Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Data tarddiad-cyrchfan ar fudo
- Data tarddiad-cyrchfan ar weithleoedd
- Data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau
- Data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr
- Data tarddiad-cyrchfan
- Rhestr termau
- Mesur y data
- Cryfderau a chyfyngiadau
- Dolenni cysylltiedig
- Cyhoeddiadau yn y dyfodol
- Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
1. Prif bwyntiau
O blith yr holl ranbarthau yn Lloegr, De-ddwyrain Lloegr oedd â'r nifer uchaf o breswylwyr arferol oedd â chyfeiriad mewn rhanbarth arall yn Lloegr, neu mewn gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021.
Yng Nghaerdydd (9.3%) yng Nghymru ac yn Rhydychen (10.9%) yn Lloegr y gellid dod o hyd i'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol yn mudo o fewn yr un awdurdod lleol yn ystod y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad.
Menywod rhwng 16 a 24 oed oedd â'r nifer uchaf o symudiadau ar draws awdurdodau lleol amrywiol yng Nghymru a Lloegr.
Bolsover (47.1%), Gogledd-ddwyrain Swydd Derby (45.0%), a Barking a Dagenham (44.9%) oedd y tri phrif awdurdod lleol lle roedd y gyfran fwyaf o breswylwyr arferol yn cymudo i weithle y tu allan i'w priod awdurdodau lleol.
Yng Nghymru a Lloegr, Gwynedd (1.0%), Ynys Môn (1.0%) a'r Cotswolds (1.0%) oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol a oedd yn aros yn eu hail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith y tu allan i'w hawdurdod lleol am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg; bydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol, y canllawiau cysylltiedig a'r mesurau ffyrlo wedi effeithio ar y data tarddiad-cyrchfan. Felly, dylid cymryd gofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion polisi a chynllunio.
2. Data tarddiad-cyrchfan ar fudo
Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer llifau mudo tarddiad-cyrchfan yn dangos symudiad preswylwyr arferol un oed a throsodd, a oedd yn byw mewn cyfeiriad flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 a oedd yn wahanol i'w preswylfa arferol ar adeg y cyfrifiad. Bydd y bwletin ystadegol hwn yn defnyddio'r termau "symud", "llif", neu "cymudo" i ddisgrifio'r symudiad o'r tarddiad i'r cyrchfan drwy weddill y bwletin.
Ni chofnododd Cyfrifiad 2021 symudiadau plant dan flwydd oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) am nad oedd ganddynt gyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad. Gwnaed amcangyfrif ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond nid yw hyn wedi cael ei amcangyfrif ar gyfer 2021. Rhaid i ddefnyddwyr gymryd gofal wrth gymharu â setiau data tarddiad-cyrchfan 2011.
Cafodd cyfrifiadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cynnal ym mis Mawrth 2021, ond ym mis Mawrth 2022 y cynhaliwyd cyfrifiad yr Alban. Mae'r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau hyn yn golygu nad ydym wedi gallu cyfuno'r data hyn i gynhyrchu set ddibynadwy o ddata tarddiad-cyrchfan ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Mae setiau data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys y llifau canlynol mewn perthynas â'r Alban a Gogledd Iwerddon:
i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban
o Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad
i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr ail gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban
Roedd gan 292,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru a 6.2 miliwn o breswylwyr arferol yn Lloegr gyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad.
O blith yr holl ranbarthau yn Lloegr, De-ddwyrain Lloegr oedd â'r nifer uchaf o breswylwyr arferol (244,728) oedd â chyfeiriad mewn rhanbarth arall yn Lloegr, neu mewn gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. O blith yr holl symudiadau i Dde-ddwyrain Lloegr o ranbarth arall neu wlad arall yn y Deyrnas Unedig, roedd 54.0% o Lundain.
Ffigur 1: Ledled rhanbarthau Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol a symudodd o fewn y rhanbarth, flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol i'r rheini sy'n un oed a throsodd, oedd â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad, 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwythwch y data
Mudo o fewn y Deyrnas Unedig
O blith yr holl symudiadau i Loegr o wlad arall yn y Deyrnas Unedig, roedd 54.9% o Gymru, 39.3% o'r Alban a 5.8% o Ogledd Iwerddon. Cymru oedd â'r rhan fwyaf o breswylwyr arferol oedd â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad mewn gwlad arall yn y Deyrnas Unedig, o Loegr yn bennaf (97.8%), ac yna'r Alban (1.9%) a Gogledd Iwerddon (0.3%). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein herthygl Pobl yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Mudo o fewn yr awdurdod lleol
Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno llifau tarddiad-cyrchfan fel cyfran o breswylwyr arferol mewn awdurdodau lleol. Fodd bynnag, gall ardaloedd â phoblogaethau bach, fel Dinas Llundain, fod yn fwy tebygol o ddangos newidiadau canrannol mawr o gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Os oes diddordeb gennych yng nghyfanswm y symudiadau mewn ardal, bydd y delweddau rhyngweithiol yn y bwletin hwn yn rhoi cyfanswm y llifau.
Y ddau brif awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol un oed a throsodd a symudodd o fewn yr awdurdod lleol oedd Caerdydd (9.3%) a Rhydychen (10.9%) yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhydychen, y rhai rhwng 16 a 24 oed (42.8%) oedd y grŵp oedran mwyaf cyffredin ymhlith y bobl hyn, ac roedd hyn yn cynnwys 53.7% o fenywod a 46.3% o ddynion. Yn debyg yng Nghaerdydd, rhwng 16 a 24 oed (43.1%) oedd oedran mwyaf cyffredin pobl, gyda dros hanner ohonynt yn fenywod (55.3%). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae pobl oedd â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad yn symud o fewn yr un ardal yn ein herthygl Pobl yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Mudo o'r tu allan i awdurdod lleol (mewnlifau)
Yn Lloegr, Dinas Llundain (18.6%), Islington (11.7%) a Hammersmith a Fulham (11.4%) oedd y tri phrif awdurdod lleol â'r mewnlifau uchaf fel cyfran o'r holl breswylwyr arferol un oed a throsodd yn yr ardal honno. Yn Ninas Llundain, gwnaed 40.1% o symudiadau o'r tu allan i'r awdurdod lleol gan breswylwyr arferol rhwng 25 a 34 oed ac roedd cyfran uwch o ddynion (60.7%) na menywod (39.3%). Tower Hamlets (12.4%), Westminster (10.9%) ac Islington (8.3%) oedd y tri phrif awdurdod lleol a oedd yn cyfrannu fwyaf at y symudiadau hyn.
Yn Islington y gwelwyd yr ail gyfran uchaf o breswylwyr arferol yn mudo o awdurdod lleol arall. Gwnaed 48.2% o gyfanswm y symudiadau o'r tu allan i'r awdurdod lleol yn Islington gan breswylwyr rhwng 25 a 34 oed, a oedd yn dangos poblogaeth fwy o fenywod (51.9%) o gymharu â dynion (48.1%). Hackney (12.1%), Camden (10.5%) a Haringey (8.6%) oedd y tri phrif awdurdod lleol a oedd yn cyfrannu fwyaf at y symudiadau hyn yn Islington.
Roedd gan 11.4% o'r preswylwyr arferol un oed a throsodd yn Hammersmith a Fulham gyfeiriad gwahanol y tu allan i'r awdurdod lleol flwyddyn cyn y cyfrifiad. Rhwng 25 a 34 oed (44.0%) oedd y grŵp oedran mwyaf cyffredin, ac roedd pobl yn fwy tebygol o fod yn fenywod (52.5%) nag yn ddynion (47.5%). Kensington a Chelsea (10.1%), Wandsworth (8.6) ac Ealing (8.3%) oedd y tri phrif awdurdod lleol roedd preswylwyr arferol yn symud ohonynt i Hammersmith a Fulham. Mae'r data yn dangos bod y rhan fwyaf o symudiadau y tu allan i'r awdurdod lleol o fewn clystyrau o awdurdodau lleol cyfagos.
Ceredigion (6.4%), Abertawe (4.4%) a Sir Fynwy (4.4%) oedd y tri phrif awdurdod lleol yng Nghymru â phobl o'r tu allan i'r awdurdod lleol hwnnw. O blith yr holl bobl o'r tu allan i'r awdurdod lleol, roedd 50.7% o'r bobl yng Ngheredigion rhwng 16 a 24 oed, gyda mwy o fenywod (50.7%) na dynion (49.3%). Roedd y rhan fwyaf o breswylwyr arferol (7.8%) yng Ngheredigion yn mudo o Sir Gaerfyrddin. Roedd gan Abertawe 53.9% o breswylwyr arferol rhwng 16 a 24 oed, gyda mwy o ddynion (55.7%) na menywod (44.3%). Roedd gan Abertawe 20.0% o breswylwyr arferol o Gastell-nedd Port Talbot, sef y prif awdurdod lleol sy'n cyfrannu at y symudiadau hyn. Yn Sir Fynwy, roedd 26.6% o'r bobl rhwng 25 a 34 oed, gyda mwy o ddynion (51.2%) na menywod (48.8%). Casnewydd (8.3%) a Bryste (8.1%) oedd y ddau brif awdurdod lleol roedd preswylwyr arferol yn symud ohonynt i Sir Fynwy.
Ffigur 2: Map rhyngweithiol yn dangos symudiad pobl o'u cyfeiriad flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad i'w preswylfa arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau:
- Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys data ar gyfer preswylwyr arferol oedd â chyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad.
Lawrlwythwch y data
Mudo rhyngwladol
Mae mudo rhyngwladol yn rhoi gwybodaeth am y preswylwyr arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr oedd â chyfeiriad gwahanol y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd cyfyngiadau ar deithio yn y Deyrnas Unedig eu gorfodi o fis Mawrth 2020 ymlaen ynghyd ag mewn gwledydd eraill ledled y byd. O ganlyniad, roeddem wedi disgwyl gweld gostyngiad yn nifer y symudiadau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Er mwyn diogelu cyfrinachedd, mae setiau data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn cynnwys 60 o gategorïau ar gyfer gwybodaeth fanwl, a 10 ar gyfer gwybodaeth llai manwl, am y wlad wreiddiol.
Nid yw gwlad y breswylfa flaenorol o reidrwydd yn cyfateb i wlad enedigol neu genedligrwydd, a bydd yn cynnwys gwladolion y Deyrnas Unedig neu unigolion a anwyd yn y Deyrnas Unedig a fudodd yn ôl. Mewn perthynas â'r rheini a fudodd i'r Deyrnas Unedig o dramor yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 ac a symudodd o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn honno wedyn, ystyrir bod eu cyfeiriad blaenorol dramor ac ni chaiff eu symudiad o fewn y Deyrnas Unedig ei gofnodi.
Yng Nghymru a Lloegr, roedd gan 8.4% o'r holl breswylwyr arferol â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad gyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Ledled rhanbarthau Lloegr, India oedd y wlad wreiddiol fwyaf cyffredin, heblaw am Ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr; yn y rhanbarthau hyn, yr Unol Daleithiau a'r grŵp "Dwyrain Canol arall" (sy'n cynnwys pob gwlad yn y Dwyrain Canol, heblaw am Iran ac Irac), yn y drefn honno, oedd y prif wledydd a oedd yn cyfrannu at y symudiadau.
Dinas Llundain (6.4%), Westminster (4.9%) a Chaergrawnt (4.3%) oedd y tri phrif awdurdod lleol yn Lloegr a dderbyniodd y nifer uchaf o bobl o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig fel cyfran o'r preswylwyr arferol un oed a throsodd. Nodwyd bod yr Unol Daleithiau wedi cyfrannu'n helaeth at fudo ym mhob un o'r awdurdodau lleol hyn: Westminster (15.4%), Caergrawnt (12.4%) a Dinas Llundain (12.0%). Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a fudodd i'r awdurdodau lleol hyn rhwng 25 a 29 oed; Dinas Llundain (28.1%), Caergrawnt (24.7%) a Westminster (22.8%).
Yng Nghymru, Caerdydd (1.4%) oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol a fudodd o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad. India (12.8%) oedd y brif wlad wreiddiol a gyfrannodd at symudiadau i Gaerdydd. Rhwng 20 a 24 oed (26.0%) oedd grŵp oedran mwyaf cyffredin y bobl yng Nghaerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth am nodweddion poblogaeth mudwyr rhyngwladol, darllenwch ein bwletin Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.
Ffigur 3: India a'r Unol Daleithiau oedd y ddwy brif wlad wreiddiol ar gyfer y mwyafrif o breswylwyr arferol â chyfeiriadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys3. Data tarddiad-cyrchfan ar weithleoedd
Mae'r setiau data ar weithleoedd yn dangos llifau cymudo rhwng preswylfa arferol a gweithle pobl 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith dros dro yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.
Yn holiadur Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd a oedd naill ai mewn gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith dros dro yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad "Ble ydych chi'n gweithio'n bennaf?" Gofynnwyd i bobl roi gwybod a oeddent yn gweithio gartref, ar safle ar y môr, mewn gweithle neu ddepo arferol neu os nad oedd ganddynt weithle penodol. Gofynnwyd i bobl oedd â gweithle neu ddepo arferol nodi cyfeiriad y gweithle.
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), a bydd hyn wedi effeithio ar ble roedd llawer o bobl yn gweithio. Ni ofynnwyd i'r rhai a oedd yn gweithio gartref ddarparu cyfeiriad eu gweithle arferol, felly bydd y data am weithleoedd yn adlewyrchu ymddygiadau ar y pryd.
O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau ffyrlo i sicrhau bod y rhai na allent weithio yn gallu parhau i gael eu cyflogi. Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd pobl yng Nghymru a Lloegr eu cefnogi gan gynlluniau cymorth incwm cenedlaethol, sef y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a'r Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws, a gaiff eu galw'n "ffyrlo" hefyd. Wrth gwblhau holiadur Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i'r bobl ar ffyrlo ddweud eu bod i ffwrdd o'r gwaith dros dro, ynghyd â'r rhai a oedd dan gwarantin neu'n hunanynysu oherwydd y pandemig. Cafodd pobl ar ffyrlo ganllawiau penodol i'w helpu i ymateb. Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein methodoleg Travel to work quality information for Census 2021a'n methodoleg Labour market quality information for Census 2021.
Yn Lloegr, Barrow-in-Furness (57.2%), Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln (57.2%) ac Ynys Wyth (56.8%) oedd yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith a oedd yn cymudo i'w gweithle yn yr un awdurdod lleol.
Bolsover (47.1%), Gogledd-ddwyrain Swydd Derby (45.0%) a Barking a Dagenham (44.9%) oedd y tri phrif awdurdod lleol lle roedd preswylwyr arferol yn cymudo i weithle y tu allan i'w hawdurdod lleol. O blith gweithlu cyfan Bolsover a oedd yn cymudo y tu allan i'w hawdurdod lleol, dywedodd 17.9% bod eu gweithle yn Chesterfield, 13.1% yn Ashfield a 10.9% yn Amber Valley.
Yng Nghymru, Sir Benfro (52.4%), Wrecsam (49.0%) a Gwynedd (48.3%) oedd â'r gyfran uchaf o lifau cysylltiedig â'r gwaith o fewn eu priod awdurdodau lleol.
Roedd gan Flaenau Gwent (39.4%), Merthyr Tudful (30.7%) a Chaerffili (30.6%) nifer mawr o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith a oedd yn cymudo y tu allan i'w priod awdurdodau lleol. Ym Mlaenau Gwent, dywedodd 21.6% o breswylwyr arferol fod eu gweithle yng Nghaerffili.
Gall y gwahaniaethau o ran symudiad i weithleoedd mewn ardaloedd daearyddol gwahanol gael eu hesbonio'n rhannol gan amrywiadau mwn cyflogaeth o fewn galwedigaethau a diwydiannau, gan y math o swydd y gellid ei gwneud o bell a pha mor gyffredin roedd trefniadau ffyrlo mewn diwydiant neu alwedigaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am sut roedd pobl wedi'u cyflogi yn ein bwletin Diwydiant a galwedigaeth.
Ffigur 4: Map rhyngweithiol yn dangos symudiad pobl o'u preswylfa arferol i'w gweithle
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau:
- Nid yw'r data hyn yn cynnwys preswylwyr arferol nad oedd ganddynt weithle penodol, a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref, neu oedd â chyfeiriad gweithle ar safle ar y môr neu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys4. Data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau
Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i ymatebwyr nodi a oeddent yn aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn hefyd. Os gwnaethant nodi eu bod yn gwneud hynny, gofynnwyd iddynt am ddiben yr ail gyfeiriad, a ph'un a oedd yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi.
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) a all fod wedi effeithio ar ddefnydd pobl o ail gyfeiriad, ond mae'n anodd mesur hyn.
Yng Nghymru a Lloegr, roedd 5.3% o'r boblogaeth gyfan (3.2 miliwn) yn aros mewn ail gyfeiriad am 30 diwrnod neu fwy; roedd canran ychydig yn uwch o bobl yn Lloegr yn defnyddio ail gyfeiriad (5.4%) o gymharu â Chymru (5.25%). Yng Nghymru a Lloegr, nododd 2.5 miliwn o bobl (4.1% o'r boblogaeth breswyl arferol) fod eu hail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig. Roedd y 736,000 a oedd yn weddill (1.2% o'r boblogaeth breswyl arferol) yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Gallwch ddysgu mwy am ail gyfeiriadau yn ein bwletin Pobl ag ail gyfeiriadau, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth yn ein herthygl Characteristics of people in England and Wales with a second address: Census 2021.
Llifau ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith
Yng Nghymru a Lloegr, Gwynedd (1.0%), Ynys Môn (1.0%) a'r Cotswolds (1.0%) oedd y tri phrif awdurdod lleol â'r gyfran fwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith a oedd yn aros mewn ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith y tu allan i'w hawdurdod lleol am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.
Yn y Cotswolds, roedd gan 13.0% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn Kensington a Chelsea, ac 11.8% yn Westminster. Roedd y rhan fwyaf o'r preswylwyr arferol ag ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith rhwng 50 a 64 oed (36.9%).
Roedd gan gyfran uchel o breswylwyr arferol yng Ngwynedd ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith yng Nghaerdydd (6.2%). Roedd y rhan fwyaf o'r preswylwyr arferol hyn (36.1%) rhwng 50 a 64 oed.
Yn Ynys Môn, roedd gan 10.0% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith yng Ngwynedd. Roedd y gyfran uchaf o breswylwyr yn Ynys Môn a oedd yn aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn rhwng 50 a 64 oed (41.2%).
Ffigur 5: Map rhyngweithiol yn dangos preswylfa arferol pobl a'u hail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith lle roeddent yn aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith a oedd yn aros mewn ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau:
- Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys data ar gyfer y preswylwyr arferol hynny yr oedd eu hail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr
Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer llifau tarddiad-cyrchfan myfyrwyr yn dangos symudiad preswylwyr arferol 16 oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol a oedd yn breswylfa myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig, flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad.
Dim ond yn rhannol y mae data llif myfyrwyr yn cwmpasu mudo myfyrwyr. Er enghraifft, nid yw'r data yn cynnwys myfyrwyr a fudodd o gyfeiriad rhiant i gyfeiriad arall at ddibenion astudio os gwnaethant symud cyn mis Mawrth 2020. I'r gwrthwyneb, mae'r data yn cynnwys llifau mudo ar gyfer unigolion a oedd yn fyfyrwyr flwyddyn cyn y cyfrifiad ac yn byw mewn cyfeiriad myfyriwr ond nad oeddent yn fyfyrwyr bellach ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ond yn byw mewn cyfeiriad gwahanol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a chyfyngiadau data llif myfyrwyr yn Adran 6 ein canllaw i ddefnyddwyr ar ddata tarddiad-cyrchfan.
Gall y cyfyngiadau symud cenedlaethol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19) fod wedi effeithio ar lifau tarddiad-cyrchfan myfyrwyr. Er enghraifft, efallai ei bod yn fwy tebygol bod myfyrwyr wedi byw yng nghyfeiriad eu rhiant neu eu gwarcheidwad yn ystod y flwyddyn academaidd heb ddefnyddio cyfeiriad gwahanol yn ystod y tymor, ac roedd llai o fyfyrwyr rhyngwladol yn byw yng Nghymru a Lloegr. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein herthygl The international student population in England and Wales.
Yn rhanbarthau Lloegr, De-ddwyrain Lloegr oedd â'r nifer uchaf o breswylwyr arferol oedd â chyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. O blith yr holl symudiadau yn Ne-ddwyrain Lloegr, gwnaed 69.2% ohonynt o fewn y rhanbarth.
Symudiadau o fewn awdurdodau lleol
Yn Lloegr, Caerwysg (3.6%) a Nottingham (3.4%) oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn byw mewn cyfeiriad yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl flwyddyn cyn y cyfrifiad yn yr un awdurdod lleol. Yn Nottingham (54.7%) a Chaerwysg (54.5%), roedd y preswylwyr arferol hyn o dan 20 oed. O blith yr holl breswylwyr arferol oedd â chyfeiriad blaenorol a oedd yn gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl, roedd gan Nottingham 94.2% o breswylwyr arferol a oedd dal yn fyfyrwyr amser llawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, ac roedd 93.8% yng Nghaerwysg.
Yng Nghymru, Ceredigion (2.1%) a Chaerdydd (1.9%) oedd y ddau brif awdurdod lleol a dderbyniodd y gyfran uchaf o breswylwyr arferol. O fewn y symudiadau hyn i'r awdurdodau lleol, roedd y rhan fwyaf rhwng 20 a 24 oed, 54.8% yng Ngheredigion a 50.9% yng Nghaerdydd. Yng Ngheredigion, roedd 89.1% yn dal i fod yn fyfyrwyr amser llawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, ac 85.9% oedd y ffigur yng Nghaerdydd.
Symudiadau o'r tu allan i awdurdodau lleol (mewnlifau)
Yn Lloegr, Dinas Llundain oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd (2.3%) oedd â chyfeiriad blaenorol y tu allan i'r awdurdod lleol, a hynny'n bennaf o Camden (11.5%), Southwark (8.7%) a Tower Hamlets (8.7%). Yn Ninas Llundain, roedd 63.4% rhwng 21 a 24 oed. O blith yr holl breswylwyr arferol a symudodd i Ddinas Llundain o gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl, roedd 58.8% o'r preswylwyr arferol hyn yn dal i fod yn fyfyrwyr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
Yng Nghymru, Abertawe oedd â'r gyfran uchaf (0.7%) o bobl oedd â chyfeiriad blaenorol y tu allan i'w hawdurdod lleol presennol. Nododd y rhan fwyaf o'r preswylwyr arferol hyn fod eu preswylfa flaenorol yng Nghastell-nedd Port Talbot (60.1%) a Chaerdydd (8.4%). Yn Abertawe, roedd 52.3% o'r bobl hyn dan 20 oed. O blith yr holl breswylwyr arferol yn Abertawe oedd â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, a oedd yn gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl, roedd 87.9% yn dal i fod yn fyfyrwyr amser llawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.
Ffigur 6: Map rhyngweithiol yn dangos symudiad pobl oedd â chyfeiriad a oedd yn gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad
Tarddiad a chyrchfan preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys6. Data tarddiad-cyrchfan
Data tarddiad-cyrchfan ar fudo
Set ddata | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 am yr holl breswylwyr arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr a oedd yn byw mewn cyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Data tarddiad-cyrchfan ar weithleoedd
Set ddata | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 am yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r amcangyfrifon yn dangos symudiad pobl rhwng eu hardal breswyl a'u gweithle.
Data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau
Set ddata | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 am yr holl breswylwyr arferol sydd ag ail gyfeiriad lle maent yn aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.
Data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr
Set ddata | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 am yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr a oedd yn byw mewn cyfeiriad gwahanol a oedd yn breswylfa yn ystod y tymor neu'n ysgol breswyl flwyddyn cyn y cyfrifiad.
7. Rhestr termau
Cyfeiriad flwyddyn yn ôl
Y lle roedd person yn byw flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 22 Mawrth 2020. Gallai pobl ddewis o:
yr un peth â'r cyfeiriad presennol
cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig
cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig
y tu allan i'r Deyrnas Unedig
Mewn gwaith
Mae pobl 16 oed a throsodd mewn gwaith os oeddent yn gyflogeion neu'n hunangyflogedig rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021.
Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn yn seiliedig ar ei alwedigaeth a nodweddion eraill sy'n ymwneud â swyddi. Mae'n ddosbarthiad safonol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Caiff categorïau'r NS-SEC eu neilltuo yn seiliedig ar alwedigaeth unigolyn, p'un a yw'n weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n goruchwylio gweithwyr eraill.
Caiff myfyrwyr amser llawn eu cofnodi yn y categori "myfyrwyr amser llawn" ni waeth p'un a ydynt yn weithgar yn economaidd ai peidio.
Ail gyfeiriad
Cyfeiriad (yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi) lle mae rhywun yn aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn nad yw'n breswylfa arferol iddo.
Fel arfer mae ail gyfeiriadau yn cynnwys:
canolfannau'r lluoedd arfog
cyfeiriadau a ddefnyddir gan bobl sy'n gweithio i ffwrdd o'r cartref
cyfeiriad cartref myfyriwr
cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
cyfeiriad partner
cartref gwyliau
Os oedd person ag ail gyfeiriad yn aros yno ar noson y cyfrifiad, roedd yn cael ei ddosbarthu'n ymwelydd â'r ail gyfeiriad, ond yn cael ei gyfrif fel preswylydd arferol yn ei gyfeiriad cartref.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Nôl i'r tabl cynnwys8. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.
Nôl i'r tabl cynnwys9. Cryfderau a chyfyngiadau
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod cyfnod o newid cyflym, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn yr ystadegau tarddiad-cyrchfan a gaiff eu cynhyrchu o'r cyfrifiad.
Mae'r ystadegau tarddiad-cyrchfan ar gyfer teithio i'r gwaith yn adlewyrchu sefyllfa pan oedd llawer o bobl yn gweithio gartref, neu ar ffyrlo, o gymharu â Chyfrifiad 2011. Effeithiodd hyn ar ganlyniadau'r cyfrifiad ar gyfer teithio i'r gwaith mewn llawer o ffyrdd, fel y disgrifir yn ein methodoleg Travel to Work quality information for Census 2021 a'n methodoleg Labour market quality information for Census 2021.
I grynhoi, nid yw'n glir pa mor gynrychioliadol yw ystadegau'r cyfrifiad o ran patrymau teithio i'r gwaith ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Cipolwg mewn amser a gawn yn nata'r cyfrifiad ond, o ystyried effaith y cyfnod clo a'r cynllun ffyrlo, defnydd cyfyngedig sydd i ganlyniadau'r cyfrifiad o ran mesur patrymau teithio cyn neu ar ôl y pandemig.
Bydd ystadegau tarddiad-cyrchfan ar gyfer cyfeiriadau flwyddyn yn ôl yn adlewyrchu effaith y pandemig ar fudo rhyngwladol a mudo domestig. Er nad yw'r holl gymhlethdodau a effeithiodd ar deithio i'r gwaith yn effeithio ar y data ar gyfer y pwnc hwn, rydym yn cynghori defnyddwyr i gymryd gofal wrth dybio bod y patrymau mudo a welwyd yn y 12 mis cyn y cyfrifiad yn cynrychioli patrymau a welwyd mewn blynyddoedd eraill. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn ein methodoleg Demography and migration quality information for Census 2021.
Ceir gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021, a cheir gwybodaeth bellach am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein hadroddiad Maximising the quality of Census 2021 population estimates.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Dolenni cysylltiedig
Canllaw defnyddiwr ar ddata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Gwybodaeth ategol ar gyfer data tarddiad-cyrchfan o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys sut i gael gafael ar setiau data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus, wedi'u diogelu a diogel, a sut i'w defnyddio.
Analysis of social characteristics of international migrants living in England and Wales: Census 2021
Erthygl dadansoddi | Rhyddhawyd ar 18 Medi 2023
Gwlad enedigol, oedran, rhyw, tai, teulu, iaith, iechyd, cymwysterau, crefydd, hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd ar gyfer y boblogaeth na chafod ei geni yn y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr.
Pobl yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Erthygl dadansoddi | Rhyddhawyd ar 6 Medi 2023
Nodweddion pobl a symudodd flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011, gyda setiau data mudo manwl. Mewnlifau ac all-lifau rhanbarthol ac awdurdod lleol.
Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mudo rhyngwladol, gan gynnwys gwlad enedigol, pasbortau a blwyddyn cyrraedd, data Cyfrifiad 2021.
Teithio i'r gwaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Dull o deithio a phellter teithio i'r gwaith, data Cyfrifiad 2021
Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru.
Pobl ag ail gyfeiriadau, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Gwybodaeth am bobl sy'n defnyddio ail gyfeiriadau yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.
Characteristics of people in England and Wales with a second address: Census 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 19 Ebrill 2023
Pobl ag ail gyfeiriadau yn 2011 a 2021 yn ôl oedran, rhyw, cyfeiriadau y tu mewn a'r tu allan i'w hawdurdod lleol arferol a'r Deyrnas Unedig, a phellter o'r cyfeiriad arferol.
Geiriadur Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 28 Hydref 2022
Newidynnau, diffiniadau a dosbarthiadau er mwyn helpu wrth ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.
11. Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Rydym wrthi'n trawsnewid ystadegau poblogaeth ar hyn o bryd. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn ystyried sut y gallem ddefnyddio data gweinyddol a ffynonellau data eraill i amcangyfrif nodweddion y boblogaeth yn y dyfodol.
Nôl i'r tabl cynnwys12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Data tarddiad-cyrchfan, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021