Cysylltu ynghylch ein hastudiaethau

Os byddwch chi wedi cael llythyr gennym ni yn eich gwahodd i gymryd rhan yn un o'n hastudiaethau dros y ffôn, rhowch eich rhif i ni.

Os oes gennych chi system blocio galwadau, ffoniwch ni ar +44 (0)800 298 5313 i ddweud.wrthym beth yw'r ffordd orau o gysylltu â chi.

Cysylltwch â’n llinell ymholiadau rhadffôn ar +44 (0) 800 298 5313 i siarad â chynghorydd i gael cymorth gyda’r canlynol:

  • gwneud apwyntiad i gyfwelydd alw ar adeg sy’n gyfleus i chi

  • trosglwyddo neges i gyfwelydd sydd eisoes wedi cysylltu â chi

  • gwneud cais am ein deunyddiau mewn print bras neu Braille

  • gwneud cais am ein deunyddiau mewn iaith arall

  • unrhyw ymholiadau eraill sydd gennych am ein hastudiaethau neu am gymryd rhan dylai defnyddwyr Testun y Genhedlaeth Newydd (NGT) ddeialu 18110 cyn y rhif hwn

  • Er mwyn cadarnhau y cawsoch eich gwahodd i un o'n hastudiaethau neu i gadarnhau manylion adnabod cyfwelydd

Yr amseroedd agor yw:

Ddydd Llun i ddydd Gwener 8yb i 7yp
Dydd Sadwrn 8yb i 1yp

Cysylltu ynghylch Arolwg Cenedlaethol Cymru

Os ydych chi’n cymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ac yr hoffech gael eich cyfweld drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â’n llinell ymholiadau rhadffôn ar +44 (0) 800 496 i drefnu hynny.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill am Arolwg Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â’n llinell ymholiadau rhadffôn ar +44 (0) 800 298 5313.

Yr amseroedd agor yw:

Ddydd Llun i ddydd Gwener 8yb i 7yp
Dydd Sadwrn 8yb i 1yp

Rhannwch eich awgrymiadau â ni

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella unrhyw rai o’n hastudiaethau. Hoffem hefyd glywed oddi wrthych os ydych chi’n hapus gyda’r gwasanaeth a dderbyniwyd gennych. Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.