1. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, maent yn berthnasol i'n harolygon.

Cael gwybodaeth gan gynifer o gartrefi â phosibl yw'r unig ffordd y gallwn gael darlun cyflawn a chywir o amgylchiadau'r genedl.

Caiff y wybodaeth a gesglir gennym mewn cyfweliadau arolwg ei defnyddio i lunio ystadegau megis ffigurau diweithdra, mesurau chwyddiant a lefelau ymfudo i'r Deyrnas Unedig ac o'r Deyrnas Unedig.

Mae llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, busnesau, elusennau, academyddion ac eraill yn dibynnu ar ein hystadegau i wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Drwy gymryd rhan yn ein harolwg, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau am faterion sy'n effeithio ar y gymuned gyfan, gan gynnwys gwaith, diweithdra, hyfforddiant, ymddeol a gofalu am y teulu a'r cartref.

Byddwch yn sicrhau bod eich profiadau a'ch amgylchiadau yn dod yn rhan bwysig o ddarlun ehangach bywyd yn y Deyrnas Unedig heddiw ac yn helpu i lywio polisïau sy'n effeithio ar bawb yn y Deyrnas Unedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pwy sy'n cynnal yr arolwg?

Mae'r rhan fwyaf o'n harolygon yn cael eu cynnal gan gyfwelwyr o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), prif ddarparwr ystadegau swyddogol y wlad. Rydym ni yn SYG yn casglu gwybodaeth annibynnol am gymdeithas ac economi'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf.

Mae'r cyfrifiad a gynhelir bob deng mlynedd, mesurau chwyddiant, y cyfrifon gwladol ac ystadegau am boblogaeth ac ymfudo ymhlith yr enghreifftiau o'n hallbwn proffil uchaf.

Caiff Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ei gynnal gan Kantar Public (sefydliad ymchwil annibynnol) ar ran SYG.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut mae cymryd rhan?

Bydd cyfwelydd yn cysylltu â chi i drefnu amser addas ar gyfer cynnal y cyfweliad. Caiff data holiadur eu casglu wyneb yn wyneb fel arfer gan ddefnyddio holiaduron gyda chymorth cyfrifiaduron, er y gellir cynnal rhai cyfweliadau dros y ffôn. Os byddwch yn cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ffôn, y rhif y byddwn yn ei ddefnyddio i'ch ffonio fydd +44 (0)2392 958 174.

Yn ystod y cyfweliad byddwn yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau'r cartref cyfan ac yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau, er enghraifft, iechyd, gofalu am y teulu a'r cartref, statws cyflogaeth, addysg, a chyfleoedd hyfforddiant.

Ar lein

Mewn ymateb i alw gan y cyhoedd, yn raddol rydym yn cyflwyno'r opsiwn o gwblhau ein hastudiaethau ar-lein. Os cewch eich dewis i gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein, bydd hynny wedi'i nodi yn eich llythyr, a fydd hefyd yn cynnwys eich manylion mewngofnodi (cod mynediad cartref a dolen i wefan yr astudiaeth). Os bydd angen help arnoch i gymryd rhan ar lein, ffoniwch ni am ddim ar +44 (0)800 085 7376 neu e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Mae adrannau'r Llywodraeth yn defnyddio canlyniadau ein harolygon i nodi sut a lle y dylid defnyddio adnoddau cyhoeddus.

Maent yn defnyddio'r wybodaeth i weld sut y mae polisïau cyfredol yn effeithio ar grwpiau gwahanol yn y gymuned ac i lywio newidiadau polisi yn y dyfodol.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn defnyddio'r canlyniadau i benderfynu faint o gyllid y bydd yn ei roi i'r Deyrnas Unedig i wella rhagolygon, cyfleusterau a chyfleoedd cyflogaeth yn eich ardal leol.

Mae ysgolion a phrifysgolion yn defnyddio ein hystadegau wrth astudio llawer o wahanol bynciau.

Prif ddefnyddwyr y wybodaeth a gesglir gan Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yw'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ogystal ag adrannau eraill y Llywodraeth.

Mae enghreifftiau o'r ystadegau a gynhyrchir gan un o'n harolygon i'w gweld ar dudalennau thema'r Farchnad Lafur.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae ein gwaith yn bwysig iawn ac mae angen eich help arnom i sicrhau llwyddiant ein hastudiaethau. Bob blwyddyn, bydd tua hanner miliwn o bobl yn ein helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaethau. Does dim rhaid i neb gymryd rhan os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ond er mwyn i ni lunio darlun cywir o'n cymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn cyfweld â chynifer o bobl â phosibl, o bob cefndir.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. A yw'r arolwg yn gyfrinachol?

Ydy, mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn caniatáu i ni gasglu a phrosesu eich data i gynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd.

Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ystadegau a gaiff eu cynhyrchu yn datgelu pwy ydych chi nac unrhyw un arall yn eich cartref.

Yn ogystal, rhoddir gwybodaeth o'r arolwg i adrannau eraill o'r Llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig. Gellir dod o hyd i fanylion am bwy all gael gafael ar y wybodaeth hon ar y dudalen sefydliadau cymeradwy ac adrannau'r Llywodraeth a'r dudalen ymchwilwyr cymeradwy. Bydd yr holl ystadegau a gynhyrchir yn cydymffurfio â'r Cod a bydd yr un safonau diogelwch yn gymwys i'ch data bob amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Dewisir sampl o gartrefi ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol.

Ar ôl i gartref gael ei ddewis, ni allwn ddewis cartref arall yn ei le, gan y byddai hyn yn effeithio ar ba mor gynrychioliadol yw'r arolwg.

Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn cymryd rhan er mwyn sicrhau bod pob grŵp yn y gymuned yn cael ei gynrychioli'n briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Â phwy y gallaf gysylltu er mwyn trefnu apwyntiad neu i gael rhagor o wybodaeth?

Er mwyn trefnu apwyntiad i'r cyfwelydd alw ar amser sy'n gyfleus i chi, er mwyn gadael neges i'r cyfwelydd sydd eisoes wedi cysylltu â chi neu ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymryd rhan mewn arolwg, ffoniwch ein Llinell Ymholiadau Arolwg am ddim ar +44 (0)800 298 5313.

Yr amseroedd agor yw:

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Ar gyfer Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, ffoniwch Linell Wybodaeth yr Arolwg Troseddu yn Kantar Public am ddim ar +44 (0)800 051 0882.

Ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru, ffoniwch +44 (0)800 496 2119.

Ar gyfer Astudiaethau Cartref Ar-lein ffoniwch + 44 (0)800 085 7376.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Beth yw cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r cyhoedd?

Gallwch ddarllen am yr ymrwymiadau a wna'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ei harolygon yn Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion SYG.

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen diogelu data.

Weithiau byddwn yn casglu gwybodaeth ar ran sefydliad arall. I gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data eu trin yn yr amgylchiadau hyn, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg rydych wedi cael eich dewis ar ei gyfer.

Yn SYG, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i'r cyhoedd o ddifrif. Ein polisi yw y byddwn yn dweud wrth yr awdurdod priodol os byddwn o'r farn bod risg ddifrifol i ddiogelwch unigolyn.

Byddem yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau am ffyrdd o wella unrhyw un o'n hastudiaethau. Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod, megis eich cyfeiriad ar gyfer dosbarthu llythyrau neu fanylion cyswllt er mwyn cysylltu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg rydych wedi cael eich dewis ar ei gyfer.

Nôl i'r tabl cynnwys

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: