Cyfnewid eich taleb

I ddiolch i'ch cartref am gwblhau'r astudiaeth, cewch gynnig taleb rhodd.

Ar ôl i chi gyflwyno eich ymatebion i'r astudiaeth, gallwch ddewis rhwng dau fath o daleb. Gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt, a byddwch yn cael eich taleb ddewisol o fewn 30 diwrnod.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis e-daleb. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan Pluxee, sef is-gwmni i Sodexo. Caiff eich enw a'ch cyfeiriad e-bost eu rhannu â Pluxee er mwyn anfon eich e-daleb. Ni fydd Pluxee yn defnyddio'r wybodaeth hon at unrhyw ddibenion eraill.

Caiff e-daleb ei hanfon drwy e-bost a gellir ei gwario ar lein neu mewn siop gan ddefnyddio'r cod a ddarperir, yn dibynnu ar y manwerthwr rydych yn ei ddewis. Bydd gennych chwe mis i benderfynu gyda pha fanwerthwr yr hoffech wario eich e-daleb a hawlio eich rhodd.

Ble y gallwch wario eich e-daleb

Gellir gwario'r e-daleb mewn amrywiaeth eang o fanwerthwyr fel y rhestrir isod. Er bod y rhestr hon yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd, noder y gall y manwerthwyr newid yn unol â thelerau ac amodau Pluxee. Mae telerau ac amodau unigol manwerthwyr yn gymwys. Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y manwerthwyr a chyfarwyddiadau eu hanfon gyda'r e-daleb.

Adloniant

Apple

Arsenal F.C.

Cineworld

Go Ape

Google Play

LEGO

London Theatre Direct

National Book Tokens

National Garden Centres

Odeon

Red Letter Days

Spotify

Theatre Tokens

Ticketmaster

Virgin

Virgin Experience

Wacky Warehouse

Xbox Currency

Ffasiwn

adidas

ASOS

Boohoo

BoohooMAN

Clarks

Ernest Jones

Fatface

Foot Locker

H&M

H. Samuel

MANGO

Matalan

NastyGal

New Look

Paul Smith

Primark

River Island

Superdry

Swarovski

Ted Baker

The White Company

TK Maxx

Zalando

Bwyd a diod

All Bar One

ASK Italian

Bella Italia

Browns

Café Rouge

Caffè Nero

Chef & Brewer

Costa

Cote

Eating Inn

Ember Inns

Farmhouse Inns

Flaming Grill

Great British Pub Card

Greene King

Greggs

Harvester

Hungry Horse

Innkeeper's Lodge

Joe & Seph’s

Just Eat

Laithwaite's

Las Iguanas

Loch Fyne

Marks and Spencer Food Hall

Miller and Carter

Naked Wines

Nando's

Nicholsons

O'Neill's

Pizza Express

Pizza Hut Restaurants

Prezzo

Sizzling Pubs

Stonehouse

The Dining Out Card

The Restaurant Card

Toby Carvery

Totally Taste

Vintage Inns

Wagamama

Zizzi

Anrhegion a theganau

Bloom & Wild

Buyagift

eLearnGift

FlystayGift

GlobalGiving

KarmaKarma

Not On The High Street

Old English

Photobox

RentacarGift

Record Tokens

The Charity Shop Gift Card

The Entertainer

The Wellness Card

Totally Well

TripGift

Waterstones

WHSmith

Siopau bwyd

ALDI

ASDA

Farmfoods

Iceland

Marks and Spencer

Morrisons

Sainsbury's

Tesco

Waitrose

Iechyd a harddwch

Champneys

Healthy Minds Club

Hussle

Lavish Spa & Beauty

Y cartref a'r ardd

Argos

B&Q

Currys

Habitat

Halfords

Harvey Nichols

HomeSense

IKEA

John Lewis & Partners

Rituals

ScrewFix

Selfridges

Wickes

Teithio

Airbnb

Butlins by Inspire

De Vere

Eurostar

Global Experiences

Global Hotel Card

Good Night Inns

Hotels.com

Inspire Travel

Inspire UK Staycation

Jet 2 Holidays by Inspire

lastminute.com

National Trust

Royal Caribbean by Inspire

Spa Breaks UK

Uber

Opsiynau amgen os na allwch dderbyn e-daleb

Os na allwch dderbyn e-daleb am unrhyw reswm, gallwn ddarparu cerdyn rhodd plastig. Gellir gwario'r rhain mewn llai o fanwerthwyr, yn amrywio o siopau dillad ar y stryd fawr a nwyddau cartref, i weithgareddau ac anrhegion.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ble y gallwch wario'r cerdyn rhodd plastig.

Os nad ydych wedi cael eich e-daleb, cofiwch wirio ffolderi sothach neu sbam eich e-bost. Bydd y daleb yn cael ei hanfon o gyfeiriad noresponse@sodexo-exchange.com, ac ni chaiff negeseuon e-bost a anfonir i'r cyfeiriad hwn eu monitro. Os nad ydych wedi cael eich taleb ddewisol ar ôl 30 diwrnod neu os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, gallwch gysylltu â ni.

Os nad ydych wedi cymryd rhan eto a'ch bod yn barod i ddechrau, ewch i'r adran dechrau'r astudiaeth.