Siarter ymatebwyr i arolygon cartrefi ac unigolion

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal astudiaethau o samplau cynrychioliadol o gartrefi ac unigolion i lunio darlun cywir a llawn o gymdeithas a'r economi.

Mae llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, busnesau, sefydliadau cymunedol a llawer o rai eraill yn dibynnu ar y wybodaeth hon i'w helpu i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pawb sy'n byw ac yn gweithio yn y DU.

Nod y siarter yw egluro beth y gall pobl sy'n cymryd rhan yn ein harolygon, neu arolygon rydym yn eu cynnal ar ran sefydliadau eraill, ei ddisgwyl gennym. Weithiau byddwn yn comisiynu sefydliadau ymchwil eraill i gynnal arolygon ar ein rhan: mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar hyn o bryd yn cael ei gynnal gan TNS-BMRB. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ymrwymiadau TNS-BMRB ar wefan TNS-BMRB.

Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), bu'n rhaid i ni newid y ffordd y byddwn yn gweithio fel arfer er mwyn cadw'r cyhoedd a'n staff yn ddiogel ac i wneud yn siŵr bod y wlad yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arni i ymateb i'r argyfwng. Gallwch ddarllen mwy am y newidiadau hyn yn ein datganiad ar eich cadw'n ddiogel yn ystod COVID-19.

Mae SYG yn cyd-arwain astudiaeth fawr i dracio presenoldeb COVID-19 ymhlith y boblogaeth. Rydym hefyd wedi creu astudiaethau ar-lein i ategu'r wybodaeth y byddem fel arfer yn ei chasglu wyneb yn wyneb. Oherwydd maint yr astudiaethau sy'n ofynnol er mwyn ymateb i'r heriau digynsail hyn, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu bodloni rhai o'n hymrwymiadau bob amser, gan gynnwys, er enghraifft, osgoi dewis yr un cyfeiriad ar gyfer mwy nag un arolwg yn ystod yr un flwyddyn.

Diolch am eich dealltwriaeth wrth ein helpu ni i ddiwallu anghenion y genedl yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym yn croesawu eich barn a'ch awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella ein harolygon.

Hoffem hefyd glywed gennych os ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch.

Gallwch anfon e-bost atom yn adbortharolwg@ons.gov.uk

Os gofynnwyd i chi gymryd rhan yn un o'n harolygon, neu arolygon rydym yn eu cynnal ar ran sefydliadau eraill, beth y gallwch ei ddisgwyl gennym?

Byddwn yn gwerthfawrogi eich amser a'ch cyfraniad

Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod pob arolwg yn angenrheidiol ac na allem gasglu'r wybodaeth mewn unrhyw ffordd arall
  • dim ond gofyn i gymaint o bobl gymryd rhan ag sy'n angenrheidiol i sicrhau cywirdeb ein hystadegau
  • osgoi dewis yr un cyfeiriad ar gyfer mwy nag un arolwg yn yr un flwyddyn
  • pan fyddwn yn eich cyfweld yn eich cartref neu dros y ffôn, byddwn yn trefnu amser sy'n gyfleus i chi
  • dylunio ein harolygon fel ein bod yn cymryd cyn lleied o amser â phosibl

Byddwn yn eich trin â pharch

Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • ceisio gwneud y profiad o gymryd rhan mewn arolwg mor syml a gwerth chweil â phosibl
  • bod yn onest gyda chi ynglŷn â'r ffaith bod eich cyfranogiad yn wirfoddol a rhoi syniad realistig i chi o ba mor hir y gallai'r arolwg gymryd
  • cofio eich bod wedi bod yn barod i gymryd yr amser i siarad â ni - yn eich cartref, dros y ffôn neu mewn porthladd neu faes awyr - a pharchu eich preifatrwydd
  • datgelu ein bod o SYG pryd bynnag y byddwn yn cysylltu â chi, gan arddangos ein logo ar bob llythyr a thaflen ac ar gardiau adnabod ffotograffig ein cyfwelwyr
  • gosod safonau uchel ar gyfer ein staff, drwy fanwl gywirdeb ac ansawdd ein harferion recriwtio, hyfforddiant a rheoli
  • sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn ein harolygon, yn cynnwys pobl â namau a'r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg

Byddwn yn cyfathrebu â chi ac yn gwrando ar eich barn

Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth ar ein gwefan i'ch helpu i ddeall cefndir yr arolwg ac egluro beth y bydd cymryd rhan yn ei olygu
  • darparu llinell ffôn am ddim gyda gweithredwyr sy'n gallu ateb eich cwestiynau
  • sicrhau bod ein cyfwelwyr yn gallu egluro i chi sut y cawsoch eich dewis i gymryd rhan, diben yr arolwg a sut y caiff y canlyniadau eu defnyddio
  • darparu modd i chi ddweud wrthym beth yw eich barn ynghylch cymryd rhan ac ymateb yn gyflym ac yn deg i unrhyw faterion y byddwch yn eu codi

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol

Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cydnabod eich bod yn rhannu gwybodaeth bersonol â ni a'i thrin yn gyfrinachol, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

  • defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion ystadegol yn unig, neu er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon, a pheidio â chyhoeddi unrhyw beth sy'n datgelu enw unigolyn, cartref neu fusnes

  • ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau

  • darparu gwybodaeth arolwg i adrannau eraill y Llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr cymeradwy at ddibenion ystadegol yn unig, gan gydymffurfio â'r un safonau diogelwch yr ydym yn eu dilyn (ac yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data, y Ddeddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru a'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau)

  • rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon o bryd i'w gilydd; byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod, megis eich cyfeiriad ar gyfer dosbarthu llythyrau neu fanylion cyswllt er mwyn cysylltu (i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen arolygon cartrefi ac unigolion i ddarllen am yr arolwg rydych wedi cael eich dewis ar ei gyfer)

  • sicrhau bod ein staff yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau i warchod eich gwybodaeth gyfrinachol

  • cynnal diogelwch ein systemau a'n hadeiladau

Diolch am gymryd rhan yn un o'n harolygon. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn ar eich profiad. Gallwch anfon e-bost atom yn surveyfeedback@ons.gov.uk.