Er mwyn adlewyrchu pa mor bwysig yw eich cymorth chi i ni, caiff taleb rhodd ei hanfon atoch i ddweud diolch am gymryd rhan yn ein hastudiaethau.

Mae'r dudalen hon yn ymwneud â'n hastudiaethau a gynhaliwyd gan gyfwelwyr. Os ydych wedi cymryd rhan yn ein hastudiaeth Llywio Yfory, gallwch gael rhagor o wybodaeth am daleb rhodd Llywio Yfory yma.

Gwybodaeth am eich taleb

‘E-dalebau’ yw'r rhan fwyaf o'r talebau rydym yn eu rhoi, a gellir eu gwario ar-lein neu mewn siop gan ddefnyddio'r cod a ddarperir, yn dibynnu ar y manwerthwr y byddwch yn ei ddewis.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu rhoi eich taleb i chi, byddwn yn casglu eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr astudiaeth. Dylech dderbyn e-bost gyda chod eich e-daleb o fewn 30 diwrnod gwaith. Bydd gennych chwe mis i benderfynu gyda pha fanwerthwr yr hoffech wario eich e-daleb a hawlio eich rhodd.

Pwy sy'n darparu'r e-dalebau?

Caiff e-dalebau eu darparu gan Pluxee, un o is-gwmnïau Sodexo. Caiff eich enw a'ch cyfeiriad e-bost eu rhannu â Pluxee er mwyn anfon eich e-daleb atoch. Ni fydd Pluxee yn defnyddio'r wybodaeth hon at unrhyw ddibenion eraill.

Ble y gallwch wario eich e-daleb

Gellir gwario'r e-daleb mewn amrywiaeth eang o fanwerthwyr – gan gynnwys ar-lein ac mewn siop. Gall y manwerthwyr newid yn unol â thelerau ac amodau Pluxee. Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y manwerthwyr a chyfarwyddiadau eu hanfon gyda'r e-daleb. Sylwch fod telerau ac amodau unigol manwerthwyr yn gymwys.

Os byddwch yn cael trafferth cyfnewid eich e-daleb

Os byddwch yn cael trafferth cyfnewid eich e-daleb neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau am yr e-daleb rydych wedi ei dderbyn, cysylltwch â Pluxee am ddim ar 0800 505 3924.

Mae Pluxee yn darparu cymorth 7 diwrnod yr wythnos rhwng 08:00 – 18:00.

Os nad ydych wedi derbyn eich e-daleb

Os na fyddwch wedi derbyn eich e-daleb o fewn 30 diwrnod gwaith, cofiwch wirio eich ffolderi “sbam” neu “sothach” yn gyntaf. Os na allwch weld eich e-bost o hyd, ffoniwch Llinell Ymholiadau'r Arolwg am ddim ar 0800 298 5313. 

Yr amseroedd agor yw:

  • 9am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

  • Rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn

Dim mynediad ar-lein?

Gallwn gynnig cerdyn rhodd amgen i unrhyw un o'm hymatebwyr nad oes ganddynt fynediad ar-lein. Os bydd angen cerdyn rhodd arnoch yn hytrach nag e-daleb, ffoniwch Llinell Ymholiadau'r Arolwg am ddim ar 0800 298 5313.