Iechyd cyffredinol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Iechyd pobl ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census

Cyswllt:
Email Beth Waddington

Dyddiad y datganiad:
19 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Defnyddir cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran drwy gydol y bwletin hwn; maent yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a’r strwythur oedran.

  • Yn Lloegr, cynyddodd cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (o 45.0% yn 2011, i 47.5% yn 2021), a gwelwyd gostyngiadau yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda (o 34.8% yn 2011, i 34.2% yn 2021), yn wael (o 4.6% yn 2011, i 4.1% yn 2021) ac yn wael iawn (o 1.4% yn 2011, i 1.2% yn 2021).

  • Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, sef 1.6% o’r boblogaeth.

  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (o 45.7% yn 2011, i 46.6% yn 2021) ac yn dda (o 31.4% yn 2011, i 32.5% yn 2021), a gostyngiadau yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael (o 6.0% yn 2011, i 5.1% yn 2021) ac yn wael iawn (o 1.9% yn 2011, i 1.6% yn 2021).

  • Roedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (Kensington a Chelsea, 58.0%) ac yn wael iawn (Tower Hamlets, 2.5%) yn Llundain.

  • Yng Nghymru, Gwynedd (51.5%) oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn a Merthyr Tudful (2.4%) oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Iechyd cyffredinol

Gofynnwyd i ymatebwyr asesu eu hiechyd yn gyffredinol gan ddefnyddio graddfa â phum pwynt: “Da iawn”, “Da”, “Gweddol”, “Gwael”, neu “Gwael iawn”.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl y bydd hyn wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn teimlo am eu hiechyd ac yn ei sgorio ac felly gallai fod wedi effeithio ar y ffordd y dewisodd pobl ymateb. Gweler Adran 8: Cryfderau a chyfyngiadau am ragor o wybodaeth.

Mae’r canrannau yn y bwletin hwn wedi cael eu safoni yn ôl oedran. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd ac oedran, ac mae iechyd pobl hŷn yn fwy tebygol o fod yn wael. Mae cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn ystyried strwythurau oedran gwahanol mewn poblogaeth ac maent yn fwy priodol na chanrannau crai wrth gymharu dros amser ac ar draws ardaloedd. Y niferoedd a nodir yma yw’r nifer gwirioneddol a ymatebodd ym mhob categori. Gallwch lawrlwytho setiau data sydd wedi’u safoni yn ôl oedran a rhai nad ydynt wedi’u safoni yn ôl oedran. Darllenwch fwy yn ein blog Data wedi’u safoni yn ôl oedran: Beth mae hyn yn ei olygu a pham ei fod yn bwysig? (yn Saesneg).

Iechyd cyffredinol yng Nghymru a Lloegr

Ledled Cymru a Lloegr, roedd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn a gostyngiad yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, o gymharu â Chyfrifiad 2011.

Mae data’r cyfrifiad ar iechyd cyffredinol yn dangos:

  • cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn i 47.5% (28.8 miliwn) yn 2021 (o 45.0%, 26.4 miliwn, yn 2011)
  • cyfran lai ond nifer mwy o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda, i 34.1% (20.0 miliwn) yn 2021 (o 34.6%, 19.1 miliwn yn 2011)
  • gostyngiad yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn weddol, i 13.1% (7.6 miliwn) yn 2021 (o 14.3%, 7.4 miliwn yn 2011)
  • cyfran lai ond nifer tebyg o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael, i 4.2% (2.4 miliwn) yn 2021 (o 4.7%, 2.4 miliwn yn 2011)
  • gostyngiad yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, i 1.2% (715,000) yn 2021 (o 1.4%, 716,000 yn 2011)

Ffigur 1: Iechyd cyffredinol wedi’i safoni yn ôl oedran, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut roedd iechyd cyffredinol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Mae data pellach ar gyfer ardaloedd penodol yn rhoi dealltwriaeth fanylach o iechyd cyffredinol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data yn dangos bod cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr bron. Dim ond mewn lleiafrif bach y gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn.

Iechyd cyffredinol yn Lloegr

Yn Lloegr, mae’r data ar iechyd yn dangos cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn, a gostyngiad ym mhob categori arall. Gwelwyd:

  • cynnydd o 2.5 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn, o 45.0% (25.0 miliwn) yn 2011 i 47.5% (27.4 miliwn) yn 2021

  • gostyngiad o 0.6 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda (o 34.8% yn 2011 i 34.2% yn 2021), er bod y nifer cyffredinol a nododd fod eu hiechyd yn dda wedi cynyddu (o 18.1 miliwn yn 2011 i 19.0 miliwn yn 2021)

  • gostyngiad o 1.2 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn weddol, o 14.2% (7.0 miliwn) yn 2011 i 13.0% (7.1 miliwn) yn 2021

  • gostyngiad o 0.5 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael, o 4.6% (2.3 miliwn) yn 2011 i 4.1% (2.2 miliwn) yn 2021

  • gostyngiad o 0.2 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (o 1.4% yn 2011 i 1.2% yn 2021), er bod cynnydd bach yn y nifer cyffredinol a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (o 661,000 yn 2011 i 663,000 yn 2021)

Roedd y tueddiadau yn rhanbarthau Lloegr yn dilyn y patrwm cenedlaethol hwn ar y cyfan. Yn 2021, De-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (49.6%, 4.6 miliwn), a oedd hefyd yn wir yn 2011 (47.5%, 4.2 miliwn). De-ddwyrain Lloegr oedd â’r gyfran isaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn hefyd, sef 0.9% (86,000).

I’r gwrthwyneb, Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (1.6%, 43,000) a’r gyfran isaf a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (44.7%, 1.2 miliwn). Fodd bynnag, o gymharu â 2011, roedd y gyfran a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn wedi gostwng (o 1.8%, 44,000) ac roedd cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn wedi cynyddu (o 42.7%, 1.1 miliwn), gan ddangos fod iechyd wedi gwella yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Ar lefel awdurdod lleol, Kensington a Chelsea (58.0%), Elmbridge (57.7%), a Richmond-upon-Thames (57.6%) oedd yr ardaloedd yn Lloegr lle nododd y gyfran uchaf o bobl fod eu hiechyd yn dda iawn. Roedd y gyfran isaf yn Stoke-on-Trent (40.2%).

Roedd yr 14 o awdurdodau lleol lle gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (gan amrywio o 4.7 i 6.7 pwynt canran) i gyd yn Llundain. Hackney oedd yr ardal lle gwelwyd y cynnydd mwyaf, o 41.8% yn 2011 i 48.5% yn 2021.

O blith yr holl awdurdodau lleol yn Lloegr, Tower Hamlets oedd â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (2.5%) ac yn wael (7.0%). Tower Hamlets oedd â’r cyfrannau uchaf yn 2011 hefyd, ond roedd hyn yn ostyngiad o gymharu â 3.3% yn nodi bod eu hiechyd yn wael iawn ac 8.7% yn nodi bod eu hiechyd yn wael.

Dim ond mewn pum awdurdod lleol y gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (gan amrywio o 0.1 i 0.3 pwynt canran). Ynysoedd Scilly (0.8%), Guildford (0.8%), Calderdale (1.3%), Canol Dyfnaint (1.0%) a De Swydd Gaergrawnt (0.8%) oedd y rhain.

Ffigur 2: Iechyd cyffredinol wedi’i safoni yn ôl oedran, 2011 a 2021, Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Iechyd cyffredinol yng Nghymru

Dangosodd y data ar gyfer iechyd cyffredinol yng Nghymru gynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn neu’n dda, a gostyngiad yn y categorïau eraill. Gwelwyd:

  • cynnydd o 0.9 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn, o 45.7% (1.4 miliwn) yn 2011 i 46.6% (1.4 miliwn) yn 2021

  • cynnydd o 1.1 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda, o 31.4% (953,000) yn 2011 i 32.5% (1.0 miliwn) yn 2021

  • gostyngiad o 0.9 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn weddol, o 15.0% (448,000) yn 2011 i 14.1% (450,000) yn 2021

  • gostyngiad o 0.9 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael, o 6.0% (178,000) yn 2011 i 5.1% (164,000) yn 2021

  • gostyngiad o 0.3 pwynt canran yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, o 1.9% (55,000) yn 2011 i 1.6% (52,000) yn 2021

Gwynedd (51.5%) ac Ynys Môn (50.7%) oedd yr awdurdodau lleol â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn. Ym Mlaenau Gwent (41.5%) y gwelwyd y gyfran isaf, a gwelwyd y cynnydd mwyaf ym Merthyr Tudful (o 42.1% yn 2011 i 44.6% yn 2021).

Merthyr Tudful oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â’r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn hefyd (2.4%). Fodd bynnag, hon hefyd oedd yr ardal lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn nifer y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (0.7 pwynt canran, o 3.1% yn 2011). Sir Ddinbych (1.6%) oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru lle gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, i fyny o 1.5% yn 2011.

Blaenau Gwent (2.3%) a Chastell-nedd Port Talbot (2.1%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf nesaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn. Yng Ngwynedd y gwelwyd y gyfran isaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn (1.0%).

Mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru oedd â chyfrannau mwy o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn hefyd yn rdaloedd lle roedd cyfrannau mwy o bobl yn darparu gofal di-dâl. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin ystadegol perthnasol, Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: 2021.

Ffigur 3: Iechyd cyffredinol wedi’i safoni yn ôl oedran, 2011 a 2021, Cymru

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ffigur 4: Sut roedd iechyd cyffredinol (wedi'i safoni yn ôl oedran) yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch iechyd, anabledd a gofal di-dâl (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Iechyd cyffredinol, Cymru a Lloegr: data

Iechyd cyffredinol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl cyflwr eu hiechyd yn gyffredinol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw’r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Iechyd cyffredinol, cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl cyflwr eu hiechyd yn gyffredinol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw’r rhain, sef 21 Mawrth 2021. Mae safoni yn ôl oedran yn golygu y gellir cymharu poblogaethau a all gynnwys cyfrannau o wahanol oedrannau.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

Iechyd cyffredinol

Asesiad person o gyflwr ei iechyd yn gyffredinol, o ‘da iawn’ i ‘gwael iawn’. Nid yw’r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd person dros unrhyw gyfnod o amser penodedig.

Preswylydd arferol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran

Mae cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol yn decach, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a’r strwythur oedran. Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewrop 2013 (yn Saesneg) i safoni cyfrannau.

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas. 

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n methodoleg mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am ansawdd y wybodaeth am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol hyd at ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am iechyd, anabledd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy’n effeithio ar ddata am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau iechyd, anabledd a gofal di-dâl, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am iechyd, anabledd a gofal di-dâl.

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru.

Sut mae eich ardal wedi newid mewn 10 mlynedd: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Erthygl cynnwys digidol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Darganfyddwch sut mae bywyd wedi newid i bobl sy’n byw mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Iechyd cyffredinol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Beth Waddington
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972