Anabledd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am anabledd yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Beth Waddington

Dyddiad y datganiad:
19 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Defnyddir cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran drwy gydol y bwletin hwn, ac eithrio'r data ar nifer y bobl anabl mewn cartref; mae cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a'r strwythur oedran.

  • Yn Lloegr, yn 2021, roedd cyfran lai ond nifer mwy o bobl yn anabl (17.7%, 9.8 miliwn), o gymharu â 2011 (19.3%, 9.4 miliwn).

  • Yng Nghymru, yn 2021, roedd cyfran lai a nifer llai o bobl yn anabl (21.1%, 670,000), o gymharu â 2011 (23.4%, 696,000).

  • Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr â'r gyfran uchaf o bobl anabl (21.2%, 567,000).

  • O blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Blackpool (24.7%), Blaenau Gwent (24.6%) a Chastell-nedd Port Talbot (24.6%) oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl anabl.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Anabledd, Cymru a Lloegr

Anabledd

Er mwyn nodi anabledd yng Nghymru a Lloegr, gofynnon i bobl “Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?”. Os gwnaethant ateb “Oes”, gofynnwyd cwestiwn pellach, sef “Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?”. Mae’r ffordd y nodwyd anabledd yn wahanol i’r cwestiwn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011, sef “A oes gennych broblem iechyd neu anabledd sydd wedi para neu sy’n debygol o bara am o leiaf 12 mis, ac sy’n cyfyngu ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol?”.

Newidiodd y cwestiwn er mwyn casglu data sy'n agosach at y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) (yn Saesneg). Yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb, ystyrir bod unigolyn yn anabl os bydd ganddo nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar ei allu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Mae'r ffordd rydym yn nodi pobl anabl wedi newid rhwng 2011 a 2021 felly a gallai hyn fod wedi cael effaith ar nifer y bobl y nodwyd eu bod yn anabl. Gweler Adran 8: Mesur y data i gael rhagor o wybodaeth am newid y cwestiwn.

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac mae'n bosibl bod hyn wedi dylanwadu ar y ffordd roedd pobl yn teimlo am statws eu hiechyd a chyfyngiadau ar eu gweithgareddau, ac felly gall fod wedi effeithio ar y ffordd y dewisodd pobl ymateb.

Mae'r canrannau yn y bwletin hwn wedi cael eu safoni yn ôl oedran. Mae cysylltiad agos rhwng anabledd ac oedran, ac mae pobl hŷn yn fwy tebygol o fod yn anabl. Mae cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran yn ystyried strwythurau oedran gwahanol mewn poblogaeth ac maent yn fwy priodol na chanrannau crai wrth gymharu dros amser ac ar draws ardaloedd. Y niferoedd a nodir yma yw'r nifer gwirioneddol a ymatebodd ym mhob categori. Gallwch lawrlwytho setiau data sydd wedi'u safoni yn ôl oedran a rhai nad ydynt wedi'u safoni yn ôl oedran. Darllenwch fwy yn ein blog Data wedi'u safoni yn ôl oedran: Beth mae hyn yn ei olygu a pham ei fod yn bwysig? (yn Saesneg).

Anabledd yng Nghymru a Lloegr

Yn 2021, ledled Cymru a Lloegr, 17.8% (10.4 miliwn) oedd cyfran y bobl anabl. Mae cyfran y bobl sy’n anabl wedi gostwng 1.7 pwynt canran o 2011, pan oedd yn 19.5% (10.0 miliwn).

Ffigur 1: Anabledd wedi’i safoni yn ôl oedran, 2011 i 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut roedd anabledd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Anabledd yn Lloegr

Yn Lloegr, gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl anabl rhwng cyfrifiadau (o 19.3% yn 2011 i 17.7% yn 2021). Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl anabl (o 9.4 miliwn yn 2011 i 9.8 miliwn yn 2021).

Gostyngodd cyfran y bobl anabl ym mhob rhanbarth yn Lloegr. Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â’r gyfran uchaf o bobl anabl (21.2%, 567,000), fel yn 2011 (22.8%, 562,000). Yn 2021, ar ôl Gogledd-ddwyrain Lloegr, roedd Gogledd-orllewin Lloegr (19.8%, 1.4 miliwn) a Swydd Efrog a Humber (18.9%, 1.0 miliwn). Llundain (15.7%, 1.2 miliwn) a De-ddwyrain Lloegr (16.1%, 1.5 miliwn) oedd â’r cyfrannau isaf o bobl anabl.

Roedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf o bobl anabl yn 2021 yn cynnwys Blackpool (24.7%), a oedd 7.0 pwynt canran yn uwch na’r amcangyfrif cenedlaethol ar gyfer Lloegr, a Lerpwl (23.8%), a oedd 6.1 pwynt canran yn uwch na’r amcangyfrif cenedlaethol. I’r gwrthwyneb, Dinas Llundain (11.8%) ac Elmbridge (12.2%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau isaf o bobl anabl.

Er bod gan Dde-ddwyrain Lloegr gyfran gymharol isel o bobl anabl, roedd y pedwar awdurdod lleol lle gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghyfran y bobl anabl, o gymharu â 2011, i gyd yn Ne-ddwyrain Lloegr, sef Gosport (20.0%), Eastbourne (20.3%), Lewes 18.8%) ac Ynys Wyth (21.3%). Roedd y cynnydd a welwyd yn amrywio o 1.1. i 1.4 pwynt canran.

Roedd y pum awdurdod lleol lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl anabl, o gymharu â 2011, i gyd yn Llundain, sef Newham (17.5%), Tower Hamlets (20.1%), Brent (14.7%), Hackney (19.2%) a Barking a Dagenham (17.9%). Roedd y gostyngiad a welwyd yn amrywio o 5.2. i 7.2 pwynt canran.

Anabledd yng Nghymru

Fel yn Lloegr, gostyngodd cyfran y boblogaeth yng Nghymru a oedd yn anabl rhwng 2021 (21.1%, 670,000) o gymharu â 2011 (23.4%, 696,000).

Yng Nghymru, Castell-nedd Port Talbot (24.6%), Blaenau Gwent (24.6%), a Merthyr Tudful (24.2%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau uchaf o bobl anabl.

Yn 2011, yn yr un tri awdurdod lleol roedd y cyfrannau uchaf o bobl anabl yng Nghymru hefyd: Merthyr Tudful (28.8%), Blaenau Gwent (28.4%), a Chastell-nedd Port Talbot (28.2%). Roedd hyn yn uwch nag unrhyw awdurdod lleol yn Lloegr yn 2011. Ym mhob un o’r tri, gostyngodd cyfran y bobl anabl rhwng 2011 a 2021.

Mae rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru oedd â chyfrannau mwy o bobl a nododd fod ganddynt anabledd hefyd yn ardaloedd lle roedd cyfrannau mwy o bobl yn darparu gofal di-dâl. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin ystadegol perthnasol, Gofal di-dâl, Cymru a Lloegr: 2021.

Sir Fynwy (17.7%), Gwynedd (18.1%), a Phowys (18.1%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfrannau isaf o bobl anabl.

Gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl a nododd fod ganddynt anabledd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn 2021. Y pedwar awdurdod lleol lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl anabl, o gymharu â 2011, oedd Merthyr Tudful (24.2%), Blaenau Gwent (24.6%), Caerffili (23.6%), a Rhondda Cynon Taf (23.8%).

Ffigur 2: Sut roedd anabledd (wedi’i safoni yn ôl oedran) yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Nifer y cartrefi lle nodwyd bod o leiaf un person yn anabl

Roedd 24.8 miliwn o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn 2021, cynnydd o 6.1% o 23.4 miliwn yn 2011.

Gwnaethom gasglu gwybodaeth am nifer yr aelodau o gartref a oedd yn anabl. Nid yw’n bosibl safoni yn ôl oedran ar lefel cartrefi, felly nid yw’r cyfrannau a nodir yn yr adran hon wedi’u safoni.

Yn Lloegr, mae data’r cyfrifiad ar anabledd mewn cartrefi yn dangos y canlynol:

  • mewn 68.0% (15.9 miliwn) o gartrefi, nid oes neb yn anabl
  • mae 25.4% (6.0 miliwn) o gartrefi yn cynnwys un aelod anabl
  • yn y 6.6% (1.6 miliwn) o gartrefi sy’n weddill, mae dau berson neu fwy yn anabl yn y cartref

Roedd cartrefi lle roedd dau berson neu fwy yn anabl yn amrywio o 5.1% (175,000) yn Llundain i 7.8% (92,000) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr. East Lindsey (10.3%), Bolsover (9.6%), a Knowsley (9.5%) oedd yr awdurdodau lleol yn Lloegr â’r gyfran uchaf o gartrefi lle roedd dau berson neu fwy yn anabl.

Yng Nghymru, mae data’r cyfrifiad ar anabledd mewn cartrefi yn dangos y canlynol:

  • mewn 62.1% (837,000) o gartrefi, nid oes neb yn anabl
  • mae 29.5% (397,000) o gartrefi yn cynnwys un aelod anabl
  • yn yr 8.4% (114,000) o gartrefi sy’n weddill, mae dau berson neu fwy yn anabl yn y cartref

Castell-nedd Port Talbot (10.4%), Caerffili (10.2%), a Rhondda Cynon Taf (9.8%) oedd yr awdurdodau lleol yng Nghymru â’r gyfran uchaf o gartrefi lle roedd dau berson neu fwy yn anabl. O’r saith awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o gartrefi lle roedd dau berson neu fwy yn anabl, roedd chwech ohonynt yng Nghymru.

Ffigur 3: Sut roedd anabledd mewn cartrefi yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021

Embed code

Nodiadau:
  1. Nid yw data ar lefel cartrefi wedi’u safoni yn ôl oedran.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch iechyd, anabledd a gofal di-dâl (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Anabledd, Cymru a Lloegr: data

Anabledd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl problemau iechyd neu anableddau hirdymor. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Anabledd, cyfrannau wedi'u safoni yn ôl oedran (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl problemau iechyd neu anableddau hirdymor. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021. Mae safoni yn ôl oedran yn golygu y gellir cymharu poblogaethau a all gynnwys cyfrannau o wahanol oedrannau.

Nifer y bobl anabl yn y cartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer y bobl anabl yn y cartref. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.


Nôl i'r tabl cynnwys

7. Geirfa

Anabledd

Caiff pobl a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd eu hystyried yn anabl. Mae’r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi’i chysoni ar gyfer mesur anabledd (yn Saesneg) ac mae’n unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Nifer y bobl anabl yn y cartref

Nifer y bobl mewn cartref a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd ac a gaiff eu hystyried yn anabl. Mae’r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi’i chysoni ar gyfer mesur anabledd ac mae’n unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Preswylydd arferol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Mesur y data

Cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran

Mae cyfrannau wedi’u safoni yn ôl oedran yn golygu bod modd cymharu poblogaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol yn decach, gan eu bod yn ystyried gwahaniaethau ym maint y boblogaeth a’r strwythur oedran. Defnyddir Poblogaeth Safonol Ewrop 2013 (yn Saesneg) i safoni cyfrannau.

Newid y cwestiwn

Gofynnodd Cyfrifiad 2021 i breswylwyr arferol nodi a oedd ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor a oedd wedi para, neu a oedd yn debygol o bara, 12 mis neu fwy, ac a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd “ychydig”, “yn fawr” neu “ddim o gwbl”. Caiff hyn ei nodi’n fanylach yn ein hadroddiad am ddatblygu’r cwestiynau am iechyd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Gofynnodd Cyfrifiad 2011 a oedd gan breswylwyr arferol broblem iechyd neu anabledd a oedd wedi para neu a oedd yn debygol o bara am o leiaf 12 mis, ac a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i wneud gweithgareddau arferol.

Newidiodd y cwestiynau fel y gallem gasglu data a oedd yn agosach at y diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) (yn Saesneg). Mae’r diffiniad hwn yn nodi bod yn rhaid i berson gael nam corfforol neu feddyliol, a bod y nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau pob dydd.

Felly, cafodd y rhai a nododd fod cyflwr yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd rywfaint neu gryn dipyn eu dosbarthu’n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Cafodd pobl nad oedd ganddynt gyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor, neu oedd â chyflyrau nad oeddent yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd, eu dosbarthu’n bobl nad ydynt yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n methodoleg mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am ansawdd y wybodaeth am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am iechyd, anabledd a gofal di-dâl ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy’n effeithio ar ddata am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau iechyd, anabledd a gofal di-dâl, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am iechyd, anabledd a gofal di-dâl.

Iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru.

Sut mae eich ardal wedi ei newid mewn 10 mlynedd: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Erthygl cynnwys digidol | Diweddarwyd ar 19 Ionawr 2023
Darganfyddwch sut mae bywyd wedi newid i bobl sy’n byw mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 19 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Anabledd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Beth Waddington
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 01329 444972