Teithio i’r gwaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Gweithio o’r cartref, dull o deithio a phellter teithio i’r gwaith, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census

Cyswllt:
Email Sarah Garlick

Dyddiad y datganiad:
8 December 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg; bydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol, y canllawiau cysylltiedig a'r mesurau ffyrlo wedi effeithio ar bwnc teithio i'r gwaith.
  • Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion polisi a chynllunio.
  • Mae Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod 8.7 miliwn (31.2%) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yng Nghymru a Lloegr yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.
  • Nododd ychydig dros 19.1 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith (68.8%) ddull o deithio i'r gwaith heblaw am weithio gartref neu o'r cartref yn bennaf.
  • Y dull mwyaf cyffredin o deithio i'r gwaith oedd gyrru mewn car neu fan (45.1%, 12.5 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith).
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf

Yn 2021, roedd 27.8 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.

Ar ffurflen Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i bobl a oedd mewn gwaith neu i ffwrdd o'r gwaith dros dro yn ystod yr wythnos cyn Diwrnod y Cyfrifiad "Sut ydych chi'n teithio i'r gwaith fel arfer?". Gofynnwyd i bobl ddewis un dull o deithio yr oeddent yn ei ddefnyddio ar gyfer y rhan hiraf, o ran pellter, o'u taith arferol i'r gwaith.

Roedd cyfanswm amcangyfrifedig o 8.7 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf, sef 31.2% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith.

Roedd cyfrannau tebyg, tua 30%, yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn 2021 yn Lloegr (31.5%) ac yng Nghymru (25.6%). Yn Lloegr, roedd y canrannau rhanbarthol o bobl a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn amrywio o 24.8% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 42.1% yn Llundain.

Ledled Lloegr, roedd y canrannau mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn byw yn awdurdodau lleol Ninas Llundain (67.3%) ac yn Richmond upon Thames (58.8%), ac roedd y gyfran isaf yn byw yn Boston yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (10.6%). Yng Nghymru, roedd y ganran a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn amrywio o 14.0% ym Mlaenau Gwent i 36.1% yng Nghaerdydd.

Gellir esbonio'r gwahaniaethau mewn gweithio o gartref ar lefel gwlad, rhanbarth ac awdurdod lleol yn rhannol yn ôl amrywiadau mewn cyflogaeth o fewn galwedigaethau a diwydiannau. Ceir rhagor o wybodaeth am sut roedd pobl wedi'u cyflogi yn ein bwletin diwydiant a galwedigaeth (yn Saesneg).

Ffigur 1: Roedd canran y bobl a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Canran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Nodiadau:
  1. Ar adeg Cyfrifiad 2021, arweiniodd canllawiau a chyfyngiadau symud llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) at newidiadau digynsail i ymddygiad a phatrymau teithio. Nid yw'n glir a wnaeth ymatebwyr ar ffyrlo ddilyn y canllawiau yn ôl y bwriad.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

O ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19), roedd llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau ffyrlo i sicrhau bod y rhai na allent weithio yn gallu parhau i gael eu cyflogi. Mae ffyrlo yn cynnwys pobl ar y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig a'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Wrth gwblhau ffurflen Cyfrifiad 2021, gofynnwyd i'r bobl ar ffyrlo ddweud eu bod i ffwrdd o'r gwaith dros dro, ynghyd â'r rhai a oedd dan gwarantin neu'n hunanynysu oherwydd y pandemig. Cafodd pobl ar ffyrlo ganllawiau penodol i'w helpu i ymateb; darllenwch fwy am hyn yn Gwybodaeth am ansawdd data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg). Cafodd y bobl a oedd i ffwrdd o'r gwaith dros dro eu cynnwys yn y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd. Ceir rhagor o wybodaeth am y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd yn ein bwletin ar statws gweithgarwch economaidd (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Dull o deithio i’r gwaith

Nid oedd ychydig dros 19.1 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith (68.8%) yn gweithio gartref nac o'r cartref yn bennaf. Yn hytrach, gwnaethant nodi eu prif ddull o deithio i gyrraedd eu man gwaith. Mae'n debygol bod y cyfyngiadau yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cyfrannu at newidiadau yn y ffordd roedd pobl yn teithio i'r gwaith, gan gynnwys bod llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Darllenwch fwy yn yr adran Cryfderau a chyfyngiadau.

Yng Nghymru a Lloegr, o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith:

  • roedd 12.5 miliwn o bobl yn teithio i'r gwaith drwy yrru car neu fan (45.1% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith)

  • roedd 1.1 miliwn yn teithio fel teithwyr mewn car neu fan (3.9%)

Roedd y ganran amcangyfrifedig a oedd yn gyrru car neu fan i'r gwaith yn uwch yng Nghymru (56.5%, 773,000) o gymharu â Lloegr (44.5%, 11.8 miliwn). Ledled rhanbarthau Lloegr, roedd y ganran a oedd yn teithio i'r gwaith drwy yrru car neu fan yn amrywio o 20.6% yn Llundain i 53.2% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Y ganran fwyaf o blith awdurdodau lleol Lloegr oedd 64.0% yn Cannock Chase, ac yna Bolsover (63.9%) a South Holland (63.9%). Yng Nghymru, y ganran fwyaf oedd 68.5% ym Mlaenau Gwent.

Ffigur 2: Roedd mwy na dwy ran o bump o bobl a oedd yn teithio i'r gwaith yn teithio drwy yrru car neu fan yn bennaf

Y dull o deithio i'r gwaith, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Ar adeg Cyfrifiad 2021, arweiniodd canllawiau a chyfyngiadau symud llywodraeth y DU at newidiadau digynsail i ymddygiad a phatrymau teithio. Nid yw'n glir a wnaeth ymatebwyr ar ffyrlo ddilyn y canllawiau yn ôl y bwriad.
  2. Rydym wedi hepgor y categori "Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf" yn y siart hon i'w gwneud yn haws gweld y dulliau o deithio i'r gwaith.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yng Nghymru a Lloegr, roedd 5.5 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn teithio i'r gwaith drwy brif ddull heblaw am fel gyrrwr neu deithiwr mewn car neu fan (19.8%). Ar ôl gyrru car neu fan, y dull o deithio i'r gwaith nesaf a ddewiswyd oedd ar droed (2.1 miliwn, 7.6%). Yr ymatebion sy'n weddill ar gyfer y dull o deithio i'r gwaith oedd:

  • roedd bron i 1.2 miliwn o bobl (4.2%) yn teithio ar fws, bws mini neu goets
  • roedd 569,000 (2.0%) yn teithio ar feic
  • roedd 529,000 (1.9%) yn teithio ar drên
  • roedd 505,000 (1.8%) yn teithio ar drên tanddaearol, metro, rheilffordd ysgafn neu dram
  • roedd 200,000 (0.7%) yn teithio mewn tacsi
  • roedd 129,000 (0.5%) yn teithio ar feic modur, sgwter neu foped
  • roedd 286,000 (1.0%) yn teithio drwy ddefnyddio dull arall o deithio i'r gwaith

Roedd canran fwy o bobl yn teithio i'r gwaith ar droed yn Lloegr (7.6%) o gymharu â Chymru (7.1%). Yn Lloegr, roedd canran fwy o bobl yn y De-orllewin yn teithio i'r gwaith ar droed (9.2%) o gymharu â rhanbarthau eraill.

O gymharu â rhanbarthau eraill yn Lloegr, roedd canran fwy o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn byw yn Llundain:

  • yn teithio ar drên tanddaearol, metro, rheilffordd ysgafn neu dram (9.9%, o gymharu â llai nag 1% mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr)
  • yn teithio ar fws, bws mini neu goets (8.9%, o gymharu â llai na 5% mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr)
  • yn teithio ar drên (5.3%, o gymharu â llai na 3% mewn rhanbarthau eraill yn Lloegr)
Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pellter teithio i’r gwaith

Gofynnwyd i ymatebwyr 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith am gyfeiriad gweithle neu ddepo eu prif swydd, a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo'r pellter roeddent yn teithio i'r gwaith.

Yng Nghymru a Lloegr, roedd 15.1 miliwn o bobl yn teithio i weithle neu ddepo (54.3% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith). Yn ogystal â'r 8.7 miliwn o bobl a oedd yn gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf (31.2%), roedd 4.0 miliwn arall o bobl yn gweithio ar safle ar y môr yn bennaf, ddim mewn man penodol, neu y tu allan i'r DU (14.4%).

O'r rhai a oedd yn teithio i weithle neu ddepo, roedd 9.8 miliwn o bobl (35.4% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith) yn teithio pellteroedd byr i'r gwaith (llai na 10 cilometr). Gan edrych yn fanylach ar y grŵp hwn:

  • roedd 3.1 miliwn o bobl yn teithio lai na 2 gilometr (11.0% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith)
  • roedd 3.5 miliwn o bobl yn teithio o leiaf 2 gilometr i lai na 5 cilometr (12.6%)
  • roedd 3.3 miliwn o bobl yn teithio o leiaf 5 gilometr i lai na 10 cilometr (11.8%)

O'r 5.3 miliwn o bobl sy'n weddill (19.0% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith) a oedd yn teithio pellteroedd hirach i'r gwaith (10 cilometr a throsodd):

  • roedd 2.9 miliwn yn teithio o leiaf 10 cilometr i lai nag 20 cilometr (10.5% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith)
  • roedd 1.1 miliwn yn teithio o leiaf 20 cilometr i lai na 30 cilometr (4.1%)
  • roedd 470,000 yn teithio o leiaf 30 cilometr i lai na 40 cilometr (1.7%)
  • roedd 359,000 yn teithio o leiaf 40 cilometr i lai na 60 cilometr (1.3%)
  • roedd 383,000 yn teithio 60 cilometr a throsodd (1.4%)

Roedd canran fwy o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn gwaith yn teithio pellteroedd byrrach (llai na 10 cilometr) a phellteroedd hirach (10 cilometr a throsodd) i'r gwaith yng Nghymru (36.3% a 24.2% yn y drefn honno) o gymharu â Lloegr (35.4% a 18.7% yn y drefn honno).

Ffigur 3: Roedd y mwyafrif o bobl a oedd yn teithio i'r gwaith yn teithio lai na 10 cilometr

Pellter teithio i'r gwaith, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Ar adeg Cyfrifiad 2021, arweiniodd canllawiau a chyfyngiadau symud llywodraeth y DU at newidiadau digynsail i batrymau ymddygiad teithio. Nid yw'n glir a wnaeth ymatebwyr ar ffyrlo ddilyn y canllawiau yn ôl y bwriad.
  2. Rydym wedi hepgor y categori "Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf" a "Gweithio ar safle ar y môr, dim man penodol neu y tu allan i'r Deyrnas Unedig" yn y siart hon i'w gwneud yn haws gweld y pellteroedd teithio i'r gwaith.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

O'r rhanbarthau yn Lloegr, y Gogledd-orllewin (40.7%) a Swydd Efrog a'r Humber (40.7%) oedd â'r canrannau uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith ac yn teithio pellteroedd byr i'r gwaith (llai na 10 cilometr). Roedd mwy nag un rhan o bump o breswylwyr 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn teithio pellteroedd hir (10 cilometr neu fwy) i'r gwaith yn rhanbarthau Dwyrain Canolbarth Lloegr (22.5%, Dwyrain Lloegr (22.3%), Gogledd-ddwyrain Lloegr (20.9%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (20.3%).

Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r canrannau mwyaf a oedd yn teithio pellteroedd byr (llai na 10 cilometr) oedd Abertawe (46.7%) a Wrecsam (46.3%), a'r awdurdodau lleol â'r canrannau mwyaf a oedd yn teithio pellteroedd hir (10 cilometr neu fwy) oedd Blaenau Gwent (32.5%) a Sir Gaerfyrddin (32.2%). Yn Lloegr, yr awdurdod lleol â'r ganran fwyaf a oedd yn teithio pellteroedd byr (llai na 10 cilometr) oedd Kingston upon Hull (61.1%), a'r ardal â'r ganran fwyaf a oedd yn teithio pellteroedd hir (10 cilometr neu fwy) oedd Breckland (35.0%).

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Data teithio i’r gwaith

Dull o deithio i'r gwaith (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu dull o deithio i'r gwaith (manyleb 2001). Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Pellter teithio i'r gwaith (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu pellter teithio i'r gwaith. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

Dull o deithio i'r gwaith

Gweithle person a'i ddull o deithio i'r gwaith. Dull 2001 o gynhyrchu newidynnau teithio i'r gwaith yw hyn.

Mae "Gweithio o'r cartref yn bennaf" yn gymwys i rywun a nododd ei gyfeiriad cartref fel ei weithle a'i fod yn teithio i'r gwaith drwy yrru car neu fan, er enghraifft ymweld â chleientiaid.

Pellter teithio i'r gwaith

Y pellter, mewn cilomedrau, rhwng cod post preswyl person a chod post ei weithle, wedi'i fesur mewn llinell syth. Mae pellter teithio o 0.1km yn nodi bod cod post y gweithle yr un peth â'r cod post preswyl. Caiff pellteroedd dros 1200km eu trin fel rhai annilys, a chaiff gwerth wedi'i briodoli neu ei amcangyfrif ei ychwanegu.

Mae "Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf" yn cynnwys y sawl a diciodd naill ai'r blwch 'Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf' ar gyfer y cwestiwn am gyfeiriad y gweithle neu'r blwch 'Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf' ar gyfer y cwestiwn am y dull o deithio i'r gwaith.

Mae "Arall" yn cynnwys dim gweithle penodol, gweithio ar safle ar y môr a gweithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Caiff pellter ei gyfrifo ar sail llinell syth rhwng cod post y cyfrifiad a chod post y gweithle.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Mewn gwaith

Mae pobl 16 oed a throsodd mewn gwaith os oeddent yn gyflogeion neu'n hunangyflogedig rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021. Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Mae data'r farchnad lafur yn cyfeirio'n bennaf at weithgarwch ymatebwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf; mae hyn yn cyfeirio at 15 i 21 Mawrth 2021. Yn y grwpiau di-waith ac yn anweithgar yn economaidd, y pedair wythnos y mae person wedi bod yn chwilio am swydd ynddynt yw rhwng 21 Chwefror a 21 Mawrth 2021, a rhaid iddo allu dechrau swydd yn ystod y pythefnos nesaf, 21 Mawrth i 4 Ebrill 2021.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb sy'n benodol i gwestiynau ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Gwybodaeth am ansawdd y data am y farchnad lafur

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod cyfnod o newid cyflym. Gwnaethom roi canllawiau ychwanegol i helpu pobl a oedd ar ffyrlo i ateb cwestiynau'r cyfrifiad am waith. Fodd bynnag, ni allwn gadarnhau sut y dilynodd pobl a oedd ar ffyrlo y canllawiau. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion cynllunio. Darllenwch fwy am ein hystyriaethau ansawdd penodol yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Diffiniadau'r Farchnad Lafur

Gan fod y cyfrifiad yn defnyddio diffiniadau gwahanol o'r farchnad lafur i'r rhai a ddefnyddir gan yr Arolwg o'r Llafurlu, mae'r amcangyfrifon yn amrywio rhwng y ddwy ffynhonnell hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein herthygl sy'n cymharu amcangyfrifon o'r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu, Cymru a Lloegr: Mawrth 2021 (yn Saesneg).

Cyffredinol

Gallwch ddarllen am gryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Sicrhau ansawdd

Ceir manylion am y prosesau sicrhau ansawdd y gwnaethom eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn ein methodoleg am sut y gwnaethom sicrhau ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021.

Gallwch hefyd ddarllen am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein methodoleg am sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Manyleb teithio i'r gwaith 2001

Mae data Cyfrifiad 2021 ar deithio i'r gwaith yn defnyddio manyleb teithio i'r gwaith 2001, dull sy'n cyd-fynd â newidynnau o Gyfrifiadau 2001 a 2011. O gymharu â manyleb 2011 (yn Saesneg), nid yw data Cyfrifiad 2021 yn cynnwys ffigurau ar gyfer pobl sy'n gweithio o'r cartref ond sy'n defnyddio dull arall o deithio ar gyfer eu swydd. O ganlyniad, gall y ffigurau ar gyfer gweithio gartref fod yn uwch na newidyn 2011 oherwydd gwahaniaethau diffiniadol.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 8 Rhagfyr 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr i helpu defnyddwyr i'w dadansoddi'n gywir.

Newidynnau teithio i'r gwaith: Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am deithio i'r gwaith.

Y farchnad lafur a theithio i'r gwaith (Cyfrifiad2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar y farchnad lafur a theithio i'r gwaith.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Teithio i'r gwaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Sarah Garlick
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972