1. Prif bwyntiau
- Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg; bydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol, y canllawiau cysylltiedig a'r mesurau ffyrlo wedi effeithio ar bwnc y farchnad lafur.
- Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion polisi a chynllunio.
- Roedd y nifer mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, yn gweithio yn y diwydiant masnach cyfanwerthu, manwerthu a moduron eang (15.0%, 4.2 miliwn allan o 27.8 miliwn mewn gwaith).
- Gostyngodd cyflogaeth yn y diwydiant gweithgynhyrchu 1.6 pwynt canran (7.3%, 2.0 miliwn yn 2021, o gymharu ag 8.9%, 2.4 miliwn yn 2011), a chynyddodd cyflogaeth ym maes gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol 2.2 pwynt canran (14.7%, 4.1 miliwn yn 2021, o gymharu â 12.5%, 3.3 miliwn yn 2011).
- Roedd mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol o gymharu ag unrhyw gategorïau galwedigaeth eang eraill (20.2%, 5.6 miliwn o bobl).
- Y dosbarthiad economaidd-gymdeithasol mwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr oedd galwedigaethau proffesiynol, gweinyddol a rheoli is (19.9% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 9.7 miliwn).
2. Diwydiant
Yng Nghymru a Lloegr, roedd 27.8 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 (57.2% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd).
Y diwydiannau eang (yn Saesneg) a oedd yn cyflogi'r nifer mwyaf o bobl yng Nghymru a Lloegr ar adeg Cyfrifiad 2021 oedd:
- masnach cyfanwerthu, manwerthu a moduron (15.0% o'r holl breswylwyr 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 4.2 miliwn)
- gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (14.7%, 4.1 miliwn)
- addysg (9.8%, 2.7 miliwn)
- adeiladu (8.7%, 2.4 miliwn)
- gweithgynhyrchu (7.3%, 2.0 miliwn)
Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol oedd y diwydiant eang a welodd y cynnydd mwyaf mewn pwynt canran o ran cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr (cynnydd o 2.2 pwynt canran, o 12.5%, 3.3 miliwn yn 2011 i 14.7%, 4.1 miliwn yn 2021). Roedd y cynnydd mewn pwynt canran yn fwy yng Nghymru (o 14.4% yn 2011 i 17.0% yn 2021) nag yn Lloegr (o 12.4% yn 2011 i 14.6% yn 2021).
Gostyngodd cyflogaeth yn y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru a Lloegr 1.6 pwynt canran (o 8.9%, 2.4 miliwn yn 2011 i 7.3%, 2.0 miliwn yn 2021), y gostyngiad mwyaf mewn unrhyw ddiwydiant eang. Gwelwyd cynnydd mwy mewn pwynt canran yng Nghymru (o 10.5% yn 2011 i 8.7% yn 2021) nag yn Lloegr (o 8.9% yn 2011 i 7.3% yn 2021).
Gellir rhannu dosbarthiad diwydiant yn adrannau (yn Saesneg) pellach, er mwyn rhoi trosolwg hyd yn oed manylach o gyflogaeth yn ôl diwydiant. Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos, yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol, fod adrannau diwydiant mawr yn cynnwys:
- masnach manwerthu (ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur), a oedd yn cyflogi 10.2% (2.8 miliwn) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith
- gweithgareddau iechyd pobl (8.9%, 2.5 miliwn)
- gweithgareddau gwaith cymdeithasol heb lety (4.2%, 1.2 miliwn)
- gweithgareddau gwasanaethau bwyd a diod (4.1%, 1.2 miliwn)
Ffigur 1: Mae’r 10 adran diwydiant uchaf wedi aros yn gymharol ddigyfnewid
Y 10 adran diwydiant uchaf yn 2021, gyda ffigurau 2011 er mwyn cymharu, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Roedd adrannau diwydiant yng Nghymru a Lloegr lle gwelwyd cynnydd pwynt canran mewn gwaith rhwng 2011 a 2021 yn cynnwys:
- gweithgareddau iechyd pobl (o 6.8%, 1.8 miliwn yn 2011 i 8.9%, 2.5 miliwn yn 2021)
- rhaglennu cyfrifiadurol, ymgynghori a gweithgareddau cysylltiedig (o 1.9%, 516,000 yn 2011 i 2.8%, 790,000 yn 2021)
Roedd adrannau diwydiant lle gwelwyd y gostyngiadau mwyaf mewn pwynt canran yn cynnwys:
- gweithgareddau gwasanaethau ariannol, ac eithrio yswiriant a phensiynau (o 2.4%, 644,000 yn 2011 i 1.7%, 483,000 yn 2021)
- masnach manwerthu (ac eithrio cerbydau modur a beiciau modur) (o 10.7%, 2.9 miliwn yn 2011 i 10.2%, 2.8 miliwn yn 2021)
3. Galwedigaeth
Yng Nghyfrifiad 2021, gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a throsodd am deitl llawn eu swydd (ar gyfer eu prif swydd neu, os nad oeddent yn gweithio, eu prif swydd ddiwethaf) a phrif weithgarwch eu cyflogwr. Cafodd yr atebion a roddwyd eu codio gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020 (yn Saesneg).
Mae'r data a gaiff eu cyhoeddi gyda'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data galwedigaethol wedi'u rhannu'n 104 o is-grwpiau. Gellir cyfuno'r rhain i ffurfio'r naw categori galwedigaethol lefel uchel canlynol:
- rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (is-grwpiau yn cynnwys rheolwyr a chyfarwyddwyr cynhyrchu; rheolwyr a chyfarwyddwyr manwerthu a chyfanwerthu; prif weithredwyr ac uwch-swyddogion)
- galwedigaethau proffesiynol (is-grwpiau yn cynnwys gweithwyr addysgu proffesiynol a gweithwyr addysgol proffesiynol eraill; gweithwyr technoleg gwybodaeth proffesiynol; gweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth proffesiynol)
- galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt (is-grwpiau yn cynnwys gweithwyr gwerthu a marchnata proffesiynol, a gweithwyr cyswllt proffesiynol cysylltiedig; galwedigaethau artistig, llenyddol a'r cyfryngau; gweithwyr cyswllt lles a thai proffesiynol)
- galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol (is-grwpiau yn cynnwys galwedigaethau ysgrifenyddol a galwedigaethau cysylltiedig; galwedigaethau gweinyddol ym maes cyllid)
- galwedigaethau masnachau medrus (is-grwpiau yn cynnwys masnachau adeiladu; masnachau paratoi bwyd a lletygarwch; masnachau amaethyddol a masnachau cysylltiedig)
- galwedigaethau gofalu a hamdden, a galwedigaethau gwasanaethau eraill (is-grwpiau yn cynnwys gwasanaethau personol gofalu; galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant; gwasanaethau trin gwallt a gwasanaethau cysylltiedig)
- galwedigaethau gwerthiannau a gwasanaethau cwsmeriaid (is-grwpiau yn cynnwys cynorthwywyr gwerthu a gweithwyr tiliau manwerthu; galwedigaethau gwasanaethau cwsmeriaid)
- gweithredwyr prosesau a pheiriannau (is-grwpiau yn cynnwys gyrwyr cludiant ffordd; gweithredwyr prosesau)
- galwedigaethau elfennol (is-grwpiau yn cynnwys galwedigaethau glanhau elfennol; galwedigaethau storio elfennol)
Yng Nghymru a Lloegr, roedd 20.2% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol (5.6 miliwn), sy'n golygu mai hwn oedd y categori galwedigaethau eang mwyaf. Yn ogystal, roedd dros 3.5 miliwn o bobl wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt (13.2%, 3.7 miliwn) ac fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (12.8%, 3.5 miliwn) yn y drefn honno.
Roedd canran fwy o bobl yn Lloegr wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol (20.3% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith) o gymharu â Chymru (18.2%).
Roedd dros un rhan o bump o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn gweithio mewn galwedigaethau proffesiynol yn Llundain (25.8%) a De-ddwyrain Lloegr (21.2%), y canrannau mwyaf o holl ranbarthau Lloegr. Yn yr un rhanbarthau, roedd canrannau mawr o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd wedi'u cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (14.6% yn Llundain, 14.9% yn Ne-ddwyrain Lloegr) ac mewn galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt (15.3% yn Llundain, 14.3% yn Ne-ddwyrain Lloegr).
Gwelir y ffordd roedd cyflogaeth mewn categorïau galwedigaethol eang yn amrywio yng Nghymru a Lloegr yn Ffigur 2.
Ffigur 2: Roedd mwy o bobl wedi'u cyflogi mewn galwedigaethau proffesiynol nag mewn unrhyw gategori galwedigaethol arall
Galwedigaeth, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad, 2021, Cymru, Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Gan ddefnyddio'r 104 o gategorïau yn ein dosbarthiad manwl, gallwn ddeall mwy am y galwedigaethau roedd pobl wedi'u cyflogi ynddynt. Yng Nghymru a Lloegr, roedd yr is-grwpiau galwedigaethol â'r niferoedd mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn cynnwys:
- gwasanaethau personol gofalu (5.0%, 1.4 miliwn)
- cynorthwywyr gwerthu a gweithwyr tiliau manwerthu (4.7%, 1.3 miliwn)
- rheolwyr a chyfarwyddwyr swyddogaethol (3.5%, 983,000)
- gweithwyr addysgu proffesiynol a gweithwyr addysgol proffesiynol eraill (3.5%, 962,000)
- gyrwyr cludiant ffordd (3.4%, 938,000)
4. Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) (yn Saesneg) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau am statws gweithgarwch economaidd, galwedigaeth a hanes cyflogaeth yng Nghyfrifiad 2021. Mae'n ddosbarthiad safonol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yng Nghymru a Lloegr, cafodd yr holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd eu codio i un o gategorïau eang canlynol yr NS-SEC:
- galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch (13.1%, 6.4 miliwn)
- galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is (19.9%, 9.7 miliwn)
- galwedigaethau canolradd (11.4%, 5.6 miliwn)
- cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain (10.6%, 5.1 miliwn)
- galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is (5.4%, 2.6 miliwn)
- galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus (11.4%, 5.5 miliwn)
- galwedigaethau gwaith ailadroddus (12.1%, 5.9 miliwn)
- erioed wedi gweithio ac yn ddi-waith am gyfnod hir (8.5%, 4.1 miliwn)
- myfyrwyr amser llawn (7.7%, 3.7 miliwn)
Gwelir y ffordd roedd canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd ym mhob categori NS-SEC yn amrywio yng Nghymru a Lloegr yn Ffigur 3.
Ffigur 3: Roedd tua un rhan o bump o'r boblogaeth sy'n oedolion yn y categori NS-SEC "Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is"
NS-SEC, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 2021, Cymru, Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Data am ddiwydiant a galwedigaeth
Diwydiant (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl diwydiant.
Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
NS-SEC (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC). Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Galwedigaeth (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl galwedigaeth. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Galwedigaeth – is-grwpiau (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl galwedigaeth. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
6. Geirfa
Gweithgarwch economaidd
Mae pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:
- mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
- yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos
- yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn
Mae'n mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.
Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.
Diwydiant
Mae'n dosbarthu pobl 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy'n cynrychioli eu diwydiant neu eu busnes presennol.
Caiff cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol ei neilltuo yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir am brif weithgarwch cwmni neu sefydliad.
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn yn seiliedig ar ei alwedigaeth a nodweddion eraill sy'n ymwneud â swydd.
Mae'n ddosbarthiad safonol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff categorïau'r NS-SEC eu neilltuo yn seiliedig ar alwedigaeth unigolyn, p'un a yw'n weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n goruchwylio gweithwyr eraill.
Caiff myfyrwyr amser llawn eu cofnodi yn y categori "myfyrwyr amser llawn" ni waeth p'un a ydynt yn weithgar yn economaidd ai peidio.
Galwedigaeth
Mae'n dosbarthu'r hyn y mae pobl 16 oed a throsodd yn ei wneud fel eu prif swydd. Mae teitl eu swydd neu fanylion gweithgareddau maent yn eu gwneud yn eu swydd ac unrhyw gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli yn ffurfio'r dosbarthiad hwn. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i godio ymatebion i alwedigaeth gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.
Mae'n dosbarthu pobl a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol sy'n cynrychioli eu galwedigaeth bresennol.
Y lefel isaf o fanylder sydd ar gael yw'r cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 4 digid sy'n cynnwys pob cod ar ffurf lefelau cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 1 digid, 2 ddigid a 3 digid.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Mae data'r farchnad lafur yn cyfeirio'n bennaf at weithgarwch ymatebwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf; mae hyn yn cyfeirio at 15 i 21 Mawrth 2021. Yn y grwpiau di-waith ac yn anweithgar yn economaidd, y pedair wythnos y mae person wedi bod yn chwilio am swydd ynddynt yw rhwng 21 Chwefror a 21 Mawrth 2021, a rhaid iddo allu dechrau swydd yn ystod y pythefnos nesaf, 21 Mawrth i 4 Ebrill 2021.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb sy'n benodol i gwestiynau ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cyflogaeth mewn diwydiant
Gofynnwyd i bobl a oedd mewn gwaith ddarparu teitl eu swydd a phrif weithgarwch eu sefydliad, eu busnes, neu eu gwaith ar eu liwt eu hunain. Cafodd y wybodaeth hon ei defnyddio wedyn i bennu'r diwydiant roeddent yn gweithio ynddo. Mae'r ffordd hon o fesur cyflogaeth mewn diwydiant yn wahanol i'r dull a ddefnyddir mewn arolygon busnes eraill, a all arwain at gyfrif y boblogaeth mewn gwaith yn wahanol.
Grŵp galwedigaethol
Gellid defnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan bobl a oedd mewn gwaith am deitl eu swydd a'u prif weithgarwch i neilltuo preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith i grŵp galwedigaethol hefyd.
Nôl i'r tabl cynnwys8. Cryfderau a chyfyngiadau
Gwybodaeth am ansawdd y data am y farchnad lafur
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod cyfnod o newid cyflym. Gwnaethom roi canllawiau ychwanegol i helpu pobl a oedd ar ffyrlo i ateb cwestiynau'r cyfrifiad am waith. Fodd bynnag, ni allwn gadarnhau sut y dilynodd pobl a oedd ar ffyrlo y canllawiau. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion cynllunio. Darllenwch fwy am ein hystyriaethau ansawdd penodol yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Diffiniadau'r Farchnad Lafur
Gan fod y cyfrifiad yn defnyddio diffiniadau gwahanol o'r farchnad lafur i'r rhai a ddefnyddir gan yr Arolwg o'r Llafurlu, mae'r amcangyfrifon yn amrywio rhwng y ddwy ffynhonnell hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein herthygl sy'n cymharu amcangyfrifon y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2021 (yn Saesneg).
Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol
Cafodd data Cyfrifiad 2021 eu dosbarthu gan ddefnyddio diweddariad 2020 o'r Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol; defnyddiwyd fersiwn 2010 ar gyfer Cyfrifiad 2011. Nid oes modd cymharu'r ddau ddosbarthiad hyn yn uniongyrchol oherwydd newidiadau i'r ffordd y dosbarthwyd llawer o alwedigaethau. Ceir rhagor y wybodaeth yng nghanllaw defnyddwyr Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020 (yn Saesneg).
Cyflogaeth yn ôl diwydiant
Mae amcangyfrifon y cyfrifiad o nifer y bobl sydd wedi'u cyflogi yn ôl diwydiant yn wahanol i amcangyfrifon o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth. Mae'r Arolwg hwn yn casglu data yn uniongyrchol gan fusnesau. I'r gwrthwyneb, mae'r cyfrifiad yn dibynnu ar wybodaeth gan ymatebwyr am y busnes maent yn gweithio iddo yn eu prif swydd yn unig. Amcangyfrifon Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth yw'r ffordd a ffefrir o fesur nifer y swyddi ym mhob diwydiant tra bo amcangyfrifon y cyfrifiad yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion pobl sy'n gweithio ym mhob diwydiant. Nid yw hyn yn bosibl gyda data Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth.
Cyffredinol
Gallwch ddarllen am gryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Sicrhau ansawdd
Ceir manylion am y prosesau sicrhau ansawdd y gwnaethom eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn ein methodoleg am sut y gwnaethom sicrhau ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021.
Gallwch hefyd ddarllen am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein methodoleg am sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).
Nôl i'r tabl cynnwys9. Dolenni cysylltiedig
Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 8 Rhagfyr 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.
Gwybodaeth m ansawdd data am y Farchnad Lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
Newidynnau'r farchnad lafur Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am y farchnad lafur.
Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am y farchnad lafur a theithio i'r gwaith yng Nghymru.
10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Diwydiant a galwedigaeth, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021