Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Roedd tua 70,000 o ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau gan fwy na 200,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn ôl Cyfrifiad 2021.
Cartrefi gwyliau oedd 4.1% o'r holl ail gyfeiriadau ac roedd y rhan fwyaf ohonynt mewn ardaloedd arfordirol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol neu barciau cenedlaethol, gan gynnwys Ardal y Llynnoedd, Dartmoor ac Eryri.
Dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr fel arfer a ddywedodd eu bod yn treulio o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn yn y cyfeiriad a gaiff eu cynnwys yn nata Cyfrifiad 2021 ar ail gyfeiriadau. Mae cyfanswm nifer yr ail gyfeiriadau a gaiff eu defnyddio fel cartrefi gwyliau, a'r bobl sy'n eu defnyddio, yn debygol o fod yn uwch.
Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar y data hyn, ond mae'n anodd eu mesur.
Cernyw, sy'n gyrchfan gwyliau boblogaidd, oedd â'r nifer mwyaf o gartrefi gwyliau a phobl sy'n eu defnyddio, gyda 6,080 o gartrefi gwyliau ac 14,230 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau.
Fel cyfran o'r cyflenwad tai lleol (yr holl anheddau heb gynnwys sefydliadau cymunedol), De Hams ar arfordir Dyfnaint a Gwynedd yng Ngogledd Cymru oedd â'r cyfrannau uchaf o gartrefi gwyliau. Mewn rhai ardaloedd llai, roedd mwy nag 1 o bob 10 cyfeiriad yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau.
Ac wrth addasu ar gyfer y boblogaeth leol, yng Ngwynedd ac Ynys Môn y gwelwyd y cyfrannau uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau yn teithio i'w hardaloedd.
Mae Cymru a De-orllewin Lloegr yn ardaloedd poblogaidd ar gyfer cartrefi gwyliau
De-orllewin Lloegr oedd â'r crynodiad mwyaf o gartrefi gwyliau o gymharu â Chymru a rhanbarthau eraill yn Lloegr, sef 7.5 am bob 1,000 o gartrefi.
Cymru oedd yn ail, gyda 6.9 o gartrefi gwyliau am bob 1,000 o gartrefi. Llundain oedd â'r crynodiad lleiaf, sef 0.6 fesul 1,000.
Roedd y ffigur yn uwch mewn ardaloedd awdurdod lleol sy'n adnabyddus fel cyrchfannau twristaidd poblogaidd. Yn Ne Hams yn Nyfnaint, roedd 44.1 o gartrefi gwyliau am bob 1,000 o gartrefi.
Hon oedd y gyfradd uchaf a welwyd mewn unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio Ynysoedd Scilly, sydd â phoblogaeth breswyl arbennig o fach.
Mae gan Dde Hams forlin hir a dyma lle mae rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Dartmoor, yn ogystal ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol De Dyfnaint.
Ar ôl De Hams roedd Gwynedd (41.0 fesul 1,000 o gartrefi), sy'n cynnwys y rhan fwyaf o Barc Cenedlaethol Eryri, Gogledd Norfolk (38.7 fesul 1,000) ac Ynys Môn (32.9 fesul 1,000).
O fewn awdurdodau lleol, roedd rhai ardaloedd lle roedd crynodiad y cartrefi gwyliau hyd yn oed yn uwch.
Caiff yr ardaloedd canlynol eu galw'n Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol, sy'n cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o gartrefi. Rydym yn defnyddio enwau ar eu cyfer a gafodd eu creu gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin (yn Saesneg).
Yn ardal Salcombe, Malborough a Thurlestone o Dde Hams, roedd 171.9 o gartrefi gwyliau am bob 1,000 o gartrefi. Roedd y ffigur yn 153.3 fesul 1,000 yn Abersoch ac Aberdaron yng Ngwynedd.
Mannau poblogaidd ar gyfer cartrefi gwyliau
Lleoliad ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau, yn ôl Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwythwch y data
Yn gyffredinol, roedd saith ardal lle roedd mwy nag 1 o bob 10 cartref yn cael eu defnyddio fel cartrefi gwyliau.
Roedd y rhain hefyd yn cynnwys:
- Trebetherick a Whitecross (139.5 fesul 1,000 o gartrefi) a Padstow a St Issey (120.5 fesul 1,000) yng Nghernyw
- Brancaster, Burnham Market a Docking (130.4 fesul 1,000 o gartrefi) a Hunstanton (103.8 fesul 1,000) yn King's Lynn a Gorllewin Norfolk
- Wells a Blakeney (109.1 fesul 1,000 o gartrefi) yng Ngogledd Norfolk
Roedd gan lawer o'r lleoliadau hyn â chrynodiadau arbennig o uchel o gartrefi gwyliau mewn ardaloedd arfordirol, neu ger parciau cenedlaethol.
Mae Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig wedi pasio cyfreithiau newydd yn ddiweddar er mwyn rheoleiddio perchnogaeth ail gartrefi ymhellach.
Y llynedd, newidiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig (yn Saesneg) y gyfraith fel y byddai perchnogion ail gartrefi yn talu'r dreth gyngor ar eiddo nad ydynt yn llety gwyliau gwirioneddol. Nawr mae'n rhaid i berchnogion ail gartrefi brofi bod llety gwyliau yn cael ei rentu am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn, a bod ar gael i'w rentu am o leiaf 140 o ddiwrnodau.
Cynyddodd Llywodraeth Cymru ei gofynion gosod ei hun yn ddiweddar, felly mae'n rhaid i eiddo gael eu rhentu am o leiaf 182 o ddiwrnodau'r flwyddyn, a bod ar gael am o leiaf 252 o ddiwrnodau. Mae hefyd wedi codi uchafswm premiwm y dreth gyngor y gall cynghorau ei godi ar ail gartrefi, i hyd at bedair gwaith y gyfradd safonol.
Gwyliau yn y Deyrnas Unedig yn dod yn fwy cyffredin
Roedd bron hanner (48.5%) y rheini a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yn teithio o fewn y Deyrnas Unedig, i fyny o 42.3% yng Nghyfrifiad 2011.
Roedd tua 4 o bob 10 (41.8%) o'r rhai a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau yn y Deyrnas Unedig yn teithio llai na 100 cilometr (km) o'u cyfeiriad arferol, fel y dangosir yn ein herthygl am Nodweddion pobl yng Nghymru a Lloegr sydd ag ail gyfeiriad: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Ac roedd tua 1 o bob 50 (1.9%) o bobl a oedd yn defnyddio cartref gwyliau yn aros yn yr un awdurdod lleol â'u preswylfa arferol.
Ar lefel ranbarthol, yn Swydd Efrog a Gogledd Lloegr roedd defnyddio cartrefi gwyliau yn yr un ardal â phreswylfa arferol fwyaf cyffredin.
Roedd tua dwy ran o dair o'r defnyddwyr cartrefi gwyliau yn yr ardaloedd hyn yn dod o'r un rhanbarth, 63.5% yn Swydd Efrog a Humber, 63.2% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a 61.7% yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
O'r 93,650 o bobl o Lundain a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, roedd bron chwarter yn teithio o fewn De Lloegr, gydag 14.4% yn mynd i Dde-ddwyrain Lloegr a 10.0% yn mynd i Dde-orllewin Lloegr.
Roedd bron dwy ran o dair (62.3%) o bobl o Lundain a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau yn teithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig, sef y gyfran uchaf o unrhyw ranbarth o Loegr, neu Gymru. Dim ond 0.7% oedd yn aros mewn cyfeiriadau yn Llundain.
I Ogledd-ddwyrain Lloegr (0.3%) neu Ogledd Iwerddon (0.2%) roedd defnyddwyr cartrefi gwyliau o Lundain leiaf tebygol o fynd.
Cymru oedd y gyrchfan fwyaf cyffredin o fewn y Deyrnas Unedig i bobl o:
- Orllewin Canolbarth Lloegr, lle roedd 22.4% o'r bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau yn teithio i Gymru.
- Gogledd-orllewin Lloegr, lle roedd 22.2% o'r holl ddefnyddwyr cartrefi gwyliau yn teithio i Gymru.
Roedd 20,045 o bobl o'r ardaloedd hyn yn teithio i Gymru, gan gyfrif am fwy na hanner y 36,370 o bobl a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau yng Nghymru.
Ymhlith yr holl bobl o Gymru a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, roedd dros hanner (53.8%) yn teithio i gyfeiriadau o fewn y wlad.
Roedd ychydig dros un rhan o dair (34.0%) yn teithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig, sef y gyfran leiaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau a oedd yn teithio dramor, o gymharu â rhanbarthau yn Lloegr.
Roedd tua 1 o bob 10 (11.3%) o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Gymru yn teithio i Loegr. Roedd hyn ychydig llai na 2,000 o bobl, ac roedd dros eu hanner yn defnyddio cyfeiriadau yn Ne-orllewin Lloegr.
Gan deithio i'r cyfeiriad arall dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, roedd 26,940 o bobl o Loegr yn defnyddio ail gyfeiriad yng Nghymru fel cartref gwyliau. Fodd bynnag, roedd y gyfran hon o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Loegr a oedd yn teithio i Gymru (6.3%) yn is na chyfran y defnyddwyr cartrefi gwyliau o Gymru a oedd yn teithio i Loegr (11.3%).
Y defnydd o gartrefi gwyliau yn cynyddu yn ardaloedd poblogaidd Gogledd Cymru
Cymru oedd yr ardal â'r gyfran uchaf o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, o gymharu â'r boblogaeth leol.
Roedd cyfanswm o 36,370 o bobl yn defnyddio cartrefi gwyliau yng Nghymru, sy'n cyfateb i 11.7 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau am bob 1,000 o breswylwyr lleol.
Er bod mwy o bobl wedi dweud eu bod yn defnyddio ail gyfeiriadau fel cartrefi gwyliau yn Ne-orllewin Lloegr (48,075), roedd hyn yn cyfateb i 8.4 o bobl fesul 1,000 o breswylwyr lleol.
Gwynedd oedd yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o gymharu â'i boblogaeth.
.Am bob 1,000 o breswylwyr lleol, roedd 79.0 o bobl o awdurdodau lleol eraill yn defnyddio cartref gwyliau yn yr ardal (9,270 o bobl i gyd).
Roedd dros dri chwarter y bobl a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau yng Ngwynedd yn dod o Ogledd-orllewin Lloegr (43.3%) neu Orllewin Canolbarth Lloegr (32.1%).
Mae sefyllfa debyg yn Ynys Môn, sef yr ail gyrchfan fwyaf poblogaidd ar gyfer cartrefi gwyliau yng Nghymru a Lloegr.
Daeth cyfanswm o 63.3 o bobl fesul 1,000 o breswylwyr lleol (4,375 o bobl) i gartrefi gwyliau yn yr ardal o awdurdod lleol arall.
Yn Ynys Môn y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y defnyddwyr cartrefi gwyliau o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr hefyd, i fyny o 41.5 fesul 1,000 yn 2011.
Cynyddodd y defnydd o gartrefi gwyliau yn y rhan fwyaf o'r prif gyrchfannau rhwng 2011 a 2021
Nifer y bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, fesul 1,000 o breswylwyr arferol, awdurdodau lleol, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwythwch y data
Roedd awdurdodau lleol eraill lle roedd cyfradd y defnyddwyr cartrefi gwyliau wedi cynyddu fwyaf rhwng 2011 a 2021 yn cynnwys Dwyrain Lindsey (32.8 fesul 1,000 o breswylwyr lleol i 54.4 fesul 1,000), De Lakeland (45.2 i 58.40) a Scarborough (34 i 47.1).
Lleoliadau cartrefi gwyliau a ble mae eu defnyddwyr yn byw
Lleoliad y preswylfa arferol a lleoliad yr ail gyfeiriad a ddefnyddir fel cartref gwyliau, gan awdurdod lleol, Cymru a Lloegr
Embed code
Swydd Gaer oedd yr ardal fwyaf cyffredin roedd pobl yn teithio ohoni i gartrefi gwyliau yng Ngwynedd ac Ynys Môn, gyda 6.4 fesul 1,000 o breswylwyr lleol yn dod o Ddwyrain Swydd Gaer a 4.8 fesul 1,000 o Orllewin Swydd Gaer a Chaer.
Mae poblogaeth breswyl arferol Gwynedd ac Ynys Môn wedi gostwng 3.7% ac 1.2%, yn y drefn honno, rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021, wrth i nifer y defnyddwyr cartrefi gwyliau gynyddu.
Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Gymru.
O'r 45.8 o bobl fesul 1,000 o breswylwyr lleol a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau yn Sir Benfro, roedd bron dwy ran o dair (62.7%) yn dod o Gymru, o'r de yn bennaf.
Roedd y 10 awdurdod lleol â'r gyfran fwyaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau a oedd yn teithio i Sir Benfro yn Ne Cymru, gyda'r cyfrannau uchaf yn dod o Rhondda Cynon Taf (5.3 fesul 1,000 o breswylwyr lleol) a Chaerdydd (4.6 fesul 1,000).
Arfordir Gogledd Norfolk ac Ardal y Llynnoedd yn Ne Lakeland ac Eden oedd y lleoliadau mwyaf poblogaidd ar gyfer cartrefi gwyliau yn Lloegr yn ôl Cyfrifiad 2021.
Er bod bron hanner (47.5%) y rheini a oedd yn teithio i gartrefi yng Ngogledd Norfolk yn dod o Ddwyrain Lloegr, roedd mwy nag un o bob saith (15.2%) yn dod o Lundain.
O Dde Swydd Gaergrawnt roedd y gyfran fwyaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau yn dod i Ogledd Norfolk (2.1 fesul 1,000 o breswylwyr lleol).
Yn Ne Lakeland, lle roedd 59.1 o bobl yn defnyddio cartrefi gwyliau am bob 1,000 o breswylwyr lleol, roedd y rhan fwyaf yn teithio o fewn Gogledd-orllewin Lloegr (37.3%).
Roedd rhai o'r cyfrannau uchaf o ddefnyddwyr yn dod o Wigan (2.9 fesul 1,000 o breswylwyr lleol) a Bolton (2.3 fesul 1,000).
Yn Eden, roedd 3.3 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau yn dod o Swydd Durham am bob 1,000 o breswylwyr lleol, gydag 1.5 ac 1.4 yn dod o Northumberland a Sunderland, yn y drefn honno.
Mae 1 o bob 100 o bobl o Lundain yn defnyddio cartref gwyliau
Dywedodd oddeutu 1 o bob 100 o bobl o Lundain (1.1%) eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau.
O'r 10 awdurdod lleol oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr a oedd yn defnyddio cartrefi gwyliau, roedd 8 ym mwrdeistrefi Llundain.
Kensington a Chelsea oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau
Canran y preswylwyr arferol a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad fel cartref gwyliau, Cyfrifiad 2021
Embed code
Lawrlwythwch y data
Dywedodd dros 1 o bob 20 (5.7%) o breswylwyr yn Kensington a Chelsea eu bod yn defnyddio cartref gwyliau – y gyfran uchaf yng Nghymru a Lloegr. Hon oedd yr ardal â'r nifer cyffredinol uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau hefyd, sef 8,240.
Er bod mwy na dwy ran o dair (68.5%) o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Kensington a Chelsea yn teithio i gyfeiriadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig, Cotswold (2.6%), Chichester (2.1%) a Wiltshire (1.8%) oedd y cyrchfannau mwyaf poblogaidd ymhlith y rhai a oedd yn aros yng Nghymru a Lloegr.
Roedd defnyddwyr cartrefi gwyliau o fwrdeistrefi Llundain yn tueddu i deithio ymhellach hefyd.
Roedd y rhai o Kensington a Chelsea yn teithio i gartrefi gwyliau mewn 168 o awdurdodau lleol gwahanol: dros hanner y 331 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.
Ar gyfartaledd, roedd defnyddwyr cartrefi gwyliau o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio ail gyfeiriadau mewn 64 o awdurdodau lleol eraill.
Westminster oedd yr ardal â'r ail gyfran uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau (3.0%, neu 6,190 o bobl).
Cotswold (2.3%), Wiltshire (1.5%) a Gorllewin Swydd Rydychen (1.3%) oedd y prif gyrchfannau yng Nghymru a Lloegr i ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Westminster.
Roedd y rhai a oedd yn teithio o fewn Cymru a Lloegr o Westminster yn defnyddio cyfeiriadau mewn 173 o awdurdodau lleol gwahanol, yr uchaf o unrhyw ardal.
Ymhlith defnyddwyr cartrefi gwyliau o Lundain, o Richmond upon Thames, Wandsworth ac Islington roedd y rhai a oedd yn defnyddio cyfeiriadau yng Nghymru a'r Alban yn dod gan mwyaf.
Roedd tua 1 o bob 20, neu 5.4%, o'r rhai o Richmond upon Thames yn teithio i ail gyfeiriad yng Nghymru (3.1%) neu'r Alban (2.3%).
Yn Ne-orllewin Lloegr roedd y cyrchfannau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr cartrefi gwyliau o Richmond upon Thames, gan gynnwys Cernyw (5.5%) a Dorset (4.1%).
Mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer cartrefi gwyliau, daw dros hanner o'r rheini sy'n eu defnyddio o Lundain.
Maent yn cynnwys Cotswold (57.5% o'r 1,810 o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau), Rother (52.4% o'r 1,775 o ddefnyddwyr), a Thanet (57.6% o'r 1,650).
Y tu allan i Lundain, Elmbridge (1.9%) a Waverley (1.6%), y ddau yn Surrey, oedd yr ardaloedd â'r gyfran uchaf o ddefnyddwyr cartrefi gwyliau.
Cernyw ac Ynys Wyth oedd y cyrchfannau mwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr cartrefi gwyliau o Elmbridge (4.4% a 3.8%, yn y drefn honno).
O blith y rhai o Waverley, roedd 6.5% yn teithio i Gernyw, 5.5% i Dorset, a 4.5% i Ynys Wyth.
Cartrefi gwyliau yn fwy tebygol o fod yn adeilad ar wahân
Yn ogystal â'r lleoliad, gallwn edrych ar y math o gartref a nifer yr ystafelloedd gwely mewn ail gyfeiriadau a ddefnyddir fel cartrefi gwyliau.
Gellid nodi gwybodaeth am y math o gartref ar gyfer 85.6% o'r holl gartrefi gwyliau yn ein data, ac roedd gwybodaeth am nifer yr ystafelloedd gwely ar gael ar gyfer 81.0%.
Ledled Cymru a Lloegr, roedd cartrefi gwyliau yn fwy tebygol o fod yn adeilad ar wahân (33.0%), er mai tai semi oedd y math mwyaf cyffredin o eiddo ar gyfer yr holl gartrefi a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021. Yng Nghymru, roedd 44.8% o'r cartrefi gwyliau yn eiddo ar wahân.
Roedd 5.9% o'r cartrefi gwyliau ledled Cymru a Lloegr yn garafannau neu'n fath arall o gartref symudol neu dros dro. Er mai carafannau neu fath arall o gartref symudol neu dros dro oedd 50.8% o'r cartrefi gwyliau yn Nwyrain Lindsey, roeddent yn gyfrifol am lai na 10% o'r cartrefi gwyliau yn yr 19 o ardaloedd eraill lle roedd cartrefi gwyliau fwyaf cyffredin.
Dwy ystafell wely oedd y nifer mwyaf cyffredin (40.0%) o ystafelloedd gwely mewn cartrefi gwyliau ledled Lloegr, a thair ystafell wely yn ail (32.3%).
Yng Nghymru, cartrefi gwyliau â thair ystafell wely oedd fwyaf cyffredin (37.9%), ac roedd gan 36.5% ddwy ystafell wely.
Gellir cael rhagor o ffigurau am gartrefi gwyliau yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely a'r math o gartref, a mathau eraill o ail gyfeiriadau gan gynnwys cyfeiriad rhiant neu warcheidwad neu gyfeiriad cartref myfyriwr, yn ein lawrlwythiadau data.
Ynglŷn â'r data
Dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr fel arfer a ddywedodd eu bod yn treulio o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn mewn ail gyfeiriad a gaiff eu cynnwys yn y data hyn.
Mae'n bosibl bod gan bobl nad ydynt yn breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr ail gyfeiriad yng Nghymru a Lloegr, ond ni fyddent wedi cael eu cofnodi yn y data hyn.
Mae'n bosibl nad yw rhai ail gyfeiriadau yn cael eu defnyddio gan unrhyw breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn, ac ni fyddai'r rhain yn cael eu cofnodi yn y data hyn.
Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Daw'r data ar nifer yr ystafelloedd gwely a math o gartref yr ail gyfeiriad o ddata Nodweddion Eiddo Asiantaeth y Swyddfa Brisio, neu ddata Cyfrifiad 2021 os yw ar gael. Nid yw'n bosibl cael y wybodaeth hon ar gyfer yr holl anheddau rydym wedi'u rhestru fel ail gyfeiriadau.