Pobl ag ail gyfeiriadau, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am bobl sy’n defnyddio ail gyfeiriadau yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Emily Green

Dyddiad y datganiad:
5 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Nododd 3.2 miliwn o breswylwyr yng Nghymru a Lloegr (5.3% o'r boblogaeth) eu bod yn aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.

  • Mae canran y bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad wedi codi rhywfaint ers 2011, pan oedd yn 5.2% (2.9 miliwn).

  • Roedd 2.5 miliwn o breswylwyr arferol (4.1%) yn defnyddio ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig ac roedd 736,000 (1.2%) o breswylwyr arferol yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

  • Y mathau mwyaf cyffredin o ail gyfeiriadau oedd cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall (a ddefnyddiwyd gan 1.1 miliwn o bobl, sef 33.1% o breswylwyr arferol), cyfeiriadau cartref myfyrwyr (655,000, 20.6%), a chartrefi gwyliau (447,000, 14.0%).

  • Gyda'r data hyn, mae'n bwysig ystyried effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19), er enghraifft efallai ei bod yn fwy tebygol bod myfyrwyr wedi byw yng nghyfeiriad eu rhieni neu warcheidwad drwy gydol y flwyddyn academaidd heb ddefnyddio ail gyfeiriad yn ystod y tymor

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pobl ag ail gyfeiriadau yng Nghymru a Lloegr

Yn ogystal â nodi eu prif gyfeiriad, roedd Cyfrifiad 2021 hefyd yn gofyn i ymatebwyr nodi a oeddent yn aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn. Os gwnaethant nodi eu bod yn gwneud hynny, gofynnwyd iddynt am ddiben yr ail gyfeiriad, ac a yw yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi.

Mae’r bwletin hwn yn rhoi gwybodaeth am faint o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriadau a beth oedd eu diben dros ddefnyddio ail gyfeiriad. Mae bwletinau eraill yn y crynodeb pwnc Tai yn canolbwyntio ar nodweddion tai (yn Saesneg) a phreswylwyr sefydliadau cymunedol (yn Saesneg).

Nifer y bobl sy’n defnyddio ail gyfeiriad

Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod 3.2 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr (5.3% o’r boblogaeth) yn aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn. Roedd hyn ychydig yn uwch nag yn 2011, pan nododd 2.9 miliwn o bobl (5.2% o’r boblogaeth) eu bod yn aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.

Roedd canran ychydig yn uwch o breswylwyr arferol yn Lloegr yn defnyddio ail gyfeiriad (5.4%) o gymharu â Chymru (5.2%). O blith rhanbarthau Lloegr, Llundain (6.0%) a De-orllewin Lloegr (5.9%) oedd â’r ganran uchaf o breswylwyr arferol a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad, a Gorllewin Canolbarth Lloegr (4.5%) oedd â’r isaf.

Yng Nghymru, roedd canran fwy o breswylwyr arferol a oedd yn byw yng Nghaerdydd (10.5%) a Cheredigion (10.2%) yn defnyddio ail gyfeiriadau, ac ym Mlaenau Gwent (2.7%) a Merthyr Tudful (3.0%) y gwelwyd y canranau isaf.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pobl ag ail gyfeiriadau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt

O blith y rheini yng Nghymru a Lloegr a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad, roedd 2.5 miliwn o bobl (4.1% o’r boblogaeth breswyl arferol) yn defnyddio ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn i fyny o 2.1 miliwn (3.7%) yn 2011. Roedd y 736,000 a oedd yn weddill (1.2% o’r boblogaeth breswyl arferol) yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, sy’n ostyngiad o gymharu â 2011 (821,000, 1.5%).

Roedd gan Gymru gyfran uwch na Lloegr o breswylwyr arferol a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig (4.5% o gymharu â 4.1%). Roedd gan Loegr gyfran uwch o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig (1.3% o gymharu â 0.7%).

Ffigur 1: Pobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriadau o fewn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:

  1. Caiff canrannau eu cyfrifo o’r boblogaeth breswyl arferol ar gyfer pob awdurdod lleol.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yr awdurdodau lleol oedd â’r ganran uchaf o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad o fewn y Deyrnas Unedig oedd Rhydychen (15.6%), Caergrawnt (14.1%) a Chaerwysg (13.5%). Yng Nghymru, yr awdurdod lleol oedd â’r gyfran uchaf oedd Ceredigion (9.1%). Mae’r rhain i gyd yn ardaloedd sy’n cynnwys prifysgolion, felly mae’n debygol bod y ganran uchel o bobl ag ail gyfeiriadau yn adlewyrchu myfyrwyr sydd â chyfeiriad yn ystod y tymor a chyfeiriad y tu allan i’r tymor.

Gan edrych yn fanylach ar y boblogaeth a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, roedd 8 o’r 10 awdurdod lleol uchaf yn Llundain. Roedd y cyfrannau uchaf i’w gweld yn Kensington a Chelsea (10.3%), Dinas Llundain (8.9%) a Westminster (8.7%). Y tu allan i Lundain, roedd y cyfrannau uchaf i’w gweld yng Nghaergrawnt (5.5%) a Rhydychen (4.9%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol oedd â’r ganran uchaf o breswylwyr arferol a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig oedd Caerdydd (1.5%) a Cheredigion (1.1%).

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Mathau o ail gyfeiriadau

Gofynnwyd i bobl a nododd eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad “Beth yw’r cyfeiriad hwnnw?” a rhoddwyd rhestr o wyth opsiwn iddynt ddewis ohonynt.

Fel yn 2011, y math mwyaf cyffredin o ail gyfeiriad yn 2021 oedd “Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall”, a fyddai wedi cael ei ddewis ar gyfer plant yr oedd eu rhieni wedi gwahanu neu’n byw ar wahân. Dewiswyd hwn gan 1.1 miliwn o bobl yn 2021 (1.77%) o’r boblogaeth breswyl arferol), sy’n gynnydd sylweddol ers 2011 (o 42,000, 1.32%).

Y grŵp nesaf mwyaf oedd “Cyfeiriad cartref myfyriwr”, sef 655,000 (1.10%). Mae’r ffigur yn y grŵp hwn wedi gostwng ers 2011, pan oedd yn 715,000 (1.28%). Mae’n debygol bod hyn yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), oherwydd byddai llai o fyfyrwyr na’r disgwyl wedi bod yn aros mewn cyfeiriad yn ystod y tymor.

Ymhlith y rheini a nododd eu bod yn defnyddio “Cyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog” y gwelwyd y gostyngiad mwyaf. Gwelwyd bod y ffigur hwn wedi mwy na haneru yn y cyfnod rhwng 2011 a 2021, o 73,000 (0.13%) yn 2011 i 33,000 (0.06%) yn 2021. Gwelwyd gostyngiad hefyd yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio “cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref”, o 253,000 o bobl (0.45%) yn 2011 i 189,000 (0.32%) yn 2021.

Roedd y gyfran a nododd “gartref gwyliau” ar gyfer eu hail gyfeiriad yn fwy sefydlog. Gwelwyd cynnydd bach yn nifer y bobl ledled Cymru a Lloegr a nododd eu bod yn defnyddio cartref gwyliau (o 426,000 yn 2011 i 447,000 yn 2021), a oedd yn ostyngiad bach fel canran o’r boblogaeth (o 0.76% yn 2011 i 0.75% yn 2021). Roedd canran y boblogaeth a nododd eu bod yn defnyddio cartref gwyliau yn uwch yn Lloegr (0.76%) nag yng Nghymru (0.56%).

Am y tro cyntaf, roedd y cwestiwn am ail gyfeiriadau hefyd yn cynnwys ymateb blwch ticio ar gyfer defnyddio “cyfeiriad partner”. Yn 2021, nododd 294,000 o bobl (0.49%) eu bod yn defnyddio’r math hwn o ail gyfeiriad.

Ffigur 2: Mathau o ail gyfeiriad, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:

  1. Caiff canrannau eu cyfrifo o’r boblogaeth breswyl arferol ar gyfer pob gwlad.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar ail gyfeiriadau, gan gynnwys ar leoliad ail gyfeiriadau, eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi tai (yn Saesneg) a’n cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pobl ag ail gyfeiriadau, Cymru a Lloegr: data

Diben ail gyfeiriad (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 yn osbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr sydd ag ail gyfeiriad yn ôl diben yr ail gyfeiriad hwnnw.

Dangosydd ail gyfeiriad (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 yn dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu defnydd o ail gyfeiriad, a ph’un a yw’r ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Geirfa

Ail gyfeiriad

Cyfeiriad (yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi) y mae rhywun yn aros ynddo am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn nad yw’n breswylfa arferol iddo.

Fel arfer mae ail gyfeiriadau yn cynnwys:

  • canolfannau'r lluoedd arfog
  • cyfeiriadau a ddefnyddir gan bobl sy'n gweithio i ffwrdd o'r cartref
  • cyfeiriad cartref myfyriwr
  • cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall
  • cyfeiriad partner
  • cartref gwyliau

Os oedd person ag ail gyfeiriad yn aros yno ar noson y cyfrifiad, roedd yn cael ei ddosbarthu’n ymwelydd â’r ail gyfeiriad ond yn cael ei gyfrif fel preswylydd arferol yn ei gyfeiriad cartref.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer y cyfrifiad yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am wybodaeth am ansawdd y data ar dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg)

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 5 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth. 

Gwybodaeth am ansawdd tai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am dai o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. 

Newidynnau tai, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 4 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am dai.

Tai yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 5 Tachwedd 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar dai yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Pobl ag ail gyfeiriadau, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Emily Green
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972