Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Deiliadaeth
- Deiliadaeth yn ôl maint y cartref
- Deiliadaeth yn ôl oedran
- Deiliadaeth yn ôl cyfansoddiad teuluol y cartref
- Deiliadaeth cartrefi â sawl cenhedlaeth
- Deiliadaeth yn ôl grŵp ethnig
- Deiliadaeth yn ôl crefydd
- Deiliadaeth yn ôl statws cyflogaeth
- Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr: Data Cyfrifiad 2021
- Geirfa
- Ansawdd a ffynonellau data
- Cyhoeddiadau yn y dyfodol
- Dolenni cysylltiedig
- Cyfeirio at yr erthygl hon
1. Prif bwyntiau
Roedd cartrefi â llai o bobl (cartrefi un person neu ddau berson) yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl, o gymharu â chartrefi mwy o faint.
Cartrefi un rhiant oedd â'r canrannau uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol (35.6% yng Nghymru a 37.8% yn Lloegr), o gymharu â chyfansoddiadau teuluol eraill, ac roedd gan y rheini â phlant dibynnol lefelau uwch na'r rhai a oedd hebddynt.
Cartrefi lle dewisodd pob preswylydd y categori grŵp ethnig lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" oedd leiaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref (20.5% yng Nghymru a 27.7% yn Lloegr), o gymharu â chyfuniadau eraill o grwpiau ethnig cartrefi.
Cartrefi lle dewisodd pob preswylydd a atebodd y cwestiwn am grefydd yr opsiwn "Islam" oedd â'r canrannau uchaf a oedd yn rhentu eu cartref (62.4% yng Nghymru a 58.5% yn Lloegr) ac yn y sector rhentu cymdeithasol (24.0% yng Nghymru a 27.8% yn Lloegr), o gymharu â chyfuniadau eraill o grefyddau cartrefi.
Roedd cartrefi â rhai preswylwyr 65 oed a throsodd 3.7 gwaith yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl yng Nghymru (72.3%) a 4.4 gwaith yn fwy tebygol yn Lloegr (69.4%), o gymharu â chartrefi lle roedd pob preswylydd yn 64 oed neu'n iau (19.7% yng Nghymru ac 15.6% yn Lloegr).
Cartrefi lle roedd pob preswylydd (16 oed a throsodd) mewn gwaith oedd â'r ganran uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (48.8% yng Nghymru a 47.3% yn Lloegr), o gymharu â chyfuniadau eraill o gyflogaeth cartrefi.
2. Deiliadaeth
Deiliadaeth yw p'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu. Gofynnwyd i aelodau cartrefi a oedd yn rhentu eu cartref pa fath o landlord a oedd yn berchen arno neu'n ei reoli.
Ffigur 1: Yn berchen arno'n gyfan gwbl oedd y math mwyaf cyffredin o ddeiliadaeth ledled Cymru a holl ranbarthau Lloegr, heblaw Llundain
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru, Lloegr a rhanbarthau Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Ceir dadansoddiad pellach o ddeiliadaeth yn ein bwletin Tai, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Bydd yr adran nesaf yn ystyried y gwahaniaethau o ran dosbarthiad deiliadaeth mewn perthynas â nodweddion cartrefi.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Deiliadaeth yn ôl maint y cartref
Roedd cartrefi â llai o bobl yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl, o gymharu â chartrefi mwy o faint. Gwelwyd y ganran fwyaf ymhlith cartrefi â dau berson (49.6% yng Nghymru a 44.0% yn Lloegr), yna cartrefi ag un person (43.2% yng Nghymru a 38.2% yn Lloegr).
Cartrefi â thri pherson neu fwy oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth. Ymhlith cartrefi â phedwar person (54.5% yng Nghymru a 53.6% yn Lloegr) y gwelwyd y ganran fwyaf.
Roedd lefelau uwch o gartrefi wedi'u rhentu ymhlith cartrefi un person a chartrefi â phum person neu fwy, o gymharu â chartrefi o feintiau gwahanol. Cartrefi â chwe pherson neu fwy oedd â'r canrannau mwyaf o rentu cymdeithasol (26.9% yng Nghymru a 26.0% yn Lloegr) a rhentu preifat neu fyw heb dalu rhent (24.8% yng Nghymru a 27.5% yn Lloegr).
Ffigur 2: Cartrefi â thri pherson neu fwy oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth a maint y cartref, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Ar lefel ranbarthol yn Lloegr:
cartrefi un person a dau berson oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl ym mhob rhanbarth heblaw Llundain, lle roedd gan gartrefi un person ganrannau uwch yn y sector rhentu cymdeithasol (28.8%), ac roedd mwy o gartrefi â dau berson yn rhentu eu cartref yn breifat neu'n byw heb dalu rhent (33.0%)
deiliadaeth fwyaf cyffredin cartrefi â thri pherson neu fwy oedd yn berchen arno gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth ym mhob rhanbarth heblaw Llundain, lle mai rhentu'n breifat neu fwy heb dalu rhent oedd deiliadaeth fwyaf cyffredin cartrefi tri pherson a chartrefi â chwe pherson neu fwy
y canrannau isaf o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth oedd y rhai ymhlith cartrefi un person ledled holl ranbarthau Lloegr, gyda'r lefelau isaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (15.9%)
4. Deiliadaeth yn ôl oedran
Gallwn gymharu deiliadaeth ar draws bandiau oedran ar lefel y cartref mewn dwy ffordd. Yn gyntaf drwy ddadansoddi cyfuniad y cartref o fandiau oedran preswylwyr, ac yn ail drwy ddefnyddio oedran person cyswllt y cartref, gweler Adran 11: Geirfa am ddiffiniad o berson cyswllt y cartref.
Cyfuniad y cartref o oedran preswylwyr
Cartrefi â rhai preswylwyr 16 i 64 oed oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth, o gymharu â chyfuniadau eraill o oedrannau cartrefi. Cartrefi lle roedd preswylwyr 16 i 64 oed yn byw gyda phreswylwyr 15 oed ac iau oedd â'r canrannau uchaf (48.1% yng Nghymru a 47.8% yn Lloegr).
Yn Lloegr, ymhlith cartrefi lle roedd preswylwyr 15 oed ac iau yn byw gyda phreswylwyr 65 oed a throsodd (25.8%) roedd rhentu'n gymdeithasol fwyaf cyffredin. Fodd bynnag, dim ond i 0.03% o'r holl gartrefi yn Lloegr roedd y categori hwn yn berthnasol. Yng Nghymru, ymhlith cartrefi lle roedd preswylwyr 15 oed ac iau yn byw gyda phreswylwyr 16 i 64 oed (21.4%) roedd rhentu'n gymdeithasol fwyaf cyffredin.
Cartrefi a oedd yn rhentu'n breifat neu'n byw heb dalu rhent oedd fwyaf tebygol o gynnwys preswylwyr iau. Mewn cartrefi lle roedd yr holl breswylwyr yn 16 i 64 oed (22.7% yng Nghymru a 27.8% yn Lloegr) a chartrefi lle roedd preswylwyr 16 i 64 oed yn byw gyda phreswylwyr 15 oed ac iau (22.4% yng Nghymru a 25.0% yn Lloegr) y gwelwyd y canrannau uchaf.
Ffigur 3: Roedd cartrefi â phreswylwyr iau yn fwy tebygol o rentu eu cartref yn breifat neu fyw heb dalu rhent
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth a chyfuniad y cartref o oedran preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Nid yw'r siart hon yn cynnwys data ar gyfer cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 15 oed neu'n iau. Ceir gwybodaeth am gartrefi â phlant yn unig yn Adran 12: Ansawdd a ffynonellau data.
Lawrlwytho’r data
Roedd cartrefi â rhai preswylwyr 65 oed a throsodd 3.7 gwaith yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl yng Nghymru (72.3%) a 4.4 gwaith yn fwy tebygol yn Lloegr (69.4%), o gymharu â chartrefi lle roedd pob preswylydd yn 64 oed neu'n iau (19.7% yng Nghymru ac 15.6% yn Lloegr).
Ffigur 4: Roedd cartrefi â rhai preswylwyr 65 oed a throsodd yn fwy tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl
Canran y cartrefi gyda phreswylwyr 65 oed a throsodd a hebddynt, yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Oedran person cyswllt y cartref
Wrth edrych ar oedran person cyswllt y cartref, cartrefi â pherson cyswllt y cartref a oedd yn:
65 oed a throsodd oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (73.3% yng Nghymru a 71.0% yn Lloegr)
35 i 49 oed oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (49.6% yng Nghymru a 47.8% yn Lloegr)
16 i 34 oed oedd â'r canrannau uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol (20.8% yng Nghymru ac 18.4% yn Lloegr) ac a oedd yn rhentu eu cartref yn breifat neu'n byw heb dalu rhent (40.9% yng Nghymru a 46.4% yn Lloegr)
Ffigur 5: Cartrefi â pherson cyswllt y cartref a oedd yn 35 i 49 oed oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth ac oedran person cyswllt y cartref, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Nid yw'r siart hon yn cynnwys data ar gyfer cartrefi â pherson cyswllt y cartref a oedd yn 15 oed neu'n iau. Ceir gwybodaeth am gartrefi â phlant yn unig yn Adran 12: Ansawdd a ffynonellau data.
Lawrlwytho’r data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Deiliadaeth yn ôl cyfansoddiad teuluol y cartref
Cartrefi ag un teulu lle roedd pob preswylydd yn 66 oed a throsodd oedd â'r canrannau uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (84.7% yng Nghymru ac 84.2% yn Lloegr), o gymharu â chartrefi â chyfansoddiadau teuluol gwahanol.
Cartrefi un teulu â chwpwl:
oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (46.6% yng Nghymru a 47.4% yn Lloegr), o gymharu â chyfansoddiadau teuluol eraill
roedd gan rai â phlant dibynnol ganran uwch a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (60.4% yng Nghymru a 58.8% yn Lloegr), o gymharu â'r rhai heb blant dibynnol
roedd gan rai â phlant nad ydynt yn ddibynnol yn unig ganran uwch a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (48.7% yng Nghymru a 43.7% yn Lloegr), o gymharu â'r rhai â phlant dibynnol neu ddim plant
"Mathau eraill o gartrefi", fel y rhai mewn addysg amser llawn (94.2% yng Nghymru a 93.4% yn Lloegr), oedd fwyaf tebygol o rentu eu cartref yn breifat, o gymharu â chyfansoddiadau teuluol eraill.
Ffigur 6: Cartrefi ag un teulu lle roedd pob preswylydd yn 66 oed a throsodd oedd â'r ganran uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth a chyfansoddiad teuluol y cartref, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Cartrefi un teulu ag un rhiant oedd â'r canrannau uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol (35.6% yng Nghymru a 37.8% yn Lloegr), o gymharu â chyfansoddiadau teuluol eraill,. Roedd gan y rhai â phlant dibynnol ganran uwch (40.5% yng Nghymru a 42.0% yn Lloegr), o gymharu â'r rhai â phlant nad ydynt yn ddibynnol yn unig.
Ffigur 7: Cartrefi un teulu ag un rhiant â phlant dibynnol oedd fwyaf tebygol o rentu'n gymdeithasol
Canran y cartrefi un teulu ag un rhiant, yn ôl deiliadaeth a chyfansoddiad y cartref, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Nôl i'r tabl cynnwys6. Deiliadaeth cartrefi â sawl cenhedlaeth
Roedd cartrefi â sawl cenhedlaeth yn gyfrifol am 2.0% o'r cartrefi yng Nghymru (27,530) a 2.1% o'r cartrefi yn Lloegr (500,410).
O gymharu â chartrefi na chawsant eu dosbarthu fel rhai â sawl cenhedlaeth (y cyfeirir atynt fel "cartrefi eraill" yn yr adran hon hefyd), roedd gan gartrefi â sawl cenhedlaeth:
lefelau ychydig uwch a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (4.4 pwynt canran yn uwch yng Nghymru ac 1.3 yn Lloegr)
lefelau ychydig uwch a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth yn Lloegr (0.5 pwynt canran yn uwch)
lefelau ychydig is a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth yng Nghymru (0.7 pwynt canran yn is)
lefelau uwch yn y sector rhentu cymdeithasol (3.4 pwynt canran yn uwch yng Nghymru a 4.6 yn Lloegr)
lefelau is o rentu'n breifat neu fyw heb dalu rhent (7.2 pwynt canran yn is yng Nghymru a 6.4 yn Lloegr)
Ffigur 8: Roedd cartrefi â sawl cenhedlaeth yn fwy tebygol o fod yn y sector rhentu cymdeithasol
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth cartrefi â sawl cenhedlaeth a chartrefi eraill, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Yn Llundain y gwelwyd y gwahaniaethau mwyaf rhwng cartrefi â sawl cenhedlaeth a chartrefi eraill ledled rhanbarthau Lloegr. O gymharu â chartrefi eraill yn Llundain, roedd gan gartrefi â sawl cenhedlaeth:
lefelau uwch a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (4.2 pwynt canran)
lefelau uwch a oedd yn rhentu'n gymdeithasol (8.0 pwynt canran)
lefelau is a oedd yn rhentu'n breifat neu'n byw heb dalu rhent (12.0 pwynt canran)
7. Deiliadaeth yn ôl grŵp ethnig
Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl y grwpiau ethnig a nodwyd gan aelodau'r cartref. I gael gwybodaeth am broses dau gam y cwestiwn am grŵp ethnig yng Nghyfrifiad 2021, darllenwch ein herthygl am Grŵp ethnig yn ôl oedran a rhyw, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Gwyn" oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (39.3% yng Nghymru a 35.9% yn Lloegr).
Roedd bod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth fwyaf cyffredin ymhlith cartrefi â thri grŵp ethnig neu fwy (46.3% yng Nghymru a 47.5% yn Lloegr) a chartrefi lle nododd pob aelod y categori lefel uchel "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" (36.4% yng Nghymru a 36.8% yn Lloegr).
Roedd rhentu'n breifat neu fyw heb dalu rhent fwyaf cyffredin ymhlith cartrefi lle nododd pob aelod y categori lefel uchel "Arall" (51.9% yng Nghymru a 41.7% yn Lloegr).
O gymharu â chyfuniadau eraill o grwpiau ethnig, cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" oedd â'r:
canrannau isaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl, sydd 4.9 gwaith yn is yng Nghymru (7.7%) a 3.7 gwaith yn is yn Lloegr (8.9%), o gymharu â chartrefi yng Nghymru (38.0%) ac yn Lloegr (32.5%) yn gyffredinol
canrannau isaf a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth, sydd 2.2 gwaith yn is yng Nghymru (12.9%) ac 1.6 gwaith yn is yn Lloegr (18.8%), o gymharu â chartrefi yng Nghymru (28.4%) ac yn Lloegr (29.8%) yn gyffredinol
canrannau uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol, sydd 2.6 gwaith yn uwch yng Nghymru (42.2%) a 2.7 gwaith yn uwch yn Lloegr (45.8%), o gymharu â chartrefi yng Nghymru (16.5%) ac yn Lloegr (17.1%) yn gyffredinol
Ffigur 9: Cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Gwyn" oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth a chyfuniad y cartref o grŵp ethnig preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Cafodd y grwpiau ethnig “Asiaidd Cymreig” a “Du Cymreig” eu cynnwys ar holiadur y cyfrifiad yng Nghymru yn unig.
Lawrlwytho’r data
Ar lefel ranbarthol yn Lloegr:
cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Gwyn" oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl ym mhob rhanbarth heblaw Llundain, lle roedd rhentu'n breifat yn fwy cyffredin
roedd y canrannau isaf o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl ymhlith cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (32.5%) a Gogledd-orllewin Lloegr (6.7%)
roedd y canrannau uchaf o gartrefi a oedd yn rhentu'n gymdeithasol ymhlith cartrefi lle nododd pob preswylydd y categori lefel uchel "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" ym mhob rhanbarth, heblaw am Ddwyrain Lloegr a De-ddwyrain Lloegr, lle roedd rhentu'n breifat neu fyw heb dalu rhent yn fwy cyffredin
8. Deiliadaeth yn ôl crefydd
Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd.
Yn Lloegr, ymhlith cartrefi lle dewisodd pob preswylydd a atebodd y cwestiwn am grefydd “Siciaeth” (76.2%) roedd canran y cartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref uchaf. Wrth edrych ar gategorïau cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, cartrefi “Sicaidd yn unig” oedd â'r ganran uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (45.2%). Cartrefi lle dewisodd pob aelod a atebodd y cwestiwn am grefydd “Cristnogaeth” (44.3%) neu “Iddewiaeth” (41.9%) oedd â'r canrannau uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl.
Ffigur 10: Cartrefi “Sicaidd yn unig” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn Lloegr
Canran y cartrefi yn ôl categorïau deiliadaeth yn eiddo i berchen-feddianwyr a chyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Mae cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr yn dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd. Gall cartrefi gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd.
Lawrlwytho’r data
Yng Nghymru, wrth ddosbarthu cartrefi yn ôl preswylwyr a atebodd y cwestiwn am grefydd, cartrefi oedd â chymysgedd o breswylwyr a nododd “Cristnogaeth” a “Dim crefydd” oedd â'r canrannau uchaf a oedd yn berchen ar y cartref roeddent yn byw ynddo (75.2%). Roedd y lefelau uchaf nesaf ymhlith cartrefi “Cristnogol yn unig” (74.9%). Wrth edrych ar gategorïau cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, cartrefi “Cristnogol yn unig” (53.5%) ac “Iddewig yn unig” (41.2%) oedd â'r canrannau uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl. Roedd y canrannau uchaf a oedd yn berchen ar gartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth ymhlith cartrefi “Sicaidd yn unig” (42.9%) a chartrefi “Cristnogol a Dim crefydd” (40.7%).
Ffigur 11: Cartrefi “Dim crefydd a Christnogol” a “Cristnogol yn unig” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yng Nghymru
Canran y cartrefi yn ôl categorïau deiliadaeth yn eiddo i berchen-feddianwyr a chyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, Cymru, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Mae cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr yn dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd. Gall cartrefi gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd.
Lawrlwytho’r data
Roedd gan gartrefi lle dewisodd pob preswylydd a atebodd y cwestiwn am grefydd "Islam":
y canrannau isaf a oedd yn berchen ar eu cartref (37.6% yng Nghymru a 41.5% yn Lloegr)
y canrannau isaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (12.6% yng Nghymru a 15.3% yn Lloegr)
y canrannau uchaf a oedd yn rhentu eu cartref (62.4% yng Nghymru a 58.5% yn Lloegr) ac yn y sector rhentu cymdeithasol (24.0% yng Nghymru a 27.8% yn Lloegr)
y canrannau uchaf a oedd yn rhentu eu cartref yn breifat, neu'n byw heb dalu rhent yng Nghymru (38.4%)
Ffigur 12: Cartrefi "Mwslimaidd yn unig" oedd â'r lefelau uchaf a oedd yn rhentu eu cartref yn gyffredinol ac yn rhentu'n gymdeithasol
Canran y cartrefi yn ôl categorïau deiliadaeth rhent a chyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Mae cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr yn dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd. Gall cartrefi gynnwys pobl na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd.
Lawrlwytho’r data
Nôl i'r tabl cynnwys9. Deiliadaeth yn ôl statws cyflogaeth
Cafodd cartrefi eu dosbarthu yn ôl statws cyflogaeth aelodau o'r cartref a oedd yn 16 oed a throsodd.
Roedd y ganran uchaf o gartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref ymhlith cartrefi oedd â chymysgedd o breswylwyr a oedd mewn gwaith ac yn anweithgar yn economaidd (72.6% yng Nghymru a 66.6% yn Lloegr), o gymharu â chartrefi â chyfuniadau eraill o statws cyflogaeth. Wrth edrych ar gategorïau cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, roedd gan gartrefi â rhai preswylwyr a oedd yn anweithgar yn economaidd ganran uwch a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl, a gwelwyd y lefelau uchaf ymhlith cartrefi lle roedd pob preswylydd yn anweithgar yn economaidd (57.9% yng Nghymru a 56.9% yn Lloegr). I'r gwrthwyneb, roedd gan gartrefi â rhai preswylwyr a oedd mewn gwaith lefelau uwch a oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth, a gwelwyd y lefelau uchaf ymhlith cartrefi lle roedd pob preswylydd mewn gwaith (48.8% yng Nghymru a 47.3% yn Lloegr).
Cartrefi lle roedd pob preswylydd yn ddi-waith oedd â'r canrannau uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol (38.1% yng Nghymru a 40.8% yn Lloegr) ac a oedd yn rhentu'n breifat neu'n byw heb dalu rhent (37.9% yng Nghymru a 37.1% yn Lloegr), o gymharu â chartrefi â chyfuniadau eraill o statws cyflogaeth.
Ffigur 13: Roedd bod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl fwyaf cyffredin ymhlith cartrefi â rhai preswylwyr a oedd yn anweithgar yn economaidd
Canran y cartrefi yn ôl categorïau deiliadaeth yn eiddo i berchen-feddianwyr a chyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Dim ond ar gyfer pobl 16 oed a throsodd mewn cartrefi y caiff statws cyflogaeth ei gynnwys.
Lawrlwytho’r data
Ymhlith cartrefi oedd â rhai preswylwyr 66 oed a throsodd:
bod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl oedd fwyaf cyffredin o gymharu â deiliadaethau eraill, ni waeth beth fo statws cyflogaeth yr aelodau o'r cartref a oedd yn 66 oed a throsodd
cartrefi â chymysgedd o breswylwyr 66 oed a throsodd a oedd yn gweithio ac nad oeddent yn gweithio oedd â'r lefelau uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (79.3% yng Nghymru a 77.4% yn Lloegr)
cartrefi lle roedd pob preswylydd 66 oed a throsodd yn gweithio oedd â'r ganran uchaf a oedd yn berchen ar eu cartref eu hunain gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (16.2% yng Nghymru ac 18.6% yn Lloegr) ac yn rhentu'n breifat neu'n byw heb dalu rhent (9.4% yng Nghymru ac 11.4% yn Lloegr)
cartrefi lle nad oedd yr holl breswylwyr 66 oed a throsodd yn gweithio oedd â'r ganran uchaf yn y sector rhentu cymdeithasol (14.2% yng Nghymru ac 16.1% yn Lloegr)
Ffigur 14: Cartrefi lle roedd pob preswylydd 66 oed a throsodd yn gweithio oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth
Canran y cartrefi â phreswylwyr 66 oed a throsodd, yn ôl deiliadaeth a chyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr 66 oed a throsodd, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Lawrlwytho’r data
Galwedigaeth person cyswllt y cartref
Wrth edrych ar gartrefi â pherson cyswllt y cartref sydd mewn gwaith, cartrefi yng Nghymru a Lloegr â pherson cyswllt y cartref mewn:
galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol (fel rheolwyr swyddfa a derbynyddion), galwedigaethau crefftau medrus (fel trydanwyr a chogyddion) a galwedigaethau proffesiynol (fel meddygon ac athrawon) oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (45.7%, 34.2% a 33.6%, yn y drefn honno)
galwedigaethau rheolwr, cyfarwyddwr ac uwch-swyddog (fel cynrychiolwyr etholedig ac uwch-swyddogion yr heddlu), galwedigaethau proffesiynol a galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt (fel swyddogion yr heddlu a chwnselwyr) oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth (44.8%, 42.7% a 40.5%, yn y drefn honno)
galwedigaethau elfennol (fel gweithwyr post a gweinyddion), galwedigaethau gofalu, hamdden neu alwedigaethau gwasanaethau eraill (fel cynorthwywyr addysgu a gofalwyr cartref) a galwedigaethau gwerthiannau a gwasanaethau cwsmeriaid (fel gweithwyr tiliau a cheidwaid siopau) oedd fwyaf tebygol o rentu'n gymdeithasol (32.6%, 29.0% a 24.2%, yn y drefn honno) a rhentu'n breifat neu fyw heb dalu rhent (26.4%, 25.1% a 23.8%, yn y drefn honno)
Ffigur 15: Ymhlith cartrefi â pherson cyswllt y cartref mewn galwedigaeth broffesiynol neu alwedigaeth rheolwr, cyfarwyddwr neu uwch-swyddog roedd rhentu'n gymdeithasol leiaf cyffredin
Canran y cartrefi yn ôl deiliadaeth a galwedigaeth personau cyswllt y cartref a oedd mewn gwaith, Cymru a Lloegr, 21 Mawrth 2021
Embed code
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Noder:
- Dim ond data ar gyfer cartrefi â phersonau cyswllt y cartref a oedd yn 16 oed a throsodd ac mewn gwaith sydd yn y siart hon.
Lawrlwytho’r data
Nôl i'r tabl cynnwys10. Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr: Data Cyfrifiad 2021
Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Mai 2023
Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, ar gyfer cartrefi â phreswylwyr arferol, Cymru a Lloegr, Cyfrifiad 2021. Mae data ar gael ar lefel genedlaethol, gwlad, rhanbarth, ardal awdurdod lleol, Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol ac Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is, lle y bo'n bosibl.
11. Geirfa
Cartref
Caiff cartref ei ddiffinio fel un person sy'n byw ar ei ben ei hun neu grŵp o bobl (nid oes rhaid iddyn nhw berthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw, lolfa neu le bwyta.
Mae hyn yn cynnwys unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio) a phob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig.
Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.
Preswylydd arferol
Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Person cyswllt y cartref
Person sy'n gweithredu fel pwynt cyfeirio, yn seiliedig yn bennaf ar weithgarwch economaidd ac oedran, er mwyn nodweddu cartref cyfan. Nid y person yma yn angenrheidiol yw'r aelod o'r cartref sydd wedi'i nodi fel y perchennog neu'r un sy'n rhentu.
Deiliadaeth
P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.
Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:
yn berchen arno'n gyfan gwbl, lle mae aelodau o'r cartref yn berchen ar y cartref cyfan
yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
yn berchen arno'n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth
Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:
wedi'i rentu'n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiant gosod eiddo
wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai
byw heb dalu rhent, sef pan na fydd aelodau cartref yn berchen ar y cartref a lle nad ydynt yn talu rhent i fyw yno, er enghraifft byw yn eiddo perthynas neu ffrind neu ofalwyr neu nanis sy'n byw gyda'r cleient
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.
Maint y cartref
Nifer y preswylwyr arferol yn y cartref.
Cyfuniad y cartref o oedran preswylwyr
Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl oedran yr aelodau ar 21 Mawrth 2021. Gallai cartrefi gynnwys:
preswylwyr 15 oed neu'n iau
preswylwyr 16 i 64 oed
preswylwyr 65 oed a throsodd
cyfuniad o'r tri
Cyfansoddiad teuluol y cartref
Cartrefi yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau.
Caiff cartrefi un teulu eu dosbarthu yn ôl nifer y plant dibynnol a'r math o deulu (teulu pâr priod, cwpwl partneriaeth sifil neu gwpwl sy'n cyd-fyw, neu deulu un rhiant).
Caiff cartrefi eraill eu dosbarthu yn ôl nifer y bobl, nifer y plant dibynnol a ph'un a yw'r cartref yn cynnwys myfyrwyr yn unig neu bobl 66 oed a throsodd yn unig.
Cartrefi â sawl cenhedlaeth
Cartrefi lle mae pobl o fwy na dwy genhedlaeth o'r un teulu yn byw gyda'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gyda neiniau/teidiau ac wyrion/wyresau, p'un a yw'r genhedlaeth ganol hefyd yn byw yn y cartref ai peidio.
Grŵp ethnig
Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol. Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Cyfuniad y cartref o grŵp ethnig preswylwyr
Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl y grwpiau ethnig a nodwyd gan aelodau'r cartref.
Crefydd
Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio. Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'n cynnwys pobl a ddewisodd un o wyth opsiwn ymateb â blwch ticio, gan gynnwys "Dim crefydd", ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Cyfuniad y cartref o grefydd preswylwyr
Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl ymlyniad crefyddol aelodau o'r cartref a ddewisodd ateb y cwestiwn am grefydd, a oedd yn wirfoddol. Gall y dosbarthiadau gynnwys preswylwyr na wnaethant ateb y cwestiwn am grefydd.
Cyfuniad y cartref o statws cyflogaeth preswylwyr
Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl statws cyflogaeth aelodau o'r cartref a oedd yn 16 oed a throsodd rhwng 15 a 21 Mawrth 2021. Gallai cartrefi gynnwys:
preswylwyr a oedd mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
preswylwyr di-waith (y rhai a oedd yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn)
preswylwyr anweithgar yn economaidd (y rhai a oedd yn ddi-waith ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos)
cyfuniad o'r tri
Galwedigaeth
Mae'n dosbarthu'r hyn y mae pobl 16 oed a throsodd yn ei wneud fel eu prif swydd. Mae teitl eu swydd neu fanylion gweithgareddau maent yn eu gwneud yn eu swydd ac unrhyw gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli yn ffurfio'r dosbarthiad hwn. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i godio ymatebion i alwedigaeth gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.
Mae'n dosbarthu pobl a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol sy'n cynrychioli eu galwedigaeth bresennol.
Y lefel isaf o fanylder sydd ar gael yw'r cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 4 digid sy'n cynnwys pob cod ar ffurf lefelau cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 1 digid, 2 ddigid a 3 digid.
Nôl i'r tabl cynnwys12. Ansawdd a ffynonellau data
Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun manylaf o'r boblogaeth gyfan, a gofynnir yr un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr. Gall canlyniadau'r cyfrifiad fod yn fwy dibynadwy na chanlyniadau arolwg yn seiliedig ar sampl o'r boblogaeth, oherwydd bod y boblogaeth gyfan yn cael ei chynnwys. Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi rhoi statws Ystadegau Gwladol i allbynnau Cyfrifiad 2021, gan roi sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.
Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol uchel iawn i Gyfrifiad 2021, sef 97%. Rydym yn sicrhau bod canlyniadau'r cyfrifiad yn adlewyrchu'r boblogaeth gyfan drwy ddefnyddio dulliau ystadegol i amcangyfrif nifer a nodweddion y bobl na chawsant eu cofnodi ar ymateb i'r cyfrifiad. Mae hyn yn golygu mai amcangyfrifon yw ystadegau'r cyfrifiad yn hytrach na chyfrifiadau syml o'r ymatebion, ac felly mae rhywfaint o ansicrwydd yn gysylltiedig â nhw. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl.
Yn ogystal, rydym yn defnyddio mesurau rheoli datgelu ystadegol er mwyn diogelu cyfrinachedd ymatebwyr y cyfrifiad. Gall gwahaniaethau o ran y dulliau a ddefnyddiwyd i reoli datgelu ystadegol arwain at fân wahaniaethau yng nghyfansymiau'r data rhwng cynhyrchion y cyfrifiad. Gan ein bod yn talgrynnu'r holl ffigurau yn unigol, mae'n bosibl na fydd cyfansymiau tablau yn adio'n union.
Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am ansawdd y wybodaeth am dai yng Nghyfrifiad 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl.
Grwpio rhentu cymdeithasol
Yn y dadansoddiad hwn, nid ydym yn gwahanu'r sector rhentu cymdeithasol yn "cymdeithas dai, cwmni tai cydweithredol, ymddiriedolaeth elusennol, landlord cymdeithasol cofrestredig" a "y cyngor neu'r awdurdod lleol" oherwydd camgymeriadau ymatebwyr wrth nodi'r math o landlord. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn canlyniadau ar gyfer ardaloedd lle nad oes stoc dai awdurdod lleol, ond ymatebodd cartrefi gan ddweud mai "y cyngor neu'r awdurdod lleol" yw eu landlord. Mae amcangyfrifon yn debygol o fod yn gywir pan gaiff y categori rhentu cymdeithasol ei gyfuno.
Newidynnau'r farchnad lafur
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym a digynsail, ac mae'n bosibl fod hyn wedi effeithio ar y ffordd yr ymatebodd rhai pobl i'r cwestiynau am y farchnad lafur yn y cyfrifiad. Bydd amcangyfrifon o'r cyfrifiad hefyd yn wahanol i'r rhai a gasglwyd yn yr Arolwg o'r Llafurlu, oherwydd amrywiaeth o wahaniaethau cysyniadol rhwng y ddwy ffynhonnell. Darllenwch ein herthygl am gymharu amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu mewn perthynas â'r farchnad lafur, Cymru a Lloegr: 13 Mawrth 2021 i gael rhagor o wybodaeth am ddehongli data'r cyfrifiad am y farchnad lafur.
Cartrefi â phlant yn unig
Yn y dadansoddiad hwn, nid ydym wedi cynnwys cartrefi lle roedd pob preswylydd yn 15 oed neu'n iau wrth edrych ar gyfuniad y cartref o oedran preswylwyr. Nid yw data am oedran person cyswllt y cartref wedi'u cynnwys chwaith os oedd person cyswllt y cartref yn 15 oed neu'n iau. Mae hyn oherwydd bod rhai achosion pan fydd y data yn dangos nifer uwch na'r disgwyl o gartrefi â phlant yn unig. Darllenwch ein methodoleg ar ansawdd gwybodaeth am ddemograffeg a mudo yng Nghyfrifiad 2021 i gael gwybodaeth am ansawdd mewn perthynas â chartrefi â phlant yn unig.
Nôl i'r tabl cynnwys13. Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Caiff rhagor o ddadansoddiadau amlamryweb ar dai eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi tai a'n cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.
Nôl i'r tabl cynnwys14. Dolenni cysylltiedig
Tai, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Gwybodaeth ar lefel cartrefi o Gyfrifiad 2021 am y math o gartref, deiliadaeth, gwres canolog, ystafelloedd ac ystafelloedd gwely ac argaeledd car neu fan.
Tai yng Nghymru a Lloegr: 2021 o gymharu â 2011
Erthygl | Rhyddhawyd ar 30 Mawrth 2023
Gwybodaeth ar lefel anheddau o Gyfrifiad 2021 am y math o gartref, deiliadaeth, gwres canolog a nifer yr ystafelloedd gwely.
Grŵp ethnig yn ôl addysg, cyflogaeth, iechyd a thai, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Erthygl | Rhyddhawyd ar 15 Mawrth 2023
Gwybodaeth ar lefel preswylwyr o Gyfrifiad 2021 am grwpiau ethnig yn ôl addysg, cyflogaeth, iechyd a thai.
Crefydd yn ôl tai, iechyd, cyflogaeth ac addysg, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Erthygl | Rhyddhawyd ar 24 Mawrth 2023
Gwybodaeth ar lefel preswylwyr o Gyfrifiad 2021 am grefydd yn ôl addysg, cyflogaeth, iechyd a thai.
15. Cyfeirio at yr erthygl hon
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 19 Mai 2023, gwefan SYG, erthygl, Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021