddu wrth i ddosbarthiad maint yr ardal adeiledig gynyddu, gyda'r cyfrannau uchaf yn byw mewn ardaloedd adeiledig sylweddol yng Nghymru (16.7%) ac yn Lloegr (heb gynnwys Llundain) (22.9%).
Cartrefi mewn ardaloedd adeiledig sylweddol oedd â'r lefelau isaf o bobl a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl yng Nghymru (28.4%) ac yn Lloegr (heb gynnwys Llundain) (25.9%) .
Ardaloedd adeiledig sylweddol oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd â chymwysterau Lefel 4 neu uwch yng Nghymru (39.4%), ond mân ardaloedd adeiledig oedd â'r gyfran uchaf yn Lloegr (heb gynnwys Llundain) (34.3%).
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), mân ardaloedd adeiledig oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn gweithio fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (16.2%).
Yng Nghymru, roedd dros chwarter y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn ardaloedd adeiledig sylweddol yn gweithio mewn galwedigaethau proffesiynol (26.5%).
2. Ardaloedd adeiledig
Ardaloedd daearyddol sy'n seiliedig ar yr amgylchedd adeiledig ffisegol yw ardaloedd adeiledig, gan ddefnyddio delweddau o loerennau i adnabod tir sydd wedi'i ddatblygu, fel dinasoedd, trefi a phentrefi. Mae hyn yn golygu bod modd ymchwilio i ystadegau economaidd a chymdeithasol yn seiliedig ar aneddiadau gwirioneddol lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw.
Caiff ardaloedd adeiledig eu dosbarthu yn ôl maint y boblogaeth fel mân, bach, canolig, mawr neu sylweddol, a chaiff nodweddion eu harchwilio gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
Ystod poblogaeth (Y boblogaeth breswyl arferol) | Dosbarthiad maint ardal adeiledig | Math o anheddiad yn fras |
---|---|---|
0-4,999 | Mân | pentrefan neu bentref |
5,000-19,999 | Bach | pentref mwy / tref fach |
20,000-74,999 | Canolig | trefi canolig |
75,000-199,999 | Mawr | trefi mawr / dinasoedd llai |
200,000+ | Sylweddol | dinasoedd |
Download this table Tabl 1: Dosbarthiad maint ardal adeiledig
.xls .csvNid oes modd cymharu'r data yn yr erthygl hon yn uniongyrchol â data Cyfrifiad 2011 oherwydd bod y dull ar gyfer cynhyrchu ardaloedd adeiledig wedi newid. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adran 10: Ansawdd a ffynonellau data.
Yn 2021, roedd 7,018 o ardaloedd adeiledig. Ymhlith y rhain, roedd 579 o ardaloedd adeiledig yng Nghymru a 6,439 yn Lloegr (gan gynnwys 33 yn Llundain). Yng Nghymru a Lloegr, roedd 56,366,690 o bobl yn byw mewn ardaloedd adeiledig (94.6% o'r boblogaeth).
Roedd cyfran y bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd adeiledig yn 88.0% yng Nghymru a 94.9% yn Lloegr. Yr ardaloedd adeiledig mwyaf yn ôl poblogaeth oedd Caerdydd (348,535 o bobl) yng Nghymru, a Birmingham (1,121,375 o bobl) yn Lloegr (heb gynnwys Llundain).
Yn 2021, roedd ardaloedd adeiledig yn cwmpasu 4.4% o Gymru (tua 93,000 o hectarau) ac 11.0% o Loegr (1.5 miliwn o hectarau).
Ar gyfer gweddill ein dadansoddiad, rydym wedi dileu'r 33 o ardaloedd adeiledig yn Llundain. Mae hyn oherwydd yn Llundain Fwyaf, nid yw'r dull ar gyfer nodi ardaloedd adeiledig yn cydnabod aneddiadau unigol yn yr un ffordd. Yn hytrach, mae'n darparu data yn ôl ffiniau bwrdeistrefi Llundain.
I gael rhagor o wybodaeth am Lundain, gweler ein hadnodd ar gyfer creu set ddata arbennig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 neu ein tudalennau gwe ar gyfer Crynodebau pwnc, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 a Mapiau'r Cyfrifiad, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Ffigur 1: Archwilio nodweddion poblogaeth ardaloedd adeiledig unigol
Cyfrifon ac oedran canolrifol y boblogaeth breswyl arferol, yn ôl ardal adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Nôl i'r tabl cynnwys3. Oedran a rhyw
Wrth i ddosbarthiad maint ardal adeiledig gynyddu, mae oedran y boblogaeth yn tueddu i ostwng yng Nghymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain).
Ffigur 2: Mae gan ardaloedd adeiledig mwy o faint boblogaethau iau
Pyramidiau poblogaeth ar gyfer preswylwyr arferol sy'n byw mewn ardaloedd adeiledig, yn ôl dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd gan fân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig bach gyfrannau mwy o bobl dros 50 oed o gymharu ag ardaloedd adeiledig o ddosbarthiadau maint eraill. Roedd gan ardaloedd adeiledig mawr a sylweddol gyfrannau mwy o bobl o oedran gweithio, gyda brig yn y grŵp ar gyfer pobl 30 i 34 oed. Yng Nghymru, roedd gan ardaloedd adeiledig sylweddol a mawr boblogaethau iau ar y cyfan, gyda brig yn y grŵp ar gyfer pobl 20 i 24 oed.
Ffigur 3: Archwilio pyramidiau poblogaeth ardaloedd adeiledig unigol
Pyramidiau poblogaeth ar gyfer preswylwyr arferol sy'n byw mewn ardaloedd adeiledig, yn ôl ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Dosbarthiad maint ardal adeiledig | Oedran canolrifol - Lloegr (heb gynnwys Llundain) | Oedran canolrifol - Cymru |
---|---|---|
Mân | 48 | 47 |
Bach | 44 | 42 |
Canolig | 41 | 41 |
Mawr | 38 | 38 |
Sylweddol | 34 | 34 |
Download this table Tabl 2: Oedran canolrifol yn ôl dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
.xls .csvYmhlith ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), Barton-on-Sea oedd yr ardal adeiledig â'r oedran canolrifol uchaf (65 oed). Caergaint a Stoke Gifford, sy'n ardaloedd â phoblogaethau mawr o fyfyrwyr, oedd yr ardaloedd adeiledig â'r oedran canolrifol isaf (27 oed).
Ymhlith ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol yng Nghymru, Porthcawl, a oedd yn cynnwys cyfran uchel o breswylwyr hŷn (64 oed a throsodd), oedd yr ardal adeiledig â'r oedran canolrifol uchaf (54 oed). Tref prifysgol Aberystwyth oedd yr ardal adeiledig â'r oedran canolrifol isaf (24 oed).
Nôl i'r tabl cynnwys4. Gwlad enedigol
Yng Nghymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd cyfran y bobl a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cynyddu wrth i faint yr ardal adeiledig gynyddu. Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd hyn yn amrywio o 6.4% o bobl a oedd yn byw mewn mân ardaloedd adeiledig a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig (400,750 o bobl) i 22.9% o'r rheini a oedd yn byw mewn ardaloedd adeiledig sylweddol (1,873,100 o bobl). Yng Nghymru, roedd hyn yn amrywio o 3.9% o bobl a oedd yn byw mewn mân ardaloedd adeiledig (25,075 o bobl) i 16.7% o bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd adeiledig sylweddol (58,230 o bobl).
Ffigur 4: Roedd y rheini a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd adeiledig mwy
Canran y preswylwyr arferol yn ôl gwlad enedigol a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Tai
Math o gartref
Ar y cyfan, wrth i ddosbarthiad maint ardaloedd adeiledig gynyddu, mae cyfrannau'r cartrefi sy'n byw mewn fflat neu maisonette ac eiddo teras yn cynyddu.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd 7.3% o gartrefi (208,555 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig yn byw mewn fflat neu maisonette. Roedd hyn yn cynyddu i 27.6% (955,345 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol. Roedd cyfran y cartrefi a oedd yn byw mewn eiddo teras yn amrywio o 16.9% (486,000 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig i 28.8% (997,155 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol.
Yng Nghymru, roedd cyfran y cartrefi a oedd yn byw mewn fflat neu maisonette yn amrywio o 8.7% (27,605 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig i 27.9% (41,750 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol. Roedd cyfran y cartrefi a oedd yn byw mewn eiddo teras yn amrywio o 24.2% (77,170 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig i 29.9% (44,780 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol.
I'r gwrthwyneb, mae cyfran y cartrefi sy'n byw mewn eiddo ar wahân yn gostwng wrth i ddosbarthiad maint yr ardal adeiledig gynyddu. Gwelwyd hyn yng Nghymru ac yn Lloegr (heb gynnwys Llundain). Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), gostyngodd hyn o 42.4% (1,217,090 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig i 11.3% (390,495 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol. Yng Nghymru, gostyngodd y gyfran hon o 35.0% (111,390 o gartrefi) mewn mân ardaloedd adeiledig i 12.8% (19,155 o gartrefi) mewn ardaloedd adeiledig sylweddol.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), Derby (24.9%) a Northampton (22.0%) oedd yr ardaloedd adeiledig sylweddol â'r gyfran fwyaf o gartrefi a oedd yn byw mewn eiddo ar wahân. Yn Kingston-Upon-Hull (46.6%) a Portsmouth (40.8%) y gwelwyd y cyfrannau mwyaf o bobl a oedd yn byw mewn eiddo teras.
Roedd dros hanner y cartrefi yn Salford (53.5%), Brighton a Hove (51.9%), a Bournemouth (50.7%) yn byw mewn fflat neu maisonette.
Yng Nghymru, mewn ardaloedd adeiledig sylweddol y gwelwyd y gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn byw mewn fflat neu maisonette (27.9%).
Roedd dros 4 o bob 10 cartref yn byw mewn fflat neu maisonette yn Llandudno (43.5%), a thros un rhan o dair yn Aberystwyth (37.9%) a Phenarth (35.7%).
Ffigur 5: Roedd cartrefi mewn ardaloedd adeiledig llai yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo ar wahân
Canran y cartrefi yn ôl y math o gartref a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Deiliadaethol
Ystyr deiliadaeth yw p'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.
Yng Nghymru ac yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), wrth i ddosbarthiad maint yr ardal adeiledig gynyddu, mae cyfran y cartrefi sy'n berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl yn lleihau ac mae rhentu yn cynyddu yn gyffredinol.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd ardaloedd adeiledig mawr â'r gyfran uchaf o gartrefi mewn eiddo roeddent yn berchen arnynt yn gyfan gwbl yn cynnwys Solihull (42.7%), Royal Sutton Coldfield (42.4%) a Southport (40.3%), yr oedd pob un ohonynt dros 10 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y grŵp ar gyfer ardaloedd adeiledig mawr (29.7%).
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd gan Formby gyfradd uchel iawn o gartrefi a oedd yn berchen ar eu heiddo yn gyfan gwbl ymhlith ardaloedd adeiledig canolig, sef dros hanner y boblogaeth (55.3%).
Ymhlith ardaloedd adeiledig mawr yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), yn Salford (41.2%) y gwelwyd y gyfran uchaf o bobl mewn cartrefi a oedd yn byw mewn eiddo wedi'i rentu'n breifat neu'n byw yn rhywle heb dalu rhent.
Ymhlith ardaloedd adeiledig canolig yng Nghymru, yng Nghastell-nedd (38.6%) y gwelwyd y gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn berchen ar eu heiddo yn gyfan gwbl, ac yn y Rhyl (26.1%) y gwelwyd y gyfran uchaf a oedd yn byw mewn eiddo wedi'i rentu'n breifat neu'n byw yn rhywle heb dalu rhent.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd cynnydd yng nghyfran y cartrefi a oedd yn byw mewn eiddo wedi'u rhentu'n gymdeithasol wrth i ddosbarthiad maint yr ardal adeiledig gynyddu. Roedd y cyfrannau uchaf o bobl a oedd yn byw mewn eiddo wedi'u rhentu'n gymdeithasol mewn ardaloedd adeiledig mawr a sylweddol (18.3% a 22.1%, yn y drefn honno). Roedd gan Wythenshawe bron ddwywaith cyfartaledd y grŵp ar gyfer ardaloedd adeiledig mawr (36.4% o gymharu ag 18.3%).
Gwelwyd patrwm tebyg yng Nghymru, heblaw bod gan ardaloedd adeiledig mawr gyfran uwch mewn tai wedi'u rhentu'n gymdeithasol nag ardaloedd adeiledig sylweddol (21.9% o gymharu ag 17.4%).
Ffigur 6: Ardaloedd adeiledig sylweddol oedd â'r lefelau isaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl
Canran y cartrefi yn ôl y deiliadaeth a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Nôl i'r tabl cynnwys6. Cymwysterau
Mae'r dadansoddiad hwn yn ystyried cymhwyster uchaf preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn dosbarthiadau maint ardaloedd adeiledig. Gallai llawer o ffactorau fod yn gyfrifol am wahaniaethau mewn cymwysterau, gan gynnwys proffil oedran yr ardal adeiledig. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl How qualification levels across England and Wales differ by country of birth.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), mân ardaloedd adeiledig oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd â chymwysterau lefel 4 neu uwch (34.3%). Mae cymwysterau lefel 4 neu uwch yn cynnwys tystysgrif genedlaethol uwch, diploma cenedlaethol uwch, gradd baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig.
Ym mhob ardal adeiledig o ddosbarthiad maint arall, roedd gan oddeutu 30% o breswylwyr gymwysterau lefel 4 neu uwch.
Mewn ardaloedd adeiledig canolig, roedd gan Harpenden, yn ardal gymudo Llundain, dros ddwywaith cyfartaledd y grŵp o bobl â chymwysterau lefel 4 neu uwch (60.5% o gymharu â 29.8%). Mewn ardaloedd adeiledig mawr, roedd gan dros hanner y bobl yn St Albans (56.7%) a Chaergrawnt (55.8%) gymwysterau lefel 4 neu uwch, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig mawr (31.1%).
Ffigur 7: Roedd pobl oedd â'r cymwysterau uchaf yn byw mewn ardaloedd adeiledig sylweddol yng Nghymru a mân ardaloedd adeiledig yn Lloegr (heb gynnwys Llundain)
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl y lefel uchaf o gymhwyster a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Ar y cyfan, yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), mae cyfran y bobl heb unrhyw gymwysterau yn cynyddu wrth i ddosbarthiad maint yr ardal adeiledig gynyddu.
Mewn ardaloedd adeiledig mawr yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), Bradford oedd â'r gyfran uchaf o bobl heb unrhyw gymwysterau (28.4%), bron 8 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y grŵp (20.6%). Roedd gan Oldham a West Bromwich gyfrannau uwch o bobl heb unrhyw gymwysterau na'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig mawr, sef 18.9% (31.0% a 29.2%, yn y drefn honno).
Yn wahanol i Loegr (heb gynnwys Llundain), ardaloedd adeiledig sylweddol yng Nghymru oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr â chymwysterau lefel 4 neu uwch (39.4%). Ym mhob ardal adeiledig o ddosbarthiad maint arall, roedd gan oddeutu 30% o breswylwyr gymwysterau lefel 4 neu uwch. Roedd gan Benarth a Chaerdydd rai o'r cyfrannau uchaf o breswylwyr â chymwysterau lefel 4 neu uwch (48.6% a 39.4%, yn y drefn honno).
Dim ond mewn pum ardal adeiledig fach yr oedd gan fwy na 40% o'r boblogaeth gymwysterau lefel 4 neu uwch. Roedd y rhain yn cynnwys Pont-y-clun (45.1%), Tŷ-du (44.4%), Gwndy a Magwyr (41.8%), Caerllion (41.5%) and Dinas Powys (41.4%), y mae pob un ohonynt o fewn pellter cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd.
Ymhlith ardaloedd adeiledig canolig, Port Talbot a Merthyr Tudful oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl heb unrhyw gymwysterau yng Nghymru (28.3% a 27.6%, yn y drefn honno). Mae'r rhain tua 6 phwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig canolig (21.8%).
Ffigur 8: Archwilio cymwysterau mewn ardaloedd adeiledig unigol
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl y lefel uchaf o gymhwyster, ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Nôl i'r tabl cynnwys7. Cyflogaeth
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg. Bydd hyn wedi effeithio ar bwnc y farchnad lafur.
Yn yr erthygl hon, mae cyflogaeth yn cyfeirio at bobl 16 oed a throsodd sy'n weithgar yn economaidd ac mewn gwaith, naill ai fel gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adran 9: Geirfa.
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd 56.6% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn byw mewn ardal adeiledig mewn gwaith (20,673,055 o bobl). Ardaloedd adeiledig bach, canolig a mawr oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl mewn gwaith (57.1%, 57.5% a 57.7%, yn y drefn honno), a mân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig sylweddol oedd â'r gwerthoedd isaf (55.9% a 54.2%, yn y drefn honno).
Ymysg yr ardaloedd adeiledig sylweddol â'r cyfrannau mwyaf o bobl mewn gwaith roedd Northampton (63.5%), Reading (62.6%) a Bryste (61.2%).
Ymysg yr ardaloedd adeiledig mawr a sylweddol lle roedd llai na hanner y boblogaeth 16 oed a throsodd mewn gwaith roedd Oldham (47.9%), Nottingham (48.5%), Birmingham (49.4%), Middlesbrough (49.4%) a Bradford (49.7%).
Yng Nghymru, roedd 53.2% o'r rheini a oedd yn byw mewn ardal adeiledig mewn gwaith (1,193,155 o bobl), a gwelwyd cyfrannau tebyg mewn ardaloedd adeiledig o bob dosbarthiad maint (52.2% i 53.9%).
Penarth oedd â'r gyfran uchaf o bobl mewn gwaith ymhlith ardaloedd adeiledig canolig, mawr a sylweddol (59.2%). Ymysg yr ardaloedd adeiledig canolig a mawr â'r lefelau isaf o gyflogaeth roedd y Rhyl (48.2%), Abertawe (48.8%), Port Talbot (49.0%) a Bae Colwyn (49.7%).
Ffigur 9: Archwilio cyflogaeth mewn ardaloedd adeiledig unigol
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl statws cyflogaeth, ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Diwydiant
Mae'r dadansoddiad hwn yn ystyried y diwydiannau eang mwyaf cyffredin a oedd yn cyflogi'r niferoedd mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn ardaloedd adeiledig. Noder bod y dadansoddiad hwn wedi’u seilio ar gyfeiriad preswyl gweithwyr ac nid leoliad eu gweithle.
Mewn mân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig bach, o gymharu ag ardaloedd adeiledig mwy, roedd cyfrannau uwch o bobl yn gweithio yn y diwydiannau canlynol yn Lloegr (heb gynnwys Llundain) fel arfer:
adeiladu
gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn
nawdd cymdeithasol gorfodol
amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
Yng Nghymru, mewn mân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig bach, o gymharu ag ardaloedd adeiledig mwy, roedd cyfrannau uwch yn gweithio yn y diwydiannau canlynol fel arfer:
adeiladu
amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
Yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd gan rai ardaloedd adeiledig unigol gyfrannau arbennig o uchel o bobl a oedd yn gweithio yn y diwydiannau canlynol:
roedd gan Boston a Spalding yn Swydd Lincoln gyfrannau uchel o bobl a oedd wedi'u cyflogi ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota (4.4% a 3.4%, yn y drefn honno), o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig canolig (0.4%)
roedd gan sawl ardal adeiledig yn Cumbria gyfrannau uchel o bobl a oedd yn gweithio ym maes cyflenwi dŵr: carthffosiaeth, rheoli dŵr gwastraff ac adfer, gan gynnwys Whitehaven (21.1%), Cleator Moor (20.8%) ac Egremont (19.9%)
roedd cyfrannau uchel o bobl wedi'u cyflogi ym maes cludo a storio yn Felixstowe (22.5%), Crawley (12.8%), Slough (11.4%), Rugby (11.2%) a Luton (10.7%); i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl The rise of the UK warehouse and the "golden logistics" triangle.
roedd gan Reading gyfran uchel o bobl a oedd wedi'u cyflogi ym maes gwybodaeth a chyfathrebu (12.2%), bron deirgwaith y cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig sylweddol (4.1%)
roedd crynodiad o ardaloedd adeiledig â chyfrannau uchel o bobl a oedd wedi'u cyflogi ym maes gwybodaeth a chyfathrebu yn Ne-ddwyrain Lloegr a Dwyrain Lloegr (heb gynnwys Llundain), yn enwedig o gwmpas Llundain
roedd dros 1 o bob 10 gweithiwr yng Nghaergrawnt (14.1%), St Albans (13.0%), Caerfaddon (10.6%) a Guildford (10.1%) wedi'u cyflogi mewn gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
Yng Nghymru, dangosodd gwaith i ddadansoddi ardaloedd adeiledig unigol fod cyfrannau uchel o bobl yn gweithio yn y diwydiannau canlynol:
roedd bron ddwywaith cymaint o bobl wedi'u cyflogi ym maes gweithgynhyrchu yn Wrecsam (19.1%) na'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig canolig (9.9%)
roedd gan Landudno ac Aberystwyth gyfrannau uchel o bobl a oedd wedi'u cyflogi ym maes llety a gweithgareddau gwasanaethau bwyd (15.9% ac 11.2%, yn y drefn honno), dros ddwbl y cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig bach (5.0%)
roedd cyfrannau uchel o bobl wedi'u cyflogi ym maes iechyd pobl a gweithgareddau gwaith cymdeithasol yn y Rhyl (23.2%), Bae Colwyn (19.9%) a Llanelli (19.9%), o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer ardaloedd adeiledig canolig (17.7%)
roedd gan Aberystwyth gyfran uchel o bobl a oedd yn gweithio ym maes addysg (18.1%), bron ddwywaith cyfartaledd y grŵp ar gyfer ardaloedd adeiledig bach (9.1%), sy'n adlewyrchu dylanwad y brifysgol ar gyflogaeth leol mae'n debyg
Ffigur 10: Archwilio diwydiant mewn ardaloedd adeiledig unigol
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl diwydiant, ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Galwedigaeth
Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd am deitl llawn eu swydd (ar gyfer eu prif swydd neu, os nad oeddent yn gweithio, eu prif swydd ddiwethaf).
O gymharu ag ardaloedd adeiledig llai yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd cyfrannau uwch o bobl mewn galwedigaethau elfennol mewn ardaloedd adeiledig mwy, fel:
galwedigaethau gofalu a hamdden, a galwedigaethau gwasanaethau eraill
gweithredwyr prosesau a pheiriannau
galwedigaethau gwerthiannau a gwasanaethau cwsmeriaid
O gymharu ag ardaloedd adeiledig mwy yn Lloegr (heb gynnwys Llundain), roedd cyfrannau uwch o bobl mewn mân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig bach wedi'u cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion, ac mewn galwedigaethau crefftau medrus.
Mewn ardaloedd adeiledig sylweddol yng Nghymru, roedd dros chwarter y bobl wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol (26.5%).
Mewn mân ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig bach yng Nghymru, roedd cyfrannau uwch o bobl wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau crefftau medrus, ac mewn galwedigaethau gofalu a hamdden a galwedigaethau gwasanaethau eraill, o gymharu ag ardaloedd adeiledig mwy.
Ffigur 11: Mewn mân ardaloedd adeiledig yn Lloegr (heb gynnwys Llundain) yr oedd rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion fwyaf tebygol o fyw
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl galwedigaeth a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Download the data
Ffigur 12: Roedd dros chwarter y bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd adeiledig sylweddol yng Nghymru yn gweithio mewn galwedigaethau proffesiynol
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl galwedigaeth a dosbarthiad maint yr ardal adeiledig, Cymru, 2021
Embed code
Download the data
Roedd cyfrannau uchel o bobl yn gweithio mewn galwedigaethau elfennol yn Shotton (21.1%) yng Nghymru, ac yn Goole (26.4%) a Shirebrook (26.4%) yn Lloegr (heb gynnwys Llundain).
Roedd ardaloedd adeiledig â chyfrannau uchel o alwedigaethau proffesiynol yn cynnwys Penarth (30.8%) a Phont-y-clun (30.8%) yng Nghymru a Chaergrawnt (42.2%) yn Lloegr (heb gynnwys Llundain).
Ffigur 13: Archwilio galwedigaeth mewn ardaloedd adeiledig unigol
Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yn ôl galwedigaeth, ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), 2021
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r ffigur hwn yn cynnwys ardaloedd adeiledig bach, canolig, mawr a sylweddol.
Download the data
Nôl i'r tabl cynnwys8. Trefi a dinasoedd, nodweddion ardaloedd adeiledig, Cymru a Lloegr: Data Cyfrifiad 2021
Trefi a dinasoedd, nodweddion ardaloedd adeiledig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Awst 2023
Nodweddion y boblogaeth a chartrefi yn ôl dosbarthiad maint ardaloedd adeiledig ac ardaloedd adeiledig unigol, Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain), Cyfrifiad 2021. Mae data ar gael ar lefel gwlad, dosbarthiad maint ardal adeiledig ac ardaloedd adeiledig unigol.
9. Geirfa
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Oedran
Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) yng Nghymru a Lloegr. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.
Rhyw
Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd "Benyw" a "Gwryw".
Oedran canolrifol
Yr oedran canolrifol yw oedran y person yng nghanol y grŵp, fel bod un hanner o'r grŵp yn iau na'r person hwnnw a'r hanner arall yn hŷn.
Gwlad enedigol
Y wlad lle cafodd person ei eni. Ar gyfer pobl na chawsant eu geni yn un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, roedd opsiwn i ddewis "rhywle arall". Gofynnwyd i bobl a ddewisodd "rhywle arall" ysgrifennu enw presennol eu gwlad enedigol. Mae'r dosbarthiad hwn yn rhoi rhagor o fanylion am ymatebion ysgrifenedig.
Math o gartref
Y math o adeilad neu gartref a gaiff ei ddefnyddio neu sydd ar gael i unigolyn neu gartref. Gallai hyn gynnwys:
tŷ neu fyngalo cyfan
fflat neu maisonette
cartref symudol neu dros dro, fel carafán
Mwy o wybodaeth am fathau o gartrefi
Nid yw math o eiddo sy'n dŷ neu'n fyngalo cyfan wedi'i rannu yn fflatiau nac yn fan arall lle mae rhywun yn byw.
Mae tri math o dŷ neu fyngalo cyfan, gan gynnwys:
adeilad ar wahân: nid oes unrhyw ran o'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth eiddo arall ond gall fod ynghlwm wrth garej
tŷ neu fyngalo semi: mae'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth dŷ neu fyngalo arall ac yn rhannu wal gyffredin
mewn teras: mae tŷ yng nghanol teras rhwng dau dŷ arall ac yn rhannu dwy wal gyffredin; mae tŷ ar ben teras yn rhan o ddatblygiad teras ond dim ond un wal gyffredin a rennir
Fflatiau a maisonettes: fflat â dau lawr yw maisonette
Deiliadaeth y cartref
P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.
Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:
yn berchen arno'n gyfan gwbl, lle mae aelodau o'r cartref yn berchen ar y cartref cyfan
gyda morgais neu fenthyciad
yn berchen arno'n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth
Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:
wedi'i rentu'n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiant gosod eiddo
wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.
Cymhwyster
Daw'r lefel uchaf o gymhwyster o'r cwestiwn sy'n gofyn i bobl nodi pob cymhwyster sydd ganddynt, neu eu cymwysterau mwyaf cyfatebol. Gall hyn gynnwys cymwysterau tramor lle cawsant eu paru â'r cymwysterau cyfatebol agosaf yn y Deyrnas Unedig.
I gael rhagor o wybodaeth am lefelau gwahanol o gymwysterau, darllenwch ein bwletin Addysg yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Mewn gwaith
Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn ystod y saith diwrnod diwethaf cyn Cyfrifiad 2021. Mae "mewn gwaith" yn eithrio'r rheini sy'n ddi-waith, wedi ymddeol, yn astudio, yn gofalu am y cartref neu am y teulu, neu'n anabl neu yn sâl am gyfnod hir.
Gweithgarwch economaidd
Ystyrir bod pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:
mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau gweithio o fewn pythefnos
yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn
Mae gweithgarwch economaidd yn mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.
Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.
Mae'r dosbarthiad hwn yn rhannu myfyrwyr amser llawn a'r rheini nad ydynt yn fyfyrwyr amser llawn pan fyddant mewn gwaith neu'n ddi-waith. Rydym yn argymell eich bod yn adio'r rhain at ei gilydd er mwyn ystyried yr holl bobl a oedd mewn gwaith neu'n ddi-waith, neu'n defnyddio dosbarthiad pedwar categori'r farchnad lafur, ar gyfer y rheini sydd â statws marchnad lafur penodol.
Diwydiant
Mae'n dosbarthu pobl 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith rhwng 15 a 21 Mawrth 2021 yn ôl cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy'n cynrychioli eu diwydiant neu eu busnes presennol. Caiff cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ei neilltuo yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir am brif weithgarwch cwmni neu sefydliad.
Galwedigaeth
Mae'n dosbarthu'r hyn y mae pobl 16 oed a throsodd yn ei wneud fel eu prif swydd. Mae teitl eu swydd neu fanylion gweithgareddau maent yn eu gwneud yn eu swydd ac unrhyw gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli yn ffurfio'r dosbarthiad hwn. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i godio ymatebion i alwedigaeth gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020. Mae'n dosbarthu pobl a oedd mewn gwaith rhwng 15 a 21 Mawrth 2021 yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol sy'n cynrychioli eu galwedigaeth bresennol.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Ansawdd a ffynonellau data
Mae'r erthygl hon yn defnyddio data o Gyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr. Ceir manylion am y cryfderau, y cyfyngiadau, y defnyddiau, y defnyddwyr a'r dulliau a ddefnyddiwyd yn ein herthygl Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer:
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021, sef cyfnod o newid cyflym heb ei debyg. Gall hyn fod wedi effeithio ar y ffordd yr ymatebodd rhai pobl i'r cwestiynau am y farchnad lafur yn y cyfrifiad. Bydd amcangyfrifon o'r cyfrifiad hefyd yn wahanol i'r rhai a gasglwyd yn yr Arolwg o'r Llafurlu, oherwydd amrywiaeth o wahaniaethau cysyniadol rhwng y ddwy ffynhonnell.
Darllenwch ein herthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market, England and Wales: 13 March 2023 i gael rhagor o wybodaeth am ddehongli data'r cyfrifiad am y farchnad lafur. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Maximising the quality of Census 2021 population estimates.
Daearyddiaeth ardaloedd adeiledig
Dyma'r erthygl gyntaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) sy'n defnyddio'r ddaearyddiaeth ardaloedd adeiledig wedi'i diweddaru. Mae hyn yn disodli fersiwn 2011 a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011 ac a fabwysiadwyd yn ein cyfres ar ddeall trefi, gan gynnwys yr erthygl Understanding towns in England and Wales: an introduction yn 2019 a'r erthygl Understanding towns in England and Wales: industry analysis yn 2021.
Mae ardaloedd adeiledig yn deillio o broses sy'n defnyddio delweddau o loerennau i adnabod ffiniau datblygiadau ardaloedd adeiledig ac adnabod aneddiadau ardaloedd adeiledig unigol (sy'n cyfateb i ddinasoedd, trefi a phentrefi). Yr unig eithriad yw Llundain Fwyaf, lle nad oes modd nodi aneddiadau gwahanol ar wahân a lle mae'r ddaearyddiaeth ei hun yn dilyn ffiniau bwrdeistrefi gweinyddol yn lle hynny. Mae hyn yn golygu nad yw Llundain wedi'i chynnwys yn y rhan fwyaf o'r gwaith dadansoddi yn yr erthygl hon sy'n canolbwyntio, yn hytrach, ar weddill Cymru a Lloegr lle caiff y ddaearyddiaeth ei chymhwyso mewn ffordd gyson.
Mae'r fersiwn newydd o'r ddaearyddiaeth, a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans, yn cynnwys sawl newid i'r fersiynau blaenorol. Y prif newid yw bod y ddaearyddiaeth wedi cael ei symleiddio i un haen, gan ddarparu un ffin ac un set o ystadegau ar gyfer pob anheddiad.
Mae newidiadau a diweddariadau i'r ffiniau daearyddol ers 2011 yn golygu na ellir cymharu ystadegau o ardaloedd adeiledig 2021 yn uniongyrchol â'r rheini o 2011. Mae'r un haen a ddefnyddir yn y ddaearyddiaeth newydd fwyaf tebyg i'r haen is-raniad ardaloedd adeiledig yn 2011.
Newid pwysig arall yw y bydd y ddaearyddiaeth newydd yn cael ei diweddaru'n amlach. Mae'r Arolwg Ordnans yn bwriadu diweddaru'r ffiniau bob dwy flynedd, ac mae'r datganiad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Ebrill 2024. Mae hyn yn golygu y caiff newidiadau i ffiniau ardaloedd adeiledig eu monitro'n fwy rheolaidd gan ddefnyddio methodoleg gyson.
Cysylltwch â subnational.geographies@ons.gov.uk gydag unrhyw adborth ar ddaearyddiaeth newydd yr ardaloedd adeiledig. Gellir cael rhagor o fanylion am y fethodoleg ynghylch ardaloedd adeiledig yn.
Nôl i'r tabl cynnwys11. Datblygiadau yn y dyfodol
Caiff ymchwil ddadansoddol bellach i ardaloedd adeiledig ei chyhoeddi dros y misoedd nesaf.
Darllenwch fwy am ein cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.
Nôl i'r tabl cynnwys12. Dolenni cysylltiedig
Data a gwaith dadansoddi o Gyfrifiad 2021
Tudalen we | 8 Mehefin 2023
Mae hafan rhaglen dadansoddi'r cyfrifiad yn cysylltu â'r rhaglen ymchwil fanwl a chynhwysfawr sy'n seiliedig ar Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. Ochr yn ochr â chynhyrchu ffeithiau a ffigurau sylfaenol am y boblogaeth, bydd y rhaglen yn cynhyrchu ystadegau sy'n tynnu sylw at faterion polisi cyhoeddus. Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, gan gwmpasu ystod amrywiol o is-boblogaethau. Ein nod yw darparu gwaith dadansoddi cyfredol ac ystyrlon a fydd yn helpu defnyddwyr i lywio penderfyniadau am bolisïau a gwasanaethau yn y dyfodol.
Mapiau'r Cyfrifiad
Map rhyngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Defnyddiwch ein mapiau i ddysgu am fywydau pobl ledled Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2021.
creu set ddata arbennig
Set ddata | Rhyddhawyd ar 28 Mawrth 2023
Rydym yn grwpio data Cyfrifiad 2021 gyda'i gilydd yn seiliedig ar bwy neu beth y mae'r wybodaeth yn cyfeirio ato, er enghraifft pobl neu gartrefi. Rydym yn creu mathau o boblogaeth o'r grwpiau hyn, neu is-setiau ohonynt. Er enghraifft, preswylwyr arferol yw pobl sy'n byw yng Nghymru neu Loegr fel arfer.
Porth Open Geography y SYG: Built Up Areas (2022) GB BGG
Set ddata ffiniau | Rhyddhawyd ar 7 Rhagfyr 2022
Mae'r ffeil hon yn cynnwys y ffiniau fector digidol ar gyfer ardaloedd adeiledig ym Mhrydain Fawr ym mis Rhagfyr 2022. Caiff ffiniau'r ardaloedd adeiledig eu cyffredinoli a'u creu gan ddefnyddio dull awtomataidd yn seiliedig ar sgwariau grid 25m (BGG).
Crëwyd y ffeil hon o ardaloedd adeiledig OS Open. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynnyrch hwn yn ein dogfen cwestiynau cyffredin neu ar dudalen gwybodaeth am y cynnyrch yr Arolwg Ordnans. Noder bod y cynnyrch hwn yn cynnwys Hawliau Eiddo Deallusol yr Arolwg Ordnans a'r SYG.
13. Cyfeirio at yr erthygl hon
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 2 Awst 2023, gwefan y SYG, erthygl, Trefi a dinasoedd, nodweddion ardaloedd adeiledig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021