1. Trosolwg

Bydd y canllaw defnyddiwr hwn yn eich helpu i ddefnyddio, dadansoddi a dehongli data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. 

Ynglŷn â data tarddiad-cyrchfan 

Mae data tarddiad-cyrchfan, a gaiff eu galw'n ddata llif hefyd, yn dangos symudiad pobl o un lleoliad i'r llall. Mae rhai setiau data yn dangos llifau sylfaenol rhwng lleoliadau, tra bo rhai eraill yn rhannu'r llifau yn ôl nodweddion gwahanol. 

Crynodeb o ddata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 

Mae pedwar math o ddata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Y rhain yw: 

  • mudo, sy'n dangos patrymau mudo (mewnol a rhyngwladol) unigolion yn seiliedig ar eu cyfeiriad arferol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 

  • gweithle, sy'n dangos patrymau cymudo unigolion 

  • ail gyfeiriad, sy'n dangos lleoliad ail gyfeiriad unigolyn mewn perthynas â'i breswylfa arferol neu ei weithle 

  • mudo myfyrwyr, sy'n dangos patrymau mudo unigolion a oedd yn byw mewn cyfeiriadau myfyrwyr flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 

Pwy sy'n defnyddio'r data tarddiad-cyrchfan 

Mae data tarddiad-cyrchfan yn helpu llywodraeth leol a chanolog i gynllunio ac ariannu seilwaith ar gyfer: 

  • addysg 

  • gofal iechyd 

  • tai 

  • trafnidiaeth 

Mae academyddion ac ymchwilwyr hefyd yn eu defnyddio i ddadansoddi symudiadau a thueddiadau'r boblogaeth ar gyfer patrymau mudo a chymudo. 

Data tarddiad-cyrchfan y Deyrnas Unedig 

Cafodd cyfrifiadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cynnal ym mis Mawrth 2021, ond ym mis Mawrth 2022 y cynhaliwyd cyfrifiad yr Alban. Mae'r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau hyn yn golygu nad ydym wedi gallu cyfuno'r data hyn i gynhyrchu set ddibynadwy o ddata tarddiad-cyrchfan ar gyfer y Deyrnas Unedig.  

Pan wnaethom ryddhau data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), roedd Gogledd Iwerddon ar gamau cynnar y broses o ryddhau data'r cyfrifiad o hyd ac nid oedd ei ddata tarddiad-cyrchfan ar gael. Rydym yn gobeithio ymgorffori data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ein data tarddiad-cyrchfan pan fyddant ar gael, ar yr amod na fydd eu cynnwys yn peryglu cyfrinachedd ymatebwyr. 

Mae setiau data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys y llifau canlynol mewn perthynas â'r Alban a Gogledd Iwerddon: 

  • i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban 

  • o Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 

  • i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan un o breswylwyr arferol Cymru a Lloegr ail gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban 

Trosolwg o'r ddaearyddiaeth 

Gwnaethom gynhyrchu llifau tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar lefelau daearyddol amrywiol, gan gynnwys: 

  • Ardal Gynnyrch 

  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol 

  • Awdurdod Lleol Haen Isaf 

  • Awdurdod Lleol Haen Uchaf 

  • Rhanbarth 

Ar gyfer llifau traws gwlad o fewn y Deyrnas Unedig, mae'r lefel ddaearyddol a ddarperir ar gyfer y cyfeiriad tarddiad yn cyd-fynd â lefel ddaearyddol y cyfeiriad a gafodd ei gyfrif ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Fodd bynnag, os nad oes ardal ddaearyddol gyfatebol yn bodoli ar gyfer Gogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd y data yn dangos y lefel ddaearyddol uchaf nesaf ar gyfer y wlad honno. 

Darllenwch fwy yn Adran 9. Ardaloedd daearyddol data tarddiad-cyrchfan ac ardaloedd cyfatebol yn y Deyrnas Unedig

Trosolwg ansawdd 

Casglodd Cyfrifiad 2021 ymatebion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg. 

Roedd newidiadau, a effeithiodd ar y wybodaeth a gafodd ei chasglu ar gyfer sawl pwnc, yn cynnwys:  

  • cyfyngiadau teithio rhyngwladol a chenedlaethol  

  • cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gartref  

  • rhoi gweithwyr ar ffyrlo  

Effeithiodd hyn ar ganlyniadau teithio-i'r-gwaith y cyfrifiad mewn sawl ffordd, fel y disgrifir yn ein methodoleg Travel to work quality information for Census 2021.  

Mae'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data.  

Gwnaethom ddarparu canllawiau ychwanegol ar holiadur Cyfrifiad 2021 yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws er mwyn:   

  • helpu ymatebwyr i ddeall y cwestiynau fel roeddent wedi'u bwriadu  

  • lleihau'r posibilrwydd y byddai'r pandemig yn cael effaith negyddol ar faich ar yr ymatebydd  

  • sicrhau bod ansawdd y data a gasglwyd cystal â phosibl   

Fodd bynnag, rydym yn cynghori defnyddwyr i fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 at ddibenion polisi a chynllunio.  

Darllenwch fwy o wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data mudo yn Adran 3. Data tarddiad-cyrchfan ar fudo

Darllenwch fwy o wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data gweithleoedd yn Adran 4. Data tarddiad-cyrchfan ar weithleoedd.  

Darllenwch fwy o wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data ail gyfeiriadau yn Adran 5. Data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau.  

Darllenwch fwy o wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data myfyrwyr yn Adran 6. Data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr.  

Adnodd archwilio data tarddiad-cyrchfan

Bydd data tarddiad-cyrchfan ar gyfer llifau mudo a gweithleoedd hefyd ar gael drwy adnodd rhyngweithiol yn seiliedig ar fapiau sy'n galluogi defnyddwyr i archwilio data Cyfrifiad 2021 ledled Cymru a Lloegr.

Byddwch yn gallu gweld symudiad preswylwyr arferol gyda mapiau dotiau drwy ddewis ardal ddaearyddol eu tarddiad a'u cyrchfan. Mae mapiau dotiau yn grwpio pobl mewn ardaloedd gwahanol fel bod un dot lliw yn eu cynrychioli. Mae'r allwedd yn dangos nifer y bobl sydd wedi'u cynrychioli gan bob dot.

Gallwch ddod o hyd i'r adnodd rhyngweithiol hwn ar ein gwefan.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Diogelu cyfrinachedd o fewn data tarddiad-cyrchfan

Mae ein data tarddiad-cyrchfan wedi'u dylunio i ddiogelu cyfrinachedd unigolion. Rydym yn gwneud hyn drwy osod rheolaethau mynediad a thrwy gymhwyso dulliau rheoli datgelu ystadegol i'r data.  

Rydym yn defnyddio techneg cyfnewid cofnodion ar gyfer data'r cyfrifiad rydym yn eu defnyddio i greu'r setiau data tarddiad-cyrchfan. Mae'r dull rheoli datgelu ystadegol hwn yn gwneud newidiadau bach iawn i'r data fel nad oes modd adnabod unigolion.  

Gwnaethom ddefnyddio dull rheoli datgelu ystadegol arall hefyd, o'r enw aflonyddiad ar lefel cell ddata. Techneg yw hon sy'n ychwanegu gwybodaeth ddibwys at setiau data er mwyn sicrhau bod cofnodion unigol yn gyfrinachol. Mae defnyddio dull aflonyddu yn arwain at newidiadau bach i gelloedd ond, yn y bôn, nid yw'n effeithio ar y ffordd y caiff y data eu dehongli. Pan gaiff tablau eu ffurfio mewn ffyrdd gwahanol, bydd y dull aflonyddu a ddefnyddir yn wahanol. Bydd hyn yn arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn “ffurfio” eu cyfansymiau. Er mwyn lleihau effaith dull aflonyddu, rydym yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol lefel uwch lle y bo modd. Darllenwch fwy am sut a pham y defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ddulliau rheoli datgelu ystadegol mewn perthynas â data Cyfrifiad 2021 yn ein herthygl Protecting personal data in Census 2021 results.  

Cynhyrchion i ddiwallu anghenion gwahanol 

Er mwyn sicrhau bod data ar gael mor eang â phosibl, ac er mwyn sicrhau bod y cyfrifiad mor fuddiol â phosibl, caiff cynhyrchion tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 eu rhyddhau mewn tri gosodiad gwahanol. Mae data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar gael fel setiau data cyhoeddus, wedi'u diogelu a diogel, yn dibynnu ar y lefel ddaearyddol a manylder y nodweddion sydd wedi'u cynnwys. Mae hyn yn golygu y gallwn greu cynhyrchion sy'n taro cydbwysedd rhwng manylder a diogelwch a sicrhau bod setiau data tarddiad-cyrchfan ar gael i bawb, o ddinasyddion chwilfrydig i ddadansoddwyr arbenigol. 

Gwnaethom ryddhau ein setiau data cyhoeddus ar 26 Hydref 2023. Bydd ein setiau data wedi'u diogelu a diogel ar gael yn fuan ar ôl y dyddiad hwn.  

Setiau data cyhoeddus 

Mae ein data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus ar gael i'w lawrlwytho o dudalen we Nomis ar ddata tarddiad-cyrchfan gydag ychydig o amodau defnydd wedi'u gosod fel y nodir yn y Drwydded Llywodraeth Agored. Yn y lle cyntaf, bydd setiau data ar gael fel ffeil sip. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cyflwyno'r adnodd 'query' yn y dyfodol fel y gall defnyddwyr ddewis: 

  • tarddiadau 

  • cyrchfannau 

  • newidynnau ychwanegol 

  • fformat lawrlwytho 

Mae ein setiau data cyhoeddus yn darparu llifau sylfaenol, sy'n dangos symudiad pobl o un lle i un arall heb nodweddion poblogaeth. Mae'r setiau data cyhoeddus hefyd yn darparu rhai llifau sy'n cynnwys data am un newidyn yn unig (unamryweb), er enghraifft, yn ôl oedran. Mae rhai eraill yn rhoi llifau sy'n cynnwys data sy'n cyfuno sawl newidyn (amlamryweb), er enghraifft, yn ôl oedran ac yn ôl rhyw. Mae'r ddau fath ar lefelau daearyddol amrywiol, ac awdurdod lleol sydd fwyaf cyffredin. Mae nifer bach o setiau data ar gael ar gyfer ardaloedd daearyddol manylach.  

Setiau data wedi'u diogelu 

Mae setiau data tarddiad-cyrchfan wedi'u diogelu Cyfrifiad 2021 ar gael i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru â Gwasanaeth Data'r DU ac sydd wedi cytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU. Mae defnydd masnachol o'r data wedi'u diogelu yn amodol ar ofynion trwyddedu a chodir ffioedd gweinyddol ar bob prosiect.  

Mae setiau data wedi'u diogelu yn cynnwys mwy o fanylion na setiau data cyhoeddus. Maent yn cynnwys llifau sylfaenol, setiau data llif unamryweb ac amlamryweb ar lefel ddaearyddol Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhai setiau data ar lefel awdurdod lleol lle maent yn cynnwys nodweddion manylach y boblogaeth. 

Mae gan ddata sydd ar gael drwy'r dull wedi'i ddiogelu y nodweddion canlynol:  

  • gellir lawrlwytho data o Wasanaeth Data'r DU i amgylchedd lleol yr ymchwilydd 

  • dim ond ar gyfer ymchwil ystadegol ac yn unol â chyfres o amodau sy'n cyfyngu ar ddiben ac ymddygiad a'u rheoli y caiff ymchwilwyr ddefnyddio data; nodir yr amodau defnydd yn Nhrwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU 

  • caiff y risg o ddatgelu ei rheoli drwy gyfuniad o'r cytundeb defnyddiwr gyda'r ymchwilydd a'r mesurau rheoli datgelu a gymhwysir o fewn dyluniad y set ddata  

Ceir rhagor o wybodaeth am ddibenion posibl data wedi'u diogelu yn adran 5.2.1 o ganllaw Gwasanaeth Data'r DU, Research data handling and security guide

Setiau data diogel  

Mae ein data tarddiad-cyrchfan diogel yn darparu setiau data llif unamryweb ac amlamryweb ar lefel Ardal Gynnyrch yn bennaf. 

Oherwydd y risg o ddatgelu, dim ond ymchwilwyr achrededig all gael gafael ar y data hyn a hynny drwy'r Gwasanaeth Data Integredig, sef amgylchedd hynod ddiogel na ellir allgludo unrhyw ddata ohono heb gymeradwyaeth benodol. 

Mae'r amodau canlynol yn berthnasol i ddata diogel:  

  • maent wedi'u diogelu gan y gyfraith 

  • ni ellir dosbarthu'r data y tu hwnt i'r amgylchedd a reolir 

  • dim ond ymchwilwyr achrededig sy'n gweithio ar brosiectau achrededig all gael gafael ar y data 

  • dim ond ar gyfer ymchwil ystadegol ac yn unol â chyfres o amodau sy'n cyfyngu ar ddiben ac ymddygiad a'u rheoli y mae'r data ar gael 

  • dim ond ymchwilwyr y mae eu hyfforddiant yn gyfredol ar sut i weithio mewn amgylchedd diogel a reolir all gael gafael ar y data 

Byddwn yn cynnwys mesurau i reoli'r risg o ddatgelu yn y dulliau mynediad yn bennaf ac nid y set ddata. Byddwn hefyd yn gwirio'r holl allbynnau o'r amgylchedd a reolir ar gyfer risg o ddatgelu cyn y cânt eu darparu i'r ymchwilydd. 

Mae mynediad at ein data tarddiad-cyrchfan diogel yn y Gwasanaeth Data Integredig yn bosibl drwy'r Rhwydwaith SafePod. Mae SafePods mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y Deyrnas Unedig yn bennaf. Caiff y Rhwydwaith SafePod ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac mae'n rhan o raglen Ymchwil Data Gweinyddol y DU.  

Mae hefyd yn bosibl cael mynediad at ein data diogel drwy Gysylltedd Sefydliadol Sicr. Cytundeb yw hyn rhwng eich sefydliad a'r SYG i ganiatáu mynediad uniongyrchol i'r Gwasanaeth Data Integredig o'ch sefydliad neu eich swyddfa gartref. Mae'n rhaid i'r SYG gymeradwyo pob cytundeb Cysylltedd Sefydliadol Sicr, a bydd cais llwyddiannus yn darparu'r dystiolaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â sut mae eich sefydliad yn cyrraedd y safon ddiogelwch o ran elfennau ffisegol a systemau.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Data tarddiad-cyrchfan ar fudo

Mae ystadegau tarddiad-cyrchfan ar fudo yn dangos symudiad pobl a oedd yn byw mewn cyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth 2021. 

Mae data mudo yn cwmpasu dau fath o lif: 

  • pob mudwr – unrhyw un a oedd yn byw mewn cyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad  

  • mudwyr rhyngwladol yn unig – unrhyw un a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad. 

Nid yw data llif mudo sy'n cwmpasu pob mudwr yn cynnwys gwybodaeth am y wlad wreiddiol ar gyfer cyfeiriadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Caiff y rhain eu cynrychioli gan "Y tu allan i'r Deyrnas Unedig" yn unig. 

Mae setiau data llif mudo ar gyfer mudwyr rhyngwladol yn rhoi rhagor o fanylion am wlad wreiddiol mudwyr a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad.  

Caiff preswylwyr arferol Cymru a Lloegr oedd â chyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad eu cynnwys yn y data.  

Nid yw preswylwyr arferol Gogledd Iwerddon neu'r Alban ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (Mawrth 2021) oedd â chyfeiriad yng Nghymru a Lloegr flwyddyn cyn y cyfrifiad wedi'u cynnwys yn y data. Mae hyn oherwydd bod cyfrifiad yr Alban wedi'i gynnal ar adeg wahanol ac oherwydd bod gan ddata Gogledd Iwerddon amserlen brosesu wahanol. 

Pobl dan flwydd oed 

Mae data llif mudo a gaiff eu cynhyrchu o'r cyfrifiad yn seiliedig ar y boblogaeth breswyl arferol a oedd yn byw mewn cyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad. Nid yw'r cyfrifiad yn casglu data mudo ar y sail hon ar gyfer pobl dan flwydd oed. Mae hyn am nad oedd pobl a oedd dan flwydd oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn fyw flwyddyn cyn y cyfrifiad, felly nid oedd ganddynt gyfeiriad i'w gofnodi flwyddyn yn ôl.  

Yng Nghyfrifiadau 2001 a 2011, gwnaethom gynhyrchu amcangyfrifon o bobl dan flwydd oed, a symudodd rhwng eu genedigaeth a Diwrnod y Cyfrifiad. Gwnaethom hyn drwy geisio nodi perthynas agosaf y person dan flwydd oed a chymryd cyfeiriad y perthynas agosaf flwyddyn cyn y cyfrifiad. Yn 2011, amcangyfrifwyd mai dim ond hanner y bobl dan flwydd oed oedd wedi symud rhwng eu genedigaeth a Diwrnod y Cyfrifiad. Roedd hyn yn ystyried y ffaith na fyddai tua hanner ohonynt wedi'u geni ar yr adeg y symudodd eu perthynas agosaf. Nid oedd y dull hwn yn syml bob amser, yn enwedig pan oedd angen nodi perthynas agosaf. Roedd plant maeth yn cael eu cyfrif fel rhan o'r teulu.  

Rhagwelwyd y byddai pennu'r fam neu'r gwarcheidwad agosaf ar gyfer y rhai dan flwydd oed wedi mynd yn fwy cymhleth ers 2011. Mae hyn oherwydd bod strwythurau teuluol wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf, er enghraifft, cynnydd yn nifer y cyplau o'r un rhyw a rhieni sengl. Mae hyn yn golygu nad ydym wedi amcangyfrif patrymau mudo y rhai dan flwydd oed yn nata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021.  

Er mwyn adlewyrchu'r newid hwn mewn setiau data tarddiad-cyrchfan ar fudo, rydym wedi ail-labelu'r holl ddosbarthiadau oedran preswylwyr fel eu bod yn dechrau ar 1 oed er mwyn gwneud hyn yn glir i'r defnyddiwr. O ystyried y newid hwn, dylai defnyddwyr gymryd gofal wrth gymharu data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. 

Caiff symudiadau blynyddol ar gyfer y grŵp oedran hwn eu cynhyrchu'n rheolaidd fel rhan o'r amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth. Rydym hefyd yn ystyried ffyrdd newydd o wella amcangyfrifon mudo mewnol, gan gynnwys symudiadau pobl dan flwydd oed, yn ein gwaith i drawsnewid ystadegau am y boblogaeth a mudo.  

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl, Dynamic population model for local authority case studies in England and Wales: 2011 to 2022

Gwybodaeth am ansawdd a chyfyngiadau 

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan oedd cyfyngiadau teithio amrywiol, gan gynnwys cyfnodau clo, ar waith o fis Mawrth 2020 (PDF, 169KB) er mwyn atal y feirws rhag lledaenu. Rydym yn cynghori defnyddwyr i gymryd gofal wrth dybio bod y patrymau mudo a welwyd yn y 12 mis cyn y cyfrifiad yn cynrychioli patrymau mewn blynyddoedd eraill. 

Cafwyd effaith benodol ar fudo rhyngwladol ac, o ganlyniad, risg o ddatgelu. Oherwydd hyn, dim ond 60 o gategorïau gwlad wreiddiol y gallwn eu darparu ar gyfer setiau data manwl a 10 ar gyfer setiau data llai manwl. Gallwch ddod o hyd i'r categorïau hyn a'u codau cysylltiedig yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021.  

Yn y cwestiwn "Flwyddyn yn ôl, beth oedd eich cyfeiriad arferol?", mae canllawiau'r SYG yn nodi "Os gwnaeth pandemig y coronafeirws effeithio ar eich cyfeiriad arferol flwyddyn yn ôl, dewiswch y cyfeiriad lle roeddech chi'n byw cyn i'ch amgylchiadau newid." Mae'n bosibl bod y canllawiau hyn wedi lleihau'r risg o effaith pandemig y coronafeirws ar ansawdd data o'r cwestiwn am gyfeiriad flwyddyn yn ôl. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ansawdd mewn perthynas â mudo yn ein methodoleg Demography and migration quality information for Census 2021.  

Mae'r fethodoleg Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 hefyd ar gael ar gyfer gwybodaeth fanwl.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Data tarddiad-cyrchfan ar weithleoedd

Mae ein setiau data ar weithleoedd yn darparu llifau cymudo rhwng preswylfa arferol a gweithle pobl 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith dros dro yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.  

Yn holiadur Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd a oedd naill ai mewn gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith dros dro yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad "Ble ydych chi'n gweithio'n bennaf?" Gwnaethom ofyn iddynt roi cyfeiriad eu gweithle neu roi gwybod os oeddent yn gweithio gartref, ar safle ar y môr neu os nad oedd ganddynt weithle penodol.  

Caiff preswylwyr arferol Cymru a Lloegr oedd â chyfeiriad gweithle yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban eu cynnwys yn y data. 

Mae'r ffaith bod cyfrifiad yr Alban wedi'i gynnal ar adeg wahanol a bod amserlen brosesu wahanol ar gyfer data Gogledd Iwerddon yn golygu nad ydym wedi gallu cynnwys preswylwyr arferol yr Alban a Gogledd Iwerddon a oedd yn gweithio yng Nghymru neu Loegr yn y data. 

Parthau gweithle 

Ardal ddaearyddol fach yw parth gweithle sydd wedi'i chynllunio i gynnwys nifer cyson o weithwyr sy'n golygu y gellir rhyddhau ystadegau am weithleoedd ar lefel fanylach.  

O ystyried yr effaith a gafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar sut yr atebodd ymatebwyr gwestiynau am eu gweithle, rydym yn ystyried a ddylid diweddaru parthau gweithle 2011 a sut y gellid gwneud hyn. Mae Campws Gwyddor Data y SYG wedi cynhyrchu rhai matricsau arbrofol wedi'u modelu ar gyfer teithio i'r gwaith, sy'n ymgorffori:  

  • data teithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2011 

  • data cyflogaeth o Gyfrifiad 2021 

  • data o'r Arolwg Teithio Cenedlaethol 

  • Model Cenedlaethol Pen y Daith yr Adran Drafnidiaeth 

Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddiweddaru parthau gweithle'r Deyrnas Unedig.  

Felly, nid ydym wedi gallu cynhyrchu unrhyw setiau data tarddiad-cyrchfan gan ddefnyddio parthau gweithle. Mae'r risg o ddatgelu o ganlyniad i newidiadau mewn gweithleoedd dros amser yn golygu nad oedd yn bosibl cynnwys parthau gweithle 2011 chwaith.  

Cymharu gweithleoedd â 2011 

Yn nata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2011, cafodd rhai gweithleoedd eu galw'n "lled-weithleoedd". Roedd hyn yn golygu eu bod yn cyfateb i weithle neu'n rhywle a nododd yr ymatebydd fel ei weithle ac roeddent yn cynnwys: 

  • gartref neu o'r cartref yn bennaf 

  • ar safle ar y môr   

  • ddim man penodol  

  • y tu allan i'r Deyrnas Unedig 

Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaeth cyfyngiadau symud y pandemig gyfyngu'n sylweddol ar nifer y bobl a oedd yn gweithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyfrifon llai hyn wedi cynyddu'r risg o ddatgelu. Felly, nid yw'n bosibl cynhyrchu llifau gweithle sy'n dangos unigolion â chyfeiriad gweithle y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn fanwl. Mae'r preswylwyr arferol nad oes ganddynt weithle penodol neu sy'n gweithio gartref neu o'r cartref wedi cael eu cyfrif yn eu preswylfa arferol fel gweithle. Maent hefyd wedi cael eu grwpio mewn un categori. Rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio â defnyddio'r categori hwn i gynnal unrhyw ddadansoddiad mewn perthynas â gweithio gartref neu o'r cartref.  

Gwybodaeth am ansawdd a chyfyngiadau 

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan oedd cyfnod clo cenedlaethol a llawer o gyfyngiadau teithio ar waith er mwyn atal y feirws rhag lledaenu. Cafodd y pandemig effaith ddifrifol ar allu rhai pobl i weithio, eu patrymau gwaith, eu gweithle a'u dull o deithio i'r gwaith. 

Mae ein data tarddiad-cyrchfan ar gyfer teithio i'r gwaith yn adlewyrchu sefyllfa pan oedd llawer mwy o bobl yn gweithio gartref o gymharu â phan gynhaliwyd Cyfrifiad 2011. Fel rhan o fesurau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau effaith pandemig y coronafeirws ar yr economi, roedd busnesau yn gallu rhoi eu gweithlu ar ffyrlo. Roedd hyn wedyn yn effeithio ar y ffordd roedd pobl a oedd ar ffyrlo yn ateb y cwestiynau am deithio i'r gwaith. Effeithiodd hyn ar ganlyniadau'r cyfrifiad mewn perthynas â theithio i'r gwaith mewn sawl ffordd, a cheir rhagor o wybodaeth yn ein herthygl Travel to work quality information for Census 2021

I grynhoi, nid yw'n glir pa mor gynrychioliadol yw ystadegau'r cyfrifiad o ran patrymau teithio i'r gwaith ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ei hun. At hynny, cipolwg mewn amser a gawn yn nata'r cyfrifiad ond, o ystyried effaith y cyfnod clo a'r cynllun ffyrlo, mae'n bosibl mai defnydd cyfyngedig sydd i'r data o ran mesur patrymau teithio cyn neu ar ôl y pandemig.  

Gwnaethom roi canllawiau ychwanegol i ymatebwyr ar sut i ateb cwestiynau am waith o ystyried bod y cyfrifiad wedi cael ei gynnal yn ystod y pandemig. Gwnaethom gynghori:  

  • pobl a oedd yn gweithio o gwmpas Diwrnod y Cyfrifiad i gofnodi eu hamgylchiadau presennol  

  • gweithwyr hybrid i gofnodi eu patrymau gwaith mwyaf nodweddiadol  

  • pobl nad oeddent yn gallu gweithio oherwydd y pandemig i gofnodi eu hamgylchiadau gwaith cyn iddynt newid 

  • pobl a oedd ar ffyrlo i nodi eu bod "i ffwrdd o'r gwaith dros dro" er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn weithgar yn economaidd  

Fodd bynnag, ni allwn gadarnhau sut y dilynodd pobl y canllawiau. Ymatebodd y gweithlu a oedd ar ffyrlo yn wahanol i'r disgwyl ac nid oes sicrwydd eu bod wedi ateb yn unol â'r canllawiau, fel y gallwch ddarllen yn ein herthygl Labour market quality information for Census 2021.  

Rydym hefyd yn rhagweld y gall rhai pobl nad oeddent yn gallu gweithio oherwydd y pandemig fod wedi camgofnodi eu hamgylchiadau. Gallai hyn fod wedi arwain at ystyried yr unigolion hyn yn "anweithgar yn economaidd" neu fel "gweithgar yn economaidd: di-waith". O ganlyniad, ni fyddai gwybodaeth am gyfeiriad y gweithle, oriau gwaith a dull o deithio i'r gwaith wedi cael ei chasglu. 

Dylid cymryd gofal wrth ddadansoddi data llif gweithleoedd tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 at ddibenion cynllunio a pholisi. Ni fydd pawb wedi ateb am eu hamgylchiadau gwaith ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Bydd cyfran wedi ateb am eu hamgylchiadau gwaith cyn y pandemig neu eu hamgylchiadau gwaith yn ystod y pandemig cyn Diwrnod y Cyfrifiad.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau

Mae ein data llif ar gyfer ail gyfeiriadau yn dangos symudiad preswylwyr arferol i ail gyfeiriad neu oddi yno. Mae ail gyfeiriad yn cyfeirio at rywle y gall pobl fyw am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys cydberthnasau, gwaith neu at ddibenion astudio.  

Mae'r llifau sydd ar gael gennym fel a ganlyn: 

  • o breswylfa arferol i weithle, ar gyfer pobl ag ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith 

  • o ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith i weithle 

  • o breswylfa arferol i ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith 

  • o breswylfa arferol i ail gyfeiriad ar gyfer plant dibynnol 

Mae'r setiau data hyn yn darparu llifau i'r Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer unigolion sy'n byw yng Nghymru a Lloegr fel arfer sydd ag ail gyfeiriad yn un o'r ddwy wlad hyn. 

Er mwyn sicrhau cyfrinachedd, ni all data llif ail gyfeiriadau tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ddarparu unrhyw fanylion pellach am leoliad ail gyfeiriadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.  

Gwybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data tarddiad-cyrchfan ar ail gyfeiriadau 

Effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ddata ail gyfeiriadau a gasglwyd yn y cyfrifiad oherwydd gall rhai pobl fod wedi:  

  • gwneud eu hail gyfeiriad yn breswylfa arferol iddynt oherwydd y canllawiau i weithio gartref  

  • gadael ail gyfeiriad sy'n gysylltiedig â gwaith a gweithio gartref, oherwydd canllawiau'r llywodraeth a'r ffaith bod gweithio hybrid yn fwy derbyniol  

  • dewis symud i mewn gyda theulu, eu partner neu ffrindiau fel nad oeddent yn byw ar eu pen eu hunain, sy'n golygu y gall eu preswylfa arferol flaenorol fod wedi cael ei hystyried yn ail gyfeiriad 

Gall y ffactorau hyn gael rhywfaint o effaith ar ddata ail gyfeiriadau, ond mae'n anodd eu mesur. 

Cyfyngiadau 

Cafodd y cwestiwn am ail gyfeiriad yn y cyfrifiad ei gynllunio i gyfrif pobl sy'n aros yn yr un ail gyfeiriad yn rheolaidd.  

Mae'n heriol cofnodi pobl sy'n aros mewn gwestai gwahanol pan fyddant yn gweithio. Dylai ymatebwyr fod wedi cynnwys gwestai os gwnaethant aros yn yr un gwesty am fwy na 30 diwrnod yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw un a arhosodd mewn nifer o westai gwahanol, a dim un ohonynt am fwy na 30 diwrnod, fod wedi cofnodi hyn fel ail gyfeiriad.  

Felly ni fydd y data a gasglwyd ar ail gyfeiriadau at ddibenion gwaith yn rhoi darlun cyflawn o batrymau cymudo. Er enghraifft, ni fydd y rhai â phatrymau cymudo a gwaith mwy cymhleth, fel gweithio gartref ddeuddydd yr wythnos ac aros mewn gwesty ddeuddydd yr wythnos, yn cael eu hadlewyrchu yn y data. Fodd bynnag, mae'r data ail gyfeiriadau yn rhoi gwell dealltwriaeth o batrymau cymudo na llifau preswylfa arferol i weithle.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr

Mae ein setiau data llif myfyrwyr yn dangos symudiad pobl 16 oed a throsodd. Roedd gan y bobl hyn gyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, a oedd yn gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu'n gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig.  

Nid oedd y bobl hyn o reidrwydd yn fyfyrwyr ar adeg y cyfrifiad. Er enghraifft, bydd rhywun a oedd yn byw mewn cyfeiriad myfyriwr flwyddyn cyn y cyfrifiad, a raddiodd yn ystod yr haf cyn y cyfrifiad ac nad oedd yn fyfyriwr mwyach pan gynhaliwyd y cyfrifiad, yn cael ei gynnwys yn y data.  

Mae setiau data yn rhoi llifau o Ogledd Iwerddon neu'r Alban ar gyfer preswylwyr arferol Cymru a Lloegr yr oedd eu cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu eu cyfeiriad ysgol breswyl flwyddyn cyn y cyfrifiad yn un o'r gwledydd hyn.  

Gwybodaeth am ansawdd mewn perthynas â data tarddiad-cyrchfan ar fyfyrwyr  

Bydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ddata llif myfyrwyr. Er enghraifft, gall myfyrwyr fod wedi byw yng nghyfeiriad rhiant neu warcheidwaid am y flwyddyn academaidd gyfan heb gyfeiriad gwahanol yn ystod y tymor, ac roedd llai o fyfyrwyr rhyngwladol yn byw yng Nghymru a Lloegr. At hynny, byddai myfyrwyr a raddiodd ar ddiwedd 2020 wedi bod yn chwilio am waith naill ai yn ystod y cyfnod clo neu pan oedd cyfyngiadau symud ar waith. Mae'n debygol y byddai hyn wedi cael cryn effaith ar natur a graddau mudo ar ôl addysg. 

Dylid cymryd gofal wrth ddadansoddi llifau mudo myfyrwyr o Gyfrifiad 2021 gan fod patrymau yn annhebygol o gynrychioli patrymau mewn blynyddoedd eraill.  

Cyfyngiadau 

Dim ond yn rhannol y mae data llif myfyrwyr yn cwmpasu mudo myfyrwyr. Er enghraifft, nid yw'r data yn cynnwys myfyrwyr a fudodd o gyfeiriad rhiant i gyfeiriad arall at ddibenion astudio os gwnaethant symud cyn mis Mawrth 2020. I'r gwrthwyneb, mae'r data yn cynnwys llifau mudo ar gyfer unigolion a oedd yn fyfyrwyr flwyddyn cyn y cyfrifiad ac yn byw mewn cyfeiriad myfyriwr ond nad oeddent yn fyfyrwyr bellach ar Ddiwrnod y Cyfrifiad ond yn byw mewn cyfeiriad gwahanol. 

Nid yw data llif myfyrwyr yn cynnwys:  

  • myfyrwyr prifysgol blwyddyn gyntaf a oedd yn byw yng nghyfeiriad rhiant flwyddyn cyn y cyfrifiad 

  • myfyrwyr rhyngwladol a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Ystyriaethau pellach o ansawdd ar gyfer data tarddiad-cyrchfan

Effaith Brexit ar y data tarddiad-cyrchfan 

Cipolwg o un adeg benodol a gawn yn y cyfrifiad. Mae'n rhoi'r gwahaniaeth yn y boblogaeth i ni dros ddegawd. Fodd bynnag, nid yw'n dweud wrthym pwy sydd wedi mynd a dod bob blwyddyn yn y cyfamser. Wrth edrych ar y newid rhwng y degawdau, er bod y cyfrifiad yn rhoi syniad da o'r newidiadau yn y boblogaeth ar lefel Cymru a Lloegr, ni ddylid ei ddefnyddio fel ffordd fanwl o fesur llifau mudo i mewn ac allan o'r wlad dros y cyfnod hwnnw. Ni all nodi'r rhesymau pam y gall pobl fod wedi dewis dod i'r wlad neu ei gadael chwaith. 

Er i ddulliau hanesyddol o fesur mudo rhyngwladol ar gyfer y cyfnod rhwng refferendwm Brexit yn 2016 a 2020 ddangos gostyngiad yn lefelau mudo'r Undeb Ewropeaidd, dim ond dyfalu y gallwn ei wneud o ran p'un a wnaeth Brexit effeithio ar ymddygiadau mudo pobl. 

Er i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, roedd y wlad yn parhau i fod mewn "cyfnod pontio" tan ddiwedd 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, a gyd-darodd â'r cyfyngiadau symud ac effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), gallai pobl barhau i fudo'n rhydd rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd heb fod angen fisa. Felly, mae'n anodd datblethu effeithiau Brexit a'r coronafeirws ar batrymau mudo. 

Llifau annhebygol yn effeithio ar ddata llif Cyfrifiad 2011 

Nodwyd problem ansawdd yn ystadegau tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2011 a effeithiodd ar nifer bach iawn o ardaloedd. Roedd elfen o rai llifau wedi cael ei chofnodi'n anghywir fel llif i ardal arall â'r un enw. Nid yw ein prosesau sicrhau ansawdd wedi nodi'r mater hwn yn setiau data 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Strwythur enwi setiau data

Mae enwau wedi cael eu neilltuo i'n setiau data tarddiad-cyrchfan er mwyn helpu i nodi eu cynnwys. Yn yr enwau: 

  • mae'r ddwy lythyren gyntaf yn dangos y math o set ddata 

  • mae'r ail ddwy lythyren yn dangos y math o lif, lle mae "MG" yn cynrychioli llif mudo (migration flow), "SA" yw llif ail gyfeiriadau (second address flow), "ST" yw llif mudo myfyrwyr (student migration flow) ac "WP" yw llif gweithleoedd (workplace flow)  

  • mae'r rhif yn dangos rhif y set ddata, lle mae "01" yn cyfeirio at y llif sylfaenol, drwy lifau unamryweb a hyd at lifau amlamryweb â'r rhifau uchaf 

  • mae'r ddwy lythyren nesaf yn dangos cwmpas daearyddol y set ddata 

  • mae'r ôl-ddodiad, "NON_UK", yn dangos bod y set ddata yn cynrychioli'r boblogaeth a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad ac mae'n berthnasol i setiau data mudo rhyngwladol yn unig 

Er enghraifft, mae ODMG01EW_NON_UK, yn dangos ei bod:  

  • yn set ddata tarddiad-cyrchfan, gan mai "OD" yw'r ddwy lythyren gyntaf (origin-destination) 

  • yn llif mudo, gan mai "MG" yw'r ail ddwy lythyren 

  • yn set ddata llif sylfaenol, gan mai "01" yw'r rhif 

  • yn cwmpasu Cymru a Lloegr, gan mai "EW" yw'r ddwy lythyren nesaf (England/Wales) 

  • yn ymwneud â'r boblogaeth a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, oherwydd yr ôl-ddodiad "NON_UK"  

Mae'r rhestrau canlynol yn dangos rhifau'r set ddata ar gyfer pob math o lif. Caiff y setiau data eu trefnu gan ddechrau gyda data llif sylfaenol, yna data llif unamryweb, a data llif amlamryweb yn olaf. 

Mudo (MG)  

Llifau sylfaenol yn set ddata 1 

Llifau unamryweb yn setiau data 2 i 9 

Llifau amlamryweb yn setiau data 10 i 19 

Gweithleoedd (WP)  

Llifau sylfaenol yn set ddata 1 

Llifau unamryweb yn setiau data 2 i 14 

Llifau amlamryweb yn setiau data 15 i 23 

Ail gyfeiriadau (SA) 

Llifau sylfaenol yn setiau data 1 i 4 

Llifau unamryweb yn setiau data 5 i 10 

Llifau amlamryweb yn setiau data 11 i 16 

Myfyrwyr (ST) 

Llifau sylfaenol yn set ddata 1 

Llifau unamryweb yn setiau data 2 i 6 

Llifau amlamryweb yn setiau data 7 i 10

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Ardaloedd daearyddol data tarddiad-cyrchfan ac ardaloedd cyfatebol yn y Deyrnas Unedig

Mae'r rhestrau canlynol yn nodi'r ardaloedd daearyddol y gwnaethom eu defnyddio yn y setiau data tarddiad-cyrchfan a'r ardaloedd cyfatebol, os oes rhai, ar gyfer y rhain ledled y Deyrnas Unedig. 

Mae'r rhestrau wedi'u trefnu yn ôl hierarchaeth ddaearyddol, o'r uchaf i'r isaf, hynny yw o'r math mwyaf o ardal i'r lleiaf. 

Rhanbarth yng Nghymru a Lloegr 

Dim ardal gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon 

Dim ardal gyfatebol yn yr Alban
 

Awdurdod Lleol Haen Uchaf yng Nghymru a Lloegr 

 Dosbarthau Llywodraeth Leol yng Ngogledd Iwerddon 

Ardaloedd Cynghorau yn yr Alban

Awdurdod Lleol Haen Isaf yng Nghymru a Lloegr 

Dosbarthau Llywodraeth Leol yng Ngogledd Iwerddon 

Ardaloedd Cynghorau yn yr Alban

 

Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghymru a Lloegr 

Dim ardal gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon 

Parthau Canolraddol yn yr Alban

 

Ardal Gynnyrch yng Nghymru a Lloegr  

Parthau Data yng Ngogledd Iwerddon  

Ardal Gynnyrch yn yr Alban

 

I ddarllen mwy am yr ardaloedd daearyddol y gwnaethom eu defnyddio yng Nghyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, ewch i'n tudalen Diffiniadau o fathau o ardaloedd yng Nghyfrifiad 2021

Gallwch ddarllen am Ddosbarthau Llywodraeth Leol yng Ngogledd Iwerddon ar ein tudalen am weinyddiaeth Gogledd Iwerddon. I ddarllen am Barthau Data yng Ngogledd Iwerddon, ewch i'r dudalen am Barthau Data ar gyfer Cyfrifiad 2021 ar wefan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon

Ceir gwybodaeth am Ardaloedd Cynghorau yr Alban ar ein tudalen am weinyddiaeth yr Alban. Cewch fanylion am Barthau Canolraddol yn yr Alban ar Open Geography Portal y SYG. A gallwch ddarllen am Ardaloedd Cynnyrch yn yr Alban ar wefan cyfrifiad yr Alban.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Defnydd blaenorol o ddata tarddiad-cyrchfan 2011

A new geodemographic classification of commuting flows for England and Wales 

Hincks, S., Kingston, R., Webb, B., a Wong, C. (2018). A new geodemographic classification of commuting flows for England and Wales, International Journal of Geographical Information Science, 32:4, 663684, DOI: 10.1080/13658816.2017.1407416. Mae'r papur hwn yn defnyddio dull gweithredu geo-ddemograffig mewn perthynas â datblygu dosbarthiad newydd a gwreiddiol o gymudo yng Nghymru a Lloegr yn seiliedig ar lif. 

Uneven growth: tackling city decline 

Pike, A., MacKinnon, D., Coombes, M., Champion, T., Bradley, D., Cumbers, A., Robson, L. a Wymer, C. (2016). Uneven growth: tackling city decline. Caerefrog: Sefydliad Joseph Rowntree. Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod rhai dinasoedd ar ei hôl hi o ran tueddiadau cenedlaethol ac yn awgrymu polisïau i sicrhau bod twf yn digwydd yn fwy cyfartal ar draws dinasoedd y Deyrnas Unedig. 

Leeds City Region Housing Market Areas 

Coombes, M., a Bradley, D. (2016). Leeds City Region Housing Market Areas (PDF, 2.6MB). Cafodd yr ymchwil hon ei chynnal er mwyn diweddaru diffiniadau ar gyfer Ardaloedd y Farchnad Dai gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011.

Travel to Work Areas

Coombes, M., a'r SYG. (2015). Travel to Work Areas report (PDF, 1.4MB). Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o Ardaloedd Teithio i'r Gwaith 2011 gan ddefnyddio data tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2011 ar gyfer gweithwyr, yn seiliedig ar eu hardal breswyl a'u gweithle yng Nghymru a Lloegr.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Teithio i'r Gwaith yn ein herthygl Commuting to work, Changes to Travel to Work Areas: 2001 to 2011.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Adnodd archwilio data tarddiad-cyrchfan: Cyfrifiad 2021
Adnodd | 21 Tachwedd 2023
Adnodd i edrych ar lifau wedi'u hanimeiddio o bobl yn symud rhwng lleoedd ar gyfer gwaith neu er mwyn mudo, yn seiliedig ar ddata o Gyfrifiad 2021, hyd at lefel cymdogaeth (Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol).

Setiau data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus
Setiau data | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu symudiad pobl o un lleoliad i un arall er mwyn mudo, gweithio, aros mewn ail gyfeiriad neu astudio o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Data tarddiad-cyrchfan, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023
Crynodeb o lifau tarddiad-cyrchfan sy'n cynnwys symudiad pobl o un lleoliad i un arall er mwyn mudo, gweithio neu aros mewn ail gyfeiriad o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. 

Data tarddiad-cyrchfan (llif)
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 26 Hydref 2023
Mae data tarddiad-cyrchfan (llif) yn dangos symudiad pobl o un lle i'r llall. 

Demography and migration quality information for Census 2021
Methodoleg | Diweddarwyd ddiwethaf 6 Medi 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am ddemograffeg, mudo a mudo rhyngwladol o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. 

Labour market quality information for Census 2021
Methodoleg | Diweddarwyd ddiwethaf 27 Gorffennaf 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr i helpu defnyddwyr i ddadansoddi'r ystadegau yn gywir. 

Travel to work quality information for Census 2021
Methodoleg | Diweddarwyd ddiwethaf 8 Rhagfyr 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr i helpu defnyddwyr i ddadansoddi'r ystadegau yn gywir.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at y fethodoleg hon

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 26 Hydref 2023, gwefan y SYG, erthygl methodoleg, Canllaw defnyddiwr ar ddata tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Methodoleg

Rizwana Alam
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972