1. Beth yw'r Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod?

Arolwg ar-lein gwirfoddol yw'r Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Mae llawer o'r cwestiynau yn yr arolwg hwn o natur sensitif. Mae'r arolwg yn gofyn am brofiadau o gam-drin ac esgeuluso plant. Caiff y pynciau canlynol eu cwmpasu:

  • llesiant 

  • cysylltiad â cham-drin domestig 

  • esgeulustod

  • camfanteisio troseddol 

  • cam-drin emosiynol  

  • cam-drin corfforol  

  • cam-drin rhywiol  

  • ceisio help

Gwyliwch y fideo YouTube hwn am yr Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod i gael rhagor o wybodaeth.

Mae llesiant a hawliau'r rhai a fydd yn cwblhau'r arolwg yn flaenoriaeth. Gwnaed llawer o waith ymchwil gyda grwpiau amrywiol i sicrhau bod y dulliau a chwestiynau'r arolwg yn addas ar gyfer pobl ifanc.

Cynllun peilot o'r arolwg yw hwn. Mae hyn yn golygu ein bod yn dal i brofi'r arolwg ac yn cael adborth, er mwyn sicrhau bod yr arolwg cystal ag y gall fod.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'r arolwg hwn yn bwysig?

Bydd yr arolwg yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o'r gamdriniaeth a'r esgeulustod y gall plant eu hwynebu. Bydd yn ein galluogi i roi tystiolaeth i'r llywodraeth a chefnogi sefydliadau i wneud penderfyniadau ac asesu a yw gwasanaethau plant yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt.

Dywedodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC):

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r SYG i ddatblygu'r arolwg hwn; bydd gwybodaeth a dealltwriaeth well ynglŷn â pha mor ddiogel yw ein plant, a pha mor ddiogel y maent wedi bod, wrth dyfu i fyny yn galluogi'r llywodraeth a sefydliadau fel ni i gyfeirio cyllid a chymorth lle mae ei angen fwyaf. Bydd yn ein helpu i amddiffyn plant yn well ac yn arwain at y canlyniadau gorau iddyn nhw ac i gymdeithas.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pwy sy'n cynnal yr arolwg hwn?

Ni (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) sy'n cynnal yr arolwg hwn. Ni yw cynhyrchydd ystadegau swyddogol mwyaf y DU. Rydym yn casglu ac yn cyhoeddi ystadegau ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig â'r economi, y boblogaeth a chymdeithas. Rydym hefyd yn cynnal y cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Rydym wedi dewis pobl rhwng 16 a 25 oed sy'n byw yng Nghymru a Lloegr ar hap o'r Gwasanaeth Demograffeg Bersonol. Cronfa ddata electronig yw hon o holl gleifion y GIG. Gall y SYG gael gafael ar y wybodaeth hon i greu allbynnau ystadegol ac i samplu'r boblogaeth gyffredinol. Ni allwn gael gafael ar eich cofnodion meddygol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. A yw'r arolwg yn gyfrinachol?

Mae'r arolwg yn gyfrinachol a bydd yn ddienw. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cysylltu eich ymatebion i'r arolwg â chi ac yn sicrhau y gallwch ateb yn onest, heb bryder na beirniadaeth.

I gysylltu â chi am yr arolwg, mae angen eich enw a'ch cyfeiriad arnom. Caiff y wybodaeth hon ei chadw ar wahân i'r ymatebion i'r arolwg. Caiff ei dileu o fewn 13 diwrnod o'r dyddiad y byddwch yn derbyn eich llythyr cyntaf, sef pan fydd yr holl lythyrau atgoffa wedi'u hanfon.

Nid yw'r arolwg yn casglu unrhyw ddata personol. Hyd yn oed os byddwch yn dewis ceisio cymorth gan un o'r opsiynau cymorth a ddarperir yn yr arolwg, ni fydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu rhannu.

Byddwn yn cyfuno'r holl atebion i'r arolwg er mwyn cynhyrchu ystadegau cryno dienw. Ni fydd yn bosibl i chi gael eich adnabod drwy unrhyw ddata ymatebion i'r arolwg y byddwn yn eu casglu na'r ystadegau y byddwn yn eu cyhoeddi. Caiff data'r arolwg dienw eu dileu ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r canfyddiadau.

Ceir rhagor o wybodaeth yn hysbysiad preifatrwydd penodol yr arolwg a hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y SYG.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Oes rhaid i mi gymryd rhan yn yr arolwg?

Nac oes, eich dewis chi yw cymryd rhan ai peidio. Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan yn yr arolwg, ni fydd hyn yn effeithio arnoch mewn unrhyw ffordd.

Fel arfer, bydd pobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil debyg o'r farn ei fod yn brofiad gwerth chweil. Mae'n gyfle i chi rannu eich profiadau a helpu i gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am y pynciau anodd a gaiff eu cwmpasu yn yr arolwg a gwella eich ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Sut y gallaf gymryd rhan yn yr arolwg?

Dim ond y rhai sy’n cael eu dewis ar gyfer yr arolwg all gymryd rhan. Caiff yr arolwg ei gwblhau ar lein, er enghraifft, ar gyfrifiadur, gliniadur neu ffôn clyfar. Os byddwch chi wedi cael eich dewis, byddwch chi wedi cael dolen i'r arolwg a chod mynediad unigryw i gymryd rhan ynddo. Gallwch gwblhau'r arolwg ar amser ac mewn lleoliad o'ch dewis. Rydym yn awgrymu eich bod yn dod o hyd i rywle preifat, er enghraifft, ystafell lle gallwch fod ar eich pen eich hun, i lenwi'r arolwg. Bydd faint o amser y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r arolwg yn dibynnu ar eich profiadau. Dylai'r arolwg gymryd tua 15 munud ond gallai gymryd mwy neu lai o amser.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Ble y gallaf gael cymorth ar gyfer y pynciau yn yr arolwg hwn?

Mae ein tudalen we benodol yn cynnwys gwybodaeth am yr opsiynau cymorth sydd ar gael.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. A allaf gwblhau'r arolwg yn Gymraeg?

Nid yw'r arolwg wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg ar gyfer y cynllun peilot. Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, byddwn yn anelu at gyfieithu'r arolwg ar gyfer y lansiad llawn.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. A allaf newid neu ddileu fy atebion i'r arolwg?

Nid yw'n bosibl symud yn ôl drwy'r cwestiynau yn yr arolwg. Os byddwch yn penderfynu gadael yr arolwg, gallwch gael mynediad at yr arolwg eto o'r un lle, ond ni fyddwch yn gallu dychwelyd at gwestiynau neu atebion blaenorol.

Caiff ymatebion eu cadw ar ôl i bob cwestiwn gael ei ateb. Os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau â'r arolwg, gallwch roi'r gorau iddi unrhyw bryd. Fodd bynnag, bydd ymatebion i gwestiynau hyd at y pwynt hwn yn cael eu cadw.

Os hoffech ddileu ymatebion rydych wedi'u cyflwyno, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn DPO@statistics.gov.uk. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd yn ofynnol i ni gydymffurfio, os yw'r data'n cael eu cadw at ddibenion ystadegol yn unig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau sydd gennych chi a'r amgylchiadau lle y gallwch eu harfer drwy fynd i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Sut y gallaf ddileu fy hanes pori?

Os ydych yn poeni y bydd rhywun yn canfod eich bod wedi edrych ar y dudalen we hon neu wedi cymryd rhan yn yr arolwg, gallwch ddileu eich hanes pori. Fel arfer, gallwch ddewis dileu:

  • gwefannau rydych wedi ymweld â nhw (eich “hanes pori”)

  • gwybodaeth y bydd gwefannau'n ei defnyddio i'ch cofio chi

  • ffeiliau dros dro sy'n cyflymu amseroedd llwytho

I wneud hyn, rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. dod o hyd i'r ddewislen gosodiadau: chwiliwch am eicon dewislen (fel tri dot neu dair llinell) neu'r ddewislen “settings” yn eich porwr

  2. mynd i hanes: dewch o hyd i opsiwn ar gyfer “history” neu “privacy and security”

  3. clirio data: dewiswch yr opsiwn “clear browsing data” neu “delete history”

  4. dewis opsiynau:dewiswch y cyfnod a sicrhewch fod tic yn y blwch “browsing history”

  5. cadarnhau: cliciwch ar “clear data” neu'r botwm cyfatebol i orffen

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Beth sy'n digwydd mewn cyfweliad adborth?

Trafodaeth ar-lein yw'r cyfweliad adborth gyda hyd at ddau aelod o'r tîm ymchwil. Yn y cyfweliad, byddwn yn gofyn am eich sylwadau ar eich profiad o gymryd rhan yn yr arolwg a gohebiaeth gan y SYG. Hoffem ganfod beth oedd yn dda am yr arolwg a beth y gellid ei wella yn eich barn chi. Mae hyn yn cynnwys popeth o'r llythyrau a gawsoch i'r cymorth sydd ar gael i chi. Ni fyddwn yn gofyn am eich ymatebion i'r arolwg.

Bydd y cyfweliad yn para tua 60 munud a chaiff ei gynnal ar lein drwy Microsoft Teams. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi allu defnyddio dyfais addas, fel gliniadur neu lechen, i gymryd rhan.

Bydd y cyfweliadau hyn yn ffordd wych i chi ein helpu i sicrhau bod yr arolwg cystal ag y gall fod i'r rhai sy'n ei gwblhau yn y dyfodol.

Bydd y rhai sy'n cael eu dewis i gymryd rhan ac sy'n cwblhau'r cyfweliad yn cael taleb ar-lein gwerth £40 i ddweud diolch.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Sut y gallaf gymryd rhan yn y cyfweliad adborth?

Os byddwch yn cwblhau'r arolwg, byddwn yn gofyn a oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan mewn cyfweliad adborth. Chi fydd yn dewis a fyddwch am gymryd rhan yn y cyfweliad adborth. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan os na fyddwch am wneud hynny.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu casglu ar wahân i'r Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch am y cyfweliadau adborth ac, os hoffech gymryd rhan o hyd, gallwch chi lenwi'r ffurflen ganiatâd ar gyfer y cyfweliad adborth. Efallai na fyddwn yn cyfweld â phawb sy'n cwblhau'r ffurflen ganiatâd.

Os cewch eich dewis i gymryd rhan, byddwn yn trefnu amser addas i gynnal y cyfweliad.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. A allaf roi adborth os na fyddaf yn cymryd rhan yn yr arolwg?

Os ydych chi wedi cael eich dewis i gymryd rhan yn yr arolwg, ond yn dewis peidio â gwneud hynny, rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych drwy anfon e-bost atom yn sdcs@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Sut y datblygwyd yr arolwg?

Gwnaed llawer o ymchwil wrth ddatblygu'r arolwg a'r weithdrefn ddiogelu. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil gyda'r canlynol, ymhlith eraill:

  • gweithwyr proffesiynol fel staff ysgol, sefydliadau cymorth, gweithwyr diogelu proffesiynol, arweinwyr amddiffyn plant ac arbenigwyr ymchwil o sefydliadau academaidd

  • plant a phobl ifanc sydd wedi ac sydd heb gael profiadau o gamdriniaeth fel plentyn

  • rhieni plant a phobl ifanc sydd wedi ac sydd heb gael profiadau o gamdriniaeth fel plentyn

  • adrannau'r llywodraeth

  • aelodau o fyrddau moeseg (mewnol ac allanol)

  • y cyhoedd

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymchwil flaenorol yn y dolenni cysylltiedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Taleb diolch

I ddiolch i chi am gymryd rhan yn yr Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod, byddwn yn rhoi taleb ar-lein i chi am gwblhau'r arolwg.  Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan ac yn cwblhau cyfweliad adborth, byddwch yn cael taleb arall. 

Gwybodaeth am eich taleb

Gellir gwario'r e-daleb ar lein neu mewn siop, yn dibynnu ar y manwerthwr rydych yn ei ddewis. Ar ddiwedd yr arolwg, byddwch yn cael dolen i wefan y cwmni talebau (Pluxee) a chodau unigryw i hawlio'ch taleb ar-lein.

Mae'n hanfodol eich bod yn cadw cofnod o'ch codau unigryw a roddir i chi ar ddiwedd yr arolwg. Gan fod yr arolwg yn cael ei wneud yn ddienw, nid ydym yn gwybod pwy sydd wedi cwblhau'r arolwg ac felly ni allwn roi manylion eich taleb i chi mewn unrhyw ffordd arall.

I hawlio eich taleb, gofynnir i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i Pluxee. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu ar wahân i'ch ymatebion i'r arolwg a bydd ond yn cael ei defnyddio gan Pluxee i ddarparu eich taleb ar-lein i chi.

Os byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliad adborth, dylech gael e-bost gyda chod eich e-daleb o fewn 30 diwrnod gwaith i'r cyfweliad.

Bydd gennych chwe mis i hawlio eich taleb.

Pwy sy'n darparu'r e-dalebau?

Caiff e-dalebau eu darparu gan Pluxee, un o is-gwmnïau Sodexo.

Ble gallaf wario fy e-daleb?

Gellir gwario'r e-daleb mewn amrywiaeth eang o fanwerthwyr – gan gynnwys ar-lein ac mewn siop. Gall y manwerthwyr newid yn unol â thelerau ac amodau Pluxee. Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y manwerthwyr a chyfarwyddiadau eu hanfon gyda'r e-daleb. Sylwch fod telerau ac amodau unigol manwerthwyr yn gymwys.

Help gyda chod eich e-daleb

Os bydd unrhyw gwestiynau neu broblemau yn codi wrth i chi hawlio neu ddefnyddio eich e-daleb, cysylltwch â Pluxee am ddim ar 0800 505 3924. Mae Pluxee yn darparu cymorth saith diwrnod yr wythnos rhwng 08:00 a 18:00.

Os nad ydych wedi derbyn eich e-daleb

Os nad ydych wedi derbyn eich e-daleb, cofiwch wirio eich ffolderi “sothach” neu “sbam”. Gallai eich taleb gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith ar ôl i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Os na allwch ddod o hyd i'ch taleb, ffoniwch Linell Ymholiadau'r Arolwg am ddim ar 0800 085 7376.

Yr amseroedd agor yw:

  • 09:00 i 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener

  • 09:00 i 13:00 ar ddydd Sadwrn

Nôl i'r tabl cynnwys

17. Cysylltu â ni

Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr arolwg neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach, e-bostiwch sdcs@ons.gov.uk neu ffoniwch 0800 085 7376.

Sut y gallaf wneud cwyn?

Os byddwch am wneud cwyn i'r SYG, dilynwch bolisi cwynion y SYG.

Nôl i'r tabl cynnwys

18. Dolenni cysylltiedig

Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse: Mai 2026
Erthygl | Rhyddhawyd ar 6 Mai 2026
Diweddariad ar yr ail gam ymchwil, i ddeall a yw arolwg newydd i fesur graddau a natur bresennol cam-drin plant yn ddichonadwy.

Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse in the UK: Mehefin 2024
Erthygl | Rhyddhawyd ar 25 Mehefin 2024
Cwblhau'r cam ymchwil cyntaf, i ddeall a yw arolwg newydd i fesur graddau a natur bresennol cam-drin plant yn y DU yn ddichonadwy.

Measuring violence against children in a national prevalence survey in the UK: Questionnaire development and content validity
Erthygl cyfnodolyn | Rhyddhawyd ym mis Medi 2025
Adroddiad yn amlinellu'r broses o greu drafft cyntaf holiadur yr arolwg, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Greenwich.

Measuring sexual violence against children in a national prevalence survey in the UK: Questionnaire development and content validity
Erthygl cyfnodolyn | Rhyddhawyd ym mis Medi 2025
Adroddiad yn amlinellu'r broses ddatblygu i greu drafft cyntaf y cwestiynau ar gam-drin plant, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Greenwich.

Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse in the UK: Ebrill 2022
Erthygl | Rhyddhawyd ar 6 Ebrill 2022
Diweddariad ar y cam ymchwil cyntaf, i ddeall a yw arolwg newydd i fesur graddau a natur bresennol cam-drin plant yn y DU yn ddichonadwy.

Feasibility of a survey on child abuse
Adroddiad ansoddol | Rhyddhawyd ar 6 Ebrill 2022
Crynodeb o'r canfyddiadau ansoddol o'r grwpiau ffocws a'r cyfweliadau a gynhaliwyd gan NatCen Social Research yn 2021.

Consultation response: Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse in the UK
Ymateb i'r ymgynghoriad | Rhyddhawyd ar 23 Gorffennaf 2021
Ymateb y SYG i ymgynghoriad cyhoeddus, ‘Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse in the UK’, a gynhaliwyd o fis Ionawr i fis Ebrill 2021.

Exploring the feasibility of a survey measuring child abuse in the UK: January 2021
Erthygl | Rhyddhawyd ar 21 Ionawr 2021
Canfyddiadau cychwynnol o'r cam ymchwil cyntaf, i ddeall a yw arolwg newydd i fesur graddau a natur bresennol cam-drin plant yn y DU yn ddichonadwy.

Nôl i'r tabl cynnwys