Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Mudo rhwng cyfrifiadau
- Gwlad enedigol
- Pasbortau a ddelir
- Yr amrywiaeth o ran gwlad enedigol a phasbortau a ddelir ledled Cymru a Lloegr
- Cyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad
- Oedran a blwyddyn cyrraedd y Deyrnas Unedig
- Poblogaeth preswylwyr byrdymor
- Cyhoeddiadau yn y dyfodol
- Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: data
- Rhestr termau
- Mesur y data
- Cryfderau a chyfyngiadau
- Dolenni cysylltiedig
- Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
1. Prif bwyntiau
Ganed un o bob chwe phreswylydd arferol yng Nghymru a Lloegr y tu allan i'r Deyrnas Unedig, sef cynnydd o 2.5 miliwn ers 2011, o 7.5 miliwn (13.4%) i 10 miliwn (16.8%).
India yw'r wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i'r Deyrnas Unedig o hyd yn 2021 (920,000 o bobl, 1.5% o'r holl breswylwyr arferol).
Cynyddodd nifer y bobl a aned yn Rwmania 576% ers y cyfrifiad blaenorol, o 80,000 yn 2011 i 539,000 yn 2021.
Roedd gan 5.9 miliwn o breswylwyr arferol (9.9%) basbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig; y pasbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig mwyaf cyffredin oedd Gwlad Pwyl (760,000, 1.3% o'r holl breswylwyr arferol).
Roedd gan 545,000 o breswylwyr arferol (0.9% o'r boblogaeth) gyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, i lawr 11.0% o 612,000 (1.1%) yn 2011.
2. Mudo rhwng cyfrifiadau
Dengys ein datganiad o ddata'r boblogaeth heb eu talgrynnu o'r cyfrifiad bod y boblogaeth preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr wedi tyfu fwy na 3.5 miliwn (6.3%) yn y cyfnod rhwng cyfrifiadau, o 56,075,912 yn 2011 i 59,597,542 yn 2021.
Caiff newidiadau ym maint y boblogaeth eu hachosi gan enedigaethau, marwolaethau, a mudo mewnol a rhyngwladol. Mae defnyddio data ar gofrestri genedigaethau byw a marwolaethau yn dangos cyfran y newid yn y boblogaeth y gellir ei phriodoli i achosion naturiol, ac felly mae hefyd yn dangos y gyfran y gellir ei phriodoli i fudo.
Mae data misol yn dangos o fis Ebrill 2011 tan ddiwedd mis Mawrth 2021 fod 6.8 miliwn o enedigaethau byw a 5.3 miliwn o farwolaethau wedi'u cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd naturiol o oddeutu 1.5 miliwn o breswylwyr arferol (42.5% o'r cynnydd cyffredinol yn y boblogaeth). Mae'r twf yn y boblogaeth sy'n weddill (oddeutu 2.0 miliwn o breswylwyr arferol, 57.5% o'r cynnydd cyffredinol yn y boblogaeth) o ganlyniad i fudo net positif (y gwahaniaeth rhwng y rheini a fewnfudodd i Gymru a Lloegr ac a allfudodd allan o Gymru a Lloegr).
Ffigur 1: Mae mwy na hanner y cynnydd yn y boblogaeth ers 2011 oherwydd mudo net positif
Elfennau’r newid yn y boblogaeth rhwng Cyfrifiadau 2011 a 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys3. Gwlad enedigol
Ers 1851, mae'r cyfrifiad wedi bod yn casglu gwybodaeth am ble y ganed pobl. Yn aml, dyna'r mesur a ddewisir wrth edrych ar newidiadau hirdymor mewn mudo (yn Saesneg) gan nad yw man geni person yn newid.
O'r 59.6 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn 2021, roedd 49.6 miliwn (83.2%) wedi'u geni yn y Deyrnas Unedig ac roedd 10.0 miliwn (16.8%) wedi'u geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod tua un o bob chwe pherson yng Nghymru a Lloegr wedi'u geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae maint y boblogaeth na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig wedi codi ers 2011, pan oedd yn 7.5 miliwn (13.4%).
Roedd y rheini a aned yn yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) yn cyfrif am 3.6 miliwn (36.4% o'r holl breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig) o'r boblogaeth, i fyny o 2.5 miliwn (32.7%) yn 2011 (gan gynnwys Croatia, a ymunodd â'r UE yn 2013). Ganed y 6.4 miliwn (63.6%) sy'n weddill y tu allan i'r UE, i fyny o 5.1 miliwn (67.3%) yn 2011.
Mae hyn yn parhau â thueddiad tymor hwy bod cyfran gynyddol o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig yn dod o'r UE. Yn 2001, roedd 1.4 miliwn (30.0% o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig) wedi'u geni yn un o aelod-wladwriaethau presennol yr UE [nodyn 1] ac roedd 3.2 miliwn (70.0%) wedi'u geni y tu allan i'r UE.
Mae data Cyfrifiad 2021 hefyd yn dangos y gwelwyd cynnydd rhwng 2011 a 2021 yn nifer y gwledydd unigol, o edrych ar y rheini â'r poblogaethau mwyaf yng Nghymru a Lloegr.
Ffigur 2: Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr a aned yn Rwmania
Y 10 gwlad enedigol fwyaf cyffredin nad ydynt yn y Deyrnas Unedig yn 2021, gyda ffigurau 2011 er cymhariaeth, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Cynyddodd y rheini a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol i 539,000 yn 2021, o 80,000 yn 2011, cynnydd rhwng cyfrifiadau o 459,000 (576%), sy'n golygu mai Rwmania yw'r bedwaredd gwlad enedigol fwyaf cyffredin nad yw yn y Deyrnas Unedig. Hwn oedd y cynnydd mwyaf o ran unrhyw wlad ac mae'n bennaf am fod y cyfyngiadau gweithio ar gyfer dinasyddion Rwmanaidd wedi cael eu codi yn 2014. Cododd yr Eidal i'r 10 o wledydd genedigol mwyaf cyffredin nad ydynt yn y Deyrnas Unedig, i fyny i 277,000 o 135,000 rhwng 2011 a 2021, cynnydd o 106%.
Roedd y tair gwlad enedigol fwyaf cyffredin nad ydynt yn y Deyrnas Unedig ar gyfer preswylwyr arferol yn 2021 yr un fath ag yr oedd yn 2011:
India, sydd wedi cynyddu i 920,000 (1.5% o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr), i fyny o 694,000 yn 2011
Gwlad Pwyl, sydd wedi cynyddu i 743,000 (1.2%), i fyny o 579,000 yn 2011
Pacistan, sydd wedi cynyddu i 624,000 (1.0%), i fyny o 482,000 yn 2011
Cadwodd Iwerddon ei safle yn y 10 uchaf rhwng 2011 a 2021, ond hon oedd y wlad lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf, gostyngiad o 20.3%, o 407,000 yn 2011 i 325,000 yn 2021.
Gadawodd yr Unol Daleithiau a Jamaica y 10 uchaf o wledydd genedigol nad ydynt yn y Deyrnas Unedig yn 2021. Cynyddodd nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr a aned yn yr Unol Daleithiau rhwng cyfrifiadau (o 177,000 yn 2011 i 203,000 yn 2021), ond oherwydd cynnydd mwy fyth ar gyfer gwledydd eraill, nid yw'r Unol Daleithiau yn y 10 uchaf mwyach. Gostyngodd nifer y bobl a aned yn Jamaica, o 160,000 yn 2011 i 142,00 yn 2021.
Nodiadau:
- Ymunodd sawl gwlad â'r UE ar ôl 2001. Er mwyn gallu cymharu â data 2011 a 2021, mae'r gwledydd hyn wedi'u cynnwys yn y categori UE ar gyfer 2001. Mae hyn yn cynnwys Cyprus gan nad yw data Cyfrifiad 2001 yn gwahaniaethu rhwng ardaloedd yn yr UE ac ardaloedd nad ydynt yn yr UE.
4. Pasbortau a ddelir
Yn 2011, dechreuodd y cyfrifiad gasglu gwybodaeth am basbort(au) a ddelir gan breswylwyr arferol, sy'n fesur arall y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio ystadegau mudo (yn Saesneg). Yn aml, fe'i defnyddir yn lle cenedligrwydd ac fel ffordd o nodi'r rheini sydd â chenedligrwydd deuol neu luosog.
Gall fod gan bobl sawl pasbort. Gwnaethom sicrhau na chaiff preswylwyr eu cyfrif ddwywaith drwy sicrhau eu bod ond yn cael eu dangos mewn un categori pasbort. Os oedd gan berson fwy nag un pasbort, cafodd ei gategoreiddio yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol:
1. Pasbort y Deyrnas Unedig
2. Pasbort Iwerddon
3. Pasbort gwlad arall
Ar y cyfan, mae'r canlyniadau o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod gan 51.6% miliwn o breswylwyr arferol (86.5%) o leiaf un pasborth; nid oedd gan 8.0 miliwn (13.5%) unrhyw basbort, i lawr o 9.5 miliwn (16.9%) yn 2011.
Gwelwyd cynnydd yn y rheini oedd â phasbort y Deyrnas Unedig, o 42.5 miliwn (75.7%) yn 2011 i 45.7 miliwn (76.7%) yn 2021. Gwelwyd cynnydd yn y rheini oedd â phasbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig hefyd, o 4.2 miliwn (7.4%) yn 2011 i 5.9 miliwn (9.9%) yn 2021.
O'r rheini oedd â phasbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig, roedd 3.9 miliwn yn basbortau'r UE. Mae hyn yn gynnydd o 72.5% ers 2011, pan oedd gan 2.3 miliwn o bobl basbortau o'r un gwledydd yr UE (gan gynnwys Croatia). Roedd y 2.0 miliwn o basbortau eraill nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig yn 2021 o'r tu allan i'r UE (i fyny 5% o 1.9 miliwn yn 2011).
Fel gyda gwlad enedigol, gwelwyd cynnydd rhwng 2011 a 2021 ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd.
Ffigur 3: Gwlad Pwyl yw’r pasbort mwyaf cyffredin nad yw’n basbort y Deyrnas Unedig sydd gan bobl yng Nghymru a Lloegr
Y 10 pasbort mwyaf cyffredin nad ydynt yn basbortau’r Deyrnas Unedig sydd gan bobl yn 2021, gyda ffigurau 2011 er cymhariaeth, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Gwlad Pwyl (760,000, 1.3%), Rwmania (550,000, 0.9%) ac India (369,000, 0.6%) oedd y tri phasbort mwyaf cyffredin nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig sydd gan breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Yn 2011, pasbortau Gwlad Pwyl oedd y pasbortau mwyaf cyffredin nad oeddent yn basbortau'r Deyrnas Unedig ac roedd India'n drydydd, a phasbortau Iwerddon oedd yr ail mwyaf cyffredin (pumed yn 2021).
Gan adlewyrchu'r tueddiad o ran gwlad enedigol, Rwmania hefyd a welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y deiliaid pasbort nad ydynt yn ddeiliaid basbort y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr, cynnydd o 477,000 (652%) rhwng 2011 a 2021.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Yr amrywiaeth o ran gwlad enedigol a phasbortau a ddelir ledled Cymru a Lloegr
Ers Cyfrifiad 2011, gwelwyd cynnydd yn nifer a chanran y bobl a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig a phobl â phasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig yng Nghymru ac yn holl ranbarthau Lloegr.
Llundain yw'r rhanbarth lle gwelir y gyfran fwyaf o bobl o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r gyfran fwyaf o bobl sydd â phasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig o hyd. Yn 2021, nid oedd mwy na 4 o bob 10 (40.6%) o breswylwyr arferol yn Llundain wedi cael eu geni yn y Deyrnas Unedig, ac roedd gan fwy nag 1 o bob 5 (23.3%) basbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn gynnydd bach ers 2011, pan roedd 36.7% o breswylwyr Llundain nad oeddent wedi cael eu geni yn y Deyrnas Unedig, ac roedd gan 21.0% basbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig.
I'r gwrthwyneb, roedd 1 o bob 14 o breswylwyr arferol yng Nghymru (6.9%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (6.8%) wedi cael eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, yng Nghymru (4.0%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (3.7%) y gwelwyd y gyfran isaf o'r boblogaeth â phasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig.
Roedd yr awdurdodau lleol lle gwelwyd y ganran uchaf o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig a deiliaid pasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig yn tueddu i fod yn Llundain.
Ffigur 4: Roedd yr awdurdodau lleol lle gwelwyd y ganran uchaf o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig a deiliaid pasbortau nad ydynt yn basbortau’r Deyrnas Unedig yn Llundain
Gwlad enedigol a phasbortau a ddelir, 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
O'r 20 uchaf o awdurdodau lleol lle ceir y gyfran uchaf o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig, roedd 18 yn Llundain. Yr ardaloedd â'r cyfrannau uchaf oedd Brent (56.1%), Westminster (55.6%) a Kensington a Chelsea (53.9%). Yr unig awdurdodau lleol nad oeddent yn Llundain oedd Slough (44.0%) a Chaerlŷr (41.1%), a'r awdurdod lleol yng Ngymru oedd â'r gyfran uchaf oedd Caerdydd (16.5%). I'r gwrthwyneb, yr awdurdodau lleol oedd â'r gyfran isaf o breswylwyr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig oedd Gweundir Swydd Stafford (2.6%) a Chaerffili (2.9%).
O'r 20 o awdurdodau lleol lle ceir y gyfran uchaf o ddeiliaid pasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig, roedd 15 yn Llundain. Roedd y tri uchaf yn Ninas Llundain (34.0%), Westminster (33.6%) a Newham (33.3%). Y tu allan i Lundain, yng Nghaergrawnt (28.3%) a Slough (24.7%) y gwelwyd y cyfrannau uchaf o ddeiliaid pasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru, yng Nghaerdydd (9.2%) gwelwyd y gyfran uchaf. Ar draws y ddwy wlad, yr awdurdodau lleol â'r gyfran isaf o ddeiliaid pasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig oedd Redcar a Cleveland (1.1%) a Gweundir Swydd Stafford (1.3%).
Nôl i'r tabl cynnwys6. Cyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad
Gofynnodd y cyfrifiad i'r ymatebwyr a oedd eu cyfeiriad pan oeddent yn llenwi ffurflen y cyfrifiad yr un fath â'u cyfeiriad flwyddyn yn flaenorol (sef ar 21 Mawrth 2020). Yna gellir defnyddio'r data hyn i archwilio lefelau mudo i Gymru a Lloegr yn y flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Yn 2021, dywedodd 545,000 o breswylwyr arferol (0.9% o'r boblogaeth) wrthym fod eu cyfeiriad flwyddyn cyn y cyfrifiad y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ostyngiad o gymharu â 2011, pan oedd gan 612,000 (1.1%) gyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Disgwyliwyd gweld gostyngiad yn nifer y bobl a ddaeth i'r Deyrnas Unedig yn y flwyddyn flaenorol, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Cafodd cyfyngiadau ar deithio yn y Deyrnas Unedig eu gorfodi o fis Mawrth 2020 ymlaen ynghyd ag mewn gwledydd eraill ledled y byd. O ganlyniad, cyfyngwyd yn fawr ar y lefelau mudo i'r Deyrnas Unedig ac o'r Deyrnas Unedig yn y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Er hyn, cyrhaeddodd mwy na hanner miliwn o bobl yn y flwyddyn cyn y cyfrifiad.
Llundain oedd y rhanbarth yn Lloegr lle gwelwyd y gyfran uchaf o'r boblogaeth oedd â chyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad yn 2021 (1.7%). Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r gyfran isaf (0.6%) o blith rhanbarthau Lloegr ac roedd y gyfran hyd yn oed yn is yng Nghymru (0.5%).
Yr awdurdodau lleol oedd â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth oedd â chyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad yn 2021 oedd Caerdydd (1.4%) yng Nghymru, a Dinas Llundain (6.4%) a Westminster (4.9%) yn Lloegr.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Oedran a blwyddyn cyrraedd y Deyrnas Unedig
Gofynnwyd i breswylwyr arferol a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig pryd y gwnaethant gyrraedd i fyw yn y Deyrnas Unedig fwyaf diweddar. Drwy gyfuno hyn â'u dyddiad geni gellir cael gwybodaeth am eu hoedran pan wnaethant gyrraedd.
O’r 10.0 miliwn o breswylwyr yng Nghymru a Lloegr yn 2021 na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig:
- roedd 4.2 miliwn (42.4%) wedi cyrraedd ers 2011
- roedd 2.7 miliwn (26.9%) wedi cyrraedd rhwng 2001 a 2010
- roedd 3.1 miliwn (30.7%) wedi cyrraedd cyn 2001
Mae'r tueddiad ar draws y degawd diwethaf yn dangos bod mwy o bobl wedi nodi eu blwyddyn cyrraedd fwyaf diweddar dros y blynyddoedd diwethaf. Parhaodd y tueddiad hwn er gwaethaf y cyfyngiadau teithio rhyngwladol a oedd ar waith yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19); cyrhaeddodd 680,000 o breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig (6.8%) rhwng 2020 a Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.
Un rheswm dros hyn yw bod y cyfrifiad yn casglu'r tro mwyaf diweddar iddynt gyrraedd, yn hytrach na'r adeg y daeth pobl i fyw yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf. Hefyd, gan mai cipolwg mewn amser yw'r cyfrifiad, dim ond y niferoedd oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr ar y pryd sy'n cael eu cynnwys. Nid yw'n dangos y llif llawn o bobl a symudodd i fyw yma yn ystod y degawd oherwydd byddai rhai hefyd wedi gadael y Deyrnas Unedig yn y cyfnod hwnnw.
Ffigur 5: Cyrhaeddodd pedwar o bob deg preswylydd na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig y Deyrnas Unedig yn y degawd cyn y cyfrifiad.
Y flwyddyn cyrraedd fwyaf diweddar: Yr holl breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig, 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau:
1. Caiff y ffigurau eu talgrynnu'n unigol i'r cant agosaf. Efallai na fydd y ffigurau'n fanwl gywir am eu bod wedi'u talgrynnu.
Lawrlwytho'r data
Mae'r data ar oedran cyrraedd yn dangos:
bod 3.0 miliwn o breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig o dan 18 oed pan wnaethant gyrraedd y DU (30.2% o'r holl breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig, i lawr o 33.3% yn 2011)
bod 4.3 miliwn yn rhwng 18 a 29 oed (42.4%, i lawr o 44.8% yn 2011)
bod 2.1 miliwn rhwng 30 a 44 oed (21.1%, i fyny o 17.4% yn 2011)
bod 546,000 rhwng 45 a 64 oed (5.5%, i fyny o 3.9% yn 2011)
bod 79,000 yn 65 oed a throsodd pan wnaethant gyrraedd (0.8%, i fyny o 0.6% yn 2011)
8. Poblogaeth preswylwyr byrdymor
Mae'r cyfrifiad hefyd yn cyfrif y boblogaeth breswyl fyrdymor sy'n cynnwys pobl a oedd wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad ac nad oeddent yn bwriadu aros am fwy na 12 mis. Nid yw preswylwyr byrdymor yn cael eu cynnwys yn yr amcangyfrifon o'r boblogaeth breswyl arferol a ddangoswyd yn flaenorol.
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, roedd 136,000 o breswylwyr byrdymor yng Nghymru a Lloegr (4,000 yng Nghymru, a 132,000 yn Lloegr).
Er mwyn rhoi'r amcangyfrif gorau o boblogaeth Cymru a Lloegr, rydym fel arfer yn addasu data'r cyfrifiad i bobl na wnaethant ymateb. Ar gyfer Cyfrifiad 2021, dim ond ar gyfer preswylwyr arferol y cafodd hyn ei addasu gan mai dyna brif sail y boblogaeth. Ni chafodd hyn ei addasu ar gyfer preswylwyr byrdymor, sy'n golygu nad yw'r data a gyflwynir yma yn cynnwys amcangyfrif o'r preswylwyr byrdymor a oedd yn byw yng Nghymru a Lloeg ar adeg y cyfrifiad ond na wnaethant ymateb i'r cyfrifiad. Felly, ni ellir cymharu amcangyfrifon 2021 yn uniongyrchol ag amcangyfrifon 2011 o ran y boblogaeth breswyl fyrdymor.
Nôl i'r tabl cynnwys9. Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Caiff data a dadansoddiadau manylach ar fudo rhyngwladol eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi mudo rhyngwladol (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) yn fwy cyffredinol.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: data
Nifer y preswylwyr tymor byr nad ydynt o'r Deyrnas Unedig yn ôl rhyw (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr tymor byr na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig yn ôl eu rhyw yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Gwlad enedigol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu gwlad enedigol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Gwlad enedigol (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 20227
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu gwlad enedigol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Pasbortau (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu pasbortau. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Pasbortau (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu pasbortau. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Blwyddyn cyrraedd y Deyrnas Unedig (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu blwyddyn cyrraedd yn y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Cyfnod preswylio (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu cyfnod preswylio yn y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Oedran cyrraedd y Deyrnas Unedig (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu hoedran cyrraedd y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Dangosydd mudwyr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl dangosydd mudwyr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
11. Rhestr termau
Cyfeiriad flwyddyn yn ôl
Y lle roedd person yn byw flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 22 Mawrth 2020. Gallai pobl ddewis o:
yr un peth â’r cyfeiriad presennol
cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig
cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig
y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Oedran cyrraedd y Deyrnas Unedig
Y dyddiad y cyrhaeddodd person i fyw yn y Deyrnas Unedig ddiwethaf a’i oedran. Nid yw dyddiadau cyrraedd yn cynnwys dychwelyd o deithiau byr i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig.
Dim ond i breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig y mae’r oedran cyrraedd yn berthnasol. Nid yw’n cynnwys preswylwyr arferol a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig sydd wedi allfudo ac wedi dychwelyd ers hynny. Caiff y rhain eu cofnodi yn y categori “ganed yn y Deyrnas Unedig”.
Gwlad enedigol
Y wlad lle cafodd person ei eni.
Ar gyfer pobl na chawsant eu geni yn un o bedair rhan y Deyrnas Unedig, roedd opsiwn i ddewis “rhywle arall”. Gofynnwyd i bobl a ddewisodd “rhywle arall” ysgrifennu enw presennol eu gwlad enedigol.
Pasbort nad yw’n basbort y Deyrnas Unedig
Pobl sydd â phasbort neu basbortau nad ydynt yn basbortau’r Deyrnas Unedig nac Iwerddon. Gall hyn fod yn ychwanegol at basbort Iwerddon neu’r Deyrnas Unedig.
Gofynnwyd i bobl ddewis p’un a oedd ganddynt “ddim pasbort”, “pasbort y Deyrnas Unedig”, “pasbort Iwerddon”, neu “basbort o wlad arall” (y gallent ei nodi). Os oedd mwy nag un opsiwn yn berthnasol, gofynnwyd i bobl nodi pob opsiwn a oedd yn berthnasol.
Bydd pobl yn ymddangos ym mhob categori pasbort sy’n berthnasol iddynt mewn canlyniadau sy’n dosbarthu pobl yn ôl y pasbortau sydd ganddynt.
Pasbortau
Mae “pob pasbort” yn dosbarthu person yn ôl y pasbort neu’r pasbortau a oedd ganddo ar adeg y cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys pasbortau neu ddogfennau teithio a oedd wedi dod i ben ond yr oedd hawl gan bobl i’w hadnewyddu. Os cofnododd person fod ganddo fwy nag un pasbort, dim ond unwaith y cafodd ei gyfrif, wedi’i gategoreiddio yn ôl y drefn flaenoriaeth ganlynol:
1. Pasbort y Deyrnas Unedig
2. Pasbort Iwerddon
3. Pasbort arall
Preswylwyr byrdymor
Mae preswylydd byrdymor o’r DU at ddibenion y cyfrifiad yn cynnwys unrhyw un a aned y tu allan i’r DU a oedd, ar 21 Mawrth 2021, wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o dri mis neu fwy ond llai na 12 mis.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Blwyddyn cyrraedd y Deyrnas Unedig
Y flwyddyn y gwnaeth rhywun na chafodd ei eni yn y Deyrnas Unedig gyrraedd y Deyrnas Unedig ddiwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys dychwelyd o ymweliadau byr i ffwrdd o’r Deyrnas Unedig.
Nôl i'r tabl cynnwys12. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.
Nôl i'r tabl cynnwys13. Cryfderau a chyfyngiadau
Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer y pwnc demograffeg a mudo (yn Saesneg).
Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posib (yn Saesneg).
Nôl i'r tabl cynnwys14. Dolenni cysylltiedig
Nodweddion cartrefi a phreswylwyr, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (Yn Saesneg)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Data Cyfrifiad 2021 am nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru a Lloegr.
Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.
Tudalen gwe ansawdd pwnc demograffeg a mudo (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb o’r prosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon y cyfrifiad, ynghyd ag ystyriaethau o ansawdd y dylid bod yn ymwybodol ohonynt wrth ddehongli’r data.
Geiriadur Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Diffiniadau o newidynnau, dosbarthiadau allbwn, rhestr termau a metadata daearyddiaeth.
Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar ddemograffeg a mudo yng Nghymru.
15. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021