Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Grwpiau ethnig preswylwyr arferol a chyfansoddiad ethnig cartrefi yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Sarah Garlick

Dyddiad y datganiad:
29 November 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, nododd 81.7% (48.7 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr fod eu grŵp ethnig yn y categori "Gwyn" lefel uchel, gostyngiad o 86.0% (48.2 miliwn) yng Nghyfrifiad 2011.
  • Fel rhan o'r grŵp ethnig "Gwyn", nododd 74.4% (44.4 miliwn) o gyfanswm y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr "Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" fel eu grŵp ethnig. Mae hwn yn ostyngiad sydd wedi parhau o 80.5% (45.1 miliwn) yn 2011, ac o 87.5% (45.5 miliwn) a nododd hyn yn 2001.
  • Yr ail grŵp ethnig lefel uchel mwyaf cyffredin oedd "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig", a nodwyd gan 9.3% (5.5 miliwn) o'r boblogaeth gyffredinol. Y grŵp ethnig hwn oedd â'r cynnydd mwyaf o ran pwynt canran o 2011, i fyny o 7.5% (4.2 miliwn o bobl).
  • Ar draws y 19 grŵp ethnig, yn nifer y bobl a nododd eu grŵp ethnig drwy'r categori "Gwyn: Gwyn arall" (6.2%, 3.7 miliwn yn 2021 y gwelwyd y cynnydd mwyaf o ran pwynt canran, i fyny o 4.4%, 2.5 miliwn yn 2011). Mae'r opsiwn ymateb hwn yn galluogi pobl i nodi eu grŵp ethnig drwy ei ysgrifennu; gellir esbonio'r cynnydd yn rhannol gan y cyfleuster chwilio-wrth deipio newydd a gyflwynwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021, a oedd yn ei gwneud hi'n haws i bobl hunanddiffinio wrth gwblhau'r cyfrifiad ar lein.
  • Gwelwyd newidiadau mawr yn nifer y bobl a nododd "Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall" fel eu grŵp ethnig hefyd (1.6%, 924,000 yn 2021, i fyny o 0.6%, 333,000 yn 2011), a "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd" (2.5%, 1.5 miliwn yn 2021, i fyny o 1.8%, 990,000); roedd opsiwn i ysgrifennu ymateb ar gyfer y ddau grŵp ethnig hyn.
  • Yng Nghymru a Lloegr, roedd 10.1% (2.5 miliwn) o gartrefi yn cynnwys aelodau a nododd ddau grŵp ethnig neu fwy, cynnydd o 8.7% (2.0 miliwn) yn 2011
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Grwpiau ethnig yng Nghymru a Lloegr

Dau gam y cwestiwn grŵp ethnig

Ers 1991, mae cyfrifiad Cymru a Lloegr wedi cynnwys cwestiwn am grŵp ethnig.

Mae dau gam i'r cwestiwn grŵp ethnig. Yn gyntaf, bydd person yn dewis un o blith y pum grŵp ethnig lefel uchel canlynol:

  • "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig"
  • "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd"
  • "Grwpiau Cymysg neu Amlethnig"
  • "Gwyn"
  • "Grŵp ethnig arall"

Yn ail, bydd person yn dewis un o'r 19 o opsiynau ymateb sydd ar gael, sy'n cynnwys categorïau ag opsiynau i ysgrifennu ymateb. I gael rhagor o wybodaeth am strwythur cwestiynau, gweler Adran 9: Mesur y data.

Grwpiau ethnig lefel uchel yng Nghymru a Lloegr

"Gwyn" oedd y grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru a Lloegr o hyd; gwnaeth 81.7% (48.7 miliwn) o breswylwyr arferol nodi hyn yn 2021, gostyngiad o 86.0% (48.2 miliwn) yn 2011.

Ffigur 1: Mae canran y boblogaeth wedi cynyddu ym mhob grŵp ethnig lefel uchel ers 2011, heblaw am "Gwyn"

Dosbarthiad grwpiau ethnig (categorïau lefel uchel), 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Nid ydym wedi cynnwys y grŵp ethnig "Gwyn" yn y siart hon er mwyn ei gwneud hi'n haws i weld yn glir y gwahaniaethau rhwng y pedwar grŵp ethnig lefel uchel sy'n cyfrif am ganran lai o'r boblogaeth gyffredinol.

  2. Rydym wedi cyflwyno'r categorïau grŵp ethnig yn nhrefn yr wyddor (heblaw am "Grŵp ethnig arall").

  3. Cafodd "Asiaidd Cymreig" a "Du Cymreig" eu cynnwys ar holiadur y cyfrifiad yng Nghymru yn unig. Roedd y categorïau hyn yn newydd yn 2021.

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yn nifer y bobl a nododd eu grŵp ethnig o fewn y categori "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" y gwelwyd y cynnydd mwyaf (9.3%, 5.5 miliwn yn 2021, i fyny o 7.5%, 4.2 miliwn yn 2011) ac o fewn "Grŵp ethnig arall" (2.1%, 1.3 miliwn o bobl yn 2021, i fyny o 1.0%, 564,000 yn 2011).

Mae llawer o ffactorau a all fod yn cyfrannu at gyfansoddiad ethnig newidiol Cymru a Lloegr, fel patrymau gwahanol o ran heneiddio, ffrwythlondeb, marwolaeth, a mudo. Gall gwahaniaethau yn y ffordd roedd unigolion yn dewis disgrifio eu hunain rhwng cyfrifiadau fod wedi arwain at newidiadau hefyd.

Y 19 grŵp ethnig yng Nghymru a Lloegr

O fewn y grŵp ethnig "Gwyn", nododd 74.4% (44.4 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr "Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" fel eu grŵp ethnig. Roedd hyn yn ostyngiad o 80.5% (45.1 miliwn) yn 2011, ac yn ostyngiad parhaus o 2001, pan nododd 87.5% (45.5 miliwn) "Gwyn: Prydeinig".

Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a nododd "Gwyn: Gwyddelig" fel eu grŵp ethnig, o 531,000 (0.9%) yn 2011 i 507,000 (0.9%) yn 2021.

Cynyddodd maint pob un o'r 17 grŵp ethnig sy'n weddill yn y 19 opsiwn ymateb a oedd ar gael, fel sydd i weld yn Ffigur 2.

Ffigur 2: Grwpiau ethnig lleiafrifol, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Nid ydym wedi cynnwys "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" yn y siart hon. Diben hyn yw ei gwneud hi'n haws i weld yn glir y gwahaniaethau rhwng y 18 grŵp ethnig leiafrifol sy'n cyfrif am ganran lai o'r boblogaeth gyffredinol.

  2. Rydym wedi cyflwyno'r pum categori lefel uchel yn nhrefn yr wyddor. Yna caiff y 18 grŵp ethnig eu cyflwyno yn nhrefn yr wyddor o fewn pob categori grŵp ethnig lefel uchel. Ym mhob achos, caiff opsiynau "arall" eu rhestru olaf.

  3. Nid oedd blwch ticio ar gyfer "Roma" yn 2011.

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yn 2021, roedd opsiwn ymateb newydd ar gyfer "Roma" o fewn y grŵp ethnig lefel uchel "Gwyn". Ar y cyfan, dewisodd 0.2% (101,000) o breswylwyr arferol yr opsiwn hwn, ac roedd y ganran yn uwch yn Lloegr (0.2%, 99,000) nag yng Nghymru (0.1%, 2,000).

Yn nifer y bobl a ddewisodd yr opsiynau canlynol y gwelwyd y tri chynnydd mwyaf ers 2011:

  • "Gwyn: Gwyn arall" (6.2%, 3.7 miliwn yn 2021, i fyny o 4.4%, 2.5 miliwn yn 2011)
  • "Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall" (1.6%, 924,000 yn 2021, i fyny o 0.6%, 333,000 yn 2011)
  • "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd" (2.5%, 1.5 miliwn yn 2021, i fyny o 1.8%, 990,000 yn 2011).

Roedd y rhain yn dri o'r chwe opsiwn ymateb a oedd ar gael a oedd yn caniatáu i bobl nodi eu grŵp ethnig drwy ei ysgrifennu. Gellir esbonio'r cynnydd yn y grwpiau ethnig hyn yn rhannol gan y cyfleuster chwilio-wrth-deipio newydd yng Nghyfrifiad 2021, a oedd yn ei gwneud hi'n haws i bobl hunanddiffinio wrth gwblhau'r cyfrifiad ar lein.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Dosbarthiad grŵp ethnig manwl

Mae Cyfrifiad 2021 yn rhoi gwybodaeth am 287 o grwpiau ethnig.

Mae'r cyfleuster ysgrifennu wedi ein galluogi i gynhyrchu dosbarthiad grŵp ethnig manwl yn ein Set ddata grŵp ethnig (manwl) yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg), gan roi gwybodaeth am 287 o grwpiau ethnig. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y caiff ymatebion ysgrifenedig eu cynnwys yn y dosbarthiad manwl yn ein blog ar daith yr ateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg).

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar y tri opsiwn ysgrifennu ymateb lle gwelwyd y newid mwyaf ers 2011, fel y nodwyd tua diwedd Adran 2: Grwpiau ethnig yng Nghymru a Lloegr.

Grwpiau ethnig o fewn y grŵp ethnig "Gwyn: Gwyn arall"

Roedd y grwpiau ethnig mwyaf a nodwyd o fewn "Gwyn: Gwyn arall" yn cynnwys "Gwyn: Pwylaidd", gyda 614,000 (1.0%) o'r boblogaeth gyffredinol yn nodi hyn, a "Gwyn: Rwmanaidd", gyda 343,000 o bobl (0.6%) yn nodi hyn.

Grwpiau ethnig o fewn y categori "Grŵp ethnig arall,"

Gwnaeth nifer y bobl a ddewisodd nodi eu grŵp ethnig drwy'r opsiwn ysgrifennu ymateb "Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall" (924,000, 1.6%) dreblu bron ers 2011 (333,000, 0.6%). Roedd y grwpiau ethnig mwyaf o fewn yr opsiwn ysgrifennu ymateb "Grŵp ethnig arall: Unrhyw grŵp ethnig arall" ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys "Sicaidd" (77,000, 0.1%), "Sbaenig neu Ladin Americanaidd" (76,000, 0.1%) a "Cwrdaidd" (76,000, 0.1%).

Mae grŵp ethnig yn aml-ddimensiwn ac yn gymhleth, felly mae'n bosibl y bydd hunaniaethau a nodir yma yn ymddangos sawl gwaith yn y dosbarthiad manwl. Er enghraifft, nododd 23,000 o bobl "Sicaidd" fel eu grŵp ethnig o fewn y categori lefel uchel "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig".

Mae ethnigrwydd yn rhywbeth aml-ddimensiwn a goddrychol, a gall person ddewis diffinio ei grŵp ethnig mewn amrywiol ffyrdd. Gall hyn gynnwys llinach gyffredin, elfennau o ddiwylliant, hunaniaeth, crefydd, iaith ac ymddangosiad corfforol. Derbynnir yn gyffredinol fod grŵp ethnig yn cynnwys cyfuniad o'r holl agweddau hyn, a rhai eraill.

Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd cwestiwn gwirfoddol ar wahân i bobl ynghylch a oedd ganddynt ymlyniad crefyddol. Mae'n bosibl y bydd pobl sy'n disgrifio eu hethnigrwydd fel Sicaidd hefyd wedi dewis Siciaeth fel eu crefydd, neu efallai y byddant wedi dewis y naill neu'r llall, neu ddim un ohonynt. Nododd 524,000 (0.9%) o bobl yng Nghymru a Lloegr "Siciaeth" yn y cwestiwn crefydd. Cewch ragor o wybodaeth am ymlyniad crefyddol yn ein bwletin Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Mae dadansoddiadau pellach wedi'u cynllunio sy'n ystyried sut mae newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yn rhyngweithio â'i gilydd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein cynlluniau dadansoddi ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg).

Grwpiau ethnig o fewn y grŵp ethnig "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd"

Mae'r opsiwn i ysgrifennu ymateb yn y categori "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd" wedi ein galluogi i feithrin dealltwriaeth o gefndiroedd Affricanaidd. Roedd y grwpiau ethnig mwyaf a nodwyd yn yr opsiwn ysgrifennu ymateb hwn yn cynnwys "Nigeriaidd" (271,000, 0.5%), "Somalïaidd" (151,000, 0.3%) a "Ghanaidd" (113,000, 0.2%).

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut roedd cyfansoddiad ethnig yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Cymru a Lloegr

Yn Lloegr, roedd canran y boblogaeth a nododd eu hethnigrwydd o fewn:

  • y grwpiau ethnig "Asian or Asian British" yn 9.6% (5.4 miliwn)
  • y grwpiau ethnig "Black, Black British, Caribbean or African" yn 4.2% (2.4 miliwn)
  • "Mixed or Multiple ethnic groups" yn 3.0% (1.7 miliwn)
  • y grwpiau ethnig "White" yn 81.0% (45.8 miliwn)
  • "Other ethnic group" yn 2.2% (1.2 miliwn)

Yng Nghymru, roedd canran y boblogaeth a nododd eu hethnigrwydd o fewn:

  • y grwpiau ethnig "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" yn 2.9% (89,000)
  • y grwpiau ethnig "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" yn 0.9% (28,000)
  • "Grwpiau Cymysg neu Amlethnig" yn 1.6% (49,000)
  • y grwpiau ethnig "Gwyn" yn 93.8% (2.9 miliwn)
  • "Grŵp ethnig arall" yn 0.9% (26,000)

Rhanbarthau yn Lloegr

Llundain yw'r rhanbarth mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn Lloegr o hyd a gostyngodd nifer y bobl a nododd "White: English, Welsh, Scottish, Northern Irish or British" fel eu grŵp ethnig 8.1 pwynt canran (36.8%, 3.2 miliwn yn 2021, i lawr o 44.9%, 3.7 miliwn yn 2011). Mewn rhanbarthau eraill, amrywiodd y canrannau a nododd y grŵp ethnig hwn o 71.8% (4.3 miliwn) yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr i 90.6% (2.4 miliwn) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Awdurdodau Lleol

Mae ystadegau ar gyfer awdurdodau lleol yn rhoi dealltwriaeth bellach o ble mae grwpiau ethnig yn tueddu i fod wedi'u crynhoi yng Nghymru a Lloegr.

Ffigur 3: Y boblogaeth yn ôl grŵp ethnig, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Grwpiau ethnig o fewn cartref

Mae Cyfrifiad 2021 yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad grŵp ethnig yr 17.3 miliwn o gartrefi lle roedd mwy nag un person yn byw (69.8% o 24.8 miliwn o gartrefi â rhywun yn byw ynddynt). Roedd 30.2% (7.5 miliwn) pellach o gartrefi yn rhai lle roedd un person yn byw.

Gan edrych yn fanylach ar gartrefi â sawl person, mewn 59.7% (14.8 miliwn) o'r holl gartrefi yng Nghymru a Lloegr, nododd pob aelod o'r cartref yr un grŵp ethnig. Roedd hyn yn ostyngiad o 61.1% (14.3 miliwn o gartrefi) yn 2011.

Mewn 10.1% (2.5 miliwn) o gartrefi yng Nghymru a Lloegr, cafodd dau grŵp ethnig neu fwy eu cynrychioli. Mae hyn wedi cynyddu ers 2011 (8.7%, 2.0 miliwn).

Mae Cyfrifiad 2021 yn rhoi gwybodaeth bellach am dri chyfuniad o grŵp ethnig a chydberthnasau, o fewn cartrefi lle mae aelodau yn nodi grwpiau ethnig gwahanol:

  • "Mae'r grwpiau ethnig yn amrywio o fewn partneriaethau" (5.7%, 1.4 miliwn o gartrefi â mwy nag un person)
  • "Mae'r grwpiau ethnig yn amrywio rhwng y cenedlaethau ond nid o fewn partneriaethau" (1.8%, 436,000)
  • unrhyw gyfuniad arall o sawl hunaniaeth ethnig rhwng aelodau o'r cartref â mathau eraill o gydberthynas, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn perthyn, fel ffrindiau (2.6%, 649,000)

Grwpiau ethnig o fewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr

Yn Lloegr, roedd 10.4% o'r holl gartrefi yn gartrefi â sawl grŵp ethnig (2.4 miliwn o gartrefi), o gymharu â 5.3% yng Nghymru (71,000 o gartrefi). Yn rhanbarthau Lloegr, roedd canran y cartrefi â sawl grŵp ethnig yn amrywio rhwng 4.1% o gyfanswm y cartrefi yng Ngogledd ddwyrain Lloegr (48,000 o gartrefi) a 22.3% (763,000 o gartrefi) yn Llundain.

Mae'r adnodd rhyngweithiol yn dangos data ar sut mae cyfansoddiad grŵp ethnig o fewn cartrefi yn amrywio ar lefel leol.

Ffigur 4: Mae canran y cartrefi sy'n cynnwys sawl grŵp ethnig yn amrywio yn ôl awdurdod lleol

Cyfansoddiad ethnig cartrefi, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar ethnigrwydd eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Data am grŵp ethnig

Grŵp ethnig yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl grŵp ethnig. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Grŵp ethnig (manwl) yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl grŵp ethnig. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Sawl grŵp ethnig yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl amrywiaeth grŵp ethnig aelodau o'r cartref mewn cydberthnasau gwahanol. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Rhestr termau

Grŵp ethnig

Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.

Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.

Grŵp ethnig lefel uchel

Mae hyn yn cyfeirio at y cam cyntaf o'r cwestiwn grŵp ethnig dau gam. Mae grwpiau lefel uchel yn cyfeirio at y cam cyntaf pan fydd yr ymatebydd yn nodi ei grŵp ethnig drwy un o'r opsiynau canlynol:

  • "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig"
  • "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd"
  • "Grwpiau Cymysg neu Amlethnig"
  • "Gwyn"
  • "Grŵp ethnig arall"

Sawl grŵp ethnig mewn cartrefi

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl p'un a yw'r aelodau yn ystyried eu bod yn dod o'r un grwpiau ethnig neu rai gwahanol.

Os oes sawl grŵp ethnig yn bresennol, mae hyn yn nodi p'un a yw grwpiau ethnig yn amrywio rhwng cenedlaethau neu rhwng partneriaethau yn y cartref.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.

Y cwestiwn grŵp ethnig

I weld y cwestiwn am grŵp ethnig ar holiadur y cartref neu'r holiadur i unigolion, ewch i'n tudalen am holiaduron papur Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Grwpiau ethnig yn y dosbarthiad grŵp ethnig manwl

Bydd grŵp ethnig yn ymddangos yn y dosbarthiad manwl os bydd nifer y bobl a nododd y grŵp mewn opsiwn ysgrifennu ymateb yn ddigonol er mwyn eu dadgyfuno â grwpiau ethnig eraill. Am y rheswm hwn, bydd rhai grwpiau ethnig yn ymddangos mewn sawl categori lefel uchel. Os bydd nifer y bobl a nododd grŵp ethnig yn ddigon bach i allu adnabod unigolion, caiff y grŵp ethnig ei gyfuno â grwpiau ethnig eraill yn yr un opsiwn ysgrifennu ymateb.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Adroddiad blaenoriaethu blychau ticio grŵp ethnig ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Erthygl | Rhyddhawyd ar 26 Mehefin 2020
Asesiad i baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2021

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 29 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Grŵp ethnig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Sarah Garlick
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972