Y Gymraeg, Cymru: Cyfrifiad 2021

Gallu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn sy'n byw yng Nghymru i ddeall Cymraeg llafar, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Sarah Garlick

Dyddiad y datganiad:
6 December 2022

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

  • Yng Nghymru, mae cwestiwn am y Gymraeg wedi cael ei gynnwys yn y cyfrifiad ers 1891, lle mae pobl yn asesu eu sgiliau Cymraeg eu hunain neu sgiliau eraill os ydynt yn ymateb ar ran rhywun arall, fel rhieni neu warcheidwad sy'n ateb ar ran plant.

  • Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaeth pobl asesu a oeddent yn gallu deall Cymraeg llafar, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg; gallai pobl ddewis un sgìl, mwy nag un sgìl neu ddim sgiliau Cymraeg.

  • Yn 2021, nododd tua 538,000 o breswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru (17.8%) eu bod yn gallu siarad Cymraeg, sy'n ostyngiad ers 2011 (562,000, 19.0%).

  • Un o'r prif ffactorau a gyfrannodd at y gostyngiad cyffredinol yn nifer y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 oedd y gostyngiad yn nifer y plant a'r bobl ifanc rhwng 3 a 15 oed a nododd y sgìl hwn.

  • Gostyngodd canran y preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn a allai siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol ac eithrio Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

  • Gostyngodd canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed a allai siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Data am y Gymraeg

Sgiliau Cymraeg (siarad)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sgiliau Cymraeg (siarad) yn ôl blwyddyn oedran unigol
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu gallu i siarad Cymraeg, yn ôl oedran. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sgiliau Cymraeg (deall)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu gallu i ddeall Cymraeg. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sgiliau Cymraeg (darllen)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu gallu i ddarllen Cymraeg. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sgiliau Cymraeg (ysgrifennu)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu gallu i ysgrifennu Cymraeg. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sgiliau Cymraeg (manwl)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Tachwedd 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 3 oed neu’n hŷn yng Nghymru yn ôl eu sgiliau Cymraeg cyffredinol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4% o'r boblogaeth breswyl arferol, a dros 94% ym mhob awdurdod lleol. Roedd cyfran y ffurflenni a ddychwelwyd ar lein yn is yng Nghymru (68%) nag yn Lloegr (90%). Mae'n debyg bod hyn oherwydd bod canran uwch o gartrefi yng Nghymru nag yn Lloegr lle cafodd holiadur papur ei ddefnyddio fel cyswllt cychwynnol yn hytrach na chod mynediad ar-lein (50% yng Nghymru o gymharu â 9% yn Lloegr (yn Saesneg)), gan eu bod mewn ardaloedd lle disgwyliwyd mai nifer bach o bobl fyddai'n dewis defnyddio'r opsiwn ar-lein.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb cwestiwn-benodol ar gyfer Cymru a Lloegr yn Adran 6 o'n methodoleg ar Golygu eitemau a phroses priodoli ar gyfer Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr (yn Saesneg).

Asesiad hunan-canfyddedig

Mae data Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg yn seiliedig ar hunanasesiad ymatebwyr o'u sgiliau iaith.

Gofynnodd cwestiwn Cyfrifiad 2021 i bobl asesu eu gallu i:

  • ddeall Cymraeg llafar

  • siarad Cymraeg

  • darllen Cymraeg

  • ysgrifennu Cymraeg

Bydd pawb yn asesu eu sgiliau iaith yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gall 2 berson sydd â'r un sgiliau yn y Gymraeg roi atebion gwahanol am eu gallu. Gallai hefyd fod yn asesiad o allu person arall os yw rhywun yn ateb ar ran rhywun arall. Er enghraifft, gall sgiliau iaith plentyn fod wedi'u nodi gan riant. Efallai na fydd y rhiant yn gwybod pa mor dda y gall plentyn ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.

Darllenwch fwy am sicrhau ansawdd ar ein tudalen methodoleg, Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg o Gyfrifiad 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Dolenni cysylltiedig

Y Gymraeg yng Nghymru: Cyfrifiad 2021 
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 6 Rhagfyr 2022
Bwletin ystadegol Llywodraeth Cymru am y Gymraeg.

Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall data diweddaraf Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg
Tudalen we | Rhyddhawyd ar 6 Rhagfyr 2022
Blog Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru am y Gymraeg yng Nghymru. 

Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Datganiad pennawd | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am ddemograffeg a mudo yng Nghymru.  

Y cyfrifiad o'r boblogaeth
Tudalen we| Diweddarwyd ar 6 December 2022
Data Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ategol ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru.

Gwybodaeth am ansawdd data am y Gymraeg o Gyfrifiad 2021
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 6 Rhagfyr 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar y Gymraeg o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Iaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (PDF, 698kB)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Prif iaith, hyfedredd Saesneg, ac iaith y cartref yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Tudalen we | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Data a gwybodaeth ategol am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 6 Rhagfyr 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Y Gymraeg, Cymru: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Sarah Garlick
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: