1. Am yr hysbysiad preifatrwydd
Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd a sicrhau y caiff unrhyw ddata personol y byddwch chi'n eu darparu eu trin yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae data personol yn unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod chi ohoni naill ai ar ei phen ei hun neu wrth ei chyfuno â gwybodaeth arall. Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio'r data personol rydym yn eu prosesu at ddibenion yr arolwg a'r cyfweliad adborth ar ôl yr arolwg, y rheswm pam mae eu hangen arnom, sut y cânt eu defnyddio a'ch hawliau.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Sut rydym yn defnyddio data personol ar gyfer yr Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod
Y data personol a ddefnyddiwyd i'ch gwahodd chi i gwblhau'r arolwg
Mae'r Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod wedi'i ddylunio fel na chaiff unrhyw ddata personol eu casglu. Fodd bynnag, er mwyn cysylltu â chi ynghylch yr arolwg hwn, roedd angen i ni ddefnyddio eich enw a'ch manylion cyswllt a ddarparwyd i ni gan GIG Lloegr. Caiff y wybodaeth hon ei chadw gwbl ar wahân i'r ymatebion a gawn i'r arolwg. Bydd y wybodaeth a ddefnyddiwyd i gysylltu â chi yn cael ei dileu unwaith y bydd y llythyrau gwahoddiad ac atgoffa yn cael eu hanfon er mwyn diogelu cyfrinachedd eich ymatebion i'r arolwg. Bydd hyn o fewn 13 diwrnod i dderbyn eich llythyr cyntaf.
Data'r arolwg
Bydd eich gwahoddiad a'ch llythyr atgoffa yn cynnwys dolen i'r arolwg a chod mynediad unigryw y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau'r arolwg, yn ogystal ag oedi a dychwelyd at yr arolwg unrhyw bryd o fewn y cyfnod casglu. Bydd eich ymatebion yn cael eu cadw wrth i chi fynd drwy'r arolwg, felly ni fydd yn bosibl i chi fynd yn ôl i weld neu newid eich ymatebion blaenorol. Bydd y data a gaiff eu casglu yn yr arolwg ond yn cael eu defnyddio i greu ystadegau dienw yn unig. Ni chaiff unrhyw atgyfeiriadau diogelu eu gwneud o'r ymatebion i'r arolwg. Ni fydd yn bosibl i chi gael eich adnabod drwy unrhyw ddata ymatebion i'r arolwg y byddwn yn eu casglu na'r ystadegau y byddwn yn eu cyhoeddi. Caiff data'r arolwg dienw eu dileu ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r canfyddiadau.
Os byddwch yn cysylltu â'r SYG
Os byddwch yn cysylltu â'r SYG (hynny yw, drwy Linell Ymholiadau'r Arolwg neu drwy anfon neges i gyfeiriad e-bost yr Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod) ac yn rhannu unrhyw fanylion personol, caiff y rhain eu dileu ar ôl i ni ymdrin â'r ymholiad ac ni fyddant yn gysylltiedig â'ch ymatebion i'r arolwg. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod am fater diogelu, efallai y bydd angen i ni gadw data personol er mwyn galluogi'r SYG i ddilyn gweithdrefn ddiogelu'r SYG. Bydd hyn yn cynnwys rhannu'r manylion â'r Swyddog Diogelu i'w hadolygu. Ceir rhagor o wybodaeth ym Mholisi Diogelu'r SYG.
Data personol a ddefnyddir ar gyfer y cyfweliad adborth ar ôl yr arolwg
Os hoffech gymryd rhan yn y cyfweliad ar ôl yr arolwg, gofynnir i chi ddarparu eich manylion cyswllt ar ôl i chi gwblhau'r Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod. Bydd y rhain yn cael eu casglu ar wahân i'ch ymatebion i'r arolwg ac ni fydd y SYG yn gallu cysylltu'r wybodaeth gyswllt y byddwch yn ei darparu â'ch ymatebion i'r arolwg. Caiff y wybodaeth ei chadw'n ddiogel a dim ond ei defnyddio i drefnu'r cyfweliad ar ôl yr arolwg a phrosesu eich taleb diolch os gwneir cais amdani yn unig. Bydd y manylion cyswllt yn cael eu dileu ar ôl i'r cyfweliad ar ôl yr arolwg gael ei gynnal.
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y cyfweliad adborth ar ôl yr arolwg, caiff gwybodaeth bellach a ffurflen ganiatâd ei hanfon atoch chi i'w chwblhau a fydd yn gofyn am eich enw, eich cyfeiriad e-bost, oedran, rhyw, lleoliad, ethnigrwydd a'ch crefydd er mwyn i ni ddeall sut mae'r grŵp o bobl sy'n rhoi adborth yn cynrychioli Cymru a Lloegr. Bydd hefyd yn gofyn a oes gennych angen addysgol arbennig neu anabledd er mwyn deall a oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn y cyfweliad. Bydd y manylion cyswllt yn cael eu dileu ar ôl i'r cyfweliad ar ôl yr arolwg gael ei gynnal.
Bydd cyfweliadau adborth yn cael eu recordio ar Microsoft Teams ar ffurf fideo, a chaiff y fideo ei drawsgrifio at ddibenion dadansoddi. Ni fydd y wybodaeth a ddarperir yn ystod y cyfweliad yn cael ei chysylltu â'ch ymatebion i'r arolwg. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu cyfuno er mwyn darparu gwybodaeth ddienw a fydd yn ein helpu i werthuso'r arolwg a darparu argymhellion. Caiff y broses ddadansoddi ei chynnal drwy ddefnyddio technegau wedi'u cymeradwyo fel adnoddau dadansoddi deallusrwydd artiffisial. Unwaith y bydd y gwaith dadansoddi wedi'i gwblhau, caiff y recordiadau a'r trawsgrifiadau eu dileu. Caiff yr holl wybodaeth arall ei dileu o fewn dwy flynedd. Efallai y byddwn yn defnyddio dyfyniadau uniongyrchol o'r cyfweliadau, ond ni fydd yn bosibl adnabod unigolion o'r dyfyniadau hyn. Bydd yr holl ganfyddiadau dienw yn cael eu cyhoeddi ar wefan y SYG a'u defnyddio i lywio polisi i wella diogelwch plant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr.
Os byddwch yn mynegi pryder diogelu yn ystod y cyfweliad ar ôl yr arolwg, byddwn yn dilyn gweithdrefn ddiogelu'r SYG fel y nodwyd yn flaenorol.
Data personol a ddefnyddir i brosesu talebau ar-lein
Byddwch yn cael codau unigryw ar ddiwedd yr Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod i hawlio'ch taleb ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i'n darparwr talebau, Pluxee, er mwyn hawlio eich taleb. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chasglu ar wahân i'ch ymatebion i'r arolwg a bydd ond yn cael ei defnyddio i ddarparu eich taleb ar-lein i chi. Caiff gwybodaeth ddienw am dalebau ei rhannu'n ddiogel â'r SYG at ddibenion archwilio.
Os hoffech gael taleb ar-lein i ddweud diolch am gwblhau'r cyfweliad adborth ar ôl yr arolwg, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadarnhau ar ddiwedd y cyfweliad.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw a'i rhannu'n ddiogel â darparwr y talebau, sef Pluxee. Dim ond er mwyn darparu'r daleb ar-lein i chi y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio. Caiff manylion cyswllt eu dileu chwe mis ar ôl i'r daleb gael ei hanfon atoch i sicrhau y gellir rheoli unrhyw ymholiadau am dalebau yn briodol.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Y SYG a'r Gyfraith Diogelu Data
Y SYG yw cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwyaf y DU gyda'r nod o hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd o fudd i'r cyhoedd, a diogelu'r ystadegau hynny. Rydym yn rhwym i gyfreithiau diogelu data sy'n nodi sut rydym yn prosesu ac yn cadw eich data yn ddiogel. Bydd y SYG yn prosesu eich data personol fel y bo'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gwblheir er budd y cyhoedd ac at ddibenion ystadegol. Mae'r SYG yn gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol a gaiff eu casglu fel rhan o'r ymarfer hwn, sy'n golygu mai'r SYG sy'n penderfynu pa ddata y dylid eu casglu, sut y cânt eu defnyddio, a sut y cânt eu rheoli.
Dim ond aelodau tîm ymchwilio a gweinyddu Arolwg Diogelwch yn ystod Plentyndod y SYG fydd yn gallu cael gafael ar eich data personol. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy e-bost: sdcs@ons.gov.uk neu dros y ffôn: 0800 085 7376.
Nôl i'r tabl cynnwys4. Eich hawliau
Mae gennych hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, fel yr hawl i ofyn i'r SYG, fel y Rheolydd Data, roi caniatâd i chi weld y data rydym yn eu cadw amdanoch chi, i gywiro unrhyw wybodaeth anghywir rydym yn ei chadw amdanoch chi ac i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu neu roi'r gorau i brosesu eich data personol neu i anfon gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi i Reolydd Data arall.
Os byddwch am arfer unrhyw rai o'r hawliau hyn, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data (gweler y wybodaeth ganlynol). Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd yn ofynnol i ni gydymffurfio, os yw'r data'n cael eu cadw at ddibenion ystadegol yn unig.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau sydd gennych chi a'r amgylchiadau lle y gallwch eu harfer drwy fynd i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn https://cy.ico.org.uk/. Hefyd, mae gennych hawl i godi cwynion â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Sut i gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data
Mae ein Swyddog Diogelu Data yn rhoi cyngor ac arweiniad i'r SYG ar ddiogelu data personol. Cysylltwch â'r Tîm Diogelu Data yn DPO@statistics.gov.uk os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch data, os byddwch am arfer unrhyw un o'ch hawliau, neu os byddwch yn dymuno gwneud cwyn am y ffordd y caiff eich data personol eu trin:
mailto:DPO@statistics.gov.uk
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt perthnasol eraill yn hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y SYG.
Nôl i'r tabl cynnwys