Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nifer y preswylwyr arferol 5 oed a throsodd sy'n darparu gofal di-dâl, a sawl awr o ofal a ddarperir mewn wythnos arferol, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Sarah Garlick

Dyddiad y datganiad:
19 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Defnyddir cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran drwy gydol y bwletin hwn; maent yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a’r strwythur oedran.

  • Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifwyd bod 5.0 miliwn o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd wedi darparu gofal di-dâl yn 2021, mae hyn yn gyfran wedi’i safoni o 9.0%, sef gostyngiad o 11.4% yn 2011.

  • Gostyngodd cyfran y bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos o 7.2% yn 2011 i 4.4% yn 2021.

  • Cynyddodd cyfran y bobl a oedd yn darparu rhwng 20 a 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos o 1.5% yn 2011 i 1.9% yn 2021.

  • Cynyddodd cyfran y bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos ychydig o 2.7% yn 2011 i 2.8% yn 2021.

  • Roedd cyfran fwy o bobl yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yng Nghymru (10.5%) nag yn Lloegr (8.9%) yn 2021; yng Nghymru, roedd cyfran fwy o bobl yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (3.6%, o gymharu â 2.7% yn Lloegr).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Gofal di-dâl yng Nghymru a Lloegr

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 “Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?”. Gofynnwyd i bobl beidio â chyfrif unrhyw beth roeddent yn derbyn cyflog am ei wneud. Roedd geiriad y cwestiwn yn wahanol i’r cwestiwn yng Nghyfrifiad 2011, a ddechreuodd fel a ganlyn: “A ydych yn gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i un neu i rai o’r rhain”.

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac mae’n bosibl bod hyn wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn teimlo am ddarparu gofal di-dâl ac yn ymgymryd â hyn, ac felly gall fod wedi effeithio ar y ffordd y dewisodd pobl ymateb.

Mae’r canrannau yn y bwletin hwn wedi cael eu safoni yn ôl oedran. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd ac oedran, ac mae iechyd pobl hŷn yn fwy tebygol o fod yn wael. Mae cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn ystyried strwythurau oedran gwahanol mewn poblogaeth ac maent yn fwy priodol na chanrannau crai wrth gymharu dros amser ac ar draws ardaloedd. Y niferoedd a nodir yma yw’r nifer gwirioneddol a ymatebodd ym mhob categori. Gallwch lawrlwytho setiau data sydd wedi’u safoni yn ôl oedran a rhai nad ydynt wedi’u safoni yn ôl oedran.

Gweler Adran 7: Mesur y data i gael rhagor o wybodaeth am newid y cwestiwn. Darllenwch fwy yn ein blog Data wedi’u safoni yn ôl oedran: Beth mae hyn yn ei olygu a pham ei fod yn bwysig? (yn Saesneg).

Darparu gofal di-dâl yn 2021

Yn 2021, atebodd pobl y cwestiwn gan ddewis un o chwe chategori. Gallai pobl ddewis "Nac ydw" os nad oeddent yn darparu unrhyw ofal di-dâl. Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifwyd nad oedd 51.4 miliwn o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yn darparu gofal di-dâl.

Gwnaeth y 5.0 miliwn amcangyfrifedig o bobl a atebodd "Ydw" ddewis y categori a oedd yn cyfateb orau i nifer yr oriau o ofal di-dâl roeddent yn eu darparu mewn wythnos arferol. O blith yr holl breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifwyd bod:

  • 1.8 miliwn o bobl a oedd yn darparu 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos
  • 678,000 o bobl a oedd yn darparu 10 i 19 awr o ofal di-dâl yr wythnos
  • 483,000 o bobl a oedd yn darparu 20 i 34 awr o ofal di-dâl yr wythnos
  • 552,000 o bobl a oedd yn darparu 35 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos
  • 1.5 miliwn o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos

Yng Nghymru a Lloegr, roedd gofalwyr di-dâl fel arfer yn darparu naill ai'r swm lleiaf posibl o ofal di-dâl (9 awr neu lai) neu'r swm mwyaf posibl o ofal di-dâl (50 awr neu fwy).

Yn Lloegr, roedd y mwyafrif o'r gofalwyr di-dâl yn darparu 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (1.7 miliwn), a 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (1.4 miliwn) oedd yr ail opsiwn mwyaf cyffredin.

Yng Nghymru, roedd mwy o bobl yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (107,000) nag unrhyw gategori arall. Yr ail gategori a ddewiswyd fwyaf yng Nghymru oedd "Yn darparu 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos" (96,000).

Cymharu gofal di-dâl yn 2011 a 2021

Caiff cymariaethau rhwng data 2011 a 2021 yn y bwletin hwn eu gwneud ar gyfer tri chategori bras o ofal di-dâl. Mae hyn oherwydd gwahaniaethau o ran nifer y categorïau a oedd yng nghwestiynau’r cyfrifiad yn 2011 a 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r cwestiwn am ofal di-dâl rhwng 2011 a 2021 yn Adran 7: Mesur y data.

Gostyngodd y gyfran wedi’i safoni yn ôl oedran o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yng Nghymru a Lloegr o 11.4% yn 2011 i 9.0% yn 2021. Roedd hyn o ganlyniad i’r gostyngiad sylweddol yng nghyfran y bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl mewn wythnos arferol (7.2% yn 2011, o gymharu â 4.4% yn 2021). Fodd bynnag, mae Ffigur 1 yn dangos bod newid tuag at bobl yn ymrwymo mwy o’u hamser i ofal di-dâl mewn wythnos arferol.

Ffigur 1: Nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd bob wythnos, preswylwyr arferol 5 oed a throsodd, cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:

  1. Rydym wedi hepgor y categori "Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl" yn y siart hon i'w gwneud yn haws gweld nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd yn glir.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Gallai esboniadau posibl dros y newidiadau mewn darparu gofal di-dâl gynnwys y canlynol:

  • canllawiau ar leihau teithio a chyfyngu ar ymweliadau â phobl o gartrefi eraill o ganlyniad i'r coronafeirws
  • mae'n bosibl fod gofalwyr di-dâl a oedd yn arfer rhannu cyfrifoldebau gofalu wedi ymgymryd â phob agwedd ar ofal di-dâl oherwydd rheolau ynghylch cymysgu rhwng cartrefi yn ystod pandemig y coronafeirws
  • roedd nifer uwch o farwolaethau na'r disgwyl ymhlith y boblogaeth hŷn ar ddechrau 2021 oherwydd coronafeirws (COVID-19) ac achosion eraill (yn Saesneg); gallai hyn fod wedi arwain at ostyngiad yn yr angen am ofal di-dâl
  • gall newidiadau i eiriad y cwestiwn rhwng 2011 a 2021 fod wedi cael effaith ar nifer y bobl a nododd eu bod yn ofalwyr di-dâl

Darllenwch fwy am ystyriaethau ansawdd yn Adran 8: Cryfderau a chyfyngiadau.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut newidiodd gofal di-dâl dros amser yng Nghymru a Lloegr

Cymru a Lloegr

Roedd cyfran fwy o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yng Nghymru (10.5%) nag yn Lloegr (8.9%) yn 2021. Mae’r cyfrannau wedi gostwng ers 2011 (pan oeddent yn 13.0% ac 11.3%, yn y drefn honno). Mae’r cymariaethau rhwng data 2011 a 2021 ar gyfer y tri chategori o ofal di-dâl yn dangos y canlynol:

  • gostyngiad yng nghyfran y bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos yng Nghymru (o 7.4% yn 2011 i 4.7% yn 2021) ac yn Lloegr (o 7.2% yn 2011 i 4.4% yn 2021)

  • cynnydd yng nghyfran y bobl a oedd yn darparu rhwng 20 a 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos yng Nghymru (o 1.9% yn 2011 i 2.2% yn 2021) ac yn Lloegr (o 1.5% yn 2011 i 1.8% yn 2021)

  • arhosodd cyfran y bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yn debyg yng Nghymru (3.7% yn 2011, 3.6% yn 2021) ac yn Lloegr (2.7% yn 2011, 2.7% yn 2021)

Rhanbarthau Lloegr

Roedd cyfran lai o ofalwyr di-dâl yn 2021 o gymharu â 2011 ym mhob rhanbarth yn Lloegr. Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â’r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yn 2021 (10.1%, o gymharu ag 11.8% yn 2011). Hwn oedd y rhanbarth oedd â’r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos, sef 3.4% (o gymharu â 3.3% yn 2011).

Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd y rhanbarth lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl, gyda’r gyfran yn gostwng o 12.2% yn 2011 i 9.5% yn 2021.

I gymharu, Llundain oedd y rhanbarth â’r gyfran leiaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yn 2021 (7.8%, gostyngiad o 10.3% yn 2011). Llundain oedd â’r gyfran ranbarthol isaf o bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos (3.8%) a 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (2.3%).

Ffigur 2: Darparodd cyfran wedi'i safoni yn ôl oedran fwy o breswylwyr arferol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ofal di-dâl yn 2021, o gymharu â rhanbarthau eraill yn Lloegr

Nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd fesul wythnos, preswylwyr arferol 5 oed a throsodd, cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran, 2021, Cymru, Lloegr, a rhanbarthau Lloegr

Embed code

Nodiadau:

  1. Rydym wedi hepgor y categori “Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl” yn y siart hon i’w gwneud yn haws gweld nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd yn glir.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Awdurdodau lleol yn Lloegr

Yn Lloegr, y pum awdurdod lleol â’r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl oedd:

  • St. Helens (11.7%)
  • Ashfield (11.6%)
  • Mansfield (11.5%)
  • Knowsley (11.5%)
  • Halton (11.3%)

Roedd y naw awdurdod lleol yn Lloegr â’r cyfrannau lleiaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yn rhanbarth Llundain, ac roedd y gyfran leiaf yn byw yn Ninas Llundain (6.3%). Awdurdodau lleol Elmbridge a Hart (y ddau ar 7.3%) yn Ne-ddwyrain Lloegr oedd yr ardaloedd y tu allan i Lundain â’r cyfrannau isaf o ofalwyr di-dâl.

Gan edrych yn agosach ar yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd mewn wythnos arferol, roedd y gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos yn byw yn Ynysoedd Scilly (5.6%) a Gedling (5.6%). Roedd y gyfran leiaf yn byw yn Newham (2.8%).

Roedd cyfran fwy o bobl yn Knowsley (2.9%) a Hartlepool (2.9%) yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos o gymharu â holl awdurdodau lleol eraill Lloegr. Yn Ninas Llundain (1.0%) roedd y gyfran leiaf.

Yn Knowsley (4.3%) roedd y gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos, ac yn Ninas Llundain (1.0%) roedd y gyfran leiaf.

Awdurdodau lleol yng Nghymru

Yng Nghymru, y pum awdurdod lleol â’r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl oedd:

  • Castell-nedd Port Talbot (12.3%)
  • Caerffili (11.4%)
  • Torfaen (11.4%)
  • Blaenau Gwent (11.3%)
  • Merthyr Tudful (11.3%)

I gymharu, Gwynedd (8.9%) oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â’r gyfran leiaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl.

Gan edrych yn agosach ar yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd mewn wythnos arferol, yn Sir Fynwy (5.3%) a Cheredigion (5.3%) roedd y gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos yn byw. Yng Ngwynedd (4.1%) roedd y gyfran leiaf yn byw.

Roedd cyfran fwy o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot (2.9%) yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos o gymharu â holl awdurdodau lleol eraill Cymru. Yng Ngwynedd (1.7%) roedd y gyfran leiaf yn byw.

Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â’r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos hefyd (4.5%). Roedd y gyfran leiaf yn byw yn Sir Fynwy (2.7%).

Mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru oedd â chyfrannau mwy o bobl a oedd yn darparu gofal di-dâl hefyd yn ardaloedd lle nododd cyfrannau mwy o bobl fod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn, neu fod ganddynt anabledd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletinau ystadegol Iechyd cyffredinol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 ac Anabledd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Mae’r map rhyngweithiol yn Ffigur 3 yn dangos sut roedd darparu gofal di-dâl yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Ffigur 3: Sut roedd gofal di-dâl (wedi’i safoni yn ôl oedran) yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021

Nifer yr oriau o ofal di-dâl a ddarparwyd fesul wythnos, preswylwyr arferol 5 oed a throsodd, cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch iechyd, anabledd a gofal di-dâl (yn Saesneg) a’r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: data

Darparu gofal di-dâl, cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr oriau o ofal di-dâl y maent yn eu darparu. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw’r rhain, sef 21 Mawrth 2021. Mae safoni yn ôl oedran yn golygu y gellir cymharu poblogaethau a all gynnwys cyfrannau o wahanol oedrannau, wedi’u cynrychioli fel canran.

Darparu gofal di-dâl (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr oriau o ofal di-dâl y maent yn eu darparu. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw’r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

Gofal di-dâl

Gall gofalwr di-dâl ofalu am unrhyw un, cynnig help neu gefnogaeth i unrhyw un sydd â chyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.

Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau fel rhan o waith am dâl.

Gall yr help hwn fod yng nghartref y gofalwr neu’r tu allan iddo.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Mesur y gofal di-dâl a ddarperir

Yng Nghyfrifiad 2001 y cafodd cwestiwn yn gofyn am ddarparu gofal di-dâl ei gyflwyno gyntaf.

Mae gwahaniaethau o ran geiriad y cwestiwn rhwng cyfrifiadau 2011 a 2021.

Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaethom ofyn:

“Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?

Peidiwch â chyfrif unrhyw beth y byddwch chi’n derbyn cyflog am ei wneud”

Atebodd pobl gwestiwn 2021 drwy ddewis un o chwe chategori:

  • Nac ydw
  • Ydw, 9 awr neu lai yr wythnos
  • Ydw, 10 i 19 awr yr wythnos
  • Ydw, 20 i 34 awr yr wythnos
  • Ydw, 35 i 49 awr yr wythnos
  • Ydw, 50 awr neu fwy yr wythnos

Yng Nghyfrifiad 2011, gwnaethom ofyn:

“A ydych yn gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i un neu i rai o’r rhain, oherwydd naill ai:

  • salwch neu anabledd corfforol/meddyliol hir dymor?
  • problemau sy’n gysylltiedig â henaint?

Peidiwch â chyfrif unrhyw beth y byddwch yn derbyn cyflog am ei wneud”

Atebodd pobl gwestiwn 2011 drwy ddewis un o bedwar categori:

  • Nac ydw
  • Ydw, 1 - 19 awr yr wythnos
  • Ydw, 20 - 49 awr yr wythnos
  • Ydw, 50 neu fwy o oriau’r wythnos

Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran

Mae cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a’r strwythur oedran. Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewrop 2013 (yn Saesneg) i safoni cyfrannau.

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n methodoleg mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer gwybodaeth am ansawdd y data ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Tudalen we | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Data a gwybodaeth ategol am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal
awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Sut mae eich ardal wedi newid mewn 10 mlynedd: Cyfrifiad 2021(yn Saesneg)
Erthygl cynnwys digidol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Darganfyddwch sut mae bywyd wedi newid i bobl sy’n byw mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth am ansawdd data am iechyd, anabledd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy’n effeithio ar ddata iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau iechyd, anabledd a gofal di-dâl Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am iechyd, anabledd a gofal di-dâl.

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Sarah Garlick
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972