Hysbysiad
Gyda’r newid i Fyw gyda COVID-19 mae’r penderfyniad a ystyriwyd yn ofalus wedi’i wneud y bydd yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol yn dod i ben yn ffurfiol ar Mehefin 28, 2023.
Os ydych wedi cael eich gwahodd yn ddiweddar i gymryd rhan, a fyddech cystal â pharhau i gwblhau'r arolwg cyn 28 Mehefin 2023.
Croeso i Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol. Diolch am gymryd rhan yn yr arolwg cenedlaethol hwn.
Bydd angen eich cod mynediad unigryw arnoch, sy'n cynnwys 16 o nodau, i agor yr holiadur. Mae eich cod mynediad a dyddiadau eich cyfnod holiadur i'w gweld yn yr e-bost neu'r llythyr a anfonwyd atoch yn ddiweddar.
Os ydych o dan 16 oed, holwch eich rhiant neu warcheidwad cyn cymryd rhan.
I fynd ymlaen i'r holiadur, dewiswch "Dechrau nawr" ac yna rhowch eich cod mynediad unigryw, sy'n cynnwys 16 o nodau.
Dim ond yn ystod dyddiadau eich cyfnod holiadur y byddwch yn gallu agor yr holiadur.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu llywodraethau'r DU i ddeall effaith heintiadau COVID-19 hunan gofnodedig, COVID hir a heintiau anadlol eraill ar:
- eich bywyd
- y gymuned
- gwasanaethau iechyd
Gall eich atebion, ynghyd â'r data gwerthfawr a roddwyd gennych fel rhan o Arolwg Heintiadau COVID-19, hefyd fod yn rhan o system rybuddio gynnar ar gyfer COVID-19 a heintiau anadlol eraill. Gallai hyn helpu'r GIG i baratoi ar gyfer pwysau posibl.
Ceir rhagor o wybodaeth am Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol ar ein tudalen Ynglŷn â'r astudiaeth.